- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Chwefror 2017.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “aelod o staff” (“member of staff”) yw cyflogai i gorff neu unigolyn sy’n gweithio i gorff (a rhaid dehongli “staff” (“staff”) yn unol â hynny);
ystyr “corff” (“body”) yw person y cyfeirir ato yn rheoliad 3;
ystyr “unigolyn” (“individual”) yw aelod o’r cyhoedd neu fyfyriwr.
(5) Yn y Rheoliadau hyn—
(a)mae cyfeiriadau at unrhyw weithgaredd sy’n cael ei gyflawni gan gorff, neu at unrhyw wasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan gorff, i’w darllen fel pe baent yn cynnwys cyfeiriad at y gweithgaredd hwnnw yn cael ei gyflawni ar ran y corff, neu at y gwasanaeth hwnnw yn cael ei ddarparu ar ran y corff, gan drydydd parti o dan drefniadau a wneir rhwng y trydydd parti a’r corff;
(b)yn unol â hynny, oni bai bod hysbysiad cydymffurfio yn darparu i’r gwrthwyneb, bydd corff wedi methu â chydymffurfio â safon mewn cysylltiad â gweithgaredd y mae wedi trefnu iddo gael ei gyflawni, neu wasanaeth y mae wedi trefnu iddo gael ei ddarparu, gan drydydd parti os nad yw’r gweithgaredd hwnnw neu’r gwasanaeth hwnnw wedi ei gyflawni neu ei ddarparu yn unol â’r safon.
(6) Nid oes dim byd yn y Rheoliadau hyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio â safon mewn cysylltiad â gweithgaredd a gyflawnir ganddo neu wasanaeth a ddarperir ganddo pan fo’n cyflawni’r gweithgaredd hwnnw neu’n darparu’r gwasanaeth hwnnw ar ran trydydd parti o dan drefniadau a wneir rhyngddo ef a’r trydydd parti.
2.—(1) Yn Atodlen 1—
(a)mae Rhan 1 yn pennu safonau cyflenwi gwasanaethau;
(b)mae Rhan 2 yn darparu bod—
(i)rhaid i hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio â safonau penodol a bennir yn Rhan 1 os yw wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â safonau penodol eraill, a
(ii)rhaid i hysbysiad cydymffurfio beidio â’i gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio â safonau penodol a bennir yn Rhan 1 o dan amgylchiadau penodol os yw wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â safonau penodol eraill;
(c)mae Rhan 3 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.
(2) Yn Atodlen 2—
(a)mae Rhan 1 yn pennu safonau llunio polisi;
(b)mae Rhan 2 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.
(3) Yn Atodlen 3—
(a)mae Rhan 1 yn pennu safonau gweithredu;
(b)mae Rhan 2 yn darparu bod rhaid i hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio â safonau penodol a bennir yn Rhan 1 os yw wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â safonau penodol eraill;
(c)mae Rhan 3 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.
(4) Yn Atodlen 4—
(a)mae Rhan 1 yn pennu safonau cadw cofnodion;
(b)mae Rhan 2 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.
(5) Mae Atodlen 5 yn pennu safonau sy’n ymdrin â materion sy’n atodol i’r materion yr ymdrinnir â hwy yn y safonau a bennir yn Atodlenni 1 i 4 ac, yn benodol—
(a)mae Rhan 1 yn pennu safonau cyflenwi gwasanaethau sy’n ymdrin â materion atodol;
(b)mae Rhan 2 yn pennu safonau llunio polisi sy’n ymdrin â materion atodol;
(c)mae Rhan 3 yn pennu safonau gweithredu sy’n ymdrin â materion atodol;
(ch)mae Rhan 4 yn pennu safonau cadw cofnodion sy’n ymdrin â materion atodol;
(d)mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylchdehongli’r safonau atodol;
(dd)mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth atodol.
3. Mae Gweinidogion Cymru yn awdurdodi Comisiynydd y Gymraeg i roi hysbysiad cydymffurfio i’r canlynol—
(1) Career Choices Dewis Gyrfa Cyfyngedig sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â’r safonau a ganlyn a bennir o dan reoliad 2 a’r Atodlenni—
(a)94 i 162;
(b)169 i 182;
(2) Coleg Ceredigion, Coleg Sir Gâr, Corfforaethau Addysg Bellach yng Nghymru, Coleg Merthyr Tudful Cyfyngedig, corff llywodraethu Coleg Catholig Dewi Sant ac WEA YMCA CC Cymru sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt gydymffurfio â’r safonau a ganlyn a bennir o dan reoliad 2 a’r Atodlenni—
(a)1 i 136;
(b)138 i 182;
(3) Prifysgol Aberystwyth, y Brifysgol Agored, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Corfforaethau Addysg Uwch yng Nghymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Cyfyngedig, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt gydymffurfio â’r safonau a bennir o dan reoliad 2 a’r Atodlenni;
(4) Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â’r safonau a ganlyn a bennir o dan reoliad 2 a’r Atodlenni—
(a)1 i 24B;
(b)27 i 27D;
(c)30 i 59;
(ch)61 i 91;
(d)94 i 103;
(dd)105 i 136;
(e)138 i 182.
Alun Davies
Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
1 Chwefror 2017
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: