Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Gwybodaeth Asesiadau Athrawon) (Cymru) 2018

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 766 (Cy. 153)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Gwybodaeth Asesiadau Athrawon) (Cymru) 2018

Gwnaed

26 Mehefin 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

29 Mehefin 2018

Yn dod i rym

31 Gorffennaf 2018

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau yn adrannau 29(3) a (5)(1), 408(1)(2), 537(1)(3), 537A(1), (2) a (4)(4), a 569(4) a (5)(5) o Ddeddf Addysg 1996, ac yn adrannau 19 a 54(3) a (4) o Ddeddf Addysg 1997(6), ac yn adrannau 21(3), 30(1) a (2), 131(7) a 210 o Ddeddf Addysg 2002(8), ac yn adrannau 22(3) a (4) a 32 o Fesur Addysg (Cymru) 2011(9), ac yn adrannau 87 a 98 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013(10), ac sy’n arferadwy ganddynt hwy(11), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 408(5) o Ddeddf Addysg 1996, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny yr oedd ymgynghori â hwy yn ymddangos yn ddymunol i Weinidogion Cymru.

Yn unol ag adran 131(7) o Ddeddf Addysg 2002, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag unrhyw gymdeithasau awdurdodau lleol yng Nghymru, awdurdodau lleol yng Nghymru, cyrff sy’n cynrychioli buddiannau cyrff llywodraethu yng Nghymru a chyrff sy’n cynrychioli buddiannau athrawon yng Nghymru yr oedd yn ymddangos iddynt eu bod yn briodol.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Gwybodaeth Asesiadau Athrawon) (Cymru) 2018.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Gorffennaf 2018.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007

2.  Mae Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007(12) wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(a)yn rheoliad 5(2)—

(i)hepgorer is-baragraff (c); a

(ii)yn is-baragraff (d) yn lle “yr Asiantaeth Ariannu Sgiliau” rhodder “yr Asiantaeth Cyllido Addysg a Sgiliau(13)”; a

(b)yn lle paragraff 1 yn Rhan 2 o Atodlen 2 rhodder—

1.(1) Yr wybodaeth ganlynol—

(a)a yw neu a oedd y disgybl yn astudio tuag at Gymhwyster Bagloriaeth Cymru; a

(b)teitl pob gweithgaredd dysgu y mae neu yr oedd y disgybl yn ei astudio.

(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i bob person—

(a)sy’n ddisgybl yn chweched dosbarth yr ysgol yn ystod y flwyddyn ysgol y gwnaed ynddi’r cais am yr wybodaeth;

(b)a oedd yn ddisgybl yn chweched dosbarth yr ysgol ar unrhyw adeg flaenorol yn ystod y flwyddyn ysgol y gwnaed ynddi’r cais am yr wybodaeth; neu

(c)a oedd yn ddisgybl yn chweched dosbarth yr ysgol yn y flwyddyn yn union cyn y flwyddyn ysgol y gwnaed ynddi’r cais am yr wybodaeth.

Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011

3.  Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011(14) wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(a)yn rheoliad 2 hepgorer y diffiniad o “adroddiad cymharol ar lythrennedd a rhifedd”;

(b)yn rheoliad 5(2)(a) hepgorer “5,”; ac

(c)yn Atodlen 2 hepgorer paragraffau 5 a 5A.

Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011

4.  Mae rheoliad 3 o Reoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011(15) wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(a)yn lle paragraff (4) rhodder—

(4) Yn achos disgyblion yng nghyfnod allweddol pedwar, rhaid cynnwys yn yr adroddiad y ddogfen “Crynodeb o Berfformiad Ysgol Uwchradd” ddiweddaraf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd mewn perthynas â’r ysgol ar Fenter Cyfnewid Data Cymru.;

(b)ym mharagraff (5) yn lle “mharagraffau (3) a (4)” rhodder “mharagraff (3)”; ac

(c)ym mharagraff (8)(b) yn lle “1 a 2(4)” rhodder “1, 2(4), 3(4) ac 8(1) a (2)”.

Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011

5.  Mae Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011(16) wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(a)yn rheoliad 2(1), hepgorer y diffiniad o “adroddiad cymharol ar lythrennedd a rhifedd”; a

(b)yn Atodlen 3 hepgorer paragraffau 27 ac 31.

Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011

6.—(1Mae Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011(17) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1)—

(a)hepgorer y diffiniad o “cyflawni’r dangosydd pynciau craidd”;

(b)yn y diffiniad o “set ddata” hepgorer “asesiadau athrawon,”; ac

(c)yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “Blwyddyn 11” (“Year 11”) yw blwyddyn ysgol olaf cyfnod allweddol pedwar;; ac

ystyr “disgyblion cyfnod allweddol pedwar” (“fourth key stage pupils”) yw disgyblion sydd yng nghyfnod allweddol pedwar y cyfeirir ato yn adran 103(1)(d) o Ddeddf 2002;.

(3Yn rheoliadau 3(4)(b) a 4(4)(b) yn lle “set ddata” rhodder “data”.

(4Yn rheoliad 5—

(a)ym mharagraff (1) yn lle “wedi cyrraedd 15 oed” rhodder “ym Mlwyddyn 11”;

(b)ym mharagraff (2) yn lle “yn cyrraedd 16 oed yn ystod y flwyddyn ysgol y byddant” rhodder “ym Mlwyddyn 11 pan fyddant”;

(c)ym mhob lle y mae’n digwydd ym mharagraffau (3) a (6) ac yn y pennawd i reoliad 5, yn lle “a fydd yn cyrraedd 16 oed” rhodder “a fydd ym Mlwyddyn 11”; a

(d)ym mharagraff (4)—

(i)hepgorer is-baragraffau (a) a (d); a

(ii)yn is-baragraff (b) hepgorer “mewn asesiadau athrawon fel a bennwyd”.

(5Yn rheoliad 8—

(a)ym mharagraff (1)(a) ar ôl “disgyblion” mewnosoder “ar gyfer disgyblion ym Mlwyddyn 11”;

(b)ym mharagraff (2)(a)(i) yn lle “3(6)” rhodder “3(5)”;

(c)ym mharagraff (2)(a)(iii) yn lle “a fydd yn cyrraedd 16 oed (fel y’i diffinnir yn rheoliad 5(7))” rhodder “a fydd ym Mlwyddyn 11 (fel y’i diffinnir yn rheoliad 5(6))”;

(d)ym mharagraff (2)(b) hepgorer paragraffau (i) a (ii);

(e)ym mharagraff (2)(b)(iii) yn lle “wedi cyrraedd 16 oed” rhodder “ym Mlwyddyn 11” ac ym mharagraff (3)(c) yn lle “a gyrhaeddodd 16 oed” rhodder “sydd ym Mlwyddyn 11”;

(f)ym mharagraff (3) hepgorer is-baragraffau (a) a (b); ac

(g)ym mharagraff (3)(c) hepgorer paragraffau (i) a (vi).

(6Ym mharagraffau 1(a) a (d)(i) a 3(a) a (d)(i) o Atodlen 2, ar ôl “disgyblion” mewnosoder “ym Mlwyddyn 11”.

Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2011

7.—(1Mae Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2011(18) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn y rheoliadau a ganlyn yn lle “datblygu” a “datblygiad” rhodder “dysgu proffesiynol” ac yn lle “ddatblygiad” rhodder “ddysgu proffesiynol”—

(a)rheoliad 5(7);

(b)rheoliad 15(1)(c);

(c)rheoliad 17(5);

(d)rheoliad 29(1)(c);

(e)rheoliad 31(4); ac

(f)rheoliad 44(4).

(3Yn y rheoliadau a ganlyn yn lle “datblygu” rhodder “dysgu” ac yn lle “ddatblygiad” rhodder “ddysgu”—

(a)rheoliad 12(7)(b);

(b)rheoliad 26(7)(b);

(c)rheoliad 39(7)(b); a

(d)rheoliad 42(1)(c).

(4Yn y rheoliadau a ganlyn yn lle “datblygu” rhodder “dysgu proffesiynol”—

(a)rheoliad 15(4);

(b)rheoliad 29(4); ac

(c)rheoliad 42(4).

Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013

8.—(1Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013(19) (“Rheoliadau 2013”) yn y diffiniad o “yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion” yn lle “mis Ionawr 2016 o’r enw “Hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol yng Nghymru ar ddeall data ysgolion” rhodder “mis Mehefin 2018 o’r enw “Hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol yng Nghymru ar ddeall data ysgolion(20)””.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i lywodraethwr a gwblhaodd, cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion sy’n ofynnol gan Reoliadau 2013.

Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013

9.  Yn lle rheoliad 8 o Reoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013(21) rhodder—

8.(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i’r awdurdod lleol gyhoeddi’r cynllun (neu’r cynllun diwygiedig) drwy—

(a)ei roi ar wefan yr awdurdod lleol; a

(b)sicrhau bod copïau o’r cynllun ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt—

(i)yn swyddfa’r awdurdod lleol; a

(ii)mewn unrhyw le arall y mae’n ystyried ei fod yn briodol.

(2) Ni chaiff awdurdod lleol gyhoeddi’r wybodaeth ategol a nodir ym mharagraffau 4 a 5 o Atodlen 3.

Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014

10.  Mae Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014(22) wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(a)yn rheoliad 2(1) yn y diffiniad o “gwybodaeth ysgol gymharol” hepgorer “asesiadau athrawon,”; a

(b)yn yr Atodlen, ym mharagraff 3 yn lle “datblygiad” rhodder “dysgu” ac yn y pennawd yn lle “datblygu” rhodder “dysgu”.

Kirsty Williams

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru

26 Mehefin 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—

(a)Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007 (“y Rheoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol”);

(b)Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol”);

(c)Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Adroddiad Pennaeth”);

(d)Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion”);

(e)Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Targedau”);

(f)Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Gwerthuso Athrawon”);

(g)Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Hyfforddi”);

(h)Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau CSCA”); ac

(i)Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014 (“y Rheoliadau Cynlluniau Datblygu”).

Mae’r Rheoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir, pan fydd cais ysgrifenedig yn dod i law oddi wrth yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol, gyflenwi’r wybodaeth am ddisgyblion unigol y gofynnir amdani ac a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hynny. Mae’r Rheoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol hefyd yn nodi’r personau y caiff Gweinidogion Cymru ddarparu’r wybodaeth honno am ddisgyblion unigol iddynt. Mae’r Rheoliadau hyn yn diweddaru’r rhestr o bersonau y caniateir i’r wybodaeth gael ei darparu iddynt. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud dau fân newid pellach—

(a)er mwyn caniatáu i Weinidogion Cymru gasglu gwybodaeth am ddisgyblion unigol ar gyfer disgyblion chweched dosbarth yn y flwyddyn cyn y flwyddyn ysgol y cyflwynwyd y cais ynddi. Mae hyn yn adlewyrchu’r arfer casglu cyfredol; a

(b)er mwyn dileu cyfeiriad at ddata “sgiliau sylfaenol” am nad yw’r data hyn yn cael eu casglu gan Weinidogion Cymru mwyach (rheoliad 2).

Mae’r Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol yn nodi’r wybodaeth y mae rhaid i gorff llywodraethu ysgol ei chyhoeddi mewn adroddiad blynyddol. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol fel nad oes rhaid mwyach i gyrff llywodraethu gyhoeddi gwybodaeth ysgol gymharol na’r adroddiad ar lythrennedd a rhifedd (“yr Adroddiadau”) (rheoliad 3). Yn y dyfodol, ni fydd Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi data sy’n cymharu ysgolion mewn cysylltiad ag asesiadau eu hathrawon ac felly ni fydd yr Adroddiadau ar gael i gorff llywodraethu’r ysgol i’w cyhoeddi yn ei adroddiad blynyddol.

Mae’r Rheoliadau Adroddiad Pennaeth yn gwneud darpariaeth o ran yr adroddiad y mae’n ofynnol i bennaeth ysgol a gynhelir ei anfon at rieni a disgyblion sy’n oedolion bob blwyddyn ysgol a’r wybodaeth ychwanegol y caiff rhiant ofyn i’r pennaeth amdani. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Adroddiad Pennaeth fel nad oes rhaid i benaethiaid gynnwys yn yr adroddiad wybodaeth gymharol ddiweddaraf yr ysgol ar gyfer disgyblion islaw’r pedwerydd cyfnod allweddol. Gan na fydd Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi data sy’n cymharu ysgolion mewn cysylltiad ag asesiadau eu hathrawon yn y dyfodol, ni fydd gan y pennaeth wybodaeth ysgol gymharol ar gyfer disgyblion islaw’r pedwerydd cyfnod allweddol i’w chynnwys yn yr adroddiad i rieni a disgyblion sy’n oedolion. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud rhai mân ddiwygiadau er mwyn cywiro croesgyfeiriadau yn rheoliad 3 o’r Rheoliadau Adroddiad Pennaeth (rheoliad 4).

Mae’r Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion yn nodi’r wybodaeth am ysgol y mae rhaid i’r awdurdod lleol a chorff llywodraethu’r ysgol ei chyhoeddi. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion fel nad oes rhaid mwyach i gyrff llywodraethu gyhoeddi’r wybodaeth ysgol gymharol ddiweddaraf (“yr Adroddiad”) (rheoliad 5). Yn y dyfodol, ni fydd Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi data sy’n cymharu ysgolion mewn cysylltiad ag asesiadau eu hathrawon ac felly ni fydd yr Adroddiad ar gael i awdurdodau lleol na chyrff llywodraethu.

Mae’r Rheoliadau Targedau yn nodi’r targedau perfformiad ysgol y mae rhaid i gorff llywodraethu ysgol eu gosod. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Targedau fel—

(a)nad yw’n ofynnol mwyach i’r corff llywodraethu osod targedau ar gyfer cyflawni’r dangosydd pynciau craidd nac ar gyfer nifer y disgyblion sy’n gadael heb gymwysterau perthnasol ond maent yn rhydd i wneud hynny yn wirfoddol (rheoliad 6(2)(a), (4)(d)(i) a (5)(g));

(b)bod y diffiniad o “set ddata” wedi ei ddiwygio i hepgor cyfeiriad at “asesiadau athrawon” (rheoliad 6(2)(b));

(c)bod diwygiadau i reoliadau 3(4)(b) a 4(4)(b) yn golygu na fydd rhaid i gorff llywodraethu roi sylw i “setiau data” a gyflenwir gan Weinidogion Cymru yn unig mewn cysylltiad â’r ail gyfnod allweddol a’r trydydd cyfnod allweddol. Yn hytrach, bydd rhaid i gorff llywodraethu roi sylw i ystod o ddata am berfformiad disgyblion mewn asesiadau athrawon a fydd ar gael o ystod o ffynonellau (rheoliad 6(3));

(d)yn lle gosod targedau perfformiad ar gyfer disgyblion 16 oed yn y pedwerydd cyfnod allweddol y bydd rhaid i’r corff llywodraethu osod targedau ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 11 (rheoliad 6(2)(c), (4)(a) ac (c) a (5)(c) ac (e)); ac

(e)bod diwygiadau i reoliad 8 ac Atodlen 2 i’r Rheoliadau Targedau yn adlewyrchu’r ffaith na fydd yn ofynnol mwyach i gyrff llywodraethu ysgolion gyhoeddi data am gyrhaeddiad disgyblion ar gyfer yr ail gyfnod allweddol a’r trydydd cyfnod allweddol. Bydd y data hyn yn parhau i gael eu cyhoeddi ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 11 (rheoliad 6(5)(a), (d) ac (f) a (6)).

Mae’r Rheoliadau Gwerthuso Athrawon yn darparu ar gyfer gwerthuso perfformiad athrawon ysgol. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio cyfeiriadau yn y Rheoliadau Gwerthuso Athrawon at ddatblygiad proffesiynol athrawon ysgol i ddysgu proffesiynol athrawon ysgol (rheoliad 7). Mae’r newid geiriad yn gyson â’r geiriad a ddefnyddir mewn dogfennau nad ydynt yn rhai deddfwriaethol ac mae felly yn fwy cyfarwydd i’r proffesiwn addysgu.

Mae’r Rheoliadau Hyfforddi yn nodi’r gofynion hyfforddi ar gyfer llywodraethwyr ysgolion. Mae’r gofynion hyfforddi mewn perthynas â data perfformiad ysgolion wedi eu nodi mewn dogfen o’r enw “Hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol yng Nghymru ar ddeall data ysgolion” ac y cyfeirir ati yn y diffiniad o “yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion” (“Dogfen 2016”) yn rheoliad 2 o’r Rheoliadau Hyfforddi. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r diffiniad hwnnw er mwyn dileu’r cyfeiriad at Ddogfen 2016 a chynnwys yn ei le gyfeiriad at yr hyfforddiant newydd ar ddata perfformiad ysgolion a nodir mewn dogfen o’r enw “Hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol yng Nghymru ar ddeall data ysgolion” a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2018 (“Dogfen 2018”) (rheoliad 8(1)). Roedd dogfen 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i lywodraethwyr ysgolion gael eu hyfforddi ym maes data perfformiad ysgolion penodol a ddarparwyd iddynt gan Weinidogion Cymru (rheoliad 8). Yn y dyfodol, ni fydd y data hynny yn cael eu darparu mwyach.

Mae rheoliad 8(2) yn cynnwys darpariaeth arbed y mae ganddi’r effaith na fydd yn ofynnol i lywodraethwyr ysgolion presennol gwblhau’r hyfforddiant yn Nogfen 2018 os ydynt eisoes wedi cwblhau’r hyfforddiant sy’n ofynnol gan y Rheoliadau Hyfforddi cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Mae adran 84 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol lunio cynllun strategol Cymraeg mewn addysg (“CSCA”) a chynnal asesiad o’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg. Mae’r Rheoliadau CSCA yn nodi’r amgylchiadau y mae rhaid i awdurdod lleol gynnal asesiad addysg cyfrwng Cymraeg o’r fath odanynt, ac maent yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â ffurf, cynnwys a chyhoeddi ei CSCA. Yn benodol, mae rheoliad 8 o’r Rheoliadau CSCA yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyhoeddi CSCA awdurdod lleol, gan gynnwys yr wybodaeth ategol a nodir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau CSCA. Mae’r Rheoliadau hyn yn rhoi rheoliad 8 newydd yn lle’r un presennol fel nad yw’n ofynnol mwyach i’r data asesu disgyblion a nodir ym mharagraffau 4 a 5 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau CSCA gael eu cyhoeddi fel rhan o’r CSCA (“Data Asesu”) (rheoliad 9). Bydd y Data Asesu hynny yn dal i fod yn rhan o’r Cynllun a byddant yn parhau i gynorthwyo awdurdod lleol i gyflawni ei swyddogaethau yn Rhan 4 o Ddeddf 2013 ond ni chânt eu cyhoeddi mwyach.

Mae’r Rheoliadau Cynlluniau Datblygu yn gosod dyletswydd ar gyrff llywodraethu ysgolion i lunio cynllun datblygu ysgol y mae rhaid iddo ymdrin â’r materion a nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hynny. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Cynlluniau Datblygu er mwyn dileu cyfeiriad at “asesiadau athrawon” o’r diffiniad o “gwybodaeth ysgol gymharol” yn rheoliad 2. Ni fydd Gweinidogion Cymru yn cynnwys gwybodaeth “asesiadau athrawon” yn yr wybodaeth ysgol gymharol y maent yn ei darparu i ysgolion mwyach (rheoliad 10(a)). Bydd yr wybodaeth gymharol arall a nodir yn y diffiniad o “gwybodaeth ysgol gymharol” yn parhau i gael ei darparu.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio’r Atodlen i’r Rheoliadau Cynlluniau Datblygu er mwyn dileu cyfeiriadau at “datblygiad proffesiynol” a “datblygu proffesiynol” a mewnosod cyfeiriadau yn lle hynny at “dysgu proffesiynol”. Mae’r newid geiriad yn gyson â’r geiriad a ddefnyddir mewn dogfennau nad ydynt yn rhai deddfwriaethol ac mae’n fwy cyfarwydd i’r proffesiwn addysgu. Mae’r newid hwn hefyd yn adlewyrchu’r newidiadau a wneir i’r Rheoliadau Gwerthuso Athrawon (rheoliad 9(b)).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cwricwlwm ac Asesu yn yr Adran Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus yn Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1996 p. 56. Diwygiwyd adran 29(3) gan Atodlen 30 a pharagraff 67 o Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31). Diwygiwyd pennawd adran 29 ac is-adrannau (1), (3) a (5) gan O.S. 2010/1158.

(2)

Diwygiwyd adran 408(1) gan baragraff 30(a) o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), paragraff 106(a) o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, paragraff 46(1) a (2) o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002 (p. 32), paragraffau 9, 11(1) a (2) o Atodlen 12 i Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), paragraffau 5 a 7 o Atodlen 8 i Ddeddf Addysg 2011 (p. 21), paragraff 1(1) a (2)(a) o Atodlen 4 i Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 (dccc 5) a chan O.S. 2010/1158.

(3)

Amnewidiwyd adran 537(1) o Ddeddf Addysg 1996 gan baragraff 152(a) o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac fe’i diwygiwyd gan baragraff 9(1) a (15) o Atodlen 13 i Ddeddf Addysg 2011, a chan O.S. 2010/1158.

(4)

Mewnosodwyd adran 537A o Ddeddf Addysg 1996 gan adran 20 o Ddeddf Addysg 1997, fe’i hamnewidiwyd gan baragraff 153 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 2010/1158.

(5)

Diwygiwyd adran 569(4) gan adran 8(1) a (5) o Fesur Addysg (Cymru) 2009 (mccc 7).

(6)

1997 p. 44. Diwygiwyd adran 19 gan baragraff 213 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31) a chan adran 66(1) a (2) o Ddeddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20).

(7)

Diwygiwyd adran 131 fel ei bod yn gymwys i Loegr yn unig gan baragraff 1(1) a (3) o Ran 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (dccc 5) (“Deddf 2014”). Ailddeddfwyd adran 131 gyda rhai newidiadau yng Nghymru yn adran 23 o Ddeddf 2014. Nid yw’r diwygiadau a wneir gan Ddeddf 2014 mewn grym eto.

(8)

2002 p. 32. Diwygiwyd adran 21(3) gan O.S. 2010/1158. Diwygiwyd adran 30 gan adran 103(1)(a) ac (c) o Ddeddf Addysg 2005 (p. 18) a chan O.S. 2010/1158.

(11)

Rhoddwyd y swyddogaethau yn yr adrannau yn Neddf Addysg 1996 a Deddf Addysg 1997 i’r Ysgrifennydd Gwladol ac fe’u trosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru o dan baragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). Rhoddwyd y swyddogaethau yn yr adrannau yn Neddf Addysg 2002 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’u trosglwyddwyd i Weinidogion Cymru o dan baragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

(13)

Mae’r Asiantaeth Cyllido Addysg a Sgiliau (ESFA) yn asiantaeth weithredol a noddir gan yr Adran Addysg yn Lloegr. Mae’r ESFA yn dwyn ynghyd gyfrifoldebau presennol yr Asiantaeth Cyllido Addysg a’r Asiantaeth Cyllido Sgiliau, gan greu un asiantaeth gyllido sy’n atebol am gyllido addysg a hyfforddiant ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion.

(17)

O.S. 2011/1945 (Cy. 212) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2016/236 (Cy. 88).

(20)

Dogfen ganllawiau 238/2018.

(22)

O.S. 2014/2677 (Cy. 265) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2016/236 (Cy. 88).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources