- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
9.—(1) Rhaid i gais i amrywio cofrestriad a wneir yn unol ag adran 11(1)(a)(iii) neu (iv), yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn adran 11(3)(a)(i), gynnwys y canlynol—
(a)y dyddiad effeithiol arfaethedig;
(b)y rheswm dros wneud y cais;
(c)datganiad ynghylch sut y mae’r darparwr gwasanaeth yn bwriadu parhau i gydymffurfio â’r rheoliadau a wneir o dan adran 27 hyd nes y bydd y gwasanaeth yn peidio â chael ei ddarparu;
(d)manylion unrhyw hysbysiad a roddir ynghylch y cais arfaethedig i amrywio i—
(i)defnyddwyr y gwasanaeth;
(ii)yr awdurdod lleol y darperir y gwasanaeth rheoleiddiedig o fewn ei ardal;
(iii)y Bwrdd Iechyd Lleol y darperir y gwasanaeth rheoleiddiedig o fewn ei ardal;
(iv)unrhyw berson arall;
(e)pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gwneud cais i amrywio’r cofrestriad lai na 3 mis cyn y dyddiad effeithiol arfaethedig, adroddiad ynghylch a yw’r gwasanaeth rheoleiddiedig neu’r man y darperir y gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef wedi peidio â bod yn ariannol hyfyw neu’n debygol o beidio â bod yn ariannol hyfyw o fewn y 12 mis nesaf.
(2) At ddiben y rheoliad hwn a rheoliad 10 ystyr “dyddiad effeithiol arfaethedig” yw’r dyddiad y mae’r darparwr gwasanaeth yn gofyn amdano fel y dyddiad pan fo’r amrywiad y gwneir cais amdano i gymryd effaith.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: