- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
126.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun, benderfynu’r gyfradd cyfraniadau cyflogwr.
(2) Rhaid i gyflogwr aelod actif o’r cynllun hwn dalu cyfraniadau i’r cynllun yn ôl cyfradd cyfraniadau cyflogwr ar enillion pensiynadwy’r aelod hwnnw.
(3) Rhaid i gyflogwr aelod actif a drinnir o dan reoliad 27 (ystyr “tâl pensiynadwy tybiedig”) fel pe bai’n cael tâl pensiynadwy tybiedig, dalu cyfraniadau yn ôl cyfradd cyfraniadau cyflogwr ar y tâl pensiynadwy tybiedig y trinnir yr aelod fel pe bai’n ei gael.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r rheolwr cynllun ynglŷn â’r gyfradd cyfraniadau cyflogwr, ac o ba ddyddiad y bydd yn cael effaith.
(5) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “cyfraniad cyflogwr” (“employer contribution”) yw’r cyfraniadau taladwy o dan baragraff (2) neu (3) o’r rheoliad hwn.
127.—(1) Pan fo aelod (U) wedi ymddeol gyda’r hawl i gael taliad ar unwaith o bensiwn afiechyd haen uchaf a phensiwn afiechyd haen isaf o dan reoliad 74(2) (hawlogaeth i bensiwn afiechyd haen isaf a phensiwn afiechyd haen uchaf), rhaid i gyflogwr U dalu cyfraniad ychwanegol afiechyd haen uchaf.
(2) Swm y cyfraniad ychwanegol afiechyd haen uchaf yw’r swm a benderfynir, ac yr hysbysir cyflogwr U ohono, gan Weinidogion Cymru.
(3) Pan fo aelod (I) wedi ymddeol gyda’r hawl i gael taliad ar unwaith o bensiwn afiechyd haen isaf ond heb unrhyw hawl i gael pensiwn afiechyd haen uchaf, rhaid i gyflogwr I dalu cyfraniad ychwanegol afiechyd haen isaf.
(4) Swm y cyfraniad ychwanegol afiechyd haen isaf yw’r swm a benderfynir, ac yr hysbysir cyflogwr I ohono, gan Weinidogion Cymru.
(5) Rhaid i’r cyflogwr dalu’r cyfraniad ychwanegol afiechyd haen uchaf neu’r cyfraniad ychwanegol afiechyd haen isaf, yn ôl fel y digwydd, mewn rhandaliadau cyfartal sy’n ddyladwy ar:
(a)y dyddiad y mae’r aelod yn ymddeol;
(b)1 Ebrill yn y flwyddyn ariannol sy’n dilyn y flwyddyn ariannol pan dalwyd y rhandaliad cyntaf; ac
(c)1 Ebrill yn y flwyddyn ariannol sy’n dilyn y flwyddyn ariannol pan dalwyd yr ail randaliad.
128.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fo’r rheolwr cynllun, o dan reoliad 77 (adolygu dyfarniad afiechyd neu daliad o bensiwn ymddeol yn gynnar), wedi ystyried hawlogaeth aelod (P) i gael dyfarniad afiechyd, a hawlogaeth P i gael naill ai pensiwn afiechyd haen uchaf neu bensiwn afiechyd haen isaf wedi dod i ben, neu hawlogaeth P i gael y ddau bensiwn wedi dod i ben, o ganlyniad i’r adolygiad hwnnw, rhaid i’r rheolwr cynllun dalu’r swm a bennir ym mharagraff (3) neu (5), yn ôl fel y digwydd, i’r cyflogwr.
(2) Pan fo’r cyflogwr wedi talu’r holl randaliadau o gyfraniadau ychwanegol afiechyd haen uchaf sy’n ofynnol gan reoliad 127 (cyfraniad ychwanegol cyflogwr: dyfarniad afiechyd), nid yw’n ofynnol bod y rheolwr cynllun yn talu i’r cyflogwr y swm a grybwyllir ym mharagraff (3).
(3) Os yw hawlogaeth P i gael pensiwn afiechyd haen uchaf yn dod i ben o ganlyniad i adolygiad o dan reoliad 77 (adolygu dyfarniad afiechyd neu daliad o bensiwn ymddeol yn gynnar) a hawlogaeth P i gael pensiwn afiechyd haen isaf yn parhau, rhaid i’r rheolwr cynllun dalu i’r cyflogwr swm sy’n hafal i’r gwahaniaeth rhwng y rhandaliadau o’r cyfraniad ychwanegol afiechyd haen uchaf sydd wedi eu talu o dan reoliad 127(1) (cyfraniad ychwanegol cyflogwr: dyfarniad afiechyd) a’r rhandaliadau o’r cyfraniad ychwanegol afiechyd haen isaf a fyddai wedi bod yn ofynnol eu talu o dan reoliad 127(3) (cyfraniad ychwanegol cyflogwr: dyfarniad afiechyd) pe bai’r pensiwn afiechyd haen isaf yn unig wedi bod yn daladwy (“y taliad tybiannol”).
(4) Rhaid i’r rheolwr cynllun benderfynu swm y taliad tybiannol sy’n daladwy o dan baragraff (3).
(5) Os yw hawlogaeth P i gael pensiwn afiechyd haen uchaf a phensiwn afiechyd haen isaf neu, yn ôl fel y digwydd, hawlogaeth P i gael pensiwn afiechyd haen isaf, yn dod i ben o ganlyniad i adolygiad o dan reoliad 77 (adolygu dyfarniad afiechyd neu daliad o bensiwn ymddeol yn gynnar) ac nad yw’r cyflogwr wedi talu’r holl randaliadau o’r cyfraniad ychwanegol afiechyd haen uchaf neu’r cyfraniad ychwanegol afiechyd haen isaf fel sy’n ofynnol gan reoliad 127 (cyfraniad ychwanegol cyflogwr: dyfarniad afiechyd), rhaid i’r rheolwr cynllun ad-dalu i’r cyflogwr unrhyw randaliadau o’r cyfraniad ychwanegol afiechyd haen uchaf neu o’r cyfraniad ychwanegol afiechyd haen isaf, yn ôl fel y digwydd, a dalwyd mewn cysylltiad â P ac ni fydd unrhyw randaliadau pellach yn ddyladwy mewn cysylltiad â P.
129.—(1) Pan fo cyflogwr wedi gwneud penderfyniad o dan reoliad 71 (ymddeoliad a ysgogir gan gyflogwr) i dalu i aelod actif nad yw wedi cyrraedd oedran pensiwn arferol bensiwn a gyfrifir yn unol â rheoliad 68 (cyfradd flynyddol pensiwn ymddeol (aelodau actif)) heb wneud y gostyngiad talu’n gynnar, rhaid i’r cyflogwr dalu’r cyfraniad ychwanegol ymddeoliad a ysgogir gan gyflogwr i’r cynllun.
(2) Cyfrifir swm y cyfraniad ychwanegol ymddeoliad a ysgogir gan gyflogwr yn unol â chanllawiau actiwaraidd, a rhaid i’r canllawiau actiwaraidd hynny roi sylw i’r gwahaniaeth rhwng y pensiwn sy’n daladwy o dan reoliad 71 (ymddeoliad a ysgogir gan gyflogwr) a’r pensiwn sy’n daladwy o dan reoliad 68 (cyfradd flynyddol pensiwn ymddeol (aelodau actif)) wedi ei ostwng yn unol â rheoliad 70(3) (gostyngiad talu’n gynnar).
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: