Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 13/07/2020.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 557 (Cy. 129)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

29 Mai 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 12.00 p.m. ar 1 Mehefin 2020

Yn dod i rym

am 4.00 p.m. ar 1 Mehefin 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

Enwi a dod i rymLL+C

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020 a deuant i rym am 4.00 p.m. ar 1 Mehefin 2020.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.6.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020LL+C

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 7(2)—

(a)o flaen is-baragraff (a) mewnosoder—

(aa)i weinyddu priodas neu ffurfio partneriaeth sifil, pan fo gan barti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil salwch angheuol ac na ddisgwylir iddo wella,;

(b)yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b)i ddarlledu (boed dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu)—

(i)gweithred o addoli (heb gynulleidfa);

(ii)gweinyddu priodas neu ffurfio partneriaeth sifil a ganiateir gan is-baragraff (aa);

(iii)angladd, neu .

(3Yn lle rheoliad 8 rhodder—

Cyfyngiadau ar symud a bod o dan do yn ystod cyfnod yr argyfwng

8.(1) Yn ystod cyfnod yr argyfwng, ni chaiff neb, heb esgus rhesymol—

(a)gadael yr ardal sy’n lleol i’r man lle y mae’n byw neu aros i ffwrdd o’r ardal honno;

(b)bod o dan do gyda pherson arall nad yw—

(i)yn aelod o’i aelwyd,

(ii)yn ofalwr iddo, neu

(iii)yn berson y mae’n darparu gofal iddo.

(2) Mae esgus rhesymol yn cynnwys yr angen i wneud y canlynol (ond gweler paragraff (3))—

(a)cael cyflenwadau oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir yn Rhan 4 o Atodlen 1 gan gynnwys—

(i)bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini yn yr un aelwyd (gan gynnwys anifeiliaid yn yr aelwyd) neu ar gyfer personau hyglwyf;

(ii)cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad hanfodol yr aelwyd, neu aelwyd person hyglwyf;

(b)cael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 38 neu 39 o Atodlen 1 neu adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;

(c)ceisio cynhorthwy meddygol, gan gynnwys cael gafael ar unrhyw un o’r gwasanaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 42 o Atodlen 1 neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

(d)darparu neu gael gofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal personol perthnasol, o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006( ), lle y mae’r person sy’n derbyn y gofal yn berson hyglwyf;

(e)darparu neu gael cynhorthwy brys;

(f)rhoi gwaed;

(g)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol (ond gweler hefyd reoliad 8A);

(h)galluogi i waith gael ei wneud mewn unrhyw fangre (ond gweler hefyd reoliad 8A);

(i)mynd i weinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil, pan fo gan barti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil salwch angheuol ac na ddisgwylir iddo wella—

(i)fel parti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil,

(ii)os caiff ei wahodd i fynychu, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil.

(j)mynd i angladd—

(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

(k)ymweld â mynwent, claddfa neu ardd goffa i dalu teyrnged i berson ymadawedig;

(l)bodloni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

(m)cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol neu gael y gwasanaethau hynny, gan gynnwys —

(i)gofal plant neu wasanaethau addysgol (pan fo’r rhain yn dal i fod ar gael i blentyn y mae’r person yn rhiant mewn perthynas ag ef, neu y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant drosto, neu ofal drosto);

(ii)gwasanaethau cymdeithasol;

(iii)gwasanaethau a ddarperir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau;

(iv)gwasanaethau a ddarperir i ddioddefwyr (megis dioddefwyr trosedd neu drais domestig);

(n)ymweld â llyfrgell;

(o)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw yn yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

(p)yn achos gweinidog yr efengyl neu arweinydd addoli, mynd i’w fan addoli;

(q)symud tŷ pan na fo modd gohirio’r symud;

(r)osgoi anaf neu salwch neu ddianc rhag risg o niwed.

(3) At ddibenion paragraff (1)(a), nid yw’n esgus rhesymol i berson adael yr ardal sy’n lleol i’r man lle y mae’r person yn byw er mwyn gwneud rhywbeth, neu aros i ffwrdd o’r ardal er mwyn gwneud rhywbeth, os byddai’n rhesymol ymarferol iddo wneud y peth hwnnw o fewn yr ardal.

(4) Nid yw paragraff (1)(a) yn gymwys i berson sy’n gwneud ymarfer corff, pan fo’r ymarfer corff yn dechrau ac yn gorffen yn y man lle y mae’r person yn byw.

(5) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw berson sy’n ddigartref

(4Ar ôl rheoliad 8 newydd mewnosoder—

Gofyniad i barhau i weithio gartref pan fo’n ymarferol

8A.(1) Yn ystod cyfnod yr argyfwng, o dan yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) ni chaiff unrhyw berson adael y man lle y mae’n byw, neu aros i ffwrdd o’r man hwnnw, at ddibenion gwaith neu i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol.

(2) Yr amgylchiadau yw ei bod yn rhesymol ymarferol i’r person weithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol o’r man lle y mae’n byw.

(3) At ddibenion y rheoliad hwn, mae’r man lle y mae person yn byw yn cynnwys y fangre lle y mae’n byw ynghyd ag unrhyw ardd, iard, tramwyfa, gris, garej, tŷ allan neu unrhyw atodyn i fangre o’r fath.

(5Ar ôl rheoliad newydd 8A mewnosoder—

Cyfyngiadau ar ymgynnull â phersonau eraill

8B.  Yn ystod cyfnod yr argyfwng, ni chaiff unrhyw berson gymryd rhan mewn cynulliad yn yr awyr agored ac eithrio—

(a)pan fo’r personau sy’n ymgynnull yn aelodau o ddim mwy na dwy aelwyd,

(b)pan fo’r cynulliad yn hanfodol at ddibenion gwaith,

(c)i fynd i angladd, neu

(d)pan fo’r cynulliad yn angenrheidiol—

(i)i hwyluso symud tŷ,

(ii)i ddarparu gofal neu gynhorthwy i berson hyglwyf, yn cynnwys gofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006,

(iii)i ddarparu cynhorthwy brys i unrhyw berson, neu

(iv)i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol, neu gyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol.

(6Yn rheoliad 10—

(a)ym mharagraff (2)—

(i)yn y geiriau ar y dechrau, yn lle “torri’r gofyniad yn 8(1)” rhodder “torri gofyniad yn rheoliad 8(1) neu 8A”;

(ii)yn is-baragraff (a), ar y diwedd mewnosoder “(os nad yw P yno eisoes)”;

(iii)yn is-baragraff (b), ar y diwedd mewnosoder “(os nad yw P yno eisoes)”;

(b)yn y geiriau ar ddechrau paragraff (7)—

(i)yn lle “tri neu ragor o bobl” rhodder “pobl”;

(ii)yn lle “8(5)” rhodder “8B”;

(c)yn y geiriau ar ddechrau paragraff (8A), yn lle “8(5)” rhodder “8B”.

(7Yn rheoliad 12(1)—

(a)yn is-baragraff (a), yn lle “8(5)” rhodder “8A, 8B”;

(b)yn is-baragraff (b), yn lle “torri’r gofyniad yn rheoliad 8(1)” rhodder “torri gofyniad yn rheoliad 8(1)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.6.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1

Arbedion ar gyfer troseddau a chosbau mewn perthynas â gweithredoedd blaenorolLL+C

3.  Mae rheoliadau 12 a 13 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag unrhyw drosedd a gyflawnir, neu y credir yn rhesymol ei bod wedi ei chyflawni, cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym fel pe na bai’r diwygiadau a nodir yn rheoliad 2 wedi eu gwneud.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.6.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

29 Mai 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 (y “prif Reoliadau”).

Mae’r diwygiadau hyn yn cynnwys—

(a)darpariaethau sy’n galluogi priodas neu bartneriaeth sifil pan fo gan barti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil salwch angheuol;

(b)llacio’r gofyniad i aros gartref oni bai bod gennych esgus rhesymol sy’n galluogi pobl i fod yn yr awyr agored at unrhyw ddiben o fewn eu hardal leol;

(c)llacio’r cyfyngiad ar ymgynnull sy’n caniatáu i bersonau o ddim mwy na dwy aelwyd ymgynnull yn yr awyr agored.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd adrannau 45C, 45F a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (p. 14). Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hyn wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources