Search Legislation

Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Darpariaethau Canlyniadol) 2015

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2015 No. 848 (Cy. 63)

Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymru

Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Darpariaethau Canlyniadol) 2015

Gwnaed

17 Mawrth 2015

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1(1) a (2)(f), 2(1) a 3(1), (2), (3)(a) a (4) o Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus 2013(1), a pharagraff 6(b) o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.

Yn unol ag adran 21 o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y personau hynny yr oedd yn ymddangos yn debygol i Weinidogion Cymru y byddai’r Rheoliadau hyn yn effeithio arnynt.

Yn unol ag adran 24(1) a (3) o’r Ddeddf honno, mae drafft o’r offeryn hwn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

RHAN 1Rhagarweiniol

Enwi, cychwyn a dod i ben

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Darpariaethau Canlyniadol) 2015.

(2Ac eithrio rheoliad 10, daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2015.

(3Daw rheoliad 10 i rym ar yr un diwrnod â pharagraff 38 o Atodlen 13 i Ddeddf Pensiynau 2014(2), ac ar y diwrnod hwnnw bydd rheoliad 9 yn peidio â chael effaith.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y cynllun newydd” (“the new scheme”) yw’r cynllun a sefydlwyd gan reoliad 2 o Reoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015(3);

ystyr “Deddf 1993” (“the 1993 Act”) yw Deddf Cynlluniau Pensiwn 1993(4);

ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013(5); ac

ystyr “hen gynllun” (“old scheme”) yw’r cynllun a gyfansoddwyd gan Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992(6) fel y mae’n cael effaith yng Nghymru neu’r cynllun a gyfansoddwyd gan Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007(7).

RHAN 2Addasu darpariaethau contractio allan

Cymhwyso’r Rhan hon

3.  Mae’r Rhan hon yn gymwys—

(a)pan wneir dewisiad o dan adran 11 (dewisiadau ynghylch cyflogaethau sydd wedi eu cynnwys o dan dystysgrifau contractio allan) o Ddeddf 1993(8) mewn perthynas â phersonau sy’n dod yn aelodau o’r cynllun newydd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2015 a chyn 6 Ebrill 2016 (pa un ai bod unrhyw un neu ragor o’r personau hynny yn aelodau o hen gynllun ai peidio); a

(b)pan fo’r cynllun newydd yn bodloni gofynion adran 9 (gofynion o ran ardystio cynlluniau: cyffredinol) o Ddeddf 1993(9).

Contractio allan

4.—(1Mae Rhan 2 o Reoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Contractio Allan) 1996(10) (ardystio cyflogaethau) wedi ei haddasu fel a ganlyn o ran y modd y’i cymhwysir i’r cynllun newydd.

(2Nid yw’r gofynion yn rheoliad 2(1)(a) (gwneud dewisiadau ar gyfer dyroddi tystysgrifau contractio allan) a rheoliadau 3 (hysbysiadau gan gyflogwyr o fwriad i wneud dewisiad) i 5 (amser ar gyfer gwneud dewisiad) yn gymwys.

(3Yn rheoliad 6 (gwybodaeth sydd i’w chynnwys mewn dewisiad)—

(a)mae paragraff (1) i’w ddarllen fel pe rhoddid y canlynol yn lle is-baragraffau (a) i (f)—

(a)the name by which the new scheme is to be known;

(b)the name by which the old schemes are known; and

(c)any other information necessary to enable the Commissioners for Her Majesty’s Revenue and Customs to identify the old schemes.; a

(b)nid yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys.

RHAN 3Addasu darpariaethau ymadawr cynnar a darpariaethau eraill

Cymhwyso’r Rhan hon

5.  Mae’r Rhan hon yn gymwys pan fo person (P)—

(a)yn aelod o hen gynllun, pa un ai yn rhinwedd gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer y cynllun hwnnw neu wasanaeth tybiedig cynllun trosglwyddo o dan baragraff 2 o Atodlen 7 i Ddeddf 2013 (cyswllt cyflog terfynol);

(b)yn aelod o’r cynllun newydd yn rhinwedd gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer y cynllun newydd; ac

(c)yn berson y mae paragraff 1 neu 2 o Atodlen 7 i Ddeddf 2013 yn gymwys iddo yn rhinwedd ei wasanaeth pensiynadwy ar gyfer y cynllun newydd, ac y penderfynir ei gyflog terfynol at ddibenion yr hen gynllun drwy gyfeirio at y paragraff hwnnw.

Ardystio

6.—(1Mae adran 15A o Ddeddf 1993(11) (lleihau lleiafswm gwarantedig o ganlyniad i ddebyd pensiwn) wedi ei haddasu fel a ganlyn mewn perthynas â P.

(2Wrth gymhwyso’r adran honno i’r hen gynllun, mae cyfeiriad yn is-adran (2) o’r adran honno at wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun i’w ystyried yn gyfeiriad at wasanaeth pensiynadwy naill ai ar gyfer yr hen gynllun neu ar gyfer y cynllun newydd.

Cadw budd

7.—(1Mae Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 1993 (diogelwch ar gyfer ymadawyr cynnar; cadw budd o dan gynlluniau galwedigaethol) wedi ei haddasu fel a ganlyn mewn perthynas â P.

(2Wrth gymhwyso’r Bennod honno i’r hen gynllun—

(a)yn adran 70(12) (dehongli), yn y diffiniadau o “relevant employment” a “long service benefit” mae cyfeiriad at y cynllun i’w ystyried yn gyfeiriad naill ai at yr hen gynllun neu’r cynllun newydd;

(b)yn adran 71(1) (egwyddor sylfaenol ynglŷn â budd gwasanaeth byr)—

(i)mae’r gofyniad bod cynllun yn gwneud darpariaeth i’w ystyried yn ofyniad bod rhaid i naill ai’r hen gynllun neu’r cynllun newydd wneud y ddarpariaeth honno;

(ii)mae cyfeiriad at daliad trosglwyddo i’r cynllun i’w ystyried yn gyfeiriad at daliad trosglwyddo i naill ai’r hen gynllun neu’r cynllun newydd;

(iii)mae cyfeiriad at derfynu gwasanaeth pensiynadwy P i’w ystyried yn gyfeiriad at derfynu gwasanaeth pensiynadwy P mewn perthynas â’r cynllun newydd;

(iv)mae cyfeiriad at fudd a fyddai wedi bod yn daladwy i P o dan y cynllun i’w ystyried yn gyfeiriad at fudd a fyddai wedi bod yn daladwy i P naill ai o dan yr hen gynllun neu o dan y cynllun newydd,

ac mae cyfeiriadau dilynol yn y Bennod at “short service benefit” i’w dehongli yn unol â hynny;

(c)yn adran 71(5), mae cyfeiriad at derfynu gwasanaeth pensiynadwy P i’w ystyried yn gyfeiriad at derfynu gwasanaeth pensiynadwy P mewn perthynas â’r cynllun newydd;

(d)yn adran 71(7)(a), mae cyfeiriad at wasanaeth pensiynadwy P o dan y cynllun i’w ystyried yn gyfeiriad at wasanaeth pensiynadwy P naill ai ar gyfer yr hen gynllun neu ar gyfer yr hen gynllun a’r cynllun newydd ar y cyd; ac

(e)yn adrannau 72(2) (dim gwahaniaethu rhwng buddiolwyr gwasanaeth byr a buddiolwyr gwasanaeth hir), 74(6) a (7) (cyfrifo budd gwasanaeth byr), 75(3) a (4) (credydau) a 76(1) a (3) (cynyddiadau pensiwn), mae cyfeiriad at derfynu gwasanaeth pensiynadwy P i’w ystyried yn gyfeiriad at derfynu gwasanaeth pensiynadwy P mewn perthynas â’r cynllun newydd.

(3Wrth gymhwyso’r Bennod honno i’r cynllun newydd—

(a)yn adran 70, yn y diffiniadau o “relevant employment” a “long service benefit”, mae cyfeiriad at y cynllun i’w ystyried yn gyfeiriad at naill ai’r hen gynllun neu’r cynllun newydd;

(b)yn adran 71(1)—

(i)mae gofyniad bod cynllun yn gwneud darpariaeth i’w ystyried yn ofyniad bod rhaid i naill ai’r hen gynllun neu’r cynllun newydd wneud y ddarpariaeth honno;

(ii)mae cyfeiriad at daliad trosglwyddo i’r cynllun i’w ystyried yn gyfeiriad at daliad trosglwyddo i naill ai’r hen gynllun neu’r cynllun newydd;

(iii)mae cyfeiriad at fudd a fyddai wedi bod yn daladwy i P o dan y cynllun i’w ystyried yn gyfeiriad at fudd a fyddai wedi bod yn daladwy i P naill ai o dan yr hen gynllun neu o dan y cynllun newydd,

ac mae cyfeiriadau dilynol yn y Bennod at “short service benefit” i’w dehongli yn unol â hynny;

(c)yn adran 71(7)(a), mae cyfeiriad at wasanaeth pensiynadwy P o dan y cynllun i’w ystyried yn gyfeiriad at wasanaeth pensiynadwy P naill ai ar gyfer y cynllun newydd neu ar gyfer yr hen gynllun a’r cynllun newydd ar y cyd; a

(d)yn adran 74(6), mewn perthynas â gwasanaeth pensiynadwy sydd wedi ei derfynu, mae cyfeiriad at ddechrau’r gwasanaeth hwnnw i’w ystyried yn gyfeiriad at ddechrau gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer yr hen gynllun.

Ailbrisio budd a gedwir

8.—(1Mae Pennod 2 o Ran 4 o Ddeddf 1993 (diogelwch ar gyfer ymadawyr cynnar: ailbrisio buddion cronedig) wedi ei haddasu fel a ganlyn.

(2Wrth gymhwyso Pennod 2 at y diben o ailbrisio budd sydd yn daladwy i P, neu mewn perthynas â P, o dan yr hen gynllun—

(a)yn adran 83(1)(a)(ii)(13) (cwmpas Pennod 2), mae’r cyfeiriad at y dyddiad y daw gwasanaeth pensiynadwy P i ben i’w ystyried yn gyfeiriad at y dyddiad y daw gwasanaeth pensiynadwy P i ben mewn perthynas â’r cynllun newydd; a

(b)mae cyfeiriadau dilynol yn y Bennod honno at “the termination date” a “pre-pension period” i’w dehongli yn unol â hynny.

Diogelu cynyddiadau mewn lleiafsymiau pensiwn gwarantedig

9.—(1Mae Pennod 3 o Ran 4 o Ddeddf 1993 (diogelwch ar gyfer ymadawyr cynnar: diogelu cynyddiadau mewn lleiafsymiau pensiwn gwarantedig (“gwrth-ffrancio”)) wedi ei haddasu fel a ganlyn.

(2Wrth gymhwyso’r Bennod honno i P fel aelod o’r hen gynllun—

(a)yn adran 87(1)(a)(i)(14) (egwyddor diogelwch cyffredinol), mae’r cyfeiriad at y dyddiad pan fo P yn peidio â bod mewn cyflogaeth sydd wedi ei chontractio allan drwy gyfeirio at gynllun i’w ystyried yn gyfeiriad at y dyddiad pan fo P yn peidio â bod mewn cyflogaeth sydd wedi ei chontractio allan drwy gyfeirio at y cynllun newydd; a

(b)mae cyfeiriadau dilynol at “the cessation date” i’w dehongli yn unol â hynny.

Diogelu cynyddiadau mewn lleiafsymiau pensiwn gwarantedig ar ôl diddymu contractio allan

10.—(1Mae Pennod 3 o Ran 4 o Ddeddf 1993 (diogelwch ar gyfer ymadawyr cynnar: diogelu cynyddiadau mewn lleiafsymiau pensiwn gwarantedig (“gwrth-ffrancio”)) wedi ei haddasu fel a ganlyn.

(2Wrth gymhwyso’r Bennod honno i P fel aelod o’r hen gynllun—

(a)yn adran 87(1)(a)(i) (egwyddor diogelu gyffredinol), mae’r cyfeiriad at y dyddiad pan fo P yn peidio â bod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan gynllun a oedd, cyn yr ail ddyddiad diddymu, yn gynllun seiliedig ar gyflog a gontractiwyd allan, i’w ystyried yn gyfeiriad at y dyddiad pan fo P yn peidio â bod mewn gwasanaeth pensiynadwy mewn perthynas â’r cynllun newydd; a

(b)mae cyfeiriadau dilynol at “the cessation date” i’w dehongli yn unol â hynny.

Gwerthoedd trosglwyddo

11.—(1Mae Pennod 4 o Ran 4 o Ddeddf 1993 (diogelwch ar gyfer ymadawyr cynnar; gwerthoedd trosglwyddo) wedi ei haddasu fel a ganlyn.

(2Wrth gymhwyso’r Bennod honno i P fel aelod o’r hen gynllun, yn—

(a)adran 93(1)(a)(15) (cwmpas Pennod 4),

(b)adran 97(3)(a) (cyfrifo cyfwerthoedd ariannol), ac

(c)adran 98(1A) a (3)(16) (amrywio a cholli hawliau o dan adran 94),

mae cyfeiriad at derfynu gwasanaeth pensiynadwy P i’w ystyried yn gyfeiriad at derfynu gwasanaeth pensiynadwy P mewn perthynas â’r cynllun newydd.

Rheoliadau gwerthoedd trosglwyddo

12.—(1Mae Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gwerthoedd Trosglwyddo) 1996(17) wedi eu haddasu fel a ganlyn.

(2Wrth gymhwyso rheoliad 3 o’r Rheoliadau hynny (rheolau ar barhad cyflogaeth ar ôl terfynu gwasanaeth pensiynadwy) i P fel aelod o’r hen gynllun—

(a)ym mharagraff (1), mae cyfeiriad at gyflogaeth y mae cynllun yn gymwys iddi i’w ystyried yn gyfeiriad at gyflogaeth y mae’r cynllun newydd yn gymwys iddi;

(b)ym mharagraff (1)(a), mae cyfeiriad at wasanaeth pensiynadwy P yn terfynu ar gais P i’w ystyried yn gyfeiriad at wasanaeth pensiynadwy P mewn perthynas â’r cynllun newydd yn terfynu felly; ac

(c)ym mharagraff (1)(b)(i), mae cyfeiriad at wasanaeth pensiynadwy P yn parhau tan y dyddiad gwarant i’w ystyried yn gyfeiriad at wasanaeth pensiynadwy P mewn perthynas â’r cynllun newydd yn parhau felly.

Wrth gymhwyso rheoliad 4 o’r Rheoliadau hynny (hawl i gael cyfwerth ariannol ychwanegol pan derfynir cyflogaeth y mae’r cynllun yn gymwys iddi) i P fel aelod o’r hen gynllun, ym mharagraffau (1), (2), (3)(a) a (4), mae cyfeiriad at derfynu cyflogaeth P i’w ystyried yn gyfeiriad at derfynu cyflogaeth P y mae’r cynllun newydd yn gymwys iddi.

RHAN 4Addasu’r gyfundrefn drethu

Tâl lwfans oes

13.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (P)—

(a)sy’n aelod o’r hen gynllun, pa un ai yn rhinwedd gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer y cynllun hwnnw neu wasanaeth cynllun trosglwyddo tybiedig o dan baragraff 2 o Atodlen 7 i Ddeddf 2013 (cyswllt cyflog terfynol);

(b)sy’n aelod o’r cynllun newydd yn rhinwedd gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer y cynllun newydd;

(c)y telir iddo bensiwn afiechyd haen uchaf neu haen isaf o dan reoliad 74 (hawlogaeth i bensiwn afiechyd haen isaf a phensiwn afiechyd haen uchaf) o Reoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015; a

(d)sydd â phensiwn afiechyd a delir o’r cynllun newydd, sydd wedi ei leihau o ganlyniad i P gael yr hawl i daliad o bensiwn cynllun (o fewn ystyr paragraff 2 o Atodlen 28 i Ddeddf Cyllid 2004(18)) o dan yr hen gynllun.

(2Mae adran 216 o Ddeddf Cyllid 2004(19) (digwyddiadau crisialu budd a symiau a grisielir) wedi ei haddasu o ran y modd y’i cymhwysir i P, fel y pennir ym mharagraff (3).

(3Mae taliad o unrhyw bensiwn cynllun i P o’r hen gynllun i’w drin fel pe na bai’n ddigwyddiad crisialu budd o fewn ystyr adran 216 o Ddeddf Cyllid 2004.

Tâl lwfans blynyddol

14.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (P)—

(a)sy’n aelod o’r hen gynllun, pa un ai yn rhinwedd gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer y cynllun hwnnw neu wasanaeth cynllun trosglwyddo tybiedig o dan baragraff 2 o Atodlen 7 i Ddeddf 2013 (cyswllt cyflog terfynol);

(b)sy’n aelod o’r cynllun newydd yn rhinwedd gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer y cynllun newydd; ac

(c)sy’n cael yr hawl i daliad o bensiwn afiechyd haen isaf o dan reoliad 74 o Reoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015.

(2Mae adran 234 o Ddeddf Cyllid 2004(20) (trefniadau buddion diffiniedig) wedi ei haddasu o ran y modd y’i cymhwysir i P fel a bennir ym mharagraff (3).

(3Wrth gyfrifo gwerth terfynol hawliau P o dan y cynllun newydd ar gyfer y cyfnod mewnbwn pensiwn pan gaiff P yr hawl i daliad o’r pensiwn afiechyd haen isaf, rhaid peidio â chyfrif fel rhan o’r gwerth terfynol yr elfen o’r pensiwn afiechyd haen isaf sy’n cynrychioli gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer yr hen gynllun.

RHAN 5Addasu darpariaethau budd gwasanaeth byr

Budd gwasanaeth byr

15.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (P)—

(a)sy’n aelod gohiriedig o’r cynllun newydd;

(b)sydd â hawl i gael buddion o dan y cynllun newydd; ac

(c)y mae—

(i)ei hawlogaeth i gael buddion o dan y cynllun newydd wedi ei phenderfynu gan, neu

(ii)ei fuddion o dan y cynllun newydd yn cael eu cyfrifo drwy gyfeirio at,

oedran pensiwn gohiriedig P yn hytrach nag oedran pensiwn arferol P.

(2At ddibenion y gofynion yn adrannau 71, 72, 74 a 75 o Ddeddf 1993(21) ac mewn unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Bennod 1 o Ran 4 o’r Ddeddf honno, fel y maent yn gymwys i P, anwybyddir unrhyw wahaniaeth—

(a)rhwng hawlogaeth P i gael buddion o dan y cynllun newydd a hawlogaeth unrhyw aelod actif i gael buddion o dan y cynllun newydd, neu

(b)rhwng y cyfrifiad o fuddion P o dan y cynllun newydd ac unrhyw gyfrifiad o fuddion aelod actif o dan y cynllun newydd.

Leighton Andrews

Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru

17 Mawrth 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

O dan Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013 (p. 25) (“Deddf 2013”), bydd aelodau cyfredol penodol o gynlluniau pensiwn gwasanaethau cyhoeddus yn ymuno â chynlluniau pensiwn newydd (“cynlluniau newydd”) fel aelodau actif, tra’n cadw buddion penodol yn eu cynlluniau pensiwn presennol (“hen gynlluniau”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â phensiynau gwasanaethau cyhoeddus i ddiffoddwyr tân yng Nghymru sy’n ganlyniad i ddarpariaethau penodol o Ddeddf 2013 ac i Reoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015 (y dylid darllen y Rheoliadau hyn ar y cyd â hwy).

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn addasu effaith darpariaethau sy’n ymwneud â dewisiadau i gontractio allan o’r pensiwn gwladol ychwanegol o dan Ddeddf Cynlluniau Pensiwn 1993 (p. 48) (“Deddf 1993”), ar gyfer aelodau a fydd yn ymuno â chynllun newydd, neu’n trosglwyddo i gynllun newydd yn ystod y cyfnod o 1 Ebrill 2015 i 5 Ebrill 2016 yn gynwysedig. Datgymhwysir rhai o’r gofynion gweithdrefnol penodol yn Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Contractio Allan) 1996 (O.S. 1996/1172) ynglŷn â dewisiad i gontractio allan y cynllun newydd.

Mae Rhan 3 yn addasu effaith darpariaethau eraill yn Neddf 1993 yn y modd y’u cymhwysir i bersonau penodol sy’n ymuno â’r cynllun newydd tra’n aros yn aelodau anghronnol o’r hen gynllun. Caiff yr aelodau hynny eu trin fel pe baent mewn gwasanaeth pensiynadwy sy’n parhau o dan un o’r cynlluniau yn hytrach na’r ddau. Addesir adran 15A o Ddeddf 1993 mewn perthynas â debydau pensiwn. Mae Rhan 4 o Ddeddf 1993 yn ymwneud ag aelodau o gynlluniau pensiwn galwedigaethol sy’n gadael cyn cyrraedd oedran ymddeol. Mae aelodau anghronnol o’r hen gynllun i’w trin fel pe na bai eu gwasanaeth o dan yr hen gynllun yn terfynu, ac fel pe na bai eu cyflogaeth a gontractiwyd allan yn dod i ben, wrth iddynt ymuno â’r cynllun newydd, ond yn hytrach wrth iddynt adael y cynllun newydd. Mae’r addasiadau yn gymwys at ddibenion y buddion a gedwir (Pennod 1 o Ran 4); ailbrisio buddion (Pennod 2); diogelu cynyddiadau mewn lleiafsymiau pensiwn gwarantedig (Pennod 3); a chyfwerthoedd ariannol (Penodau 4). Addesir hefyd rai darpariaethau penodedig yn Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gwerthoedd Trosglwyddo) 1996 (O.S. 1996/1847), a wnaed o dan Bennod 4 o Ran 4 o Ddeddf 1993.

Mae Rhan 4 yn addasu effaith y gyfundrefn drethu pensiynau a gynhwysir yn Neddf Cyllid 2004 (p. 12), ar y ddarpariaeth o bensiynau afiechyd yn y cynllun newydd. Mae’n darparu na fydd unrhyw elfen o bensiwn afiechyd sy’n ymwneud â gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer yr hen gynllun yn cael ei chyfrif yn erbyn lwfans treth blynyddol yr aelod, ac na chaiff unrhyw bensiwn yn yr hen gynllun a ddaw’n daladwy yn ddiweddarach i aelod sydd wedi ymddeol oherwydd afiechyd, ei gyfrif yn erbyn lwfans treth oes yr aelod.

Mae Rhan 5 yn datrys tyndra rhwng y darpariaethau budd gwasanaeth byr a gynhwysir yn Neddf 1993 a’r gofyniad yn adran 10 o Ddeddf 2013, bod oedran pensiwn aelod gohiriedig o’r cynllun newydd (sef yr oedran pensiwn gwladol) yn wahanol i oedran pensiwn aelod actif (sef 60).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(6)

O.S. 1992/129; gweler Atodlen 2. Newidiwyd enw y cynllun i Gynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) gan erthygl 4(1) o O.S. 2004/2918 (Cy. 257). Gwnaed diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(7)

O.S. 2007/1072 (Cy. 110); gweler Atodlen 1 sy’n destun diwygiadau eraill, nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(8)

Diwygiwyd adran 11 gan adran 1(1) o Ddeddf Cyfraniadau Nawdd Cymdeithasol (Trosglwyddo Swyddogaethau etc.) 1999 (p. 2) a pharagraff 37 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno, a chan adran 1(2)(a) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth (Datrys Anghydfodau) 1998 (p. 8). Fe’i diddymir yn rhagolygol gan adran 24 o Ddeddf Pensiynau 2014 (p. 19) a pharagraff 9 o Atodlen 13 i’r Ddeddf honno.

(9)

Diwygiwyd adran 9 gan adrannau 136(3) ac 151 o Ddeddf Pensiynau 1995 (p. 26) a pharagraff 21 o Atodlen 5 i’r Ddeddf honno; gan adran 1(1) o Ddeddf Cyfraniadau Nawdd Cymdeithasol (Trosglwyddo Swyddogaethau etc.) 1999 (p. 2) a pharagraff 35 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno; gan adran 283 o Ddeddf Pensiynau 2004 (p. 35); gan adrannau 14(4), 15(3) a 27(2) o Ddeddf Pensiynau 2007 (p. 22) a pharagraffau 61 i 67 o Atodlen 4 a pharagraff 1 o Ran 6 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno; a chan O.S. 2006/745. Fe’i diddymir yn rhagolygol gan adran 24 o Ddeddf Pensiynau 2014 (p. 19) a pharagraff 9 o Atodlen 13 i’r Ddeddf honno.

(10)

O.S. 1996/1172. Diwygiwyd Rhan 2 gan adran 1(2) o Ddeddf Cyfraniadau Nawdd Cymdeithasol (Trosglwyddo Swyddogaethau etc.) 1999 (p. 2) ac Atodlen 2 i’r Ddeddf honno; gan adran 1(2)(a) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth (Datrys Anghydfodau) 1998 (p. 8), a chan O.S. 1997/786, 2002/681, 2005/3377, 2009/615, 2011/1245, 2011/1246, a 2013/2734. Yn rhinwedd adran 50(1) o Ddeddf y Comisiynwyr Cyllid a Thollau 2005 (p. 11), mae cyfeiriadau at Gomisiynwyr Cyllid y Wlad i’w hystyried yn gyfeiriadau at Gomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

(11)

Mewnosodwyd adran 15A gan adran 32 o Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30).

(12)

Diwygiwyd adran 70 gan O.S. 2005/2053.

(13)

Diwygiwyd adran 83 gan adran 84(1) o Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30) a pharagraffau 28 ac 31 o Atodlen 12 i’r Ddeddf honno. Fe’i diwygiwyd ymhellach mewn perthynas â’r diffiniad o “normal pension age” gan adran 27 o Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus 2013 (p. 25) a pharagraffau 18 ac 20 o Atodlen 8 i’r Ddeddf honno.

(14)

Diwygiwyd adran 87 gan adran 15(3)(a) o Ddeddf Pensiynau 2007 (p. 22) a pharagraffau 1 ac 28 o Atodlen 4 i’r Ddeddf honno, a chan O.S. 2005/2050. Fe’i diwygiwyd yn rhagolygol gan adran 24 o Ddeddf Pensiynau 2014 (p. 19), a pharagraff 38 o Atodlen 13 i’r Ddeddf honno.

(15)

Amnewidiwyd adran 93(1)(a) gan adran 152(2) o Ddeddf Pensiynau 1995 (p. 26).

(16)

Mewnosodwyd adran 98(1A) a diwygiwyd adran 98(3) gan adran 173 o Ddeddf Pensiynau 1995 (p. 26), a pharagraff 5 o Atodlen 6 i’r Ddeddf honno.

(18)

2004 p .12. Diwygiwyd paragraff 2 gan adrannau 101 a 104 o Ddeddf Cyllid 2005 (p. 7) a pharagraff 11 o Atodlen 10 a Rhan 4 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno; gan adran 161 o Ddeddf Cyllid 2006 (p. 25) a pharagraff 20 o Atodlen 23 i’r Ddeddf honno; gan adran 70 o Ddeddf Cyllid 2007 (p. 11) a pharagraff 7 o Atodlen 20 i’r Ddeddf honno; gan adran 51 o Ddeddf Cyllid 2013 (p. 29); a chan O.S. 2007/493.

(19)

Diwygiwyd adran 216 gan adran 101 o Ddeddf Cyllid 2005 (p. 7) a pharagraffau 1 ac 31 o Atodlen 10 i’r Ddeddf honno; adran 161 o Ddeddf Cyllid 2006 (p. 25) a pharagraffau 1 a 30 o Atodlen 23 i’r Ddeddf honno; gan adran 92 o Ddeddf Cyllid 2008 (p. 9) a pharagraffau 1, 4 a 5 o Atodlen 29 i’r Ddeddf honno; a chan adran 65 o Ddeddf Cyllid 2011(p. 11) a pharagraffau 43, 62 a 73 o Atodlen 16 i’r Ddeddf honno.

(20)

Diwygiwyd adran 234 gan adran 66 o Ddeddf Cyllid 2011 (p. 11) a pharagraffau 1, 10 a 17 o Atodlen 17 i’r Ddeddf honno.

(21)

1993 p. 48. Diwygiwyd adran 71 gan adran 263(1) o Ddeddf Pensiynau 2004 (p. 35) a chan adran 27 o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013 (p. 25) a pharagraffau 18 a 19 o Atodlen 8 i’r Ddeddf honno. Diwygiwyd adran 72 gan adran 263(2) o Ddeddf Pensiynau 2004.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources