Search Legislation

Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

YR ATODLENNI

Rheoliad 124

ATODLEN 1Taliadau ar gyfer pensiwn ychwanegol

RHAN 1Dehongli

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “cyfnod o wasanaeth” (“period of service”) mewn perthynas â’r cynllun hwn, yw cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn;

ystyr “cyfnod tâl priodol” (“appropriate pay period”) yw’r cyfnod tâl a ystyrir yn briodol gan y rheolwr cynllun;

ystyr “cyfnod taliadau cyfnodol” (“periodical payment period”) yw’r cyfnod y mae taliadau cyfnodol ar gyfer pensiwn ychwanegol yn daladwy ar ei gyfer;

ystyr “y diwrnod perthnasol” (“the relevant day”) yw’r diwrnod pan fo’r rheolwr cynllun yn cael y cyfandaliad;

ystyr “y flwyddyn gynllun berthnasol” (“the relevant scheme year”) yw’r flwyddyn gynllun y mae’r diwrnod perthnasol yn digwydd ynddi;

mae i “hysbysiad o ddewisiad” (“notice of election”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 5;

ystyr “swm o bensiwn ychwanegol” (“amount of extra pension”) yw swm y pensiwn ychwanegol cronedig ar unrhyw adeg;

mae i “terfyn cyffredinol o bensiwn ychwanegol” (“overall limit of extra pension”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 2.

Ystyr “terfyn cyffredinol o bensiwn ychwanegol”

2.—(1Y terfyn cyffredinol o bensiwn ychwanegol yw—

(a)£6,500 ar gyfer unrhyw flwyddyn gynllun sy’n dod i ben cyn 1 Ebrill 2016; a

(b)ar gyfer unrhyw flwyddyn gynllun sy’n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2016—

(i)y terfyn cyffredinol o bensiwn ychwanegol a benderfynir gan y Trysorlys mewn cysylltiad â’r flwyddyn gynllun honno fel y’i cyhoeddwyd cyn dechrau’r flwyddyn gynllun honno, neu

(ii)os na wnaed penderfyniad o’r fath, y swm a gyfrifir o dan is-baragraff (2).

(2Y swm yw’r swm y byddai’r gyfradd flynyddol o bensiwn sy’n hafal i’r terfyn cyffredinol o bensiwn ychwanegol ar gyfer y flwyddyn gynllun flaenorol wedi ei gynyddu o dan DPC 1971 pe bai—

(a)y pensiwn hwnnw yn gymwys i’w gynyddu felly; a

(b)diwrnod cyntaf y flwyddyn gynllun flaenorol yn ddyddiad cychwyn ar gyfer y pensiwn hwnnw.

Cyfyngiad ar ddewisiadau

3.  Ni chaiff aelod actif arfer dewisiad pensiwn ychwanegol os byddai swm y pensiwn ychwanegol yn mynd dros ben y terfyn cyffredinol o bensiwn ychwanegol pe gwneid y dewisiad hwnnw.

Ni chaiff swm y pensiwn ychwanegol cronedig fod yn fwy na’r terfyn cyffredinol o bensiwn ychwanegol

4.—(1Ar unrhyw un adeg, ni chaiff cyfanswm y pensiwn ychwanegol cronedig yng nghyfrif pensiwn ychwanegol aelod fod yn fwy na’r terfyn cyffredinol o bensiwn ychwanegol.

(2Os gwnaed dewisiad gan yr aelod i wneud taliadau cyfnodol ar gyfer pensiwn ychwanegol, caiff y rheolwr cynllun, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelod, ddiddymu’r dewisiad hwnnw os yw’n ymddangos i’r rheolwr cynllun yr eir dros ben y terfyn cyffredinol o bensiwn ychwanegol os bydd yr aelod yn parhau i wneud y taliadau cyfnodol.

(3Os yw’r rheolwr cynllun yn diddymu’r dewisiad, bydd y taliadau cyfnodol yn peidio â bod yn daladwy o’r cyfnod tâl nesaf sy’n dechrau ar ôl y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad diddymu.

RHAN 2

PENNOD 1Arfer y dewisiad pensiwn ychwanegol

Dewisiad pensiwn ychwanegol sy’n arferadwy gan yr aelod

5.—(1Caiff aelod actif o’r cynllun hwn wneud dewisiad i wneud taliadau pensiwn ychwanegol i’r cynllun hwn er mwyn cynyddu buddion ymddeol a buddion marwolaeth yr aelod.

(2Caiff aelod wneud y dewisiad pensiwn ychwanegol drwy roi hysbysiad i’r rheolwr cynllun ym mha bynnag ffurf sy’n ofynnol gan y rheolwr cynllun.

(3Yn yr Atodlen hon, cyfeirir at yr hysbysiad a roddir yn is-baragraff (2) fel yr hysbysiad o ddewisiad.

(4Rhaid i’r hysbysiad o ddewisiad ddatgan—

(a)a yw’r taliadau pensiwn ychwanegol i gael eu gwneud drwy—

(i)taliadau cyfnodol, neu

(ii)cyfandaliad;

(b)a oes gan yr aelod gyfrif pensiwn ychwanegol ai peidio gyda chyflogwr arall; ac

(c)a yw’r aelod yn gwneud dewisiad pensiwn ychwanegol mewn cysylltiad â chyflogaeth gynllun arall, ai peidio.

(5Ni chaniateir gwneud dewisiad i dalu taliadau pensiwn ychwanegol drwy gyfandaliad oni fydd yr aelod wedi rhoi hysbysiad i’r rheolwr cynllun ddim hwyrach na 12 mis ar ôl y dyddiad y daeth y person yn gyflogedig ddiwethaf gan y cyflogwr cynllun hwnnw fel diffoddwr tân.

(6Ni chaniateir gwneud dewisiad i dalu taliadau pensiwn ychwanegol drwy daliadau cyfnodol oni wneir hynny ddwy flynedd o leiaf cyn i’r aelod gyrraedd oedran pensiwn arferol, ac ni chaniateir gwneud dewisiad o’r fath unwaith y bydd y rheolwr cynllun wedi cytuno y bydd yr aelod yn gadael y gyflogaeth gynllun gyda hawlogaeth i bensiwn neu ddyfarniad afiechyd.

PENNOD 2Taliadau cyfnodol ar gyfer pensiwn ychwanegol

Cymhwyso’r Bennod

6.  Mae’r Bennod hon yn gymwys mewn perthynas ag aelod actif o’r cynllun hwn sy’n gwneud dewisiad i wneud taliadau cyfnodol ar gyfer pensiwn ychwanegol.

Dewisiad aelod i wneud taliadau cyfnodol ar gyfer pensiwn ychwanegol

7.—(1Rhaid i’r hysbysiad o ddewisiad bennu—

(a)y cyfnod taliadau cyfnodol; a

(b)swm y taliad cyfnodol sydd i’w ddidynnu gan gyflogwr yr aelod allan o dâl pensiynadwy yr aelod ym mhob cyfnod tâl.

(2Caniateir mynegi swm y taliad cyfnodol fel—

(a)canran o dâl pensiynadwy yr aelod; neu

(b)swm sefydlog.

(3Ni chaiff swm y taliad cyfnodol fod yn llai nag unrhyw leiafswm a benderfynir gan y rheolwr cynllun.

Taliadau cyfnodol

8.—(1Caiff y taliadau cyfnodol fod yn daladwy drwy ddidynnu o dâl pensiynadwy yr aelod gan ei gyflogwr yn ystod y cyfnod taliadau cyfnodol.

(2Mae’r cyfnod taliadau cyfnodol—

(a)yn cychwyn gyda’r cyfnod tâl priodol cyntaf sy’n cychwyn ar neu ar ôl y dyddiad pan fo’r rheolwr cynllun yn cael yr hysbysiad o ddewisiad; a

(b)yn diweddu ar y cynharaf o’r canlynol—

(i)dyddiad dechrau’r cyfnod tâl priodol nesaf os yw’r aelod yn rhoi’r hysbysiad terfynu o dan baragraff 9,

(ii)dyddiad dechrau’r cyfnod tâl nesaf ar ôl y dyddiad a bennir mewn hysbysiad diddymu a roddir gan y rheolwr cynllun o dan baragraff 4(2),

(iii)y dyddiad y mae’r aelod yn peidio â bod yn aelod actif, a

(iv)y dyddiad a bennwyd yn yr hysbysiad o ddewisiad.

(3Os nad yw’r aelod yn dymuno i’r taliadau cyfnodol gael eu gwneud drwy ddidynnu o’r tâl pensiynadwy, caiff y rheolwr cynllun gytuno ar ddull arall o dalu.

Terfynu taliadau cyfnodol

9.  Os yw’r aelod yn dymuno terfynu’r taliadau cyfnodol, rhaid i’r aelod roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun.

Taliadau cyfnodol yn ystod cyfnodau o dâl pensiynadwy tybiedig

10.—(1Mae’r taliadau cyfnodol yn daladwy drwy ddidynnu o dâl pensiynadwy yr aelod yn ystod y cyfnod taliadau cyfnodol, a thra bo’r aelod yn cael ei drin fel pe bai’n cael tâl pensiynadwy tybiedig, tâl gostyngedig neu ddim tâl, caiff yr aelod—

(a)atal y taliadau cyfnodol; neu

(b)parhau i wneud y taliadau cyfnodol fel pe bai’r aelod yn cael tâl pensiynadwy ar y gyfradd lawn.

(2Yn ystod unrhyw gyfnod pan fo’r aelod yn cael tâl mamolaeth statudol neu ar absenoldeb mamolaeth arferol gyda thâl, absenoldeb mabwysiadu arferol gyda thâl neu absenoldeb tadolaeth gyda thâl, caiff yr aelod—

(a)atal y taliadau cyfnodol; neu

(b)talu taliadau cyfnodol o swm a benderfynir drwy gyfeirio at dâl gwirioneddol yr aelod yn ystod y cyfnod hwnnw.

(3Os yw aelod yn atal y taliadau cyfnodol yn ystod cyfnod o dâl pensiynadwy tybiedig neu gyfnod o dâl gostyngedig, caiff yr aelod ddewis ailddechrau gwneud taliadau cyfnodol yn y cyfnod tâl nesaf, wedi i’r cyfnod o dâl pensiynadwy tybiedig neu gyfnod o dâl gostyngedig ddod i ben.

(4Ar ôl cyfnod o dâl pensiynadwy tybiedig neu gyfnod o dâl gostyngedig, caiff yr aelod roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun yn awdurdodi’r cyflogwr i ddidynnu’r taliadau cyfanredol y byddid wedi eu gwneud allan o dâl yr aelod yn ystod y cyfnod hwn, yn ystod y cyfnod o chwe mis o ddiwedd y cyfnod o dâl gostyngedig, neu pa bynnag gyfnod hwy a ganiateir gan y rheolwr cynllun.

(5Rhaid rhoi hysbysiad o dan is-baragraff (4) i’r rheolwr cynllun ddim hwyrach nag un mis ar ôl diwedd y cyfnod o dâl pensiynadwy tybiedig neu dâl gostyngedig.

Swm y pensiwn ychwanegol ar gyfer blwyddyn gynllun

11.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys ar gyfer pob blwyddyn gynllun pa fo aelod yn gwneud taliadau cyfnodol er mwyn cynyddu buddion ymddeol yn ogystal â buddion marwolaeth yr aelod.

(2Rhaid credydu swm o bensiwn ychwanegol i gyfrif pensiwn ychwanegol yr aelod ar gyfer y flwyddyn gynllun honno.

(3Y swm a gredydir i’r cyfrif pensiwn ychwanegol yw’r swm a benderfynir gan y rheolwr cynllun drwy gyfeirio at ganllawiau actiwaraidd.

PENNOD 3Cyfandaliadau ar gyfer pensiwn ychwanegol

Cymhwyso’r Bennod

12.  Mae’r Bennod hon yn gymwys mewn perthynas ag aelod actif o’r cynllun a wnaeth ddewisiad i wneud cyfandaliad ar gyfer pensiwn ychwanegol.

Dewisiad aelod i wneud cyfandaliad ar gyfer pensiwn ychwanegol

13.—(1Rhaid i’r hysbysiad o ddewisiad bennu swm y cyfandaliad, ac ni chaiff fod yn llai nag unrhyw leiafswm a benderfynir gan y rheolwr cynllun.

(2Os na thelir y cyfandaliad o fewn tri mis ar ôl y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad o ddewisiad, bydd yr hysbysiad o ddewisiad yn ddi-rym.

Swm y pensiwn ychwanegol sydd i’w gredydu i gyfrif pensiwn ychwanegol

14.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw aelod yn gwneud dewisiad i dalu cyfandaliad er mwyn cynyddu buddion ymddeol a buddion marwolaeth yr aelod.

(2Ar ôl talu’r cyfandaliad gan yr aelod, rhaid credydu swm o bensiwn ychwanegol i’r cyfrif pensiwn ychwanegol ar gyfer y flwyddyn gynllun berthnasol.

(3Y swm a gredydir i’r cyfrif pensiwn ychwanegol yw’r swm a benderfynir gan y rheolwr cynllun drwy gyfeirio at ganllawiau actiwaraidd.

Rheoliad 196

ATODLEN 2Darpariaethau trosiannol

RHAN 1Cyffredinol

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “aelod a ddiogelir” (“protected member”), mewn perthynas â chynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol, yw aelod diogelwch llawn neu aelod diogelwch taprog o un o’r cynlluniau hynny;

ystyr “aelod a ddiogelir yn llawn” (“fully protected member”) o gynllun presennol neu o gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol yw person y mae eithriad yn gymwys mewn cysylltiad ag ef, sef eithriad y mae adran 18(6) o Ddeddf 2013(1) (neu’r adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 31(4) o’r Ddeddf honno) yn gymwys iddo at ddibenion y cynllun hwnnw;

mae i “aelod actif o Gynllun 1992 neu o CPNDT” (“active member of the 1992 Scheme or the NFPS”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 5;

mae i “aelod actif o gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol” (“active member of an existing public body pension scheme”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 7;

mae i “aelod actif o gynllun presennol” (“active member of an existing scheme”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 6;

mae i “aelod diogelwch llawn” (“full protection member”), mewn perthynas â Chynllun 1992 neu CPNDT, yr ystyr a roddir ym mharagraff 9;

mae i “aelod diogelwch taprog” (“tapered protection member”), mewn perthynas â Chynllun 1992 neu CPNDT, yr ystyr a roddir ym mharagraff 15;

ystyr “aelod trosiannol” (“transition member”) yw person—

(a)

sy’n aelod o Gynllun 1992 neu CPNDT yn rhinwedd ei wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwnnw, neu sy’n gymwys i fod yn aelod actif o CPNDT, cyn y dyddiad trosiant, a

(b)

sy’n aelod o’r cynllun hwn yn rhinwedd gwasanaeth pensiynadwy y person o dan y cynllun hwn;

mae i “cyfnod diogelwch” (“protection period”)—

(a)

yn achos aelod diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu o CPNDT, yr ystyr a roddir ym mharagraff 10, a

(b)

yn achos aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu o CPNDT, yr ystyr a roddir ym mharagraff 16;

mae i “cymwys i fod yn aelod actif o CPNDT” (“eligible to be an active member of the NFPS”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 4;

ystyr “cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol” (“existing public body pension scheme”) yw cynllun pensiwn corff cyhoeddus y mae adran 31 o Ddeddf 2013 yn gymwys iddo;

ystyr “dyddiad cau” (“closing date”)—

(a)

mewn perthynas â chynllun presennol, yw’r dyddiad y cyfeirir ato yn adran 18(4)(a) neu (b) o Ddeddf 2013, yn ôl fel y digwydd,

(b)

mewn perthynas â chynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol, yw’r dyddiad a benderfynir o dan adran 31(2) o Ddeddf 2013 gan y corff cyhoeddus sy’n gyfrifol am y cynllun hwnnw, ac

(c)

mewn perthynas ag aelod trosiannol, yw—

(i)

os yw’r aelod yn aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu o CPNDT, y dyddiad cau diogelwch taprog ar gyfer yr aelod hwnnw, neu

(ii)

os nad yw’r aelod yn aelod a ddiogelir o un o’r cynlluniau hynny, dyddiad cau’r cynllun;

mae i “dyddiad cau diogelwch taprog” (“tapered protection closing date”), mewn perthynas ag aelod diogelwch taprog o gynllun presennol, yr ystyr a roddir ym mharagraff 3;

ystyr “dyddiad cau’r cynllun” (“scheme closing date”) yw 31 Mawrth 2015;

ystyr “dyddiad trosiant” (“transition date”), mewn perthynas ag aelod trosiannol, yw—

(a)

os yw’r aelod yn aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT, y diwrnod ar ôl y dyddiad cau diogelwch taprog ar gyfer yr aelod hwnnw, a

(b)

os nad yw’r aelod yn aelod a ddiogelir o Gynllun 1992 neu CPNDT, y diwrnod ar ôl dyddiad cau’r cynllun, neu, os yw’n ddiweddarach, y diwrnod y peidiodd y person â bod yn aelod a ddiogelir o’r cynllun hwnnw;

ystyr “eithriad” (“exception”) yw—

(a)

mewn perthynas â chynllun presennol, eithriad o dan adran 18(5) o Ddeddf 2013 y darperir ar ei gyfer yn y rheoliadau cynllun ar gyfer y cynllun hwnnw,

(b)

mewn perthynas â chynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol, eithriad o dan adran 31(4) o Ddeddf 2013 y darperir ar ei gyfer gan yr awdurdod cyhoeddus sy’n gyfrifol am y cynllun hwnnw.

Ystyr “parhad gwasanaeth”

2.—(1Mae gan aelod trosiannol (T) barhad gwasanaeth rhwng gwasanaeth pensiynadwy yng Nghynllun 1992 neu CPNDT, yn ôl fel y digwydd, a gwasanaeth pensiynadwy yn y cynllun hwn, onid oes bwlch yng ngwasanaeth T o fwy na phum mlynedd sy’n—

(a)dechrau ar neu cyn dyddiad trosiant T; a

(b)yn diweddu ar y diwrnod y daw T yn aelod actif o’r cynllun hwn.

(2At ddibenion is-baragraff (1), ar ôl dyddiad cau’r cynllun, nid yw T mewn bwlch yn ei wasanaeth tra bo T mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan gynllun presennol, cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol, cynllun o dan adran 1 o Ddeddf 2013 neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus newydd.

Ystyr “dyddiad cau diogelwch taprog”

3.—(1Y dyddiad cau diogelwch taprog ar gyfer aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 yw’r dyddiad a ganfyddir drwy gymhwyso’r dyddiad perthnasol yng ngholofn 3 o’r tabl Cynllun 1992 yn Rhan 4 o’r Atodlen hon, i’r dyddiad geni y cyfeirir ato yng ngholofn 1 a cholofn 2.

(2Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), y dyddiad cau diogelwch taprog ar gyfer aelod diogelwch taprog o CPNDT yw’r dyddiad a ganfyddir drwy gymhwyso’r dyddiad perthnasol yng ngholofn 3 o’r tabl CPNDT yn Rhan 4 o’r Atodlen hon, i’r dyddiad geni y cyfeirir ato yng ngholofn 1 a cholofn 2.

(3Y dyddiad cau diogelwch taprog ar gyfer aelod diogelwch taprog o CPNDT y mae paragraff 9(5) neu 21 yn gymwys iddo yw dyddiad a benderfynir gan y rheolwr cynllun.

Ystyr “cymwys i fod yn aelod actif” o CPNDT

4.—(1At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (P) yn gymwys i fod yn aelod actif o CPNDT ar ddyddiad penodol os, ar y dyddiad hwnnw, nad yw P mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan Gynllun 1992 nac o dan CPNDT, a naill ai—

(a)bod P mewn gwasanaeth fel diffoddwr tân sy’n rhoi i P yr hawl i fod yn gymwys i fod yn aelod actif o CPNDT; neu

(b)bod P mewn bwlch o ddim mwy na phum mlynedd yn ei wasanaeth pensiynadwy.

(2At ddibenion is-baragraff (1)(b), ar ôl dyddiad cau’r cynllun, nid yw P mewn bwlch mewn gwasanaeth tra bo P mewn gwasanaeth cyhoeddus pensiynadwy.

Ystyr “aelod actif o Gynllun 1992 neu CPNDT”

5.—(1At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (P) yn aelod actif o Gynllun 1992 neu CPNDT ar ddyddiad penodol os yw P, ar y dyddiad hwnnw—

(a)mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan Gynllun 1992 neu CPNDT; neu

(b)mewn bwlch o ddim mwy na phum mlynedd yn ei wasanaeth.

(2At ddibenion is-baragraff (1)(b), ar ôl dyddiad cau’r cynllun, nid yw P mewn bwlch mewn gwasanaeth tra bo P mewn gwasanaeth cyhoeddus pensiynadwy.

Ystyr “aelod actif o gynllun presennol”

6.—(1At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (P) yn aelod actif o gynllun presennol(2) (ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT) ar ddyddiad penodol os yw P, ar y dyddiad hwnnw—

(a)mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwnnw; neu

(b)mewn bwlch o ddim mwy na phum mlynedd yn ei wasanaeth.

(2At ddibenion is-baragraff (1)(b), ar ôl y dyddiad cau ar gyfer y cynllun presennol nid yw P mewn bwlch mewn gwasanaeth tra bo P mewn gwasanaeth cyhoeddus pensiynadwy.

Ystyr “aelod actif o gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol”

7.—(1At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (P) yn aelod actif o gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol ar ddyddiad penodol os yw P, ar y dyddiad hwnnw—

(a)mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwnnw; neu

(b)mewn bwlch yn ei wasanaeth nad yw’n hwy na phum mlynedd.

(2At ddibenion is-baragraff (1)(b), ar ôl y dyddiad cau ar gyfer y cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol nid yw P mewn bwlch yn ei wasanaeth tra bo P mewn gwasanaeth cyhoeddus pensiynadwy.

Cychwyn aelodaeth actif o’r cynllun hwn

8.—(1Mae person sy’n aelod trosiannol pan fo’n dechrau mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn ac nad oes ganddo barhad gwasanaeth, yn dod yn aelod actif o’r cynllun hwn ar y diwrnod y mae’r person hwnnw’n dechrau mewn gwasanaeth pensiynadwy mewn cyflogaeth gynllun.

(2Mae person sy’n aelod trosiannol pan fo’n dechrau mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn, a chanddo barhad gwasanaeth (T), yn dod yn aelod actif o’r cynllun hwn—

(a)os yw T mewn gwasanaeth pensiynadwy mewn cyflogaeth gynllun ar y dyddiad trosiant, ar y dyddiad hwnnw; neu

(b)os nad yw T mewn gwasanaeth pensiynadwy mewn cyflogaeth gynllun ar y dyddiad trosiant, ar y diwrnod y mae T yn dechrau mewn gwasanaeth pensiynadwy mewn cyflogaeth gynllun ar ôl y dyddiad hwnnw.

RHAN 2Aelodau diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu CPNDT

Aelodau diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu CPNDT

9.—(1Mae person (P) y mae unrhyw un o’r paragraffau 12 i 14 yn gymwys yn aelod diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu o CPNDT, yn ôl fel y digwydd.

(2Mae P yn peidio â bod yn aelod diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu o CPNDT, yn ôl fel y digwydd, pan fo P yn peidio â bod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwnnw ac yn peidio â bod yn gymwys i fod yn aelod actif o CPNDT, onid yw is-baragraff (3) neu (4) yn gymwys.

(3Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)os yw P yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT o wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan gynllun presennol (ac eithrio Cynllun 1992) neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol; a

(b)os byddai P wedi bod yn aelod a ddiogelid yn llawn o’r cynllun presennol neu’r cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol hwnnw pe bai P wedi ailgychwyn mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun hwnnw ar y dyddiad y mae P yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT.

(4Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys os yw P yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT—

(a)rhywfodd ac eithrio o wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol; a

(b)ar ôl bwlch mewn gwasanaeth nad yw’n hwy na phum mlynedd.

(5Os yw P yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT mewn amgylchiadau pan fo is-baragraff (6) yn gymwys, mae P yn aelod diogelwch taprog o CPNDT pan fo P yn dychwelyd i’r gwasanaeth hwnnw.

(6Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)os yw P yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT o wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol; a

(b)os byddai P wedi bod yn aelod a ddiogelid o’r cynllun presennol neu’r cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol yn rhinwedd eithriad y mae adran 18(7)(a) a (b) o Ddeddf 2013 (neu’r adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 31(4) o’r Ddeddf honno) yn gymwys iddo, pe bai P wedi ailgychwyn mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun hwnnw ar y dyddiad y mae P yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT.

(7At ddibenion is-baragraff (4)(b), ar ôl dyddiad cau’r cynllun, nid yw P mewn bwlch mewn gwasanaeth tra bo P mewn gwasanaeth cyhoeddus pensiynadwy.

Eithriad ar gyfer aelod diogelwch llawn yn ystod y cyfnod diogelwch

10.—(1Y cyfnod diogelwch ar gyfer person (P) sy’n aelod diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu CPNDT, yn ôl fel y digwydd, yw’r cyfnod sydd—

(a)yn dechrau ar y diwrnod ar ôl dyddiad cau’r cynllun; a

(b)yn dod i ben pan fo P yn peidio â bod yn aelod diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu CPNDT (onid yw P yn aelod diogelwch taprog yn rhinwedd paragraff 9(5)).

(2Yn ystod y cyfnod diogelwch—

(a)mae P yn gymwys i fod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan CPNDT, neu os yw P yn aelod actif o Gynllun 1992, yn gymwys i fod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwnnw;

(b)nid yw adran 18(1) o Ddeddf 2013 yn gymwys mewn cysylltiad â’r gwasanaeth pensiynadwy hwnnw; ac

(c)mae buddion i’w darparu o dan Gynllun 1992 neu CPNDT, yn ôl fel y digwydd, i P neu mewn cysylltiad â P mewn perthynas â’r gwasanaeth pensiynadwy hwnnw.

Nid yw aelod diogelwch llawn yn gymwys i ymuno â’r cynllun hwn

11.  Tra bo person (P) yn aelod diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu CPNDT, nid yw P yn gymwys i fod yn aelod actif o’r cynllun hwn mewn cysylltiad â’r gyflogaeth gynllun honno.

Diogelwch llawn: aelodau o Gynllun 1992 neu CPNDT ar ddyddiad cau’r cynllun

12.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw is-baragraff neu is-baragraff (3) yn gymwys.

(2Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)os oedd P yn aelod actif o Gynllun 1992 neu’n aelod actif, neu’n gymwys i fod yn aelod actif, o CPNDT ar ddyddiad cau’r cynllun;

(b)os oedd P yn aelod actif o Gynllun 1992 neu’n aelod actif, neu’n gymwys i fod yn aelod actif, o CPNDT ar 31 Mawrth 2012; ac

(c)os yw P—

(d)(i) yn aelod actif o Gynllun 1992 ac y byddai P, oni fydd farw, yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan Gynllun 1992(3), ar neu cyn 1 Ebrill 2022; neu

(e)(ii) yn aelod actif, neu’n gymwys i fod yn aelod actif o CPNDT, ac y byddai P, oni fydd farw, yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan CPNDT(4), ar neu cyn 1 Ebrill 2022.

(3Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol (ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT) neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol (“cynllun trosiannol P”) ar 31 Mawrth 2012;

(b)os oedd P yn aelod actif, neu’n gymwys i fod yn aelod actif o CPNDT ar ddyddiad cau’r cynllun; ac

(c)oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan CPNDT a chynllun trosiannol P ar neu cyn 1 Ebrill 2022.

Diogelwch llawn: aelodau o gynllun presennol

13.  Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol (ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT) neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol ar y dyddiad cau ar gyfer y cynllun hwnnw;

(b)os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol (“cynllun trosiannol P”) ar 31 Mawrth 2012;

(c)os yw P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT, ddim mwy na phum mlynedd ar ôl gadael gwasanaeth pensiynadwy o dan gynllun presennol ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT;

(d)os byddai P, ar y dyddiad y mae P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT, wedi bod yn aelod a ddiogelid yn llawn o’r cynllun presennol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) pe bai P wedi ailddechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun hwnnw ar y dyddiad hwnnw; ac

(e)oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan CPNDT a chynllun trosiannol P ar neu cyn 1 Ebrill 2022.

Diogelwch llawn: aelodau o gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol

14.  Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol (ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT) neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol ar y dyddiad cau ar gyfer y cynllun hwnnw;

(b)os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol (“cynllun trosiannol P”) ar 31 Mawrth 2012;

(c)os yw P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT, ddim mwy na phum mlynedd ar ôl gadael gwasanaeth pensiynadwy o dan gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol;

(d)os byddai P, ar y dyddiad y mae P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT, wedi bod yn aelod a ddiogelid yn llawn o’r cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) pe bai P wedi ailddechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun hwnnw ar y dyddiad hwnnw; ac

(e)oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan CPNDT a chynllun trosiannol P ar neu cyn 1 Ebrill 2022.

RHAN 2Eithriadau i adran 18(1) o Ddeddf 2013: aelodau diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT

Aelodau diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT

15.—(1Mae person (P) y mae unrhyw un o’r paragraffau 18 i 21 yn gymwys iddo yn aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT.

(2Mae P yn peidio â bod yn aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT ar ba un bynnag o’r diwrnodau canlynol sy’n digwydd gyntaf—

(a)dyddiad cau diogelwch taprog P; neu

(b)y diwrnod y mae P yn peidio â bod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan Gynllun 1992 neu os yw’n ddiweddarach, yn peidio â bod yn gymwys i fod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan CPNDT, onid yw is-baragraff (3) neu is-baragraff (4) yn gymwys.

(3Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)os yw P, cyn dyddiad trosiant P, yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT o wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol; a

(b)os byddai P wedi bod yn aelod a ddiogelid o’r cynllun presennol neu’r cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol hwnnw pe bai P wedi ailddechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun hwnnw ar y dyddiad y mae P yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT.

(4Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys os yw P—

(a)cyn dyddiad trosiant P, yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT rywfodd ac eithrio o wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol; a

(b)yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT ar ôl bwlch mewn gwasanaeth nad yw’n hwy na phum mlynedd.

(5At ddibenion is-baragraff (4)(b), ar ôl dyddiad cau’r cynllun, nid yw P mewn bwlch mewn gwasanaeth tra bo P mewn gwasanaeth cyhoeddus pensiynadwy.

Eithriad ar gyfer aelodau diogelwch taprog yn ystod y cyfnod diogelwch

16.—(1Y cyfnod diogelwch ar gyfer aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT yw’r cyfnod sydd—

(a)yn dechrau ar y diwrnod ar ôl dyddiad cau’r cynllun; a

(b)yn dod i ben pan fo P yn peidio â bod yn aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT.

(2Yn ystod y cyfnod diogelwch—

(a)mae P yn gymwys i fod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan CPNDT neu, os yw P yn aelod actif o Gynllun 1992, yn gymwys i fod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwnnw;

(b)nid yw adran 18(1) o Ddeddf 2013 yn gymwys mewn cysylltiad â’r gwasanaeth pensiynadwy hwnnw; ac

(c)mae buddion i’w darparu o dan Gynllun 1992 neu CPNDT, yn ôl fel y digwydd, i P neu mewn cysylltiad â P mewn perthynas â’r gwasanaeth pensiynadwy hwnnw.

Nid yw aelod diogelwch taprog yn gymwys i ymuno â’r cynllun hwn

17.  Tra bo person (P) yn aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT, nid yw P yn gymwys i fod yn aelod actif o’r cynllun hwn mewn cysylltiad â’r gyflogaeth gynllun honno.

Diogelwch taprog: aelodau o Gynllun 1992 neu CPNDT ar ddyddiad cau’r cynllun

18.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw is-baragraff neu is-baragraff (3) yn gymwys.

(2Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)os oedd P yn aelod actif o Gynllun 1992 neu’n aelod actif, neu’n gymwys i fod yn aelod actif, o CPNDT ar ddyddiad cau’r cynllun;

(b)os oedd P, ar 31 Mawrth 2012, yn aelod actif o Gynllun 1992 neu’n aelod actif, neu’n gymwys i fod yn aelod actif, o CPNDT; ac

(c)os yw P—

(d)(i) yn aelod actif o Gynllun 1992 ac oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan Gynllun 1992 yn ystod y cyfnod sy’n dechrau gyda 2 Ebrill 2022 ac yn diweddu gyda 31 Mawrth 2026; neu

(e)(ii) yn aelod actif, neu’n gymwys i fod yn aelod actif o CPNDT, ac oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan CPNDT yn ystod y cyfnod sy’n dechrau gyda 2 Ebrill 2022 ac yn diweddu gyda 31 Mawrth 2026.

(3Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol (ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT), neu o gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol, (“cynllun trosiannol P”) ar 31 Mawrth 2012;

(b)os oedd P yn aelod actif o CPNDT ar ddyddiad cau’r cynllun; ac

(c)oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol—

(i)o dan CPNDT yn ystod y cyfnod sy’n dechrau gydag 2 Ebrill 2022 ac yn diweddu gyda 31 Mawrth 2026, a

(ii)o dan gynllun trosiannol P ar neu cyn 1 Medi 2025.

Diogelwch taprog: aelodau o gynllun presennol

19.  Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol (ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT) neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol ar y dyddiad cau ar gyfer y cynllun hwnnw;

(b)os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol (“cynllun trosiannol P”) ar 31 Mawrth 2012;

(c)os yw P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT, ddim mwy na phum mlynedd ar ôl gadael gwasanaeth pensiynadwy o dan gynllun presennol ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT;

(d)os byddai P, ar y dyddiad y mae P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT, wedi bod yn aelod a ddiogelid o’r cynllun presennol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) pe bai P wedi ailddechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun hwnnw ar y dyddiad hwnnw; ac

(e)oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol—

(i)o dan CPNDT yn ystod y cyfnod sy’n dechrau gydag 2 Ebrill 2022 ac yn diweddu gyda 31 Mawrth 2026, a

(ii)o dan gynllun trosiannol P ar neu cyn 1 Medi 2025.

Diogelwch taprog: aelodau o gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol

20.  Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol (ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT) neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol ar y dyddiad cau ar gyfer y cynllun hwnnw;

(b)os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol (“cynllun trosiannol P”) ar 31 Mawrth 2012;

(c)os yw P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT, ddim mwy na phum mlynedd ar ôl gadael gwasanaeth pensiynadwy o dan gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol;

(d)os byddai P, ar y dyddiad y mae P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT, wedi bod yn aelod a ddiogelid o’r cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) pe bai P wedi ailddechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun hwnnw ar y dyddiad hwnnw; ac

(e)oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol—

(i)o dan CPNDT yn ystod y cyfnod sy’n dechrau gydag 2 Ebrill 2022 ac yn diweddu gyda 31 Mawrth 2026, a

(ii)o dan gynllun trosiannol P ar neu cyn 1 Medi 2025.

Aelodau diogelwch taprog o gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol

21.  Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)os byddai paragraff 13 neu 14 o’r Atodlen hon wedi bod yn gymwys oni bai am y ffaith na fyddai P wedi bod yn aelod a ddiogelid yn llawn o’r cynllun presennol neu’r cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol, y cyfeirir ato ym mharagraff 13(c) neu 14(c), yn ôl fel y digwydd, (“y cynllun sy’n trosglwyddo”) ar y dyddiad y mae P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT; a

(b)os byddai P wedi bod yn aelod a ddiogelid o’r cynllun sy’n trosglwyddo yn rhinwedd eithriad y mae adran 18(7)(a) a (b) o Ddeddf 2013 (neu’r adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 31(4) o’r Ddeddf honno) yn gymwys iddo, pe bai P wedi ailddechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun sy’n trosglwyddo ar y dyddiad y mae P yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT.

RHAN 3Cynllun 1992

Dyddiad geni oDyddiad geni iDyddiad y daw diogelwch i ben
02/04/196701/05/196731/03/2022
02/05/196701/06/196706/02/2022
02/06/196701/07/196714/12/2021
02/07/196701/08/196723/10/2021
02/08/196701/09/196729/08/2021
02/09/196701/10/196706/07/2021
02/10/196701/11/196715/05/2021
02/11/196701/12/196721/03/2021
02/12/196701/01/196828/01/2021
02/01/196801/02/196805/12/2020
02/02/196801/03/196811/10/2020
02/03/196801/04/196822/08/2020
02/04/196801/05/196828/06/2020
02/05/196801/06/196807/05/2020
02/06/196801/07/196814/03/2020
02/07/196801/08/196821/01/2020
02/08/196801/09/196828/11/2019
02/09/196801/10/196805/10/2019
02/10/196801/11/196813/08/2019
02/11/196801/12/196820/06/2019
02/12/196801/01/196928/04/2019
02/01/196901/02/196905/03/2019
02/02/196901/03/196910/01/2019
02/03/196901/04/196922/11/2018
02/04/196901/05/196929/09/2018
02/05/196901/06/196907/08/2018
02/06/196901/07/196914/06/2018
02/07/196901/08/196922/04/2018
02/08/196901/09/196927/02/2018
02/09/196901/10/196904/01/2018
02/10/196901/11/196912/11/2017
02/11/196901/12/196919/09/2017
02/12/196901/01/197029/07/2017
02/01/197001/02/197004/06/2017
02/02/197001/03/197011/04/2017
02/03/197001/04/197021/02/2017
02/04/197001/05/197029/12/2016
02/05/197001/06/197006/11/2016
02/06/197001/07/197013/09/2016
02/07/197001/08/197023/07/2016
02/08/197001/09/197029/05/2016
02/09/197001/10/197005/04/2016
02/10/197001/11/197013/02/2016
02/11/197001/12/197020/12/2015
02/12/197001/01/197129/10/2015
02/01/197101/02/197105/09/2015
02/02/197101/03/197112/07/2015
02/03/197101/04/197124/05/2015

CPNDT

Dyddiad geni oDyddiad geni iDyddiad y daw diogelwch i ben
02/04/196201/05/196231/03/2022
02/05/196201/06/196206/02/2022
02/06/196201/07/196214/12/2021
02/07/196201/08/196223/10/2021
02/08/196201/09/196229/08/2021
02/09/196201/10/196206/07/2021
02/10/196201/11/196215/05/2021
02/11/196201/12/196221/03/2021
02/12/196201/01/196328/01/2021
02/01/196301/02/196305/12/2020
02/02/196301/03/196311/10/2020
02/03/196301/04/196323/08/2020
02/04/196301/05/196330/06/2020
02/05/196301/06/196309/05/2020
02/06/196301/07/196315/03/2020
02/07/196301/08/196323/01/2020
02/08/196301/09/196330/11/2019
02/09/196301/10/196306/10/2019
02/10/196301/11/196315/08/2019
02/11/196301/12/196322/06/2019
02/12/196301/01/196430/04/2019
02/01/196401/02/196407/03/2019
02/02/196401/03/196412/01/2019
02/03/196401/04/196422/11/2018
02/04/196401/05/196429/09/2018
02/05/196401/06/196407/08/2018
02/06/196401/07/196414/06/2018
02/07/196401/08/196422/04/2018
02/08/196401/09/196427/02/2018
02/09/196401/10/196404/01/2018
02/10/196401/11/196412/11/2017
02/11/196401/12/196419/09/2017
02/12/196401/01/196529/07/2017
02/01/196501/02/196504/06/2017
02/02/196501/03/196511/04/2017
02/03/196501/04/196521/02/2017
02/04/196501/05/196529/12/2016
02/05/196501/06/196506/11/2016
02/06/196501/07/196513/09/2016
02/07/196501/08/196523/07/2016
02/08/196501/09/196529/05/2016
02/09/196501/10/196505/04/2016
02/10/196501/11/196513/02/2016
02/11/196501/12/196520/12/2015
02/12/196501/01/196629/10/2015
02/01/196601/02/196605/09/2015
02/02/196601/03/196612/07/2015
02/03/196601/04/196624/05/2015
(1)

Diwygiwyd adran 18(6) gan adran 52(3) o Ddeddf Pensiynau 2014 (p. 19).

(2)

Gweler adran 18(2) o Ddeddf 2013 ar gyfer ystyr “existing scheme”.

(3)

S.I. 1992/129: mae rheol A13 yn darparu mai’r oedran pensiwn arferol yw 55 ac mae rheol B1 yn galluogi diffoddwyr tân rheolaidd dros 50 oed i ymddeol unwaith y gallant gyfrif o leiaf 25 mlynedd o wasanaeth pensiynadwy. Amnewidiwyd rheol A13 fel y mae’n cael effaith yng Nghymru gan O.S. 2006/1672. Amnewidiwyd rheol B1 fel y mae’n cael effaith yng Nghymru gan O.S. 2005/566 a 2014/3242.

(4)

O.S. 2007/1072 (Cy. 110): mae rheol 3(1) o Ran 2 yn darparu mai oedran ymddeol arferol aelodau sy’n ddiffoddwyr tân yw 60.

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open the Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources