- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Gwnaed
24 Ionawr 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
2 Chwefror 2017
Yn dod i rym
24 Chwefror 2017
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sŵn o Larymau Tresmaswyr Clywadwy (Cymru) (Dirymu) a Rheoli Sŵn (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 24 Chwefror 2017.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Mae’r rhannau a ganlyn o god ymarfer y Sefydliad Safonau Prydeinig ar gyfer rheoli sŵn a dirgryniad ar safleoedd adeiladu a safleoedd agored, sy’n dwyn y rhif BS 5228, wedi eu cymeradwyo at ddiben rhoi cyfarwyddyd ar ddulliau priodol o leihau sŵn o’r safleoedd hynny—
(a)Rhan 1: Sŵn, sy’n dwyn y rhif BS 5228-1:2009, fel y’i diwygiwyd gan Ddiwygiad Rhif 1, a ddaeth i rym ar 21 Chwefror 2014;
(b)Rhan 2: Dirgryniad, sy’n dwyn y rhif BS 5228-2:2009, fel y’i diwygiwyd gan Ddiwygiad Rhif 1, a ddaeth i rym ar 3 Mehefin 2014.
3. Mae’r Gorchmynion a ganlyn wedi eu dirymu o ran Cymru—
(a)Gorchymyn Rheoli Sŵn (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) (Cymru) 2002(3); a
(b)Gorchymyn Rheoli Sŵn (Cod Ymarfer ar Sŵn o Larymau Tresmaswyr Clywadwy) 1981(4).
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
24 Ionawr 2017
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
O dan adrannau 71 a 104(1) o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974, caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo codau ymarfer at ddiben rhoi cyfarwyddyd ar ddulliau priodol o leihau sŵn (gan gynnwys dirgryniad) a rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo cod ymarfer o’r fath ar gyfer cyflawni mathau o waith y mae adran 60 o’r Ddeddf yn gymwys iddynt. Mae’r rhain yn cynnwys gwaith adeiladu a gwaith ffyrdd, gwaith dymchwel, gwaith carthu a mathau eraill o waith adeiladu peirianyddol.
Mae’r Gorchymyn hwn yn cymeradwyo’r ddwy ran o god ymarfer y Sefydliad Safonau Prydeinig ar gyfer rheoli sŵn a dirgryniad ar safleoedd adeiladu a safleoedd agored. Diffinnir safleoedd agored yn y cod fel safleoedd lle y mae gwaith sylweddol yn cael ei wneud yn yr awyr agored sy’n ymwneud â chloddio, lefelu neu ddodi deunydd.
Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn dirymu Gorchymyn Rheoli Sŵn (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/1795 (Cy. 170)) a Gorchymyn Rheoli Sŵn (Cod Ymarfer ar Sŵn o Larymau Tresmaswyr Clywadwy) 1981 (O.S. 1981/1829).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Gellir cael y codau ymarfer sydd wedi eu cymeradwyo yn bersonol neu drwy’r post oddi wrth y Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI) yn: Customer Services Sales Department, BSI, 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL; ffôn 020 8996 7000.
Dyma rifau ISBN y codau ymarfer sydd wedi eu cymeradwyo:
BS 5228-1:2009 | ISBN 978 0 580 77749 3 |
BS 5228-2:2009 | ISBN 978 0 580 77750 9 |
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddauyr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo ac wedi hynny i Weinidogion Cymru o dan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraffau 30(1) a 30(2)(a) o Atodlen 11 iddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: