Search Legislation

Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 368 (Cy. 90)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Hadau, Cymru

Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gofynion sifftio wedi eu bodloni

18 Chwefror 2019

Gwnaed

25 Chwefror 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

27 Chwefror 2019

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir—

(a)mewn perthynas â Rhan 1, gan y pwerau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (b) ac (c);

(b)mewn perthynas â Rhan 2, gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1);

(c)mewn perthynas â Rhan 3, gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(2).

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(3) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â’r polisi amaethyddol cyffredin.

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

RHAN 1Rhagarweiniol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

2.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym fel a ganlyn—

(a)o ran y Rhan hon a Rhan 2, 21 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y gosodir y Rheoliadau hyn;

(b)o ran Rhan 3, ar y diwrnod ymadael.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

RHAN 2Diwygio cyfeiriadau mewn is-ddeddfwriaeth

Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012

3.—(1Mae Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3(1), ar ôl is-baragraff (b), mewnosoder—

(c)ystyr “Gwladwriaeth y Farchnad Sengl Ewropeaidd” (“European Single Market State”) yw un o wladwriaethau’r AEE neu’r Swistir..

(3Yn Atodlenni 3 a 4, yn lle “Aelod-wladwriaeth” ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “Gwladwriaeth y Farchnad Sengl Ewropeaidd” (gan dreiglo yn ôl yr angen);

(4Yn Atodlen 4—

(a)ym mharagraff 10, ar ôl is-baragraff (6) mewnosoder—

(b)"(7) Caniateir marchnata yng Nghymru hadau o amrywogaeth anrhestredig sy’n ddarostyngedig i awdurdodiad a ddyroddwyd gan Wladwriaeth AEE arall yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn 2004/842/EC(5) at y diben o gasglu gwybodaeth a chael phrofiad ymarferol yn ystod y cyfnod tyfu.

(c)(8) Rhaid i hadau sy’n cael eu marchnata o dan is-baragraff (7) gael eu labelu yn unol ag Erthygl 28 o Benderfyniad y Comisiwn 2004/842/EC.";

(d)ym mharagraff 14, ar y diwedd mewnosoder “, ac eithrio hadau llysiau o’r rhywogaethau a restrir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC(6) a gynhyrchir yn y Swistir”.

Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017

4.—(1Mae Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017(7) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 11(7), yn lle “Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006” rhodder “Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018(8)”.

RHAN 3Diwygio is-ddeddfwriaeth mewn perthynas ag ymadael â’r Undeb Ewropeaidd

Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012

5.—(1Mae Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3(1), ar ôl is-baragraff (c), mewnosoder—

(ch)ystyr “gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi” (“country granted equivalence”) yw gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi o dan Benderfyniad y Cyngor 2003/17/EC ar gywerthedd archwiliadau maes a gynhelir mewn trydydd gwledydd ar gnydau sy’n cynhyrchu hadau ac ar gywerthedd hadau a gynhyrchir mewn trydydd gwledydd;

(d)ystyr “Tiriogaeth Ddibynnol y Goron” (“Crown Dependency”) yw unrhyw un o Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw.

(3Yn rheoliad 4(2), yn lle “Undeb Ewropeaidd” rhodder “Deyrnas Unedig”.

(4Yn rheoliad 7, yn lle “neu’r Catalog Cyffredin” rhodder “neu mewn rhestr gywerth mewn gwlad y cyfeirir ati yn yr Atodlen i Benderfyniad y Cyngor 2005/834/EC ar gywerthedd gwiriadau er mwyn cynnal amrywogaethau a gynhelir mewn trydydd gwledydd penodol”.

(5Ar ôl rheoliad 8 mewnosoder—

"Marchnata hadau o Wladwriaeth y Farchnad Sengl Ewropeaidd

8A.(1) Ni chaiff unrhyw berson farchnata hadau y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt a gynhyrchwyd mewn Gwladwriaeth y Farchnad Sengl Ewropeaidd.

(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i hadau sy’n bodloni’r amodau a bennir ym mharagraff (3).

(3) Yr amodau yw—

(a)bod yr hadau o amrywogaeth a restrir yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu’r Catalog Cyffredin;

(b)nad yw’r hadau yn hadau llysiau o’r rhywogaethau a restrir yn y diffiniad o “vegetables” yn Erthygl 2(1)(b) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC a gynhyrchir yn y Swistir;

(c)bod yr hadau wedi eu cynhyrchu gan gydymffurfio â’r gofynion a nodir yng nghyfraith yr UE gan gynnwys Cyfarwyddebau’r Cyngor y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(2)(a) i (d) ac (ff); ac

(ch)bod yr hadau wedi eu mewnforio i Gymru cyn diwedd y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r diwrnod ymadael yn digwydd.

(6Yn rheoliad 10, ym mharagraff (a), yn lle’r geiriau o “amrywogaeth” hyd at y diwedd rhodder—

amrywogaeth—

(i)a gofnodwyd yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig; neu

(ii)a gofnodwyd yn y Catalog Cyffredin ar unrhyw adeg cyn diwedd y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r diwrnod ymadael yn digwydd;.

(7Yn lle rheoliad 21A rhodder—

21A.(1) Caiff Gweinidogion Cymru esemptio drwy drwydded unrhyw berson neu ddosbarth ar berson rhag cydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau’r Rheoliadau hyn at ddibenion arbrawf dros dro sy’n chwilio am ddulliau amgenach na darpariaethau’r Rheoliadau hyn ac a drefnir yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 16(5) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964(9).

(2) Ni chaiff arbrawf barhau am fwy na 7 mlynedd..

(8Yn rheoliad 26, hepgorer “i’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd”.

(9Yn rheoliad 27—

(a)yn y pennawd ac ym mharagraff (1), yn lle “o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i’r Deyrnas Unedig”;

(b)ym mharagraff (3), yn lle “o drydedd wlad” rhodder “i’r Deyrnas Unedig”;

(c)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(4) Nid yw paragraffau (1) a (3) yn gymwys i hadau a fewnforir o Wladwriaeth y Farchnad Sengl Ewropeaidd cyn diwedd y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r diwrnod ymadael yn digwydd..

(10Ar ôl rheoliad 32, mewnosoder—

Ardystio mewn Tiriogaeth Ddibynnol y Goron

32A.  Ceir marchnata yng Nghymru unrhyw hadau a ardystiwyd ac a labelwyd mewn Tiriogaeth Ddibynnol y Goron o dan ddeddfwriaeth y cydnabyddir gan Weinidogion Cymru ei bod yn cael effaith gywerth i’r Rheoliadau hyn.

Darpariaeth drosiannol ar gyfer labeli swyddogol ar y diwrnod ymadael

32B.  At ddibenion rheoliad 17 a pharagraffau 7(1)(a) ac 8(1)(a) o Atodlen 3, caniateir defnyddio label swyddogol sydd wedi ei ragargraffu cyn y diwrnod ymadael sy’n cynnwys y datganiad “EU Rules and Standards” fel label swyddogol cyn diwedd y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r diwrnod ymadael yn digwydd..

(11Yn Atodlen 2—

(a)ym mharagraff 7—

(i)yn is-baragraff (1), ar ôl “Erthygl 2(3)(A)”, mewnosoder “(a) i (d)”;

(ii)yn is-baragraff (3), yn lle “Atodiad III i’r Gyfarwyddeb honno” rhodder “Atodlen 3”;

(iii)ar ôl is-baragraff (5), mewnosoder—

(6) At ddibenion y rheoliad hwn, mae Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/54/EC i’w darllen fel pe bai—

(a)yn Erthygl 2(3)(A)(a)(iii), “licensed by the Welsh Ministers” wedi ei roi yn lle “officially licensed by the seed certification authority of the Member State concerned”;

(b)yn Atodiad 1—

(i)ym mhwynt A—

(aa)ym mharagraff 3, “Welsh Ministers” wedi ei roi yn lle “certification authority”;

(bb)yn y paragraff olaf, “United Kingdom National List” wedi ei roi yn lle’r geiriau o “common” hyd at “that Directive”;

(ii)ym mhwynt B, ym mharagraff 3(c)—

(aa)y cyfeiriad at “Member States” yn gyfeiriad at “The Welsh Ministers”;

(bb)y cyfeiriad at “Community” wedi ei hepgor..

(b)ym mharagraff 15—

(i)yn is-baragraff (1), ar ôl “Erthygl 2(3)(A)”, mewnosoder “(a) i (d)”;

(ii)yn is-baragraff (2), ar ôl “Gyfarwyddeb honno”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “ (ac eithrio paragraffau 1a(f) ac 1b o Erthygl 7)”;

(iii)ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(2A) At ddibenion is-baragraffau (1) a (2), mae Cyfarwyddeb y Cyngor 66/402/EEC i’w darllen fel pe bai—

(a)yn Erthygl 2(3)(A)(a)(iii), “licensed by the Welsh Ministers” wedi ei roi yn lle “officially licensed by the seed certification authority of the Member State concerned”;

(b)yn Erthygl 7—

(i)cyfeiriadau at “Member States” yn gyfeiriadau at “Welsh Ministers”;

(ii)ym mharagraff 1a(a), “Welsh Ministers” wedi ei roi yn lle “seed certification authority of the Member State concerned”..

(c)ym mharagraff 28—

(i)yn is-baragraff (1), ar ôl “Erthygl 2(3)(A)”, mewnosoder “(a) i (d)”;

(ii)ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

(1A) At ddibenion is-baragraff (1), mae Cyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC i’w darllen fel pe bai—

(a)yn Erthygl 2(3)(A)(a)(iii), “licensed by the Welsh Ministers” wedi ei roi yn lle “officially licensed by the seed certification authority of the Member State concerned”;

(b)yn Atodiad 1, ym mharagraff 4, yn yr ail is-baragraff, y geiriau o “Upon” hyd at y diwedd wedi eu hepgor..

(d)ym mharagraff 42—

(i)yn is-baragraff (1), ar ôl “Erthygl 2(5)(A)”, mewnosoder “(a) i (d)”;

(ii)ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

(1A) At ddibenion is-baragraff (1), mae Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/57/EC i’w darllen fel pe bai—

(a)yn Erthygl 2(5)(A)(a)(iii), “licensed by the Welsh Ministers” wedi ei roi yn lle “officially licensed by the seed certification authority of the Member State concerned”;

(b)yn Atodiad 2, yn Rhan 1, ym mharagraff 5C, yr is-baragraff olaf wedi ei hepgor..

(e)ym mharagraff 43(2), hepgorer “neu’r Catalog Cyffredin”;

(f)ym mharagraff 50—

(i)yn is-baragraff (1), ar ôl “Erthygl 2(4)(A)”, mewnosoder “(a) i (d)”;

(ii)yn is-baragraff (2), ar ôl “Erthygl 25”, mewnosoder “ (ac eithrio paragraffau 1a(f) ac 1b)”;

(iii)ar ôl is-baragraff (2), mewnosoder—

(2A) At ddibenion is-baragraffau (1) a (2), mae Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC i’w darllen fel pe bai—

(a)yn Erthygl 2(4)(A)(a)(iii), “licensed by the Welsh Ministers” wedi ei roi yn lle “officially licensed by the seed certification authority of the Member State concerned”;

(b)yn Erthygl 25—

(i)cyfeiriadau at “Member States” yn gyfeiriadau at “Welsh Ministers”;

(ii)ym mharagraff 1a(a), “Welsh Ministers” wedi ei roi yn lle “seed certification authority of the Member State concerned”..

(12Yn Atodlen 3—

(a)ym mharagraff 5(5), yn lle’r geiriau o “mewn un o” hyd at y diwedd rhodder “yn Saesneg, ond caiff fod mewn ieithoedd eraill yn ogystal”;

(b)ym mharagraff 6(1)—

(i)ym mharagraff (a), yn lle “enw’r”, rhodder “enw a gwlad neu flaenlythrennau gwlad yr”;

(ii)hepgorer paragraff (b);

(c)ym mharagraffau (7)(1) ac 8(1)—

(i)ym mharagraff (a), yn lle “EU” rhodder “UK”;

(ii)ym mharagraff (b), yn lle “enw’r”, rhodder “enw a gwlad neu flaenlythrennau gwlad yr”;

(iii)hepgorer paragraff (c);

(d)ym mharagraff 9(1)—

(i)ym mharagraff (a), ar y dechrau, mewnosoder “enw a gwlad neu flaenlythrennau gwlad”;

(ii)hepgorer paragraff (b);

(e)ym mharagraffau 12(2)(a) a 14(1)(a), yn lle “neu’r Catalog Cyffredin” rhodder “neu wedi ei dderbyn neu wedi ei derbyn ar y Catalog Cyffredin a’r hadau yn cael eu marchnata cyn diwedd y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r diwrnod ymadael yn digwydd”;

(f)ym mharagraff 19—

(i)yn is-baragraff (2), hepgorer “UE”;

(ii)yn is-baragraff (2), hepgorer “EU”;

(iii)yn is-baragraff (4)—

(aa)ym mharagraff (a), hepgorer “EU”;

(bb)ym mharagraff (d), yn lle “neu flaenlythrennau Gwladwriaeth y Farchnad Sengl Ewropeaidd” rhodder “neu flaenlythrennau’r wlad lle y cynhyrchwyd yr hadau”;

(g)ym mharagraff 20(4)(a), yn lle “EU” rhodder “UK”;

(h)ym mharagraffau 21 a 22, hepgorer “UE” ac “EU”, yn ôl y digwydd, ym mhob lle y maent yn digwydd;

(i)ym mharagraff 23—

(i)hepgorer “EU” ac “UE”, yn ôl y digwydd, ym mhob lle y maent yn digwydd;

(ii)yn is-baragraffau (2)(c)(ii) ac (ch)(iii), yn lle “neu flaenlythrennau Gwladwriaeth y Farchnad Sengl Ewropeaidd” rhodder “neu flaenlythrennau’r wlad lle y cynhyrchwyd yr hadau”;

(j)ym mharagraffau 24 a 25, yn lle “EU”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “UK”.

(13Yn Atodlen 4—

(a)ym mharagraff 4(1), yn lle “y Gyfarwyddeb” rhodder “y Rheoliadau hyn”;

(b)ym mharagraff 5(2), yn lle “o drydedd wlad” rhodder “i’r Deyrnas Unedig”;

(c)ym mharagraff 6, yn lle “yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 66/402/EEC” rhodder “yn y Rheoliadau hyn”;

(d)ym mharagraff 7—

(i)ar ôl is-baragraff (5) mewnosoder—

(5A) At ddibenion is-baragraff (5)—

(a)mae Erthygl 14 o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2008/62/EC i’w darllen fel pe bai—

(i)yn y paragraff cyntaf—

(aa)y geiriau “Each Member State shall ensure that, “ wedi eu hepgor;

(bb)cyfeiriad at “the United Kingdom” yn cael ei roi yn lle’r cyfeiriad at “that Member State”;

(ii)yn yr ail baragraff—

(aa)y geiriau “in each Member State” wedi eu hepgor;

(bb)cyfeiriadau at “the United Kingdom” yn cael eu rhoi yn lle’r cyfeiriadau at “the Member State”, yn y ddau le y maent yn digwydd”;

(b)mae Erthygl 15 o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/145/EC i’w darllen fel pe bai—

(i)y geiriau “Each Member State shall ensure that,” wedi eu hepgor;

(ii)“must” wedi ei roi yn lle “does”.;

(ii)yn is-baragraff (7), yn lle’r geiriau o “yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2002/54/EC” hyd at “( yn ôl fe y digwydd)” rhodder “yn y Rheoliadau hyn”;

(iii)yn is-baragraff (8)—

(aa)ym mharagraff (a), yn lle’r geiriau o “yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC” hyd at “llysiau” rhodder “yn y Rheoliadau hyn”;

(bb)ym mharagraff (b), yn lle “y Gyfarwyddeb honno” rhodder “y Rheoliadau hyn”;

(e)ym mharagraff 8—

(i)yn is-baragraff (3)(b), yn lle’r geiriau o “yn unol” hyd at y diwedd rhodder “ar ôl ystyried unrhyw wybodaeth sydd ar gael oddi wrth sefydliadau adnoddau genetig planhigion”;

(ii)yn is-baragraff (4)(a), yn lle “EU” rhodder “UK”;

(iii)yn is-baragraff (7), ar ôl “y Gyfarwyddeb honno”, mewnosoder “yn ddarostyngedig i is-baragraff (8)”;

(iv)ar ôl is-baragraff (7) mewnosoder—

(8) At ddibenion y paragraff hwn, mae Erthygl 1(a) o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2010/60/EU i’w darllen fel pe bai’r diffiniad o “source area” a gynhwysir yn yr Erthygl honno yn ei ddiffinio i olygu ardal a ddynodwyd yn ardal cadwraeth arbennig neu’n ardal sy’n cyfrannu at gadwraeth adnoddau genetig planhigion yn unol â chyfraith yr UE a ddargedwir.

(f)ym mharagraff 10—

(i)yn is-baragraff (1), yn lle’r geiriau “yn Rhestr Genedlaethol” hyd at y diwedd rhodder “yn y Rhestr Genedlaethol”;

(ii)yn is-baragraff (7)—

(aa)ar y dechrau mewnosoder “Yn ddarostyngedig i is-baragraff (9),”;

(bb)hepgorer y gair “arall”;

(iii)ar ôl is-baragraff (8) mewnosoder—

(iv)“(9) Rhaid i hadau sy’n cael eu marchnata o dan is-baragraff (7) gael eu marchnata cyn diwedd y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r diwrnod ymadael yn digwydd.”.

(g)ym mharagraff 11(2), hepgorer “neu’r Catalog Cyffredin”;

(h)ym mharagraff 12—

(i)mae’r testun presennol yn dod yn is-baragraff (1);

(ii)yn is-baragraff (1)—

(aa)yn y geiriau cyn paragraff (a), hepgorer “ar gyfer ei dyfu wedi ei awdurdodi o dan naill ai”;

(bb)ym mharagraff (a), ar y dechrau, yn lle “Cyfarwyddeb” rhodder “cyn y diwrnod y mae’r diwrnod ymadael yn digwydd, wedi ei awdurdodi o dan Gyfarwyddeb”, ac, ar y diwedd, hepgorer “neu”;

(cc)ym mharagraff (b), ar y dechrau, yn lle “Rheoliad” rhodder “wedi ei awdurdodi o dan Reoliad”, ac, ar y diwedd, mewnosoder “neu”;

(dd)ar ôl paragraff (b), mewnosoder—

(c)wedi ei awdurdodi o dan y Rheoliadau GMO.

(2) At ddiben paragraff (1), ystyr “y Rheoliadau GMO” yw—

(a)o ran Cymru, Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002(10);

(b)o ran Lloegr, Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 2002(11);

(c)o ran yr Alban, Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Yr Alban) 2002(12);

(d)o ran Gogledd Iwerddon, Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Gogledd Iwerddon) 2003(13).;

(i)ym mharagraff 13—

(i)yn is-baragraff (1), yn lle “Gwladwriaeth y Farchnad Sengl Ewropeaidd arall, neu mewn trydedd wlad” rhodder “gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;

(ii)yn is-baragraff (3)—

(aa)hepgorer paragraff (a);

(bb)ym mharagraff (b), hepgorer “os yw’r hadau yn dod o drydedd wlad”;

(cc)yn y geiriau ar ôl paragraff (b), yn lle “ac yn y ddau achos, rhaid” rhodder “a rhaid”;

(j)hepgorer paragraff 14 a’i bennawd;

(k)ym mharagraff 15(3), yn lle “yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC ar farchnata hadau llysiau” rhodder “yn y Rheoliadau hyn”;

(l)ym mharagraff 16—

(i)yn y pennawd, hepgorer “arall”;

(ii)yn is-baragraff (1)—

(aa)yn lle “Yn achos hadau” rhodder “Cyn diwedd y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r diwrnod ymadael yn digwydd, yn achos hadau”;

(bb)ym mharagraff (a)(i), yn lle’r geiriau o “naill ai” hyd at y diwedd rhodder “mewn Gwladwriaeth y Farchnad Sengl Ewropeaidd neu wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;

(cc)ym mharagraff (a)(ii), yn lle “trydedd wlad o’r fath” rhodder “gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;

(dd)ym mharagraff (b), hepgorer “arall”;

(iii)yn is-baragraff (3)(a), yn lle “flaenlythrennau Gwladwriaeth y Farchnad Sengl Ewropeaidd” rhodder “flaenlythrennau’r wlad”;

(m)ym mharagraff 17—

(i)yn y pennawd ac, yn is-baragraff (1), yn y geiriau cyn paragraff (a), yn lle “trydedd wlad” rhodder “gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;

(ii)yn is-baragraff (1)(a)(i), yn lle’r geiriau o “mewn Gwladwriaeth y Farchnad Sengl Ewropeaidd” hyd at y diwedd, rhodder “yn y Deyrnas Unedig, mewn Tiriogaeth Ddibynnol y Goron (ar yr amod bod yr hadau hynny wedi eu cynhyrchu o dan ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod ei heffaith yn gywerth ag effaith y Rheoliadau hyn) neu wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;

(iii)yn lle is-baragraff (1)(a)(ii), rhodder—

(ii)drwy groesi hadau sylfaenol a ardystiwyd yn swyddogol yn y Deyrnas Unedig neu mewn Tiriogaeth Ddibynnol y Goron (ar yr amod bod yr hadau hynny wedi eu cynhyrchu o dan ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod ei heffaith yn gywerth ag effaith y Rheoliadau hyn) gyda hadau sylfaenol a ardystiwyd mewn gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi;;

(n)ym mharagraff 18, hepgorer “neu’r Catalog Cyffredin”.

Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017

6.—(1Mae Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2—

(a)yn y diffiniad o “deunyddiau sylfaenol”, ym mharagraff (b), yn lle “Erthygl 15 o Gyfarwyddeb 2014/98/EU;” rhodder

(i)yn achos deunyddiau a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig, y rheoliadau marchnata ffrwythau perthnasol;

(ii)yn achos deunyddiau a gynhyrchir mewn Tiriogaeth Ddibynnol y Goron, ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod ei heffaith yn cyfateb i effaith rheoliad 9(1) a (2);

(iii)yn achos deunyddiau a gynhyrchir mewn Aelod-wladwriaeth, Erthygl 15 o Gyfarwyddeb 15 o Gyfarwyddeb 2014/98/EU;;

(b)yn y diffiniad o “deunyddiau CAC”, ym mharagraff (b), yn lle “Erthygl 23 o Gyfarwyddeb 2014/98/EU;” rhodder—

(i)yn achos deunyddiau a phlanhigion a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig, y rheoliadau marchnata ffrwythau perthnasol;

(ii)yn achos deunyddiau a phlanhigion a gynhyrchir mewn Tiriogaeth Ddibynnol y Goron, ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod ei heffaith yn cyfateb i effaith Atodlen 1;

(iii)yn achos deunyddiau a phlanhigion a gynhyrchir mewn Aelod-wladwriaeth, Erthygl 23 o Gyfarwyddeb 2014/98/EU;;

(c)yn y diffiniad o “deunyddiau ardystiedig” ym mharagraff (b), yn lle “Erthygl 20 o Gyfarwyddeb 2014/98/EU;” rhodder—

(i)yn achos deunyddiau a phlanhigion a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig, y rheoliadau marchnata ffrwythau perthnasol;

(ii)yn achos deunyddiau a phlanhigion a gynhyrchir mewn Tiriogaeth Ddibynnol y Goron, ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod ei heffaith yn cyfateb i effaith rheoliad 9(1) a (2);

(iii)yn achos deunyddiau a phlanhigion a gynhyrchir mewn Aelod-wladwriaeth, Erthygl 20 o Gyfarwyddeb 2014/98/EU;;

(d)yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “Tiriogaeth Ddibynnol y Goron” (“Crown Dependency”) yw Ynys Manaw neu unrhyw un o Ynysoedd y Sianel;;

(e)yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “y rheoliadau marchnata ffrwythau” (“the fruit marketing regulations”) yw—

(a)

o ran Lloegr, Reoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Lloegr) 2017(14);

(b)

o ran yr Alban, Reoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Yr Alban) 2017(15);

(c)

o ran Gogledd Iwerddon, Reoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Gogledd Iwerddon) 2017(16)

ac ystyr “y rheoliadau marchnata ffrwythau perthnasol” (“the relevant fruit marketing regulations”), mewn perthynas ag unrhyw ran gyfansoddol o’r Deyrnas Unedig, yw’r rheoliadau marchnata ffrwythau sy’n gymwys mewn perthynas â’r rhan honno;

(f)yn y diffiniad o “label swyddogol” ym mharagraff (b), yn lle’r geiriau “Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 2014/96/EU;” rhodder—

(i)yn achos deunyddiau a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig, y rheoliadau marchnata ffrwythau perthnasol;

(ii)yn achos deunyddiau planhigion a gynhyrchir mewn Tiriogaeth Ddibynnol y Goron, ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod ei heffaith yn cyfateb i effaith Rhan 1 o Atodlen 2;

(iii)yn achos deunyddiau planhigion a gynhyrchir mewn Aelod-wladwriaeth, Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 2014/96/EU;;

(g)yn y diffiniad o “y tu allan i Gymru”, yn lle’r geiriau o “neu unrhyw Aelod-wladwriaeth” hyd at y diwedd, rhodder “, unrhyw Aelod-wladwriaeth neu unrhyw Diriogaeth Ddibynnol y Goron”;

(h)yn y diffiniad o “hawliau amrywogaeth planhigion”—

(i)ym mharagraff (a), ar y diwedd mewnosoder “neu”;

(ii)hepgorer paragraff (b).

(i)yn y diffiniad o “deunyddiau cyn-sylfaenol”, ym mharagraff (b), yn lle “Erthyglau 3 neu 4 o Gyfarwyddeb 2014/98/EU;” rhodder—

(i)yn achos deunyddiau a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig, y rheoliadau marchnata ffrwythau perthnasol;

(ii)yn achos deunyddiau a gynhyrchir mewn Tiriogaeth Ddibynnol y Goron, ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod ei heffaith yn cyfateb i effaith rheoliad 9(1) a (2);

(iii)yn achos deunyddiau a gynhyrchir mewn Aelod-wladwriaeth, Erthyglau 3 neu 4 o Gyfarwyddeb 2014/98/EU;.

(3Yn rheoliad 4(3), yn lle “Undeb Ewropeaidd” rhodder “Deyrnas Unedig”.

(4Ar ôl rheoliad 5(4) mewnosoder—

(5) Ni chaiff unrhyw berson farchnata yng Nghymru ddeunyddiau planhigion a gynhyrchwyd mewn Aelod-wladwriaeth.

(6) Nid yw paragraff (5) yn gymwys i ddeunyddiau planhigion sy’n bodloni’r amodau a nodir ym mharagraff (7).

(7) Yr amodau yw bod y deunyddiau planhigion—

(a)o amrywogaeth y caniateir ei marchnata o dan reoliad 7 neu sydd wedi ei chofrestru fel amrywogaeth gan yr awdurdod perthnasol mewn Aelod-wladwriaeth yn unol ag Erthygl 4 o Gyfarwyddeb 2014/97/EU;

(b)wedi eu cynhyrchu gan gydymffurfio â’r gofynion a nodir yng Nghyfarwyddebau 2008/90/EC, 2014/98/EU a 2014/96/EU; ac

(c)wedi eu mewnforio i Gymru cyn diwedd y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r diwrnod ymadael yn digwydd..

(5Yn rheoliad 7—

(a)ym mharagraff (3), yn lle’r geiriau o “ag ail baragraff” hyd at y diwedd rhodder “â’r paragraff hwnnw”;

(b)ym mharagraff (4), yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b)cofrestru fel amrywogaeth gan yr awdurdod cyfrifol mewn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig y tu allan i Gymru yn unol ag—

(i)o ran Lloegr, Atodlen 4 i Reoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Lloegr) 2017;

(ii)o ran yr Alban, Atodlen 4 i Reoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Yr Alban) 2017;

(iii)o ran Gogledd Iwerddon, Atodlen 3 i Reoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Gogledd Iwerddon) 2017..

(6Yn rheoliad 10(6), yn lle “Chyfarwyddeb 2000/29/EC” rhodder “Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018”.

(7Yn rheoliad 15(1)(g)(iii), yn lle “yn yr Atodiadau i Gyfarwyddeb 2000/29/EC” rhodder “yng Ngorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018”.

(8Ar ôl rheoliad 28 mewnosoder—

Darpariaeth drosiannol ar gyfer labeli swyddogol ar y dyddiad ymadael

28A.  At ddibenion rheoliad 10 a pharagraff 4(b) o Atodlen 2, caniateir defnyddio label swyddogol sydd wedi ei ragargraffu cyn y diwrnod ymadael sy’n cynnwys y datganiad “EU Rules and Standards” fel label swyddogol ar gyfer deunyddiau planhigion cyn diwedd y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r diwrnod ymadael yn digwydd.

(9Yn Atodlen 2—

(a)Ym mharagraff 4(b), yn lle “EU” rhodder “UK”;

(b)ym mharagraff 5, yn lle “gael eu hargraffu’n” hyd at y diwedd rhodder—

(a)bod yn hawdd i’w gweld a’u darllen, a

(b)cael eu hargraffu’n annileadwy yn Saesneg (ond caniateir eu hargraffu mewn ieithoedd eraill yn ogystal);

(c)ym mharagraff 8—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “EU” rhodder “UK”;

(ii)yn is-baragraffau (b)(i) ac (x), yn lle “Aelod-wladwriaeth” rhodder “wlad”;

(d)ym mharagraff 9, yn lle “gael eu hargraffu’n” hyd at y diwedd rhodder—

(a)bod yn hawdd i’w gweld a’u darllen, a

(b)cael eu hargraffu’n annileadwy yn Saesneg (ond caniateir eu hargraffu mewn ieithoedd eraill yn ogystal).

(10Mae Atodlen 4 wedi ei diwygio yn unol â pharagraffau 11 i 16.

(11Ym mharagraff 1—

(a)yn y diffiniad o “protocol priodol”—

(i)hepgorer paragraff (a);

(ii)ym mharagraff (b)—

(aa)hepgorer y geiriau o “pan na fo” hyd at “berthnasol, ”;

(bb)ar ôl y gair “sefydlogrwydd” mewnosoder “ar gyfer y genws penodol neu’r rhywogaeth benodol o dan sylw”;

(iii)ym mharagraff (c)—

(aa)hepgorer “protocolau a grybwyllir ym mharagraff (a) na’r”;

(bb)ar ôl y gair “sefydlir” mewnosoder “neu a gydnabyddir”;

(b)yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “y Rheoliadau GMO” (“the GMO Regulations”) yw—

(a)o ran Cymru, Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002(17);

(b)o ran Lloegr, Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 2002(18);

(c)o ran yr Alban, Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Yr Alban) 2002(19);

(d)o ran Gogledd Iwerddon, Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Gogledd Iwerddon) 2003(20);".

(12Ym mharagraff 2—

(a)yn is-baragraff (2)(b), hepgorer “neu mewn Aelod-wladwriaeth arall, ”;

(b)yn is-baragraff (3), yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “gwlad arall sy’n aelod o UPOV”.

(13Ym mharagraff 3—

(a)yn is-baragraff (1)(c), yn lle’r geiriau o “wedi ei awdurdodi” hyd at y diwedd rhodder—

(i)wedi ei awdurdodi i’w dyfu yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 neu’r Rheoliadau GMO, neu

(ii)cyn y diwrnod y mae’r diwrnod ymadael yn digwydd, wedi ei awdurdodi i’w dyfu yn unol â Chyfarwyddeb 2001/18/EC.;

(b)yn is-baragraff (3), yn lle “y tu allan i Gymru” rhodder “mewn man arall yn y Deyrnas Unedig neu mewn gwlad arall sy’n aelod o UPOV”.

(14Ym mharagraff 6(1)—

(a)ym mharagraff (c), yn lle “neu mewn Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “neu”;

(b)ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(d)gan awdurdod cymwys y tu allan i’r Deyrnas Unedig os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y treialon tyfu hynny o safon sy’n cyfateb i’r rhai a gynhelir gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan..

(15Ym mharagraff 7—

(a)yn is-baragraff (1)(a), yn lle’r geiriau o “sy’n ffurfio’r amrywogaeth” hyd at y diwedd rhodder—

sy’n ffurfio’r amrywogaeth—

(i)wedi ei awdurdodi i’w dyfu yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003(21) neu’r Rheoliadau GMO, neu

(ii)wedi ei awdurdodi, cyn y diwrnod y mae’r diwrnod ymadael yn digwydd, i’w dyfu yn unol â Chyfarwyddeb 2001/18/EC; neu;

(b)yn is-baragraff (4)(a), yn lle “Chyfarwyddeb 2001/18/EC neu Reoliad” rhodder “Rheoliad”.

(16Ym mharagraff 8(1)(d), yn lle’r geiriau o “yn peidio â” hyd at y diwedd rhodder—

(i)yn peidio â bod yn awdurdodedig yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 neu’r Rheoliadau GMO; neu

(ii)wedi ei awdurdodi, cyn y diwrnod y mae’r diwrnod ymadael yn digwydd, i’w dyfu yn unol â Chyfarwyddeb 2001/18/EC a’i fod yn peidio â bod yn awdurdodedig.

(17Yn Atodlen 5—

(a)ym mharagraff 5—

(i)yn is-baragraff (4), yn lle “y tu allan i Gymru” rhodder “mewn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig ac eithrio Cymru neu mewn gwlad arall sy’n aelod o UPOV”;

(ii)yn is-baragraff (7), yn lle’r diffiniad o “cofrestr amrywogaethau” rhodder—

ystyr “cofrestr amrywogaethau” (“register of varieties”), mewn perthynas â chofrestru amrywogaethau, yw’r gofrestr a gynhelir—

(a)

yng Nghymru, o dan baragraff 4(1) o Atodlen 4;

(b)

yn Lloegr, o dan baragraff 4(1) o Atodlen 4 i Reoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Lloegr) 2017;

(c)

yn yr Alban, o dan baragraff 2(1) o Atodlen 4 i Reoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Yr Alban) 2017;

(d)

yng Ngogledd Iwerddon, at ddibenion paragraff 1 o Atodlen 3 i Reoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Gogledd Iwerddon) 2017;;

(b)hepgorer paragraff 8(2)(a).

(c)

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

25 Chwefror 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hefyd (drwy arfer y pwerau a roddir gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68)) yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 er mwyn cynnwys cyfeiriadau at wladwriaethau yr AEE a’r Swistir pan fo hynny’n briodol.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth, sy’n gymwys o ran Cymru, ym meysydd hadau a marchnata deunyddiau lluosogi planhigion ffrwythau a phlanhigion ffrwythau a fwriedir ar gyfer cynhyrchu ffrwythau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1972 p. 68; diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51), a Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7). Mae wedi ei diddymu yn rhagolygol gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) o’r diwrnod ymadael (gweler adran 20 o’r Ddeddf honno). Trosglwyddwyd swyddogaethau y cyn Weinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o wneud rheoliadau o dan adran 2(2) i Weinidogion Cymru gan O.S. 1999/672.

(5)

OJ L 362 9.12.2004, t. 21.

(6)

OJ L 193 20.7.2002, t. 33.

(21)

Fe’i diffinnir ym mharagraff 1 o Atodlen 4 i O.S. 2017/691 (Cy. 163).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources