- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Bwyd, Cymru
Gwnaed
30 Gorffennaf 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1 Awst 2018
Yn dod i rym
6 Medi 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(2), 17(1) a (2), 26(1)(a), (2)(a) a (3) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1).
Yn unol ag adran 48(4A)(2) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd cyn gwneud y Rheoliadau hyn.
Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2018.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Medi 2018.
2. Mae Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012(4) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 9.
3. Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a)ym mharagraff (1), cyn y diffiniad o “Rheoliad 10/2011” mewnosoder y diffiniad a ganlyn—
“ystyr “Rheoliad 2018/213” (“Regulation 2018/213”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) 2018/213 ar y defnydd o bisffenol A mewn farneisiau ac araenau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd ac sy’n diwygio Rheoliad (EU) Rhif 10/2011 o ran y defnydd o’r sylwedd hwnnw mewn deunyddiau plastig sy’n dod i gysylltiad â bwyd(5);”;
(b)ym mharagraff (2), yn lle “neu Reoliad 10/2011” rhodder “, Rheoliad 10/2011 neu Reoliad 2018/213”.
4. Yn rheoliad 14(1) (troseddau mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig yn Rheoliad 10/2011), yn lle “ac Erthygl 6 o Reoliad y Comisiwn (EU) 2018/831,” rhodder “, Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EU) 2018/831(6) ac Erthygl 6 o Reoliad 2018/213(7),”.
5. Ar ôl rheoliad 17 (awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 1895/2005) mewnosoder—
17A. Yn y Rhan hon mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sy’n dwyn y rhif hwnnw yn Rheoliad 2018/213.
17B. Yn ddarostyngedig i’r darpariaethau trosiannol yn Erthygl 6, mae unrhyw berson sy’n rhoi ar y farchnad ddeunydd neu eitem sy’n methu â chydymffurfio ag Erthygl 2 yn euog o drosedd.
17C. Yr awdurdodau cymwys at ddibenion Erthygl 4(3) yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd a phob awdurdod bwyd yn ei ardal.”
6. Yn rheoliad 19 (troseddau a chosbau)—
(a)ym mharagraff (2), ar ôl “Rheoliad 10/2011” mewnosoder “, Rheoliad 2018/213”;
(b)ym mharagraff (5)(a), yn lle “neu 16(4)” rhodder “16(4) neu 17B”.
7. Yn rheoliad 24(2) (amddiffyniadau cyffredinol), ar ôl “16(4)” mewnosoder “, 17B”.
8. Yn rheoliad 27(1)(a) (cymhwyso amrywiol ddarpariaethau’r Ddeddf)—
(a)ar ddiwedd paragraff (iv), hepgorer “a”;
(b)ar ôl paragraff (v), mewnosoder—
“(vi)Erthygl 4 o Reoliad 2018/213; a”.
9. Yn Atodlen 2, yn Rhan 1 (addasu adran 10(1)), yn adran 10(1A) fel y’i cymhwysir—
(a)ar ddiwedd paragraff (d), hepgorer “and”;
(b)ar ddiwedd paragraff (e), yn lle “.” rhodder “; and”;
(c)ar ôl paragraff (e), mewnosoder—
“(f)Article 4 of Regulation 2018/213.”
Vaughan Gething
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
30 Gorffennaf 2018
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012 (O.S. 2012/2705 (Cy. 291)) (“y prif Reoliadau”) i ddarparu ar gyfer gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EU) 2018/213 ar y defnydd o bisffenol A mewn farneisiau ac araenau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd ac sy’n diwygio Rheoliad (EU) Rhif 10/2011 o ran y defnydd o’r sylwedd hwnnw mewn deunyddiau plastig sy’n dod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L 41, 14.2.2018, t. 6) (“Rheoliad 2018/213”).
Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 14 o’r prif Reoliadau i orfodi’r ddarpariaeth drosiannol y darperir ar ei chyfer yn Erthygl 6 o Reoliad 2018/213. Nid yw person yn euog o’r drosedd o fethu â chydymffurfio â gofyniad yn Rheoliad (EU) Rhif 10/2011 ar ddeunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L 12, 15.1.2011, t. 1) a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 1 i’r prif Reoliadau os rhoddwyd y deunydd neu eitem plastig ar y farchnad yn gyfreithlon cyn 6 Medi 2018. Caiff cynhyrchion o’r fath aros ar y farchnad nes i’r stociau gael eu disbyddu.
Mae rheoliad 5 yn mewnosod rheoliadau newydd 17A i 17C yn y prif Reoliadau i ddarparu ar gyfer gorfodi darpariaethau Rheoliad 2018/213 ar y defnydd o bisffenol A mewn farneisiau ac araenau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd. Mae rheoliad newydd 17B yn darparu, yn ddarostyngedig i’r ddarpariaeth drosiannol yn Erthygl 6 o Reoliad 2018/213, fod unrhyw berson sy’n rhoi ar y farchnad ddeunydd neu eitem sy’n methu â chydymffurfio ag Erthygl 2 o’r Rheoliad hwnnw yn euog o drosedd. Mae Erthygl 2 yn darparu na chaniateir i unrhyw bisffenol A gael ei ollwng o farneisiau neu araenau y bwriedir yn benodol iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd i fabanod neu i blant ifanc ac, mewn perthynas â phob farnais ac araen arall y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd, na chaniateir i fwy na 0.05mg o bisffenol A gael ei ollwng fesul pob kg o fwyd y maent mewn cysylltiad ag ef. Mae rheoliad newydd 17C yn darparu mai’r Asiantaeth Safonau Bwyd yw’r awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 4(3) o Reoliad 2018/213.
Mae rheoliadau 6 a 7 yn diwygio’r prif Reoliadau i ddarparu bod person sy’n rhwystro’n fwriadol unrhyw berson sy’n gweithredu i roi Rheoliad 2018/213 ar waith yn cyflawni trosedd ac yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol. Mae person sy’n euog o’r drosedd o fethu â chydymffurfio ag Erthygl 2 o Reoliad 2018/213 yn agored ar euogfarn ar dditiad i ddirwy ddiderfyn neu i garchariad am gyfnod nad yw’n hwy na dwy flynedd, neu’r ddau, neu ar euogfarn ddiannod, i ddirwy ddiderfyn.
Mae rheoliadau 8 a 9 yn diwygio’r prif Reoliadau i alluogi swyddog awdurdodedig i’r awdurdod gorfodi i gyflwyno hysbysiad gwella i’w gwneud yn ofynnol i berson gydymffurfio ag Erthygl 4 o Reoliad 2018/213. Mae Erthygl 4 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr busnes sicrhau bod deunyddiau ac eitemau sydd wedi eu farneisio neu eu haraenu ac y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd yn dod gyda datganiad ysgrifenedig o gydymffurfedd â Rheoliad 2018/213.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn: Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, 11eg Llawr, Tŷ Southgate, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW neu ar wefan yr Asiantaeth ar www.food.gov.uk.
1990 p. 16. Diwygiwyd adran 16(2) gan baragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28) (“Deddf 1999”). Diwygiwyd adran 17(1) a (2) gan baragraffau 8 a 12(a) o Atodlen 5 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2011/1043. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 48(1) gan baragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers”, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, a’u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
Mewnosodwyd adran 48(4A) gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999.
OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2017/228 (OJ Rhif L 35, 10.2.2017, t. 10).
O.S. 2012/2705 (Cy. 291), a ddiwygiwyd gan O.S. 2017/832 (Cy. 202).
OJ Rhif L 41, 14.2.2018, t. 6.
Rheoliad y Comisiwn (EU) 2018/831 sy’n diwygio Rheoliad (EU) Rhif 10/2011 ar ddeunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L 140, 6.6.2018, t. 35). Mae Erthygl 2 yn darparu y caiff deunyddiau ac eitemau plastig sy’n cydymffurfio â Rheoliad 10/2011 fel yr oedd yn gymwys cyn i Reoliad 2018/831 ddod i rym ar 26 Mehefin 2018 gael eu rhoi ar y farchnad tan 26 Mehefin 2019 ac y cânt aros ar y farchnad ar ôl y dyddiad hwnnw nes i’r stociau gael eu disbyddu.
Mae Erthygl 6 yn darparu y caiff deunyddiau ac eitemau plastig a roddwyd ar y farchnad yn gyfreithlon cyn 6 Medi 2018 aros ar y farchnad nes i’r stociau gael eu disbyddu.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: