Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Cyrsiau dynodedig

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), (3) a (4) mae cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 4—

(a)os yw wedi ei restru yn Atodlen 2;

(b)os yw’n un o’r canlynol—

(i)cwrs llawnamser;

(ii)cwrs rhyngosod; neu

(iii)cwrs dysgu o bell ac eithrio cwrs y mae rheoliad 66(5) yn gymwys iddo;

(c)os nad yw’n gwrs dysgu o bell dynodedig;

(d)sy’n parhau am o leiaf un flwyddyn academaidd;

(e)os yw’n cael ei ddarparu—

(i)yn gyfan gwbl yn y Deyrnas Unedig gan sefydliad addysgol cydnabyddedig;

(ii)gan sefydliad addysgol cydnabyddedig ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig;

(iii)gan elusen yng Nghymru a Lloegr ar ran sefydliad rheoleiddiedig Cymreig; neu

(iv)gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus ar ran sefydliad rheoleiddiedig Seisnig;

(f)ar gyfer cwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2017, os yw’n cael ei ddarparu i raddau helaeth yn y Deyrnas Unedig; ac

(g)ar gyfer cwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012 ac sy’n dod o fewn paragraffau 1, 2, 4, 6, 7 neu 8 o Atodlen 2, os yw’n gwrs sy’n arwain at ddyfarniad sydd wedi ei roi neu sydd i’w roi gan gorff sy’n dod o fewn adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(1).

(2Nid yw cwrs, sy’n dod o fewn paragraff 7 neu 8 o Atodlen 2, yn gwrs dynodedig os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi trefnu i ddarparu’r cwrs hwnnw i un o ddisgyblion yr ysgol.

(3Nid yw cwrs a gymerir fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon sydd wedi ei seilio ar gyflogaeth yn gwrs dynodedig.

(4Nid yw paragraff (1)(c) yn gymwys os bydd y person sy’n gwneud cais am gymorth o dan reoliad 9 mewn cysylltiad â’r cwrs—

(a)yn fyfyriwr cymwys anabl; a

(b)yn ymgymryd â’r cwrs hwnnw yn y Deyrnas Unedig ond heb fod yn bresennol arno oherwydd bod y person yn analluog i fod yn bresennol am reswm sy’n ymwneud ag anabledd y person hwnnw.

(5At ddibenion paragraff (1)—

(a)mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw’r sefydliad yn darparu’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs, pa un a yw’r sefydliad wedi gwneud cytundeb gyda’r myfyriwr i ddarparu’r cwrs neu beidio;

(b)bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn sefydliad addysgol cydnabyddedig os yw naill ai’r brifysgol neu’r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn sefydliad addysgol cydnabyddedig;

(c)ni fernir bod sefydliad yn sefydliad addysgol cydnabyddedig ddim ond am ei fod yn cael arian o gronfeydd cyhoeddus gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(2); a

(d)mae cwrs wedi ei ddarparu i raddau helaeth yn y Deyrnas Unedig pan fo o leiaf hanner yr addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs yn cael ei ddarparu yn y Deyrnas Unedig.

(6Bernir bod cwrs y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo yn gwrs sengl ar gyfer gradd gyntaf neu ar gyfer cymhwyster cyfatebol hyd yn oed—

(a)os yw’r cwrs yn arwain at ddyfarnu gradd neu gymhwyster arall cyn y radd neu’r cymhwyster cyfatebol; a

(b)os yw rhan o’r cwrs yn ddewisol.

(7Mae paragraff (6) yn gymwys i gwrs nad yw ei safon yn uwch na gradd gyntaf ac sy’n arwain at gymhwyster fel meddyg, deintydd, milfeddyg, pensaer, pensaer tirwedd, dylunydd tirwedd, rheolwr tirwedd, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref.

(8At ddibenion adran 22 o Ddeddf 1998 a rheoliad 4(1), caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi eu dynodi o dan baragraff (1).

(9Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu neu atal dros dro ddynodiad cwrs sydd wedi ei ddynodi o dan baragraff (8).

(1)

1988 p. 40; diwygiwyd adran 214(2) gan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13), adran 93 ac Atodlen 8.

(2)

1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources