- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
23 Chwefror 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
25 Chwefror 2016
Yn dod i rym
28 Mawrth 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 37(7)(a), 37(7)(c), 38(2)(b), 38(3) a 40(2) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Hysbysiadau, Gweithdrefn a Chyhoeddi) (Cymru) 2016 a deuant i rym ar 28 Mawrth 2016.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
(a)ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 ac mae cyfeiriadau at adrannau yn gyfeiriadau at adrannau o’r Ddeddf honno; a
(b)ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Hysbysiadau a Chyfarwyddydau) (Cymru) 2015(2).
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Y cyfnod hwyaf y caniateir iddo gael ei bennu mewn hysbysiad o dan adran 37 yw blwyddyn.
3.—(1) Caiff CCAUC dynnu’n ôl hysbysiad a roddir o dan adran 37 drwy roi hysbysiad tynnu’n ôl i gorff llywodraethu’r sefydliad.
(2) Rhaid i hysbysiad tynnu’n ôl o dan baragraff (1)—
(a)bod yn ysgrifenedig;
(b)bod wedi ei ddyddio; ac
(c)hysbysu corff llywodraethu’r sefydliad am y rhesymau dros dynnu’n ôl yr hysbysiad o dan adran 37.
(3) Y dyddiad y caiff hysbysiad o dan adran 37 ei dynnu’n ôl yw dyddiad yr hysbysiad tynnu’n ôl.
4. Os yw CCAUC wedi rhoi hysbysiad tynnu’n ôl o dan reoliad 3, rhaid iddo roi copi o’r hysbysiad tynnu’n ôl i Weinidogion Cymru ar unwaith.
5. Yn ddarostyngedig i reoliad 6, mae’r darpariaethau a ganlyn yn gymwys mewn cysylltiad â rhoi hysbysiad o dan adran 38—
(a)adrannau 42 i 44; a
(b)rheoliadau 2 i 10 o Reoliadau 2015.
6. Mae rheoliad 4 o Reoliadau 2015 i gael ei ddarllen fel pe bai—
(a)“hysbysiad o dan adran 38 o Ddeddf 2015” wedi ei roi yn lle “hysbysiad neu gyfarwyddyd a bennir yn adran 41(1) o Ddeddf 2015”; a
(b)y geiriau “neu’r cyfarwyddyd” ym mharagraffau (a) i (c) wedi eu hepgor.
7. Os yw CCAUC yn rhoi hysbysiad o dan adran 37, 38 neu 39, rhaid iddo—
(a)rhoi copi o’r hysbysiad i Weinidogion Cymru ar unwaith; a
(b)cyhoeddi copi o’r hysbysiad ar ei wefan o fewn y cyfnod o saith niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i gorff llywodraethu’r sefydliad.
8. At ddibenion rheoliad 7—
(a)mae hysbysiad o dan adran 37 neu 39 i gael ei drin fel pe bai wedi ei roi gan CCAUC yn unol â rheoliad 4 o Reoliadau 2015; a
(b)mae hysbysiad o dan adran 38 i gael ei drin fel pe bai wedi ei roi gan CCAUC yn unol â rheoliad 4 o Reoliadau 2015 fel y’i cymhwysir, gydag addasiadau, gan reoliadau 5(b) a 6 o’r Rheoliadau hyn.
9. Mae copi o hysbysiad o dan adran 37 a gyhoeddir ar wefan CCAUC o dan reoliad 7(b) i aros ar y wefan honno tan y cynharaf o—
(a)diwedd y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 37(2); neu
(b)dyddiad yr hysbysiad tynnu’n ôl a roddir gan CCAUC o dan reoliad 3 i gorff llywodraethu’r sefydliad mewn cysylltiad â’r hysbysiad hwnnw.
10. Mae copi o hysbysiad o dan adran 38 neu 39 a gyhoeddir ar wefan CCAUC o dan reoliad 7(b) i aros ar y wefan honno tan y dyddiad y byddai’r cyfnod yr oedd y cynllun ffioedd a mynediad perthnasol yn ymwneud ag ef wedi dod i ben oni bai am yr hysbysiad.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
23 Chwefror 2016
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â hysbysiadau o dan adrannau 37, 38 a 39 o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”) a sut a phryd y mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (“CCAUC”) i gydymffurfio â’i ddyletswyddau o dan adran 40(1) o Ddeddf 2015.
Mae rheoliad 2 yn darparu mai’r cyfnod hwyaf y caniateir iddo gael ei bennu mewn hysbysiad o dan adran 37 o Ddeddf 2015 (hysbysiad ynghylch gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd) yw blwyddyn.
Mae rheoliadau 3 a 4 yn darparu ar gyfer y weithdrefn sydd i’w dilyn gan CCAUC mewn cysylltiad â thynnu’n ôl hysbysiad o dan adran 37 o Ddeddf 2015. Pan fo CCAUC yn tynnu hysbysiad o’r fath yn ôl, rhaid iddo roi copi o’r hysbysiad tynnu’n ôl i Weinidogion Cymru ar unwaith.
Mae rheoliadau 5 a 6 yn darparu ar gyfer y weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad â rhoi hysbysiad o dan adran 38 o Ddeddf 2015 (dyletswydd CCAUC i dynnu cymeradwyaeth yn ôl). Effaith rheoliad 5(a) yw bod adrannau 42 i 44 o Ddeddf 2015, sy’n ymwneud â’r weithdrefn rhybuddio ac adolygu ar gyfer hysbysiadau a chyfarwyddydau penodol o dan y Ddeddf honno, yn gymwys mewn cysylltiad â rhoi hysbysiad gan CCAUC o dan adran 38. Effaith rheoliadau 5(b) a 6 yw bod rheoliadau 2 i 10 o Reoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Hysbysiadau a Chyfarwyddydau) (Cymru) 2015 hefyd yn gymwys, gydag addasiadau, i roi hysbysiadau o’r fath.
Mae rheoliadau 7 i 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch sut a phryd y mae CCAUC i gydymffurfio â’i ddyletswyddau o dan adran 40(1) o Ddeddf 2015. Mae’r adran honno yn ei gwneud yn ofynnol i CCAUC, pan fydd yn rhoi hysbysiad o dan adran 37, 38 neu 39 o Ddeddf 2015, roi copi o’r hysbysiad i Weinidogion Cymru a chyhoeddi’r hysbysiad. Pan fo CCAUC yn rhoi hysbysiad o dan unrhyw un neu ragor o’r adrannau hynny, mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol iddo roi copi o’r hysbysiad i Weinidogion Cymru ar unwaith a chyhoeddi copi o’r hysbysiad ar ei wefan o fewn saith niwrnod i’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.
Mae rheoliad 8 yn darparu ar gyfer pryd y mae hysbysiad o’r fath i gael ei drin fel pe bai wedi ei roi gan CCAUC at ddibenion rheoliad 7 ac mae rheoliadau 9 a 10 yn nodi am ba hyd y dylid cyhoeddi hysbysiadau o’r fath ar wefan CCAUC.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: