- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1 | Safonau ynghylch cadw cofnodion gan gorff |
---|---|
Safon 154: | Rhaid ichi gadw cofnod, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, o nifer y cwynion yr ydych yn eu cael sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau. |
Safon 155: | Rhaid ichi gadw copi o unrhyw gŵyn ysgrifenedig yr ydych yn ei chael sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. |
Safon 156: | Rhaid ichi gadw copi o unrhyw gŵyn ysgrifenedig yr ydych yn ei chael sy’n ymwneud â’r Gymraeg (pa un ai yw’r gŵyn yn ymwneud â’r safonau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy ai peidio). |
Safon 157: | Rhaid ichi gadw cofnod o’r camau yr ydych wedi eu cymryd i sicrhau y cydymffurfir â’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. |
Safon 158: | Rhaid ichi gadw cofnod (yn dilyn asesiadau o sgiliau iaith Gymraeg eich cyflogeion a wnaed gennych yn unol â safon 134), o nifer y cyflogeion sy’n meddu ar sgiliau yn y Gymraeg ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol a, phan fo hynny’n wybyddus ichi, rhaid ichi gadw cofnod o lefel sgiliau’r cyflogeion hynny. |
Safon 159: | Rhaid ichi gadw cofnod, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, o— (a) nifer yr aelodau o staff a fynychodd gyrsiau hyfforddi a ddarparwyd yn Gymraeg (yn unol â safon 135), a (b) os darparwyd fersiwn Gymraeg o gwrs yn unol â safon 135, y ganran o gyfanswm nifer y staff a fynychodd y fersiwn honno o’r cwrs. |
Safon 160: | Rhaid ichi gadw cofnod o nifer yr aelodau o staff sy’n gwisgo bathodyn (a roddir ar gael iddynt yn unol â safon 144) ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol. |
Safon 161: | Rhaid ichi gadw cofnod o bob asesiad a gynhaliwch (yn unol â safon 145) mewn cysylltiad â’r sgiliau Cymraeg y gallai fod eu hangen mewn perthynas â swydd newydd neu swydd wag. |
Safon 162: | Rhaid ichi gadw cofnod, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, o nifer y swyddi newydd a’r swyddi gwag a gategoreiddiwyd (yn unol â safon 145) fel swyddi sy’n gofyn— (a) bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol; (b) bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg unwaith y penodir rhywun i’r swydd; (c) bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol; neu (ch) nad oedd sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol. |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: