- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
4.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), mae cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 3—
(a)os yw’n gwrs sy’n dod o fewn paragraff (2);
(b)os yw’n un o’r canlynol—
(i)yn cael ei ddarparu’n gyfan gwbl gan sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus;
(ii)yn cael ei ddarparu gan sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus sydd yn y Deyrnas Unedig ar ran sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus; neu
(iii)yn cael ei ddarparu gan sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig;
(c)os yw’n cael ei ddarparu i raddau helaeth yn y Deyrnas Unedig; a
(d)os yw’n gwrs—
(i)sy’n arwain at ddyfarniad a roddir neu sydd i gael ei roi gan gorff sy’n dod o fewn adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(1); a
(ii)y mae’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs wedi eu cymeradwyo gan y corff hwnnw.
(2) At ddiben paragraff (1)(a) rhaid i’r cwrs fod yn un o’r canlynol—
(a)cwrs llawnamser sy’n para un flwyddyn academaidd neu ddwy flynedd academaidd;
(b)cwrs rhan-amser y mae fel arfer yn bosibl ei gwblhau mewn dim mwy na dwywaith y cyfnod sy’n ofynnol fel arfer i gwblhau ei gwrs un flwyddyn academaidd llawnamser cyfatebol neu ei gwrs dwy flynedd academaidd llawnamser cyfatebol; neu
(c)cwrs rhan-amser nad oes ganddo gwrs llawnamser cyfatebol ac y mae fel arfer yn bosibl ei gwblhau ymhen tair blynedd academaidd.
(3) At ddibenion paragraff (1)(b) ac (c)—
(a)mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw’n darparu’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs, pa un a yw’r sefydliad wedi ymrwymo i gytundeb â’r myfyriwr i ddarparu’r cwrs ai peidio;
(b)mae cwrs yn cael ei ddarparu i raddau helaeth yn y Deyrnas Unedig pan fo o leiaf hanner yr addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs yn cael eu darparu yn y Deyrnas Unedig;
(c)bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg cyfansoddol neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu cyllido’n gyhoeddus os yw naill ai’r brifysgol neu’r coleg cyfansoddol neu’r sefydliad cyfansoddol yn cael ei chyllido neu ei gyllido’n gyhoeddus;
(d)ni fernir bod sefydliad yn cael ei gyllido’n gyhoeddus dim ond am ei fod yn cael arian o gronfeydd cyhoeddus gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(2); ac
(e)ni fernir bod cwrs yn cael ei ddarparu ar ran sefydliad addysgol a gyllidir yn gyhoeddus pan fo rhan o’r cwrs yn cael ei darparu gan sefydliad preifat.
(4) Caiff y cwrs dynodedig fod, ond nid oes angen iddo fod, yn gwrs dysgu o bell.
(5) Nid yw cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion rheoliad 3 os yw’n cael ei gydnabod yn gwrs dynodedig at ddibenion rheoliadau 5 neu 83 o’r rheoliadau cymorth i fyfyrwyr.
(6) At ddibenion adran 22 o Ddeddf 1998(3) a rheoliad (3), caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi eu dynodi o dan baragraff (1).
(7) Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu neu atal dros dro ddynodiad cwrs sydd wedi ei ddynodi o dan baragraff (6).
1988 p. 40; diwygiwyd adran 214(2) gan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13), adran 93 ac Atodlen 8.
1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: