- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y Dreth Dirlenwi, Cymru
Gwnaed
28 Medi 2017
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 97(2) a (3) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017(1).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 1) 2017.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017.
2. Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 18 Hydref 2017—
(a)adran 14(3) a (6) (cyfradd safonol a chyfradd is y dreth gwarediadau tirlenwi) at ddiben gwneud rheoliadau;
(b)adran 17 (cymysgedd cymwys o ddeunyddiau: gronynnau man);
(c)adran 33 (pŵer i addasu rhyddhadau);
(d)adran 41(9) (pŵer i ddiwygio Atodlen 3);
(e)adran 46(4) (cyfradd dreth gwarediadau tirlenwi sydd heb eu hawdurdodi) at ddiben gwneud rheoliadau;
(f)adran 54 (pŵer i wneud darpariaeth ar gyfer credydau treth);
(g)adran 87 (pŵer i wneud darpariaeth ynglŷn â throsglwyddo busnesau fel busnesau gweithredol); ac
(h)adran 91 (arfer pwerau a dyletswyddau Gweinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon).
3. Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 8 Tachwedd 2017—
(a)adran 60 (datgelu gwybodaeth i Awdurdod Cyllid Cymru); a
(b)adran 92 (Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi).
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
28 Medi 2017
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw’r gorchymyn cychwyn cyntaf a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (“y Ddeddf”).
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 7 Medi 2017 a daeth Rhannau 1 a 6 o’r Ddeddf i rym y diwrnod canlynol.
Mae erthygl 2 y Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol y Ddeddf ar 18 Hydref 2017 at ddau ddiben. Yn gyntaf, i gychwyn pwerau penodol yn y Ddeddf fydd yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i baratoi ar gyfer casglu a rheoli’r dreth gwarediadau tirlenwi. Yn ail, er mwyn sicrhau bod adran 91 o’r Ddeddf (arfer pwerau a dyletswyddau Gweinidogion Cymru) yn gymwys pan fydd pwerau a dyletswyddau yn cael eu harfer yn ystod y cyfnod paratoi.
Mae erthygl 3 y Gorchymyn hwn yn dwyn i rym adran 60 o’r Ddeddf ar 8 Tachwedd 2017, er mwyn caniatáu i Gyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol rannu gwybodaeth ag Awdurdod Cyllid Cymru at ddiben ei helpu i gasglu a rheoli’r dreth gwarediadau tirlenwi. Mae hefyd yn dwyn i rym adran 92 o’r Ddeddf (Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi) ar yr un dyddiad, er mwyn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, ar y diwrnod y daw’r Ddeddf i rym yn llawn neu cyn hynny, a fydd yn cael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: