- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Gwnaed
20 Mehefin 2017
Yn dod i rym
22 Mehefin 2017
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan baragraff 1(2) a (4) o Atodlen 2 i Ddeddf Tai (Cymru) 2014(1).
Yn unol ag adran 142(3)(b) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 22 Mehefin 2017.
2.—(1) Mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y lle priodol, mewnosoder—
“ystyr “y Confensiwn Hawliau Dynol” (“the Human Rights Convention”) yw’r Confensiwn ar Amddiffyn Hawliau Dynol a Rhyddidau Sylfaenol, a gytunwyd gan Gyngor Ewrop yn Rhufain ar 4 Tachwedd 1950 fel y mae’n cael effaith am y tro mewn perthynas â’r Deyrnas Unedig;”.
(3) Yn rheoliad 3 (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai)—
(a)ym mharagraff (d) ar y diwedd hepgorer “ac”;
(b)ym mharagraff (e) ar y diwedd yn lle “.” rhodder “; ac”; ac
(c)ar ôl paragraff (e) mewnosoder—
“(f)Dosbarth F – person sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau bywyd teuluol neu breifat o dan Erthygl 8 o’r Confensiwn Hawliau Dynol, a’r fath ganiatâd wedi ei roi o dan baragraff 276BE(1), paragraff 276DG neu Atodiad FM i’r Rheolau Mewnfudo(3), ac nad yw’n ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus. ”
(4) Yn rheoliad 5 (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael cymorth tai)—
(a)hepgorer paragraff (1)(e);
(b)ym mharagraff (1)(f) ar y diwedd yn lle “.” rhodder “; ac”;
(c)ar ôl paragraff (1)(f) mewnosoder—
“(g)Dosbarth G - person sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau bywyd teuluol neu breifat o dan Erthygl 8 o’r Confensiwn Hawliau Dynol, a’r fath ganiatâd wedi ei roi o dan baragraff 276BE(1), paragraff 276DG neu Atodiad FM i’r Rheolau Mewnfudo, ac nad yw’n ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus.”; a
(d)hepgorer paragraffau (2) a (3).
(5) Yn rheoliad 6 (personau eraill o dramor sy’n anghymwys i gael cymorth tai), ym mharagraff (2) yn lle’r geiriau “dyraniad o lety tai” rhodder y geiriau “cymorth tai”.
Llofnodwyd gan
Carl Sargeant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, un o Weinidogion Cymru
20 Mehefin 2017
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2603 (Cy. 257)) (“Rheoliadau 2014”) i adlewyrchu newidiadau i Atodiad FM i’r Rheolau Mewnfudo, sef y rheolau a ddiffinnir yn y Rheoliadau hynny fel y rheolau a osodwyd fel a grybwyllir yn adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971. Roedd y newidiadau i Atodiad FM yn golygu bod cymhwyso darpariaethau Rheoliadau 2014 yn rheoliadau 3 a 5(1) wedi dyddio.
Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu rheoliad 5(1)(e) o Reoliadau 2014 (a pharagraffau diffinio ategol (2) a (3)), i ddileu darpariaethau nad oes eu hangen mwyach sy’n ymwneud â chategorïau penodol o geiswyr lloches a hawliodd loches cyn 3 Ebrill 2000. Mae rheoliadau 3 a 5 o Reoliadau 2014 yn rhagnodi’r dosbarthiadau o berson sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai ac i gael cymorth tai, yn y drefn honno.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio rheoliad 6(2) o Reoliadau 2014 er mwyn darparu nad yw’r rheini a restrir yn rheoliad 6(2)(a) i (f) i’w trin fel personau o dramor sy’n anghymwys i gael cymorth tai (yn hytrach na llety tai) yn unol â rheoliad 6(1)(a) o Reoliadau 2014.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
2014 dccc 7. Gweler O.S. 2015/1272 (Cy. 88) am ddarpariaeth arbed yn erthygl 5.
Gosodwyd y Rheolau fel a grybwyllir yn adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: