- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Gwnaed
23 Chwefror 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
27 Chwefror 2017
Yn dod i rym
31 Mawrth 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 42(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Estyn Cymhwysiad Rhan 2 i Bractisau Deintyddol Preifat) (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Mawrth 2017.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “deintydd” (“dentist”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr o ddeintyddion a gedwir yn unol ag adran 14 o Ddeddf Deintyddion 1984(2);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;
ystyr “gwasanaethau deintyddol” (“dental services”) yw gofal a thriniaeth ddeintyddol a ddarperir gan ddeintydd;
ystyr “gwasanaethau deintyddol preifat” (“private dental services”) yw gwasanaethau deintyddol ac eithrio at ddibenion Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(3);
ystyr “gwasanaethau proffesiynol perthnasol” (“relevant professional services”) yw’r ddarpariaeth o wasanaethau proffesiynol yn unol â chwmpas ymarfer llawn proffesiynolyn gofal deintyddol, ac eithrio yn unol â phresgripsiwn gan ddeintydd ond nid yw’n cynnwys—
darparu gwasanaethau gwynnu dannedd gan hylenydd deintyddol neu therapydd deintyddol, a
darparu a chynnal a chadw dannedd gosod i gleifion â dannedd(4) gan dechnegydd deintyddol clinigol;
ystyr “hylenydd deintyddol” (“dental hygienist”), “therapydd deintyddol” (“dental therapist”) a “technegydd deintyddol clinigol” (“clinical dental technician”) yw personau sydd wedi eu cofrestru felly â’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol yn y gofrestr o broffesiynolion gofal deintyddol a sefydlwyd o dan adran 36B o Ddeddf Deintyddion 1984;
ystyr “practis deintyddol preifat” (“private dental practice”)(5) yw ymgymeriad sy’n darparu neu’n cynnwys darparu—
gwasanaethau deintyddol preifat gan ddeintydd, neu
gwasanaethau proffesiynol perthnasol gan broffesiynolyn gofal deintyddol, ac eithrio at ddibenion Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
ystyr “proffesiynolyn gofal deintyddol” (“dental care professional”) yw—
hylenydd deintyddol;
therapydd deintyddol; neu
technegydd deintyddol clinigol.
3.—(1) Mae person sy’n cynnal neu’n rheoli practis deintyddol preifat wedi ei ragnodi at ddibenion adran 42(1) o’r Ddeddf.
(2) Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ran 2 o’r Ddeddf yn gymwys i bersonau a ragnodir gan baragraff (1) a, phan fo’n berthnasol, gyda’r addasiadau a bennir yn yr Atodlen—
(a)adran 12(2);
(b)adran 14(1)(d);
(c)adran 15(3) a (5);
(d)adran 16(1) a (3);
(e)adran 22;
(f)adran 23(1) i (3);
(g)adran 25(1);
(h)adran 30ZA;
(i)adran 30ZB;
(j)adran 30A(1), (3) a (4);
(k)adran 33;
(l)adran 34;
(m)adran 35;
(n)adran 36(3) a (4).
Vaughan Gething
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
23 Chwefror 2017
Rheoliad 3
1. Yn adran 14(1) o’r Ddeddf (canslo cofrestriad), yng ngeiriau agoriadol yr is-adran, yn lle “or agency” rhodder “, agency or private dental practice”.
2. Yn adran 16(1) o’r Ddeddf (rheoliadau ynghylch cofrestru), yn lle “or agencies” rhodder “, agencies or private dental practices”.
3. Yn adran 22 o’r Ddeddf (rheoleiddio sefydliadau ac asiantaethau)—
(a)yn is-adran (1), yn lle “and agencies” rhodder “, agencies or private dental practices”;
(b)yn is-adran (2)—
(i)ym mharagraffau (a), (f), (i) a (j), yn lle “or agency” rhodder “, agency or private dental practice”;
(ii)ym mharagraffau (b) ac (c), ar ôl “agency” ym mhob lle y mae’n digwydd mewnosoder “or private dental practice”;
(iii)ym mharagraff (d), ar ôl “domiciliary care agency” mewnosoder “, or private dental practice”;
(iv)ym mharagraff (g), ar ôl “agency” mewnosoder “or a private dental practice”;
(c)yn is-adran (5)(b) ac (c), ar ôl “establishment” ym mhob lle y mae’n digwydd mewnosoder “or private dental practice”;
(d)yn is-adran (7)—
(i)yng ngeiriau agoriadol yr is-adran, ar ôl “agencies” mewnosoder “or private dental practices”;
(ii)ym mharagraffau (a) a (d), ar ôl “agencies” ym mhob lle y mae’n digwydd mewnosoder “or private dental practices”;
(iii)ym mharagraffau (e), (f), (g) a (h), ar ôl “agency” ym mhob lle y mae’n digwydd mewnosoder “or private dental practice”;
(iv)ym mharagraff (j)—
(aa)ar ôl “or agency” mewnosoder “or private dental practice”; a
(bb)ar ôl “the agency” mewnosoder “or private dental practice”.
4. Yn adran 23(1) o’r Ddeddf (safonau gofynnol cenedlaethol), ar ôl “agencies” mewnosoder “or private dental practices”.
5. Yn adran 30ZA(2)(a) o’r Ddeddf (hysbysiadau cosb), yn lle “or agency” rhodder “, agency or private dental practice”.
6. Yn adran 30A(1) o’r Ddeddf (hysbysu am faterion sy’n ymwneud â phersonau sy’n cynnal neu’n rheoli sefydliadau neu asiantaethau penodol), ar ôl “subsection (6)” mewnosoder “or a private dental practice”.
7. Yn adran 33(1) o’r Ddeddf (datganiadau blynyddol), ar ôl “agency” mewnosoder “or private dental practice”.
8. Yn adran 34 o’r Ddeddf (datodwyr etc.)—
(a)yn is-adran (1)(b), ar ôl “agency” mewnosoder “or private dental practice”; a
(b)yn is-adran (3), ar ôl “agency” ym mhob lle y mae’n digwydd mewnosoder “or private dental practice”.
9. Yn adran 35 o’r Ddeddf (marwolaeth person cofrestredig), ar ôl “agency” ym mhob lle y mae’n digwydd mewnosoder “or private dental practice”.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“y Ddeddf”) ac yn gymwys mewn perthynas â phersonau sy’n cynnal neu’n rheoli’r ddarpariaeth o wasanaethau deintyddol preifat gan ddeintydd, neu wasanaethau proffesiynol perthnasol gan broffesiynolyn gofal deintyddol, ac eithrio at ddibenion Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 yng Nghymru (“practis deintyddol preifat”).
Mae Rhan 2 o’r Ddeddf yn darparu ar gyfer cofrestru ac arolygu sefydliadau ac asiantaethau gan yr awdurdod cofrestru (Gweinidogion Cymru).
Mae adran 42 o’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth, drwy reoliadau, ar gyfer cymhwyso’r Ddeddf (gydag unrhyw addasiadau a bennir) mewn cysylltiad â chofrestru gwasanaethau eraill nad ydynt wedi eu cwmpasu ar wyneb y Ddeddf.
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi person sy’n cynnal neu’n rheoli practis deintyddol preifat (fel y’i diffinnir yn rheoliad 2) at ddibenion adran 42, ac yn darparu bod y pwerau i wneud rheoliadau yn Rhan 2 o’r Ddeddf yn gymwys mewn perthynas â’r personau hynny a, phan fo’n berthnasol, gyda’r addasiadau a nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
2000 p. 14. Trosglwyddwyd y pŵer a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
Dim ond i gleifion diddannedd y caiff technegydd deintyddol clinigol ddarparu’r ystod lawn o wasanaethau drwy drefniadau mynediad uniongyrchol.
Gweler rheoliad 4 o Reoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017 (O.S. 2017/202 (Cy.57)) am ymgymeriadau nad ydynt yn bractisau deintyddol preifat.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: