- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
74.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a rheoliad 80(6), mae swm y cymorth sy’n daladwy o dan reoliad 73 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd fel a ganlyn—
(a)os oes gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys neu ei bartner, ar ddyddiad ei gais, hawlogaeth—
(i)o dan Ran VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(1) i gymhorthdal incwm neu fudd-dal tai;
(ii)o dan Ran 1 o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995(2) i lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm;
(iii)o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007(3) i lwfans cyflogaeth a chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm;
(iv)i gredyd cynhwysol; neu
(v)i ostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor;
mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan reoliad 73(1) yn daladwy;
(b)pan fo’r incwm perthnasol yn llai na £16,865, mae’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 73(1) yn daladwy;
(c)pan fo’r incwm perthnasol yn £16,865, mae’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 73(1)(b) yn daladwy ynghyd â £50 yn llai na’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 73(1)(a);
(d)pan fo’r incwm perthnasol yn uwch na £16,865, ond yn llai na £25,435, mae’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 73(1)(b) yn daladwy a swm y cymorth taladwy o dan reoliad 73(1)(a) yw’r swm a benderfynir arno yn unol â pharagraff (2);
(e)pan fo’r incwm perthnasol yn £25,435, mae’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 73(1)(b) yn daladwy a swm y cymorth taladwy o dan reoliad 73(1)(a) yw £50;
(f)pan fo’r incwm perthnasol yn uwch na £25,435 ond yn llai na £26,095, mae’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 73(1)(b) yn daladwy ac nid oes unrhyw gymorth yn daladwy o dan reoliad 73(1)(a);
(g)pan fo’r incwm perthnasol yn £26,095 neu ragor ond yn llai na £28,180, nid oes unrhyw gymorth ar gael o dan reoliad 73(1)(a) a swm y cymorth taladwy o dan reoliad 73(1)(b) yw’r swm a adewir yn dilyn didynnu o’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 73(1)(b) £1 am bob £1.886 o incwm perthnasol uwchlaw £26,095;
(h)pan fo’r incwm perthnasol yn £28,180, nid oes unrhyw gymorth yn daladwy o dan reoliad 73(1)(a) ac mae swm y cymorth taladwy o dan reoliad 73(1)(b) yn £50;
(i)pan fo’r incwm perthnasol yn uwch na £28,180, nid oes unrhyw gymorth yn daladwy o dan reoliad 73(1).
(2) Pan fo paragraff (1)(d) yn berthnasol, penderfynir faint o gymorth sy’n daladwy o dan reoliad 73(1)(a) drwy ddidynnu o’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 73(1)(a) un o’r symiau canlynol—
(a)£50 a £1 ychwanegol am bob £9.26 cyflawn o incwm perthnasol uwchlaw £16,865; neu
(b)pan fo’r ffioedd gwirioneddol yn llai na £1,025, cyfanswm sy’n hafal i’r hyn a adewir wedi didynnu o’r swm a gyfrifwyd o dan is-baragraff (a) y gwahaniaeth rhwng £1,025 a’r ffioedd gwirioneddol (oni bai bod y swm yn rhif negatif ac yn yr achos hwnnw telir yr uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 73(1)(a)).
1992 p. 4; diwygiwyd Rhan VII gan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14), Atodlen 9 ac Atodlen 14; Deddf Nawdd Cymdeithasol (Anallu i Weithio) 1994, Atodlenni 1 a 2; Deddf Ceiswyr Gwaith 1995 (p. 18), Atodlen 2 ac Atodlen 3; Deddf Tai 1996 (p. 52), Atodlen 19, Rhan 6; Deddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlen 8; Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p. 15), Atodlen 6, Rhan 3; Deddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 (p. 16), Atodlen 2 ac Atodlen 3, Deddf Credydau Treth 2002 (p. 21), Atodlen 6; O.S. 2002/1937; Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, paragraffau 169 a 179; Deddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33), Atodlen 24 ac Atodlen 30; Deddf Diwygio Lles 2007 (p. 5), adrannau 30(2) a 31(1), Atodlen 3, Atodlen 5 ac Atodlen 8; Deddf Diwygio Lles 2009 (p. 24), adran 3; Deddf Diwygio Lles 2012 (p. 5), adran 69 ac Atodlen 14(1); O.S. 2008/632; O.S. 2008/787; O.S. 2009/497; O.S. 2010/793; O.S. 2014/516 ac O.S. 2014/560.
1995 p. 18; diwygiwyd Rhan I gan Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (p. 18), Atodlen 1; Deddf Nawdd Cymdeithasol 1998 (p. 14), Atodlen 7; Deddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlenni 7 ac 8; Deddf Cyfraniadau Yswiriant Gwladol 2002 (p. 19), Atodlen 1; O.S. 2006/343; Deddf Diwygio Lles 2007 (p. 5), Atodlen 3; Deddf Diwygio Lles 2009 (p. 24), adran 12; Deddf Diwygio Lles 2012 (p. 5), adrannau 44, 49 a 60 ac Atodlenni 2, 7 a 14.
2007 p. 5, a ddiwygiwyd gan Ddeddf Diwygio Lles 2012 (p. 5), adrannau 28, 51, 52, 53, 54, 57 a 60 ac Atodlenni 3 a 14 a Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), Atodlen 7.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: