Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Cyfnod cymhwystra

6.—(1Bydd myfyriwr yn cadw ei statws fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig hyd nes y bo’r statws hwnnw’n terfynu yn unol â’r rheoliad hwn neu reoliad 4.

(2Y “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibilty”) yw’r cyfnod y bydd myfyriwr cymwys yn cadw’r statws y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

(3Yn ddarostyngedig i’r paragraffau a ganlyn a rheoliad 4, mae’r “cyfnod cymhwystra” yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y myfyriwr yn cwblhau’r cwrs dynodedig ynddi.

(4Mae’r cyfnod cymhwystra yn dod i ben pan fydd y myfyriwr cymwys—

(a)yn tynnu’n ôl o gwrs dynodedig y myfyriwr cymwys o dan amgylchiadau pan nad yw Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo na throsi, neu pan na fyddant yn trosglwyddo nac yn trosi, statws y myfyriwr cymwys fel myfyriwr cymwys o dan reoliad 8, rheoliad 76 neu reoliad 103; neu

(b)yn cefnu ar gwrs dynodedig y myfyriwr cymwys neu’n cael ei ddiarddel oddi arno.

(5Caiff Gweinidogion Cymru derfynu’r cyfnod cymhwystra os yw’r myfyriwr cymwys wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw’n addas i gael cymorth.

(6Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rheoliadau hyn neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy’n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw rai o’r camau a ganlyn y maent yn credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—

(a)terfynu’r cyfnod cymhwystra;

(b)penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw gymorth penodol neu unrhyw swm penodol o gymorth o dan y Rheoliadau hyn;

(c)trin unrhyw gymorth a dalwyd i’r myfyriwr o dan y Rheoliadau hyn fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliadau 62, 80, 109, 119 a pharagraff 15 o Atodlen 4.

(7Os bydd y cyfnod cymhwystra’n dod i ben cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn cwblhau’r cwrs dynodedig ynddi, caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu’r cyfnod cymhwystra am unrhyw gyfnod y byddant yn penderfynu arno.

(8Er gwaethaf paragraff (1), ni fydd myfyriwr cymwys na fu’n bresennol ar gwrs blaenorol yn gymwys am ddim ond grant newydd at ffioedd, benthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â’r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy’n hafal I .

(9Er gwaethaf paragraff (1) ac yn ddarostyngedig i baragraff (11), ni fydd myfyriwr cymwys sydd wedi bod yn bresennol ar gwrs blaenorol yn gymwys am ddim ond grant newydd at ffioedd, benthyciad at ffioedd, grant at deithio, grant cynhaliaeth neu grant cymorth arbennig mewn perthynas â’r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy’n hafal I , ac eithrio—

(a)nad yw’r didyniad sy’n cyfateb i PC yn gymwys yn achos myfyriwr ar gwrs hyfforddi athrawon neu fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012;

(b)yn achos myfyriwr cymwys na chwblhaodd yn llwyddiannus y cwrs blaenorol diweddaraf am resymau personol anorchfygol—

(i)bod un flwyddyn ychwanegol yn cael ei hadio; a

(ii)caniateir i flwyddyn ychwanegol arall gael ei hadio os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar ôl rhoi sylw i’r rhesymau hynny; ac

(c)yn achos myfyriwr cymwys y mae paragraff (22) yn gymwys iddo, y caiff Gweinidogion Cymru adio un neu ragor o flynyddoedd ychwanegol os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.

(10Mae paragraff (11) yn gymwys—

(a)i fyfyriwr cymwys sydd ar gwrs penben;

(b)i fyfyriwr cymwys—

(i)sydd wedi cwblhau cwrs llawnamser a restrir ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 2;

(ii)sydd ar gwrs gradd gyntaf llawnamser (ac eithrio gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) nad oedd y myfyriwr wedi dechrau arno yn union ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i); a

(iii)nad yw wedi cymryd cwrs gradd gyntaf llawnamser ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i) a chyn y cwrs presennol;

(c)i fyfyriwr cymwys—

(i)sydd wedi cwblhau gradd sylfaen llawnamser;

(ii)sydd ar gwrs gradd anrhydedd llawnamser nad oedd y myfyriwr wedi dechrau arno yn union ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i) a chyn y cwrs presennol; a

(iii)nad yw wedi cymryd cwrs gradd gyntaf llawnamser ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i) a chyn y cwrs presennol.

(11Er gwaethaf paragraff (1), ni fydd myfyriwr cymwys y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo yn gymwys am ddim ond grant newydd at ffioedd, benthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â’r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy’n hafal I ac eithrio, yn achos myfyriwr cymwys y mae paragraff (22) yn gymwys iddo, ac, yn yr achos hwnnw, caiff Gweinidogion Cymru adio un neu ragor o flynyddoedd ychwanegol os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.

(12Mewn unrhyw achos pan fo nifer y blynyddoedd academaidd y mae grant newydd at ffioedd, benthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw ar gael ar eu cyfer yn unol â’r rheoliad hwn yn llai na nifer y blynyddoedd academaidd sy’n ffurfio’r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs presennol, y blynyddoedd academaidd y bydd y myfyriwr yn gymwys ar gyfer y cyfryw grant neu fenthyciad at ffioedd, neu grant at gostau byw, fydd blynyddoedd diweddaraf y cwrs presennol.

(13Yn y rheoliad hwn—

(a)D yw 3 neu nifer y blynyddoedd academaidd sy’n ffurfio cyfnod arferol y cwrs, pa un bynnag yw’r mwyaf;

(b)OD yw nifer y blynyddoedd academaidd sy’n ffurfio’r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs presennol;

(c)PC yw nifer y blynyddoedd y bu’r myfyriwr cymwys yn bresennol ar gwrs blaenorol;

(d)X yw 1 pan oedd cyfnod arferol y cwrs rhagarweiniol yn llai na thair blynedd a phan oedd cyfnod arferol y cwrs rhagarweiniol (neu gyfanswm y cyrsiau rhagarweiniol) yn dair blynedd neu ragor, y cyfnod arferol llai 1;

(e)R yw nifer y blynyddoedd academaidd sy’n cael eu hailadrodd ar y cwrs presennol gan ddechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 a’r rheini’n gyfnodau o ailadrodd y blynyddoedd academaidd blaenorol nad oedd y myfyriwr cymwys yn gallu eu cwblhau’n llwyddiannus oherwydd rhesymau personol anorchfygol;

(f)PrC yw nifer y blynyddoedd academaidd a dreuliodd y myfyriwr ar y cwrs rhagarweiniol ac eithrio unrhyw flynyddoedd yn ailadrodd astudiaethau am resymau personol anorchfygol;

(g)ystyr “myfyriwr ar gwrs hyfforddi athrawon” (“teacher training student”) yw myfyriwr nad yw’n athro neu’n athrawes gymwysedig, sy’n bresennol ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon, pan nad yw hyd y cwrs yn hwy na 2 flynedd a phan fo’r cwrs yn gwrs llawnamser.

(14Wrth gyfrifo nifer y blynyddoedd at ddiben y rheoliad hwn, bydd presenoldeb am ran o flwyddyn academaidd yn cael ei drin fel presenoldeb am flwyddyn academaidd gyfan.

(15Caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu neu estyn y cyfnod cymhwystra am unrhyw gyfnod ychwanegol y byddant yn penderfynu arno.

(16Caiff Gweinidogion Cymru roi cymhwystra i gael grant newydd at ffioedd, benthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw rywfodd arall ac eithrio yn unol â pharagraffau (8) i (13).

(17At ddibenion y rheoliad hwn ac yn ddarostyngedig i’r eithriadau ym mharagraffau (19), (20) ac (21) “cwrs blaenorol” yw unrhyw gwrs addysg uwch llawnamser neu unrhyw gwrs rhan-amser ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon y dechreuodd y myfyriwr ei fynychu neu, yn achos cwrs gradd cywasgedig neu gwrs dysgu o bell dynodedig, y dechreuodd ymgymryd ag ef cyn y cwrs presennol ac sy’n bodloni un neu fwy o’r amodau ym mharagraff (18).

(18Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (17) yw—

(a)bod y cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig a oedd yn sefydliad addysgol cydnabyddedig am rywfaint o’r blynyddoedd academaidd neu’r cyfan ohonynt pan oedd y myfyriwr yn dilyn y cwrs; neu

(b)bod unrhyw ysgoloriaeth, arddangostal, bwrsari, grant, lwfans neu ddyfarndal o unrhyw ddisgrifiad a dalwyd i’r myfyriwr fod yn bresennol ar y cwrs neu, yn achos cwrs gradd cywasgedig neu gwrs dysgu o bell dynodedig, iddo ymgymryd â’r cwrs, i dalu ffioedd wedi ei dalu o gronfeydd cyhoeddus neu o gronfeydd a oedd i’w priodoli i gronfeydd cyhoeddus.

(19Nid ymdrinnir â chwrs a fyddai fel arall yn gwrs blaenorol fel y cyfryw—

(a)os yw’r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;

(b)os nad yw hyd y cwrs presennol yn hwy na 2 flynedd pan fo’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser; ac

(c)os nad yw’r myfyriwr yn athro neu’n athrawes gymwysedig.

(20Nid ymdrinnir â chwrs ar gyfer Tystysgrif mewn Addysg a fyddai fel arall yn gwrs blaenorol fel y cyfryw—

(a)os yw’r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer gradd (gan gynnwys gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg;

(b)os trosglwyddodd y myfyriwr i’r cwrs presennol o gwrs ar gyfer Tystysgrif mewn Addysg cyn cwblhau’r cwrs hwnnw neu os dechreuodd ar y cwrs presennol ar ôl cwblhau’r cwrs ar gyfer Tystysgrif mewn Addysg.

(21Nid ymdrinnir â chwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg fel cwrs blaenorol—

(a)os yw’r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer gradd anrhydedd Baglor mewn Addysg;

(b)os trosglwyddodd y myfyriwr i’r cwrs presennol o gwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg cyn cwblhau’r cwrs hwnnw neu os dechreuodd ar y cwrs presennol ar ôl cwblhau’r cwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg.

(22Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod yr amodau a ganlyn wedi eu bodloni mewn perthynas â myfyriwr cymwys—

(a)bod y myfyriwr cymwys wedi darparu’r holl wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â chwrs blaenorol y mae’r myfyriwr wedi ei fynychu neu wedi ymgymryd ag ef ac unrhyw gymwysterau sydd gan y myfyriwr;

(b)bod yr wybodaeth honno yn gywir; ac

(c)bod Gweinidogion Cymru wedi darparu’n anghywir hysbysiad o gyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys o dan y rheoliad hwn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources