Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 2CYMHWYSTRA

Myfyrwyr cymwys

3.—(1Mae myfyriwr cymwys yn gymwys i gael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (8), mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig os, wrth asesu cais y person i gael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig o dan reoliad 9, yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y person yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1.

(3Nid yw person (“A”) yn fyfyriwr cymwys—

(a)os yw A wedi cyrraedd 60 oed ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae’r cwrs dynodedig yn dechrau ynddi;

(b)os yw A wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

(c)os yw A wedi cyrraedd 18 oed ac nad yw wedi cadarnhau unrhyw gytundeb ar gyfer benthyciad a wnaed gydag A pan oedd A o dan 18 oed;

(d)os yw A, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw’n addas i gael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig;

(e)os yw A yn garcharor, oni bai ei fod yn garcharor cymwys;

(f)os yw A wedi ymrestru ar gwrs sy’n gwrs dynodedig o dan reoliad 5 (cyrsiau dynodedig), 66 (cyrsiau dysgu o bell dynodedig) neu 83 (cyrsiau rhan-amser dynodedig) o’r rheoliadau cymorth i fyfyrwyr ac yn cael cymorth o dan y rheoliadau cymorth i fyfyrwyr ar gyfer y cwrs hwnnw;

(g)os yw A eisoes wedi cael cymhwyster cyfatebol neu uwch;

(h)os yw A eisoes wedi ymrestru ar gwrs dynodedig ac yn cael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig o dan y Rheoliadau hyn ar gyfer y cwrs hwnnw;

(i)os, yn ddarostyngedig i baragraff (8), yw A wedi cael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig yn flaenorol o dan y Rheoliadau hyn;

(j)os rhoddwyd i A neu os talwyd iddo mewn perthynas ag A yn ymgymryd â’r cwrs—

(i)bwrsari gofal iechyd;

(ii)unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007(1);

(iii)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg a wneir o dan adran 67(4)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(2) ac eithrio i’r graddau y mae A yn gymwys i gael y taliad hwnnw mewn cysylltiad â threuliau teithio; neu

(iv)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg a wneir o dan adran 116(2)(a) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(3) ac eithrio i’r graddau y mae A yn gymwys i gael y taliad hwnnw mewn cysylltiad â threuliau teithio; neu

(k)os yw A wedi cael benthyciad yn flaenorol mewn cysylltiad â chwrs ac eithrio o dan y Rheoliadau hyn, pan ddarparwyd y benthyciad hwnnw o gronfeydd a ddarperir gan awdurdod llywodraeth o fewn y Deyrnas Unedig.

(4Pan fo’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â chwrs dynodedig sy’n gwrs dysgu o bell, nid yw’r myfyriwr yn gymwys i gael cymorth mewn cysylltiad â’r cwrs hwnnw oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y cwrs, pa un a yw’r cwrs yn gwrs dynodedig ar y dyddiad hwnnw neu’n cael ei ddynodi ar ddyddiad diweddarach yn ystod y flwyddyn academaidd.

(5Mae myfyriwr cymwys yn peidio â bod yn gymwys i gael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig er gwaethaf a yw Gweinidogion Cymru wedi ystyried yn flaenorol fod y myfyriwr hwnnw yn ymgymryd â’i gwrs o fewn y Deyrnas Unedig.

(6Nid yw paragraffau (4) a (5) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd paragraff 1(4) o Atodlen 1 ar y sail bod cyflogaeth dros dro yn dod o fewn paragraff 1(5)(a) o Atodlen 1.

(7At ddibenion paragraff (3)(b) ac (c), ystyr “benthyciad” yw benthyciad a wneir o dan unrhyw ddarpariaeth o’r ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.

(8Caiff Gweinidogion Cymru farnu bod person sydd wedi cael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig yn flaenorol o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â chwrs dynodedig yn fyfyriwr cymwys pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn nad oedd y person wedi gallu cwblhau’r cwrs dynodedig yr oedd y benthyciad at radd feistr ôl-raddedig blaenorol yn ymwneud ag ef o ganlyniad i resymau personol cadarn.

(9Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond arfer eu disgresiwn o dan baragraff (8) unwaith mewn cysylltiad â myfyriwr penodol.

Cyrsiau dynodedig

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), mae cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 3—

(a)os yw’n gwrs sy’n dod o fewn paragraff (2);

(b)os yw’n un o’r canlynol—

(i)yn cael ei ddarparu’n gyfan gwbl gan sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus;

(ii)yn cael ei ddarparu gan sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus sydd yn y Deyrnas Unedig ar ran sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus; neu

(iii)yn cael ei ddarparu gan sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig;

(c)os yw’n cael ei ddarparu i raddau helaeth yn y Deyrnas Unedig; a

(d)os yw’n gwrs—

(i)sy’n arwain at ddyfarniad a roddir neu sydd i gael ei roi gan gorff sy’n dod o fewn adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(4); a

(ii)y mae’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs wedi eu cymeradwyo gan y corff hwnnw.

(2At ddiben paragraff (1)(a) rhaid i’r cwrs fod yn un o’r canlynol—

(a)cwrs llawnamser sy’n para un flwyddyn academaidd neu ddwy flynedd academaidd;

(b)cwrs rhan-amser y mae fel arfer yn bosibl ei gwblhau mewn dim mwy na dwywaith y cyfnod sy’n ofynnol fel arfer i gwblhau ei gwrs un flwyddyn academaidd llawnamser cyfatebol neu ei gwrs dwy flynedd academaidd llawnamser cyfatebol; neu

(c)cwrs rhan-amser nad oes ganddo gwrs llawnamser cyfatebol ac y mae fel arfer yn bosibl ei gwblhau ymhen tair blynedd academaidd.

(3At ddibenion paragraff (1)(b) ac (c)—

(a)mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw’n darparu’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs, pa un a yw’r sefydliad wedi ymrwymo i gytundeb â’r myfyriwr i ddarparu’r cwrs ai peidio;

(b)mae cwrs yn cael ei ddarparu i raddau helaeth yn y Deyrnas Unedig pan fo o leiaf hanner yr addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs yn cael eu darparu yn y Deyrnas Unedig;

(c)bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg cyfansoddol neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu cyllido’n gyhoeddus os yw naill ai’r brifysgol neu’r coleg cyfansoddol neu’r sefydliad cyfansoddol yn cael ei chyllido neu ei gyllido’n gyhoeddus;

(d)ni fernir bod sefydliad yn cael ei gyllido’n gyhoeddus dim ond am ei fod yn cael arian o gronfeydd cyhoeddus gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(5); ac

(e)ni fernir bod cwrs yn cael ei ddarparu ar ran sefydliad addysgol a gyllidir yn gyhoeddus pan fo rhan o’r cwrs yn cael ei darparu gan sefydliad preifat.

(4Caiff y cwrs dynodedig fod, ond nid oes angen iddo fod, yn gwrs dysgu o bell.

(5Nid yw cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion rheoliad 3 os yw’n cael ei gydnabod yn gwrs dynodedig at ddibenion rheoliadau 5 neu 83 o’r rheoliadau cymorth i fyfyrwyr.

(6At ddibenion adran 22 o Ddeddf 1998(6) a rheoliad (3), caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi eu dynodi o dan baragraff (1).

(7Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu neu atal dros dro ddynodiad cwrs sydd wedi ei ddynodi o dan baragraff (6).

Cyfnod cymhwystra

5.—(1Mae myfyriwr yn cadw ei statws fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig hyd nes bod y statws yn terfynu yn unol â’r rheoliad hwn neu reoliad 3.

(2Y cyfnod y mae myfyriwr cymwys yn cadw’r statws y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw’r “cyfnod cymhwystra”.

(3Yn ddarostyngedig i’r paragraffau a ganlyn a rheoliad 3, mae’r cyfnod cymhwystra yn terfynu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn cwblhau’r cwrs dynodedig ynddi.

(4Mae’r cyfnod cymhwystra yn terfynu—

(a)pan fydd y myfyriwr cymwys (“A”) yn tynnu’n ôl o’i gwrs dynodedig o dan amgylchiadau pan na fo Gweinidogion Cymru yn gorfod, o dan reoliad 6, drosglwyddo statws A fel myfyriwr cymwys i gwrs arall; neu

(b)pan fydd A yn cefnu ar ei gwrs dynodedig neu’n cael ei ddiarddel ohono.

(5Caiff Gweinidogion Cymru derfynu’r cyfnod cymhwystra pan fo A wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw’n addas i gael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig.

(6Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i ddarparu gwybodaeth o dan y Rheoliadau hyn neu ei fod wedi darparu gwybodaeth sy’n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw un neu ragor o’r camau a ganlyn y maent yn ystyried eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—

(a)terfynu’r cyfnod cymhwystra;

(b)penderfynu nad yw’r myfyriwr yn gymwys mwyach i gael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig;

(c)trin unrhyw fenthyciad at radd feistr ôl-raddedig a delir i’r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 17.

(7Pan fo’r cyfnod cymhwystra yn terfynu cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn cwblhau’r cwrs dynodedig ynddi, caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu’r cyfnod cymhwystra am unrhyw gyfnod y maent yn penderfynu arno.

Trosglwyddo statws

6.—(1Pan fo myfyriwr cymwys (“A”) yn trosglwyddo i gwrs arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws A fel myfyriwr cymwys i’r cwrs hwnnw—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru yn cael cais gan y myfyriwr cymwys i wneud hynny;

(b)pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un neu ragor o’r seiliau dros drosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac

(c)pan na fo’r cyfnod cymhwystra wedi terfynu.

(2Y seiliau dros drosglwyddo yw—

(a)bod A, ar argymhelliad yr awdurdod academaidd, yn rhoi’r gorau i un cwrs dynodedig ac yn dechrau ymgymryd â chwrs dynodedig arall yn yr un sefydliad; neu

(b)bod A yn dechrau ymgymryd â chwrs dynodedig mewn sefydliad arall.

(3Pan fo A yn trosglwyddo o dan baragraff (1), mae hawlogaeth gan A, mewn cysylltiad â’r cwrs y mae A yn trosglwyddo iddo, i gael gweddill y benthyciad at radd feistr ôl-raddedig, os oes unrhyw swm yn weddill, yn unol â rheoliad 13 a, phan fo’n berthnasol, rheoliad 16, mewn cysylltiad â’r cwrs y mae A yn trosglwyddo ohono.

Myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod cwrs

7.  Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 8 yn digwydd yn ystod cwrs myfyriwr, caiff myfyriwr fod yn gymwys i gael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig, ar yr amod bod y myfyriwr yn cydymffurfio â’r darpariaethau gwneud cais a nodir yn Rhan 3.

Digwyddiadau

8.  Y digwyddiadau yw—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;

(b)bod y myfyriwr, neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur neu’n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â’r UE pan fo’r myfyriwr yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r wladwriaeth honno;

(d)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn UE;

(e)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;

(f)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(g)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1;

(h)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd; neu

(i)bod y myfyriwr yn cychwyn cwrs dynodedig ar ôl dyddiad dechrau’r cwrs dynodedig am fod yr awdurdod academaidd perthnasol wedi caniatáu i’r myfyriwr gychwyn y cwrs ar y dyddiad dechrau diweddarach hwn.

(2)

2000 p. 14. Mae diwygiadau nad ydynt wedi dod i rym eto (gweler Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, adran 185, Atodlen 3, Rhan 2, paragraffau 40 a 43(d)).

(3)

2016 dccc 2. Nid yw’r ddarpariaeth hon mewn grym eto.

(4)

1988 p. 40; diwygiwyd adran 214(2) gan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13), adran 93 ac Atodlen 8.

(5)

1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources