- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
14 Chwefror 2017
Yn dod i rym
16 Chwefror 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 5 a 47(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014(1), ar ôl ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Yn unol ag adran 47(2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 16 Chwefror 2017.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor y Gweithlu Addysg y parheir â’i fodolaeth gan adran 2 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014;
ystyr “y meini prawf achredu” (“the accreditation criteria”) yw’r meini prawf ar gyfer yr achrediad neu ar gyfer tynnu achrediad yn ôl a bennir gan Weinidogion Cymru o dan reoliadau a wneir o dan adran 132 o Ddeddf Addysg 2002(2).
3.—(1) Mae’r Cyngor i gael y swyddogaethau o—
(a)achredu cyrsiau neu raglenni hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol (“y Gwasanaeth”);
(b)monitro cydymffurfedd cyrsiau neu raglenni achrededig hyfforddiant cychwynnol athrawon â’r meini prawf achredu;
(c)tynnu achrediad cyrsiau neu raglenni hyfforddiant cychwynnol athrawon yn ôl; a
(d)codi ffïoedd mewn cysylltiad â darparu’r Gwasanaeth.
(2) Ni chaiff y ffïoedd a godir gan y Cyngor yn unol â pharagraff (1)(d) fod yn fwy na chost darparu’r Gwasanaeth.
Kirsty Williams
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
14 Chwefror 2017
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Parhawyd â bodolaeth Cyngor y Gweithlu Addysg (“y Cyngor”) gan adran 2 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”). Mae adran 4 o Ddeddf 2014 yn nodi prif swyddogaethau’r Cyngor. Mae adran 5 o Ddeddf 2014 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud Gorchymyn sy’n rhoi swyddogaethau ychwanegol i’r Cyngor neu’n gosod swyddogaethau ychwanegol arno. Yn unol â hynny, mae’r Gorchymyn hwn yn rhoi swyddogaethau ychwanegol i’r Cyngor sy’n ymwneud ag achredu cyrsiau neu raglenni astudio hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol ac â thynnu achrediad yn ôl (erthygl 3).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth yr Adran Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus yn Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2002 (p. 32) fel y’i diwygiwyd gan baragraff 19(1) a (2) o Atodlen 2 i Ddeddf Addysg 2011 (p. 21) a chan baragraff 1(1) a (4) o Ran 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Addysg (Cymru) 2014.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: