- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Treth Trafodiadau Tir, Cymru
Gwnaed
31 Ionawr 2018
Yn dod i rym
1 Ebrill 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 24(11) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017(1).
Yn unol ag adran 79(2) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2018.
2. Mae Atodlen 5 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(a)ym mharagraff 7(a), ar ôl “y prynwr” mewnosoder “neu briod neu bartner sifil y prynwr”;
(b)ym mharagraff 16(a), ar ôl “y prynwr” mewnosoder neu briod neu bartner sifil y prynwr”.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymr
31 Ionawr 2018
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 5 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (“y Ddeddf”) er mwyn ymestyn cwmpas yr eithriadau i’r cyfraddau sy’n gymwys i drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch a ddarperir gan baragraffau 7 ac 16.
Mae paragraff 7 yn darparu nad yw trafodiad yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch pan fo’r prif fuddiant y mae’r prynwr yn ei gaffael yn fuddiant ychwanegol yn ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa. Gall trafodiad o’r fath godi pan geir trosglwyddiad ecwiti gan un o gydberchnogion yr annedd. Mae paragraff 16 o Atodlen 5 i’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth gyfatebol pan fo’r prynwr yn caffael nifer o anheddau fel rhan o un trafodiad.
Mae rheoliad 2 yn diwygio paragraffau 7 ac 16 er mwyn ymestyn cwmpas yr eithriadau. Mae’r diwygiadau yn sicrhau bod prynwr yn gallu dibynnu ar yr eithriadau a ddarperir gan baragraffau 7 ac 16 mewn achosion pan fo’r prynwr hwnnw yn caffael prif fuddiant mewn eiddo ac—
(a)yn union cyn y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, bod priod neu bartner sifil y prynwr yn berchen ar brif fuddiant yn yr un annedd; a
(b)mai’r annedd honno fydd unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr yn union cyn ac ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: