Search Legislation

Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 1179 (Cy. 238)

Iechyd Planhigion, Cymru

Hadau, Cymru

Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018

Gwnaed

13 Tachwedd 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

15 Tachwedd 2018

Yn dod i rym

10 Rhagfyr 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn, gyda chydsyniad y Trysorlys, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018.

(2Deuant i rym ar 10 Rhagfyr 2018.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Gorchymyn 2018” yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018(3).

RHAN 2Ffioedd sy’n ymwneud ag iechyd planhigion

Ffioedd arolygu mewnforio

3.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â llwyth o drydedd wlad sydd ar ffurf planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1 a restrir yn Atodlen 5 i Orchymyn 2018.

(2Mae’r ffioedd a ganlyn yn daladwy gan fewnforiwr llwyth o drydedd wlad—

(a)mewn cysylltiad â phob tystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n mynd gyda’r llwyth, ffi o £9.71;

(b)mewn cysylltiad â phob rhan o’r llwyth sydd ar ffurf planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1 nad yw is-baragraff (c) yn gymwys iddi, y ffi a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw;

(c)mewn cysylltiad â phob rhan o’r llwyth sydd ar ffurf planhigyn neu gynnyrch planhigion o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 2 ac sy’n tarddu o wlad a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw, y ffi a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw;

(d)pan fo arolygydd yn amau bod y llwyth wedi ei heintio â phla planhigion a reolir ac yn cymryd sampl o’r llwyth er mwyn cynnal profion labordy i gadarnhau pa un a yw’r pla yn bresennol ai peidio, ffi o £157.08 am bob sampl a brofir.

(3Yn y rheoliad hwn—

(a)mae i “pla planhigion a reolir” yr ystyr a roddir yn erthygl 32(7)(a) o Orchymyn 2018;

(b)ystyr “llwyth o drydedd wlad” yw llwyth a gyflwynir i Gymru o drydedd wlad;

(c)mae i “trydedd wlad” yr ystyr a roddir yn erthygl 2(1) o Orchymyn 2018.

Ffioedd awdurdodiad pasbort planhigion

4.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodiad pasbort planhigion.

(2Mae’r ffioedd a bennir yn y tabl yn Atodlen 3 yn daladwy mewn cysylltiad ag arolygiad ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig a gynhelir—

(a)mewn cysylltiad â chais am awdurdodiad pasbort planhigion;

(b)at ddiben monitro a gydymffurfir ag unrhyw ofynion a osodir ar ddeiliad awdurdodiad pasbort planhigion.

(3Mae’r ffioedd a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 3 yn daladwy am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw) a dreulir yn cynnal yr arolygiad ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig yn y fangre berthnasol, yn ddarostyngedig i’r isafswm ffioedd a bennir yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw.

(4Mae ffi ychwanegol o £18.78 yn daladwy pan fo person yn cyflwyno cais ar bapur (ac nid ar-lein) am awdurdodiad pasbort planhigion.

(5Mae unrhyw ffioedd sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yn daladwy gan y person sy’n gwneud cais am awdurdodiad pasbort planhigion neu gan ddeiliad awdurdodiad pasbort planhigion (yn ôl y digwydd).

(6Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “awdurdodiad pasbort planhigion” yw awdurdodiad i ddyroddi pasbortau planhigion a roddir o dan erthygl 29 o Orchymyn 2018;

(b)ystyr “mangre berthnasol”, mewn perthynas â chais am awdurdodiad pasbort planhigion neu ag awdurdodiad pasbort planhigion, yw’r fangre sy’n destun y cais neu’r awdurdodiad.

Ffioedd trwydded iechyd planhigion

5.—(1Mae’r ffioedd a bennir yn y tabl yn Atodlen 4 yn daladwy mewn cysylltiad ag—

(a)cais am drwydded;

(b)unrhyw weithgaredd arall a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl hwnnw a gynhelir mewn cysylltiad â thrwydded.

(2Swm unrhyw ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â chais am drwydded neu unrhyw weithgaredd arall a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 4 yw’r swm a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw, y’i canfyddir yn unol â’r cofnodion mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw (os oes rhai) yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw.

(3Mae’r ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â monitro telerau ac amodau’r drwydded yn daladwy am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw) a dreulir yn cynnal yr arolygiad ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig yn y fangre sy’n ddarostyngedig i’r drwydded, yn ddarostyngedig i’r isafswm ffioedd a bennir.

(4Mae unrhyw ffi sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yn daladwy gan y person sy’n cyflwyno cais am drwydded neu ddeiliad y drwydded (yn ôl y digwydd).

(5Yn y rheoliad hwn, ystyr “trwydded” yw trwydded a ddisgrifir yn erthygl 40 neu 41 o Orchymyn 2018.

Tatws sy’n tarddu o’r Aifft: ffi

6.—(1Pan fo arolygydd yn cymryd sampl o datws sy’n tarddu o’r Aifft er mwyn canfod, at ddibenion paragraff 5 o’r Atodiad i’r Penderfyniad, pa un a yw’r tatws hynny wedi eu heintio â Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al., rhaid i’r mewnforiwr dalu ffi o £60.40 mewn cysylltiad â phob lot a samplir.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “y Penderfyniad” yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2011/787/EU sy’n awdurdodi dros dro Aelod Wladwriaethau i gymryd camau brys i atal lledaeniad Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. o ran yr Aifft(4).

Tatws sy’n tarddu o Libanus: ffi

7.—(1Pan fo arolygydd yn cymryd sampl o datws sy’n tarddu o Libanus er mwyn canfod, at ddibenion Erthygl 4 o’r Penderfyniad, pa un a yw’r tatws hynny wedi eu heintio ag is-rywogaethau Clavibacter michiganensis (Spieckerann a Kotthoff) Davis et al., rhaid i’r mewnforiwr dalu ffi o £60.40 mewn cysylltiad â phob lot a samplir.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “y Penderfyniad” yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2013/413/EU sy’n awdurdodi Aelod Wladwriaethau i ddarparu ar gyfer rhanddirymiadau rhag darpariaethau penodol Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC mewn cysylltiad â thatws, ac eithrio tatws a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o ranbarthau Akkar a Bekaa, Libanus(5).

RHAN 3Ffioedd sy’n ymwneud ag ardystio tatws hadyd a phlanhigion ffrwythau a deunydd lluosogi planhigion ffrwythau

Tatws hadyd: ffioedd

8.—(1Mae’r ffioedd a bennir yn y tabl yn Atodlen 5 yn daladwy mewn cysylltiad â’r gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl hwnnw sy’n ymwneud â chais i ardystio tatws hadyd yn unol â rheoliad 10 o Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016(6).

(2Mae’r ffioedd a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 5 yn daladwy yn ddarostyngedig i’r isafswm ffioedd (os oes un) a bennir yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw.

(3Mae’r ffioedd a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 5 mewn cysylltiad ag arolygiad o gnydau sy’n tyfu i’w hardystio yn radd PBTC yr Undeb ac arolygiad o gloron a gynaeafwyd yn daladwy am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw) a dreulir yn cynnal yr arolygiad ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig yn y fangre berthnasol.

(4Mae ffi ychwanegol o £14.76 yn daladwy pan fo person yn cyflwyno cais ar bapur (ac nid ar-lein) i ardystio tatws hadyd.

(5Mae unrhyw ffioedd sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yn daladwy gan y ceisydd.

(6Ym mharagraff (3), ystyr “mangre berthnasol” yw’r fangre lle y mae’r cnydau sy’n tyfu i’w hardystio yn radd PBTC yr Undeb neu’r cloron a gynaeafwyd sydd i’w harolygu wedi eu lleoli.

Planhigion ffrwythau a deunydd lluosogi planhigion ffrwythau: ffioedd

9.—(1Mae’r ffi a bennir ym mharagraff (2) yn daladwy mewn cysylltiad â chais i ardystio planhigion ffrwythau a deunyddiau lluosogi planhigion ffrwythau yn unol â rheoliad 9 o Reoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017(7).

(2Mae ffi o £72.00 yr awr (neu ran o’r cyfnod hwnnw) yn daladwy mewn cysylltiad â’r amser a dreulir yn cynnal archwiliad swyddogol ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig yn y fangre berthnasol at ddibenion ardystio’r deunydd.

(3Mae unrhyw ffioedd sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yn daladwy gan y ceisydd.

(4Ym mharagraff (2), ystyr “mangre berthnasol” yw’r fangre lle y mae’r deunydd sydd i’w ardystio wedi ei leoli.

RHAN 4Talu’r ffioedd

Talu’r ffioedd

10.  Mae’r ffioedd sy’n daladwy o dan y Rheoliadau hyn yn daladwy i Weinidogion Cymru ar orchymyn.

Atal dros dro gofrestriad

11.—(1Pan fo unrhyw swm sy’n daladwy drwy, neu mewn perthynas ag, unrhyw ffi neu unrhyw ran o ffi sy’n daladwy gan fasnachwr planhigion cofrestredig o dan Ran 2 o’r Rheoliadau hyn dal heb ei dalu, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)adennill y swm fel dyled sifil, neu

(b)ar ôl rhoi un mis o rybudd ysgrifenedig, atal cofrestriad y masnachwr hyd nes bod y swm hwnnw wedi ei dalu.

(2Ym mharagraff (1), mae i “cofrestredig” (“registered”), “cofrestru” (“registration”) a “masnachwr planhigion” (“plant trader”) yr ystyron a roddir iddynt yn erthygl 2(1) o Orchymyn 2018.

RHAN 5Dirymiadau

Dirymiadau

12.  Mae’r offerynnau a restrir yn Atodlen 6 wedi eu dirymu.

Hannah Blythyn

Gweinidog yr Amgylchedd o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

13 Tachwedd 2018

Rheoliad 3(1)

ATODLEN 1Ffioedd arolygu mewnforio

Colofn 1

Planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall

Colofn 2

Ffi (£)

Torion, egin blanhigion (ac eithrio deunydd lluosogi coedwigaeth), planhigion ifanc mefus neu lysiau139.84
Llwyni, coed (ac eithrio coed Nadolig wedi eu torri), planhigion meithrinfa prennaidd eraill gan gynnwys deunydd lluosogi coedwigaeth (ac eithrio had)152.41
Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron, a fwriedir ar gyfer eu plannu (ac eithrio cloron tatws)233.18
Hadau, meithriniad meinwe117.81
Planhigion eraill a fwriedir ar gyfer eu plannu, nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn152.41
Blodau wedi eu torri33.42
Canghennau gyda deiliant, rhannau o goed conwydd (ac eithrio coed Nadolig sydd wedi eu torri)64.67
Coed Nadolig wedi eu torri122.89
Dail planhigion, megis perlysiau, sbeisys a llysiau deiliog75.30
Ffrwythau, llysiau (ac eithrio llysiau deiliog)57.45
Cloron tatws156.63
Pridd a chyfrwng tyfu, rhisgl122.85
Grawn133.23
Planhigion eraill neu gynhyrchion planhigion eraill nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn, ac eithrio coed fforestydd11.16

Rheoliad 3(2)(c)

ATODLEN 2Ffioedd arolygu mewnforio: cyfraddau gostyngol

Colofn 1

Genws

Colofn 2

Gwlad tarddiad

Colofn 3

Ffi (£)

Blodau wedi eu torri

Aster

Zimbabwe

25.07

DianthusColombia1.00
Ecuador5.01
Kenya1.67
Twrci5.01
RosaColombia1.00
Ecuador1.00
Ethiopia1.67
Kenya1.67
Tanzania5.01
Zambia3.34
Canghennau gyda deiliant
PhoenixCosta Rica22.63
Ffrwythau
CitrusMoroco2.87
Periw5.74
Twrci1.72
UDA8.62
Citrus limon a citrus aurantifoliaIsrael14.36
MalusYr Ariannin20.11
Brasil43.09
Chile2.87
Seland Newydd5.74
De Affrica2.87
PassifloraColombia4.02
Kenya14.36
De Affrica20.11
Fiet-nam20.11
Zimbabwe28.73
PrunusYr Ariannin43.09
Chile5.74
Moroco14.36
Twrci20.11
UDA14.36
Prunus, ac eithrio prunus persicaDe Affrica2.87
PyrusYr Ariannin8.62
Chile8.62
Tsieina28.73
De Affrica5.74
VacciniumYr Ariannin14.36
Llysiau
CapsicumMoroco2.87
LycopersiconYr Ynysoedd Dedwydd2.87
Moroco2.87
MomordicaSurinam20.11
Solanum melongenaKenya5.74
Twrci14.36

Rheoliad 4(2)

ATODLEN 3Ffioedd awdurdodiad pasbort planhigion

Yn yr Atodlen hon—

ystyr “cyfnod 1” yw’r cyfnod sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2019.

Colofn 1

Dyddiad yr arolygiad ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig

Colofn 2

Ffi (£)

Colofn 3

Isafswm ffi (£)

Pan fo dyddiad yr arolygiad a’r gweithgareddau cysylltiedig yn digwydd o fewn cyfnod 166.91 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw)133.82
Pan fo dyddiad yr arolygiad a’r gweithgareddau cysylltiedig yn digwydd ar neu ar ôl 1 Ebrill 201973.85 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw)147.70

Rheoliad 5(1)

ATODLEN 4Ffioedd trwydded iechyd planhigion

Yn yr Atodlen hon—

ystyr “cyfnod 1” yw’r cyfnod sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2019.

Colofn 1

Y math o gais neu arolygiad

Colofn 2

Dyddiad y cais

Colofn 3

Ffi (£)

Cais am drwydded at ddibenion gwyddonol neu dreialu, ac eithrio—

— trwydded mewn cysylltiad â dadansoddi pridd neu gyfrwng tyfu arall

— trwydded at ddibenion gwyddonol neu dreialu sy’n cwmpasu 5 neu ragor o eitemau

Yn achos cais a wneir yng nghyfnod 1948.51
Yn achos cais a wneir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019995.36
Cais am drwydded at ddibenion gwyddonol neu dreialu sy’n cwmpasu 5 neu ragor o eitemauYn achos cais a wneir yng nghyfnod 1948.51, plws 52.45 am bob eitem dros 5
Yn achos cais a wneir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019995.36, plws 52.45 am bob eitem dros 5
Cais am drwydded mewn cysylltiad â dadansoddi pridd neu gyfrwng tyfu arall, ac eithrio trwydded mewn cysylltiad â dadansoddi pridd neu gyfrwng tyfu arall sy’n cwmpasu 5 neu rYn achos cais a wneir yng nghyfnod 1705.20
Yn achos cais a wneir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019745.41
Cais am drwydded mewn cysylltiad â dadansoddi pridd neu gyfrwng tyfu arall sy’n cwmpasu 5 neu ragor o eitemauYn achos cais a wneir yng nghyfnod 1705.20, plws 52.45 am bob eitem dros 5
Yn achos cais a wneir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019745.41, plws 52.45 am bob eitem dros 5
Cais i amrywio trwydded gyda newidiadau y mae asesiad gwyddonol neu dechnegol yn ofynnol ar eu cyferYn achos cais a wneir yng nghyfnod 1351.81
Yn achos cais a wneir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019380.25
Cais am unrhyw drwydded arall42.50
Dyroddi llythyr awdurdodi blynyddol42.50
Monitro a gydymffurfir ag amodau a thelerau trwydded17.50 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o £35

Rheoliad 8(1)

ATODLEN 5Tatws hadyd: ffioedd

Colofn 1

Gweithgaredd

Colofn 2

Ffi (£)

Colofn 3

Isafswm ffi (£)

Samplu a phrofi pridd ar gyfer Llyngyr Tatws
Samplu a phrofi pridd at ddibenion paragraff 4, 7 neu 9 o Atodlen 1 i Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 201621.53 am bob hectar (neu ran ohono) sy’n cael ei samplu a’i brofi
Arolygu cnydau sy’n tyfu
Ardystio yn datws hadyd cyn-sylfaenol: Gradd PBTC yr Undeb33.62 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw)67.24
Ardystio yn datws hadyd cyn-sylfaenol: Gradd PB yr Undeb33.62 am bob ¼ hectar (neu ran ohono) a arolygir67.24
Ardystio yn datws hadyd sylfaenol: Gradd S yr Undeb58.47 am bob ½ hectar (neu ran ohono) a arolygir116.94
Ardystio yn datws hadyd sylfaenol: Gradd SE yr Undeb58.47 am bob ½ hectar (neu ran ohono) a arolygir116.94
Ardystio yn datws hadyd sylfaenol: Gradd E yr Undeb57.17 am bob ½ hectar (neu ran ohono) a arolygir114.34
Ardystio yn datws hadyd sylfaenol: Gradd A neu B yr Undeb51.97 am bob ½ hectar (neu ran ohono) a arolygir103.94
Arolygu cloron a gynaeafwyd
Arolygu31.84 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw)63.69
Darparu labelau a seliau mewn cysylltiad â cheisiadau
Labelau a seliau argraffedig0.48 am bob label/sêl
Labelau a seliau gwag0.12 am bob label/sêl

Rheoliad 12

ATODLEN 6Dirymiadau

  • Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2014(8).

  • Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2015(9).

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn pennu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru mewn perthynas â gwasanaethau iechyd planhigion ac ardystio tatws hadyd, planhigion ffrwythau a deunydd lluosogi planhigion ffrwythau. Maent yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Ffioedd Iechyd Planhigion (Cymru) 2014 (O.S. 2014/1792 (Cy. 185)).

Mae’r ffioedd a bennir yn rheoliadau 3, 6 a 7 yn daladwy mewn perthynas â mewnforio planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o drydydd gwledydd yn unol â gofynion Erthygl 13 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau gwarchod yn erbyn cyflwyno organeddau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion i’r Gymuned ac yn erbyn eu lledaenu o fewn y Gymuned (OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t. 1).

Mae’r ffioedd a bennir yn rheoliadau 4 a 5 yn daladwy mewn perthynas ag arolygiadau a gweithgareddau eraill a gynhelir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC.

Mae’r ffioedd a bennir yn rheoliad 8 yn daladwy mewn perthynas ag arolygiadau penodol a gweithgareddau eraill a gynhelir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 2002/56/EC ar farchnata tatws hadyd (OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 60).

Mae’r ffioedd a bennir yn rheoliad 9 yn daladwy mewn perthynas ag arolygiadau penodol a gweithgareddau eraill a gynhelir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 2008/90/EC ar farchnata deunydd lluosogi planhigion ffrwythau a phlanhigion ffrwythau a fwriedir ar gyfer cynhyrchu ffrwythau (OJ Rhif L 267, 8.10.2008, t. 8).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1973 p. 51 diwygiwyd is-adran (1) gan O.S. 2011/1043.

(2)

Yn rhinwedd adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(4)

OJ Rhif L 319, 2.12.2011, t. 112.

(5)

OJ Rhif L 205, 1.8.2013, t. 13, fel y’i diwygiwyd gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/2057 (OJ Rhif L 300, 17.11.2015, t. 43).

(6)

O.S. 2016/106 (Cy. 52), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources