- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Llesiant, Cymru
Gwnaed
19 Medi 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
25 Medi 2017
Yn dod i rym
24 Hydref 2017
Mae Gweinidogion Cymru, wrth arfer y pŵer a roddir gan adran 38(3)(i) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Asesiadau Llesiant Lleol) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Hydref 2017.
2. Wrth lunio asesiad o dan adran 37(1) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal â’r materion a ddisgrifir yn adran 38(3) o’r Ddeddf honno, roi sylw i’r materion a restrir yn yr Atodlen.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
19 Medi 2017
Rheoliad 2
1. Yr adolygiad diweddaraf o ansawdd aer ar gyfer yr ardal awdurdod lleol a gyflawnwyd o dan adran 82 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(2).
2. Y mapiau sŵn strategol diweddaraf a luniwyd o dan Ran 2 o Reoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006(3) ac a fabwysiadwyd gan Weinidogion Cymru.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn darparu bod rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus, wrth lunio asesiad llesiant o dan adran 37 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, roi sylw i’r adolygiad diweddaraf o ansawdd aer ar gyfer ei ardal awdurdod lleol a gyflawnwyd o dan adran 82 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 a’r mapiau sŵn strategol diweddaraf a luniwyd o dan Ran 2 o Reoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 ac a fabwysiadwyd gan Weinidogion Cymru.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: