Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 623 (Cy. 143)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020

Gwnaed

22 Mehefin 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

23 Mehefin 2020

Yn dod i rym

15 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 17 a 47(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014(1).

Enwi, dod i rym a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Gorffennaf 2020.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2015” yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015(2).

Adolygu rheoliadau 5 i 9 a pha bryd y deuant i ben

2.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu effeithiolrwydd rheoliadau 5 i 9 yn ystod y cyfnod y maent yn cael effaith.

(2Yn ddarostyngedig i reoliadau 3 a 4, mae rheoliadau 5 i 9 yn peidio â chael effaith ar 31 Awst 2021.

Darpariaethau arbed

3.  Pan fo person yn ymgymryd â sesiwn dysgu proffesiynol sy’n bodloni amodau rheoliad 7A o Reoliadau 2015 (fel y’i mewnosodir gan reoliad 7) yna caiff sesiynau o’r fath gyfrif tuag at gyfnod sefydlu’r person hwnnw fel pe baent yn sesiynau ysgol ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i ben ar yr amod bod uchafswm o 18 o sesiynau o’r fath.

4.  Nid yw’r ffaith bod rheoliadau 5 i 9 o dan reoliad 2 wedi dod i ben yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r darpariaethau hyn cyn y dyddiad dod i ben.

Diwygio Rheoliadau 2015

5.  Mae Rheoliadau 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

6.  Yn rheoliad 3(2)(b) ar ôl “(gan gynnwys, yn unig, gyfnodau o gyflogaeth sy’n cyfrif tuag at gyfnod sefydlu o dan reoliad 9)” mewnosoder “neu reoliad 8(5) (penderfyniad corff priodol pan fo’r safonau wedi eu cyrraedd)”.

7.  Ar ôl rheoliad 7 mewnosoder—

Dysgu proffesiynol a gaiff gyfrif tuag at gyfnod sefydlu

7A.  Caiff sesiwn dysgu proffesiynol y mae person yn ymgymryd ag ef gyfrif tuag at gyfnod sefydlu’r person hwnnw pan—

(a)ymgymerir â’r sesiwn dysgu proffesiynol rhwng 26 Mawrth 2020 ac 31 Awst 2021,

(b)bo’r sesiwn dysgu proffesiynol yn isafswm o 3 awr (boed yn olynol ai peidio), ac

(c)bo’r sesiwn dysgu proffesiynol wedi ei gymeradwyo gan y corff priodol.

8.  Yn rheoliad 8—

(a)Ym mharagraff (1), ar ôl “a (4)” mewnosoder “a (5)”;

(b)Ar ôl is-baragraff (3)(e) mewnosoder—

(f)pan fo paragraff (5) yn gymwys.;

(c)Yn is-baragraff (4)(b) yn lle “ym mhob achos arall” rhodder “pan fo paragraff (3)(a), (b), (c) neu (e) yn gymwys”;

(d)Ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(5) Caiff y corff priodol, gyda chydsyniad y person o dan sylw, leihau hyd y cyfnod sefydlu y mae’n ofynnol i’r person ymgymryd ag ef i isafswm o 110 o sesiynau ysgol os yw’r corff priodol wedi ei fodloni bod y person wedi cyrraedd y safonau a grybwyllir yn adran 18 o Ddeddf 2014.

(6) Ym mharagraffau (4) a (5) caiff “sesiwn ysgol” gynnwys sesiwn dysgu proffesiynol sy’n bodloni’r amodau yn rheoliad 7A.

(7) Ni chaiff y sesiynau dysgu proffesiynol a gaiff gyfrif fel sesiynau ysgol fod yn fwy na 16% o hyd cyfan cyfnod sefydlu.

9.  Yn rheoliad 13 (cwblhau cyfnod sefydlu) —

(a)Ar ôl is-baragraff (1)(b) mewnosoder—

(c)os yw’r person hwnnw wedi ymgymryd â sesiwn dysgu proffesiynol y cyfeirir ati yn rheoliad 7A pan gwblheir y cyfnod sefydlu.

Kirsty Williams

Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru

22 Mehefin 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/484 (Cy. 41)) (“Rheoliadau 2015”). Mae Rheoliadau 2015, ynghyd ag adrannau 17 a 19 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”), yn ymdrin â’r gofynion i athrawon ysgol ymgymryd â chyfnod sefydlu.

Mae rheoliadau 3 a 4 yn darparu y bydd rheoliadau 5 i 9 yn parhau i gael effaith ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i ben o dan amgylchiadau cyfyngedig sydd wedi eu rhagnodi. Fel arall, bydd y Rheoliadau hyn yn dod i ben ar 31 Awst 2021, fel y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 2.

Bydd yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu effeithiolrwydd y Rheoliadau hyn yn ystod y cyfnod y maent yn cael effaith (rheoliad 2).

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2015 mewn dwy ffordd:

(1)

Maent yn caniatáu i’r corff priodol leihau’r cyfnod sefydlu y mae’n ofynnol i’r person ymgymryd ag ef i isafswm o 110 o sesiynau ysgol ar yr amod bod y person yn cydsynio (gweler rheoliad 8). Bydd yn dal yn ofynnol i’r person gyrraedd y safonau a grybwyllir yn adran 18 o Ddeddf 2014.

(2)

Mae rheoliad 8(d) yn mewnosod rheoliad newydd 8(6) a 8(7) yn Rheoliadau 2015. Mae’r rheoliadau yma yn caniatáu i sesiynau dysgu proffesiynol gyfrif tuag at gyfnod sefydlu person, ar yr amod bod y sesiynau hynny yn bodloni’r amodau a nodir yn rheoliad newydd 7A (gweler rheoliad 7). Ni chaiff y sesiynau dysgu proffesiynol hynny fod yn fwy nag 16% o hyd cyfan cyfnod sefydlu.

Ystyrir bod y Rheoliadau hyn yn angenrheidiol am ei bod yn bosibl na fydd athrawon newydd gymhwyso wedi gallu mynychu ysgol er mwyn cwblhau eu cyfnod sefydlu yn sgil lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth gangen Addysgeg, Safonau Proffesiynol a Safon Uwch, Is-adran Addysgeg, Arweinyddiaeth a Dysgu Proffesiynol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu inductioninfo@llyw.cymru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources