- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Treth Trafodiadau Tir, Cymru
Gwnaed
11 Ionawr 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 81(2) a (3) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017(1).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 2) 2018.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.
2. Y dyddiad penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 25 Ionawr 2018—
(a)adran 76 (diwygiadau i DCRhT) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau yn Atodlen 23 y cyfeirir atynt ym mharagraff (b);
(b)yn Atodlen 23—
(i)paragraffau 35 i 38;
(ii)paragraffau 56 i 59;
(iii)paragraff 61;
(iv)paragraff 64; a
(v)paragraffau 68 i 70.
3. Daw unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf, i’r graddau nad yw wedi ei chychwyn cyn 1 Ebrill 2018, i rym ar y dyddiad hwnnw.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
11 Ionawr 2018
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw’r ail orchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn adran 76 o’r Ddeddf i rym ar 25 Ionawr 2018 i raddau cyfyngedig, ynghyd â darpariaethau penodol yn Atodlen 23 i’r Ddeddf. Mae’r darpariaethau hyn yn diwygio amryw o ddarpariaethau yn Rhannau 4 i 8 a 10 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, a fydd hefyd yn dod i rym ar yr un dyddiad drwy orchymyn cychwyn ar wahân.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn cychwyn darpariaethau’r Ddeddf nad ydynt wedi eu cychwyn yn llawn cyn 1 Ebrill 2018 ar y dyddiad hwnnw.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 9(6) | 18 Hydref 2017 | 2017/953 (Cy. 240) (C. 87) |
Adran 24 (yn rhannol) | 18 Hydref 2017 | 2017/953 (Cy. 240) (C. 87) |
Adran 25 | 18 Hydref 2017 | 2017/953 (Cy. 240) (C. 87) |
Adran 30(1) ac Atodlen 11 (yn rhannol) | 18 Hydref 2017 | 2017/953 (Cy. 240) (C. 87) |
Adran 32(2) ac Atodlen 6 (yn rhannol) | 18 Hydref 2017 | 2017/953 (Cy. 240) (C. 87) |
Adran 65(5), (6) a (7)(b) | 18 Hydref 2017 | 2017/953 (Cy. 240) (C. 87) |
Adran 76 ac Atodlen 23 (yn rhannol) | 18 Hydref 2017 | 2017/953 (Cy. 240) (C. 87) |
Gweler hefyd adran 81(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 25 Mai 2017 (y diwrnod drannoeth y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: