Search Legislation

Rheoliadau Maethiad (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 179 (Cy. 45)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Maethiad (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gofynion sifftio wedi eu bodloni

28 Ionawr 2019

Gwnaed

4 Chwefror 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

6 Chwefror 2019

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1).

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud â’r weithdrefn graffu briodol ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Maethiad (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.

(2Daw’r Rheoliadau i rym ar y diwrnod ymadael.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000

2.—(1Mae Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Mae rheoliad 2 (dehongli) wedi ei ailrifo fel paragraff (1) o’r rheoliad hwnnw.

(3Ar ôl paragraff (1) fel y’i hailrifwyd felly, mewnosoder—

(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at gydymffurfedd â darpariaeth yn y Gyfarwyddeb i’w ddarllen fel pe bai’n gyfeiriad at gydymffurfio â’r ddarpariaeth honno fel y byddai’n ofynnol pe bai’r ddarpariaeth yn ffurfio rhan o’r gyfraith ddomestig.

(3) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae Erthyglau 4 i 5 o’r Gyfarwyddeb, a’r Atodiad iddi, i’w darllen yn ddarostyngedig i’r addasiadau a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn”.

(4Yn rheoliad 5A(4) (cymhwyso darpariaethau’r Ddeddf sy’n ymwneud â hysbysiadau gwella), ym mhob lle y mae’n digwydd, yn lle “Atodlen” rhodder “Atodlen 1”.

(5Ailrifer yr Atodlen yn Atodlen 1.

(6Ar ôl Atodlen 1 fel y’i hailrifwyd felly, mewnosoder—

Rheoliad 2(3)

ATODLENAddasiadau i’r Gyfarwyddeb

1.  Mae’r addasiadau i’r Gyfarwyddeb fel a ganlyn.

2.  Mae Erthygl 4(2) i’w darllen fel pe bai “Article 9 of Regulation (EU) No 1169/2011” wedi ei roi yn lle “Article 3 of Directive 79/112/EEC,”.

3.  Mae Erthygl 5 i’w darllen fel pe bai–

(a)ym mharagraff 1–

(i)“where a product is manufactured outside of the United Kingdom” wedi ei roi yn lle “where a product is manufactured in a third country”;

(ii)“territories within the United Kingdom” wedi ei roi yn lle’r cyfeiriad cyntaf at “Member States”;

(iii)y geiriau “Member States may, if they can demonstrate that notification is not necessary in order to monitor those products efficiently in their territory, not impose that obligation” wedi eu hepgor.

(b)ym mharagraff 2, y canlynol wedi ei roi yn lle “are those referred to in Article 9(4) of Directive 89/398/EEC”—

are—

(a)in respect of England, the Secretary of State,

(b)in respect of Wales, the Welsh Ministers,

(c)in respect of Scotland, Food Standards Scotland,

(d)in respect of Northern Ireland, the Food Standards Agency.

4.  Yn yr Atodiad, mae paragraff 4 i’w ddarllen fel pe bai “Directive 2006/141/EC(5) wedi ei roi yn lle “Directive 91/321/EEC and its subsequent modifications.

Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003

3.—(1Mae Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003(6) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli) hepgorer—

(a)y diffiniad o “Cyfarwyddeb 2001/83”;

(b)paragraffau (3) a (4).

(3Yn rheoliad 3(2) (cwmpas y rheoliadau), yn lle “fel y’u diffinnir gan Gyfarwyddeb 2001/83” rhodder “fel y’u diffinnir gan reoliad 2(1) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012(7)”.

(4Yn rheoliad 5(8) (gwaharddiadau gwerthu sy’n ymwneud â chyfansoddiad ychwanegion bwyd)—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn is-baragraff (a) yn lle “Atodiad I i Gyfarwyddeb 2002/46” rhodder “Atodlen 1 i Reoliadau Maethiad (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019(9)”;

(ii)yn is-baragraff (b)(i) yn lle “Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/46” rhodder “Atodlen 2 i Reoliadau Maethiad (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019”;

(b)yn lle paragraff (2)(a) rhodder—

(a)y meini prawf purdeb, os oes rhai, a bennir yng nghyfraith yr UE a ddargedwir neu mewn rheoliadau sy’n gymwys o ran Cymru ac a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 3 o Reoliadau Maethiad (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019; neu.

(5Yn rheoliad 6(3)(b)(10) (cyfyngiadau ar werthu sy’n ymwneud â labelu etc ychwanegion bwyd), yn lle “Atodiad I i Gyfarwyddeb 2002/46” rhodder “Atodlen 1 i Reoliadau Maethiad (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019”.

Diwygio Rheoliadau Cafa-cafa mewn Bwyd (Cymru) 2006

4.—(1Mae Rheoliadau Cafa-cafa mewn Bwyd (Cymru) 2006(11) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)hepgorer y diffiniadau o “cylchrediad rhydd mewn Aelod-wladwriaethau” a “Gwladwriaeth AEE”;

(b)ar ȏl y diffiniad o “y Ddeddf”, mewnosoder—

ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw gwlad ac eithrio’r Deyrnas Unedig.

(3Yn rheoliad 3 (gwaharddiad ar werthu etc. bwyd sydd wedi’i wneud o Gafa-cafa neu sy’n ei gynnwys) yn lle paragraff (2), rhodder—

(2) Ni fydd y gwaharddiad a osodir gan baragraff (1) yn gymwys pan fo’r bwyd sydd wedi’i wneud o Gafa-cafa neu sy’n ei gynnwys yn cael ei fewnforio o drydedd wlad os yw’r bwyd yn cael ei allforio, neu i’w allforio, i drydedd wlad.

Diwygio Rheoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) 2007

5.  Yn rheoliad 4(2)(a) o Reoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) 2007) (12) (tramgwyddau a chosbau, hepgorer y geiriau “o’i darllen gydag Erthygl 17(1) (cymhwyso’n drosiannol reolau cenedlaethol)”.

Diwygio Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007

6.—(1Mae Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007(13) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli), ar ôl paragraff (6) mewnosoder—

(7) Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at gydymffurfedd â darpariaeth yn y Gyfarwyddeb i’w ddarllen fel pe bai’n gyfeiriad at gydymffurfio â’r ddarpariaeth honno fel y byddai’n ofynnol pe bai’r ddarpariaeth yn ffurfio rhan o’r gyfraith ddomestig.

(3Yn rheoliad 12(3)(a) (sylweddau rhestredig a’u meini prawf purdeb (fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol)), yn lle “yn neddfwriaeth yr UE” rhodder “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir”.

Diwygio Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2009

7.—(1Mae Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2009(14) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 1, yng ngholofn “y pwnc” o’r tabl—

(a)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 2(1), yn lle “a gwmpesir gan Gyfarwyddeb 2009/39 Senedd Ewrop a’r Cyngor am fwydydd sydd wedi eu bwriadu at ddefnydd maethol neilltuol” rhodder “(bwydydd y mae gwahaniaeth amlwg rhyngddynt, oherwydd eu cyfansoddiad arbennig neu’r broses o’u gweithgynhyrchu, a bwydydd sydd wedi eu bwriadu ar gyfer eu bwyta’n arferol, sy’n addas at y dibenion maethol a honnir ac sydd wedi eu marchnata mewn ffordd sy’n dangos eu bod yn addas felly)”;

(b)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 3(2), yn lle “yr Asiantaeth Safonau Bwyd” rhodder “yr Ysgrifennydd Gwladol, Gweinidogion Cymru, Safonau Bwyd yr Alban neu’r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Ngogledd Iwerddon”;

(c)yn y cofnodion sy’n ymwneud ag Erthygl 4(2) ac Erthygl 4(3), yn lle “ddeddfwriaeth yr UE” rhodder “gyfraith yr UE a ddargedwir”.

Diwygio Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Cymru) 2016

8.—(1Mae Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Cymru) 2016(15) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli), hepgorer paragraff (5).

(3Yn Atodlen 1 (gofynion UE penodedig)(16) yn y cofnod yng ngholofn 1, yn lle “Erthygl 15(1) (rhestr yr Undeb)” rhodder “Erthygl 15(1) (rhestr y DU)”.

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

4 Chwefror 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau ym mharagraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth i Gymru ym maes maethiad.

Ni luniwyd asesiad effaith ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir y bydd unrhyw effaith, neu unrhyw effaith sylweddol, ar y sector preifat na’r sector gwirfoddol.

(2)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 596/2009 (OJ Rhif L 188, 18.7.2009, t. 14).

(4)

Mewnosodwyd rheoliad 5A gan O.S. 2016/639 (Cy. 175).

(5)

OJ Rhif L 401, 30.12.2006, t. 1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2016/127 (OJ Rhif L 25, 2.2.2016, t. 1).

(8)

Diwygiwyd rheoliad 5 gan O.S. 2009/3252 (Cy. 282).

(9)

O.S. 2019/xx

(10)

Diwygiwyd rheoliad 6 gan O.S. 2009/3252 (Cy. 282) ac O.S. 2014/2303 (Cy. 227).

(11)

O.S. 2006/1851 (Cy. 194) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2012/1809.

(15)

O.S. 2016/639 (Cy. 175) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2019/70 (Cy. 22).

(16)

Diwygiwyd Atodlen 1 gan O.S. 2019/70 (Cy. 22).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources