Search Legislation

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau) (Cymru) 2017

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 961 (Cy. 244)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau) (Cymru) 2017

Gwnaed

27 Medi 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

3 Hydref 2017

Yn dod i rym

2 Ebrill 2018

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 39(1)(g), 39(2) a 187(1)(b) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau) (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 2 Ebrill 2018.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;

mae i “y tribiwnlys” (“the tribunal”) yr un ystyr ag yn adran 189 o’r Ddeddf.

Gwybodaeth sydd i gael ei chynnwys ym mhob hysbysiad o dan adran 39(1) o’r Ddeddf

3.  Rhaid i hysbysiad o dan adran 39(1) o’r Ddeddf gynnwys—

(a)enw’r darparwr gwasanaeth;

(b)enw’r gwasanaeth rheoleiddiedig a’r math o wasanaeth rheoleiddiedig y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef;

(c)y man y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef neu’r mannau y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hwy;

(d)y dyddiad yr anfonir yr hysbysiad; ac

(e)y paragraff yn adran 39(1) o’r Ddeddf neu yn rheoliad 10 yr anfonir yr hysbysiad odano.

Gwybodaeth sydd i gael ei chynnwys mewn hysbysiad o dan adran 39(1)(a) o’r Ddeddf

4.  Yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn rheoliad 3, rhaid i hysbysiad o dan adran 39(1)(a) o’r Ddeddf gynnwys y canlynol—

(a)y dyddiad y cymerodd canslo cofrestriad y darparwr gwasanaeth effaith; a

(b)naill ai—

(i)pan fo hysbysiad yn ymwneud â phenderfyniad i ganslo a wneir gan Weinidogion Cymru yn dilyn hysbysiad gwella a roddir o dan adran 16 o’r Ddeddf, y sail dros ganslo; neu

(ii)pan fo hysbysiad yn ymwneud â chanslo yn dilyn cais a wneir o dan adran 14 o’r Ddeddf, y rheswm a roddir gan y darparwr gwasanaeth dros ganslo’r cofrestriad.

Gwybodaeth sydd i gael ei chynnwys mewn hysbysiad o dan adran 39(1)(b) o’r Ddeddf

5.  Yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn rheoliad 3, rhaid i hysbysiad o dan adran 39(1)(b) o’r Ddeddf gynnwys y canlynol—

(a)y dyddiad y cymerodd amrywiad cofrestriad y darparwr gwasanaeth effaith; a

(b)naill ai—

(i)pan fo hysbysiad yn ymwneud â phenderfyniad i amrywio cofrestriad darparwr gwasanaeth a wneir gan Weinidogion Cymru yn dilyn hysbysiad gwella a roddir o dan adran 16 o’r Ddeddf, y sail dros amrywio; neu

(ii)pan fo hysbysiad yn ymwneud ag amrywio cofrestriad darparwr gwasanaeth yn dilyn cais a wneir o dan adran 11 o’r Ddeddf, y rheswm a roddir gan y darparwr gwasanaeth dros yr amrywiad.

Gwybodaeth sydd i gael ei chynnwys mewn hysbysiad o dan adran 39(1)(c) o’r Ddeddf

6.  Yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn rheoliad 3, rhaid i hysbysiad o dan adran 39(1)(c) o’r Ddeddf gynnwys y canlynol—

(a)y dyddiad y gwnaed y gorchymyn; a

(b)y dyddiad y cymerodd y gorchymyn effaith neu y bydd y gorchymyn yn cymryd effaith, os yw’n wahanol.

Gwybodaeth sydd i gael ei chynnwys mewn hysbysiad o dan adran 39(1)(d) o’r Ddeddf

7.  Yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn rheoliad 3, rhaid i hysbysiad o dan adran 39(1)(d) o’r Ddeddf gynnwys y canlynol—

(a)enw’r unigolyn cyfrifol y mae ei ddynodiad wedi ei ganslo;

(b)y sail dros ganslo’r dynodiad; ac

(c)y dyddiad y cymerodd y canslo effaith, os yw’n wahanol.

Gwybodaeth sydd i gael ei chynnwys mewn hysbysiad o dan adran 39(1)(e) o’r Ddeddf

8.  Yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn rheoliad 3, rhaid i hysbysiad o dan adran 39(1)(e) o’r Ddeddf gynnwys y canlynol—

(a)enw’r person y mae achos wedi ei ddwyn yn ei erbyn;

(b)y dyddiad y cychwynnwyd yr achos;

(c)y drosedd o dan Ran 1 o’r Ddeddf (neu a ragnodir mewn rheoliadau a wneir odani) yr honnir ei bod wedi ei chyflawni; a

(d)dyddiad y gwrandawiad llys cyntaf, os yw’n hysbys.

Gwybodaeth sydd i gael ei chynnwys mewn hysbysiad o dan adran 39(1)(f) o’r Ddeddf

9.  Yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn rheoliad 3, rhaid i hysbysiad o dan adran 39(1)(f) o’r Ddeddf gynnwys y canlynol—

(a)enw’r person y mae hysbysiad cosb wedi ei roi iddo;

(b)y dyddiad y dyroddwyd yr hysbysiad cosb; ac

(c)y drosedd y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod wedi ei chyflawni.

Hysbysu am bethau rhagnodedig o dan adran 39(1)(g) o’r Ddeddf

10.  Y pethau a ragnodir at ddiben adran 39(1)(g) o’r Ddeddf yw—

(a)apêl gan y darparwr gwasanaeth i’r tribiwnlys yn erbyn—

(i)canslo cofrestriad y darparwr gwasanaeth;

(ii)amrywio cofrestriad darparwr gwasanaeth drwy ddileu gwasanaeth rheoleiddiedig neu fan y mae’r darparwr gwasanaeth yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef;

(iii)gwneud gorchymyn gan ynad heddwch o dan adran 23 o’r Ddeddf; neu

(iv)canslo dynodiad unigolyn cyfrifol o dan adran 22 o’r Ddeddf;

(b)penderfyniad y tribiwnlys mewn cysylltiad ag unrhyw apêl a wneir iddo gan ddarparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â’r amgylchiadau a nodir ym mharagraff (a);

(c)pan fo achos wedi ei ddwyn yn erbyn person mewn cysylltiad â throsedd o dan Ran 1 o’r Ddeddf (neu a ragnodir mewn rheoliadau a wneir odani)—

(i)tynnu achos yn ôl;

(ii)penderfyniad y llys yn yr achos;

(iii)apêl yn erbyn penderfyniad y llys; a

(iv)canlyniad yr apêl.

Rebecca Evans

Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru

27 Medi 2017

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 39(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) yn gwneud darpariaeth ynghylch yr amgylchiadau y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru hysbysu pob awdurdod lleol odanynt pan fydd penderfyniadau rheoleiddiol penodol wedi eu gwneud mewn cysylltiad â chofrestriad darparwr gwasanaeth.

Mae adran 39(1)(g) o’r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i ragnodi amgylchiadau pellach y bydd y ddyletswydd i hysbysu awdurdodau lleol yn gymwys odanynt.

Mae adran 39(2) o’r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch unrhyw wybodaeth bellach y mae’n ofynnol ei chynnwys mewn hysbysiadau o’r fath.

Mae rheoliad 3 yn nodi’r wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys ym mhob hysbysiad a wneir o dan adran 39(1). Mae rheoliad 4 yn nodi’r wybodaeth ychwanegol y mae’n ofynnol ei chynnwys mewn hysbysiad ynghylch canslo cofrestriad darparwr gwasanaeth. Mae rheoliad 5 yn nodi’r wybodaeth ychwanegol y mae’n ofynnol ei chynnwys mewn hysbysiad ynghylch amrywio cofrestriad darparwr gwasanaeth drwy ddileu o’r cofrestriad wasanaeth rheoleiddiedig neu fan y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef. Mae rheoliad 6 yn nodi’r wybodaeth ychwanegol y mae’n ofynnol ei chynnwys mewn hysbysiad ynghylch gwneud gorchymyn gan ynad heddwch o dan adran 23 o’r Ddeddf (canslo ar frys neu amrywio ar frys drwy ddileu gwasanaeth neu fan). Mae rheoliad 7 yn nodi’r wybodaeth ychwanegol y mae’n ofynnol ei chynnwys mewn hysbysiad ynghylch canslo dynodiad unigolyn cyfrifol o dan adran 22 o’r Ddeddf. Mae rheoliad 8 yn nodi’r wybodaeth ychwanegol y mae’n ofynnol ei chynnwys mewn hysbysiad ynghylch achosion sy’n cael eu dwyn yn erbyn person mewn cysylltiad â throsedd o dan Ran 1 o’r Ddeddf neu reoliadau a wneir odani. Mae rheoliad 9 yn nodi’r wybodaeth ychwanegol y mae’n ofynnol ei chynnwys mewn hysbysiad ynghylch hysbysiad cosb a roddir o dan adran 52 o’r Ddeddf.

Mae rheoliad 10 yn nodi’r pethau pellach a ragnodir at ddibenion adran 39(1)(g) o’r Ddeddf. Gwneir darpariaeth ynghylch apelau a wneir gan ddarparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â’r pethau a nodir yn adran 39(1)(a) i (d) a chanlyniad unrhyw apêl. Gwneir darpariaeth hefyd ynghylch canlyniad achosion am droseddau sy’n cael eu dwyn gan Weinidogion Cymru o dan Ran 1 o’r Ddeddf (neu a ragnodir mewn rheoliadau a wneir odani).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources