Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 11CYMORTH AT GYRSIAU DYSGU O BELL LLAWNAMSER

Myfyrwyr dysgu o bell cymwys

69.—(1Mae gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael cymorth mewn cysylltiad ag ymgymryd ohono â chwrs dysgu o bell dynodedig, yn ddarostyngedig i’r Rhan hon ac yn unol â hi.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) ac (8), mae person yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig os yw Gweinidogion Cymru, wrth asesu ei gais am gymorth o dan reoliad 77, yn penderfynu bod y person hwnnw yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (8) nid yw person (“A” yn y paragraff hwn) yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys—

(a)os, yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhoddwyd i A neu os talwyd i A, mewn perthynas â’r cwrs dysgu o bell—

(i)bwrsari gofal iechyd pa un a gyfrifir swm y bwrsari hwnnw drwy gyfeirio at incwm A ai peidio;

(ii)unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007(1); neu

(iii)lwfans gofal iechyd yr Alban a gyfrifir swm y lwfans hwnnw drwy gyfeirio at incwm A ai peidio;

(b)os yw A wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

(c)os yw A wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynghylch benthyciad a wnaed gydag A pan oedd A o dan 18 oed;

(d)os yw A, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw’n addas i gael cymorth o dan y Rhan hon; neu

(e)yn ddarostyngedig i baragraff (5), os yw A yn garcharor.

(4Nid yw paragraff (3)(a) yn gymwys—

(a)os yw’r person sy’n gwneud cais am gymorth o dan y Rhan hon yn fyfyriwr anabl; a

(b)os rhoddwyd neu os talwyd i’r person mewn perthynas â’r cwrs dysgu o bell—

(i)bwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y person; neu

(ii)lwfans gofal iechyd yr Alban pa un a gyfrifir swm y lwfans hwnnw drwy gyfeirio at incwm y person ai peidio.

(5Nid yw paragraff (3)(e) yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn mynd i’r carchar i fwrw dedfryd mewn caethiwed neu’n cael ei ryddhau o’r carchar ar ôl bwrw dedfryd o’r fath.

(6At ddibenion paragraffau (3)(b) a (3)(c), ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wnaed o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.

(7Mewn achos pan fo’r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, bydd paragraff (3)(c) ddim ond yn gymwys os cafodd y cytundeb ei wneud—

(a)cyn 25 Medi 1991; a

(b)gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd ganddo guradur.

(8Yn ddarostyngedig i baragraffau (10) i (12), mae person yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw’n bodloni’r amodau ym mharagraff (9)(a), (b) neu (c).

(9Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (8) yw—

(a)bod―

(i)y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs dysgu o bell presennol yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(ii)y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y cwrs dysgu o bell presennol; a

(iii)statws y person fel myfyriwr dysgu o bell cymwys heb ei derfynu;

(b)bod—

(i)y cwrs dysgu o bell presennol yn gwrs penben;

(ii)y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y mae’r cwrs dysgu o bell presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef;

(iii)y cyfnod cymhwystra mewn perthynas â’r cwrs yn is-baragraff (b)(ii) wedi dod i ben oherwydd, yn unig, bod y myfyriwr wedi cwblhau’r cwrs; a

(iv)y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn is-baragraff (b)(ii);

(c)bod—

(i)Gweinidogion Cymru eisoes wedi penderfynu bod y person—

(aa)yn fyfyriwr cymwys mewn perthynas â chwrs dynodedig;

(bb)yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig ac eithrio’r cwrs dysgu o bell presennol; neu

(cc)yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig;

(ii)statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys, myfyriwr dysgu o bell cymwys neu fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (c)(i) wedi ei drosi neu wedi ei drosglwyddo o’r cwrs hwnnw i’r cwrs dysgu o bell presennol o ganlyniad i drosi neu drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(iii)y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (c)(i); a

(iv)statws y person fel myfyriwr dysgu o bell cymwys heb ei derfynu.

(10Pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn ffoadur neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs dysgu o bell presennol, neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn perthynas â chwrs dynodedig, cwrs rhan amser dynodedig, neu gwrs dysgu o bell dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr cymwys, myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo i’r cwrs dysgu o bell presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, os bydd statws ffoadur A neu briod, partner sifil, rhiant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) neu lys-riant A, yn ôl fel y digwydd, wedi terfynu ac nad oes hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002(2)),

bydd statws A fel myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu’n syth cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(11Pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i’r cyfryw berson, yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs dysgu o bell presennol, neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn perthynas â chwrs dynodedig, cwrs rhan-amser dynodedig, neu gwrs dysgu o bell dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr cymwys, myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo i’r cwrs dysgu o bell presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, os bydd y cyfnod a ganiateir i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig wedi terfynu ac nad oes hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu’n syth cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(12Nid yw paragraffau (10) ac (11) yn gymwys pan fo’r myfyriwr wedi dechrau ar y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys neu’n fyfyriwr rhan-amser cymwys, yn ôl fel y digwydd, cyn 1 Medi 2007.

(13Ni chaiff myfyriwr dysgu o bell cymwys fod â’r hawl, ar unrhyw adeg, i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn—

(a)at fwy nag un cwrs dysgu o bell dynodedig;

(b)at gwrs dysgu o bell dynodedig a chwrs dynodedig;

(c)at gwrs dysgu o bell dynodedig a chwrs rhan-amser dynodedig;

(d)at gwrs dysgu o bell dynodedig a chwrs ôl- radd dynodedig.

Myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaidd

70.—(1Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)caiff myfyriwr fod â hawl i grant o ran ffioedd mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn unol â’r Rhan hon cyn belled â bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd o fewn tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a

(b)nid oes grant mewn perthynas â ffioedd ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol.

(2Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (e), (f), (g), (h), neu (i) o baragraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)caiff myfyriwr fod â hawl i grant tuag at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn unol â’r Rhan hon; a

(b)nid yw grant tuag at lyfrau, teithio a gwariant arall ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol.

(3Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (e), (f), (g), (h), neu (i) o baragraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)caiff myfyriwr fod â hawl i grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn unol â’r Rhan hon; ac

(b)nid yw grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ar gael.

(4Y digwyddiadau yw—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dysgu o bell dynodedig;

(b)bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n dod yn berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd a bod y myfyriwr yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r wladwriaeth honno;

(d)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r UE;

(e)bod y wladwriaeth y mae’r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd pan fo’r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(f)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;

(g)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1;

(h)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd; neu

(i)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd.

Cyrsiau dysgu o bell dynodedig

71.—(1Mae cwrs yn ddynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 69 os dynodir ef gan Weinidogion Cymru dan y rheoliad hwn.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cwrs dan y rheoliad hwn os yn eu barn hwy—

(a)bod y cwrs yn cael ei restru yn Atodlen 2 ac eithrio cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;

(b)bod y cwrs yn gwrs llawnamser;

(c)bod y cwrs yn parhau am o leiaf un flwyddyn academaidd;

(d)nad yw’n ofynnol gan y sefydliad sy’n darparu’r cwrs bod myfyrwyr sy’n ymgymryd â’r cwrs yn y Deyrnas Unedig yn bresennol ar y cwrs; ac

(e)yn ddarostyngedig i baragraff (5), dechreuodd y cwrs cyn 1 Medi 2012.

(3At ddibenion penderfynu a yw’r gofyniad ym mharagraff (2)(d) yn cael ei fodloni, caiff Gweinidogion Cymru ddiystyru—

(a)unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad sy’n darparu’r cwrs i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad at ddibenion—

(i)cofrestru neu ymrestru;

(ii)arholiad;

(b)unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad sy’n darparu’r cwrs i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad ar benwythnos neu yn ystod unrhyw wyliau;

(c)unrhyw gyfnod mynychu yn y sefydliad sy’n darparu’r cwrs y caiff y myfyriwr ei gyflawni ond nad yw’n orfodol iddo wneud hynny gan y sefydliad hwnnw.

(4Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddynodi cwrs fel cwrs dysgu o bell dynodedig—

(a)os yw’n dod o fewn paragraff 7 neu 8 o Atodlen 2; a

(b)os yw corff llywodraethol ysgol a gynhelir wedi trefnu darparu’r cwrs ar gyfer disgybl yr ysgol.

(5Mae cwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012 yn gwrs dysgu o bell dynodedig—

(a)os yw myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs hwnnw yn unol â rheoliad 80 o gwrs dysgu o bell dynodedig blaenorol a ddechreuodd cyn 1 Medi 2012; neu

(b)os yw’r cwrs hwnnw’n gwrs penben yr ymgymerir ag ef drwy ddysgu o bell, sy’n dilyn ymlaen o gwrs dysgu o bell dynodedig,

a ddechreuodd cyn 1 Medi 2012 a phe byddai’r cwrs hwnnw fel arall yn gwrs dynodedig at ddibenion rheoliad 5.

Cyfnod cymhwystra

72.—(1Cedwir statws myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig hyd nes y bo’r statws hwnnw’n terfynu yn unol â’r rheoliad hwn neu reoliad 69.

(2Y cyfnod y mae myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cadw’r statws y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw’r “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”).

(3Yn ddarostyngedig i’r paragraffau canlynol a rheoliad 69, mae’r cyfnod cymhwystra yn terfynu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cwblhau ei gwrs dysgu o bell dynodedig ynddi.

(4Mae’r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr dysgu o bell cymwys (“A” yn y paragraff hwn ac ym mharagraff (5))—

(a)yn tynnu’n ôl o’i gwrs dysgu o bell dynodedig dan amgylchiadau pan na fo Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu wedi trosi neu pan na fyddant yn trosglwyddo neu yn trosi statws A o dan reoliad 80, 81, 82 neu 108; neu

(b)yn cefnu ar ei gwrs dysgu o bell dynodedig neu’n cael ei ddiarddel oddi arno.

(5Caiff Gweinidogion Cymru derfynu’r cyfnod cymhwystra os yw A, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw’n addas i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn.

(6Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy’n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw rai o’r camau canlynol y credent eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—

(a)terfynu’r cyfnod cymhwystra;

(b)penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw gymorth penodol neu unrhyw swm penodol o gymorth o dan y Rheoliadau hyn;

(c)trin unrhyw gymorth a dalwyd i’r myfyriwr o dan y Rheoliadau hyn fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 85.

(7Pan fo’r cyfnod cymhwystra’n terfynu cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cwblhau’r cwrs dysgu o bell dynodedig ynddi caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu neu estyn y cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnod ag y maent yn penderfynu arno.

Cymorth at gyrsiau dysgu o bell

73.—(1At ddibenion y rheoliad hwn, y cymorth sydd ar gael yw—

(a)grant mewn perthynas â ffioedd nad yw’n fwy na’r lleiaf o’r symiau canlynol—

(i)£1,025; neu

(ii)y ffioedd gwirioneddol, sef swm y ffioedd a godir ar y myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs dysgu o bell dynodedig; a

(b)grant nad yw’n fwy na £1,155 at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn cysylltiad â’r cwrs dysgu o bell dynodedig.

(2Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i gael cymorth dan baragraff (1)(b) os yr unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y daw’r myfyriwr dysgu o bell cymwys oddi tano yw paragraff 9.

(3Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i gael cymorth dan y rheoliad hwn—

(a)os yw’n fyfyriwr anabl; a

(b)os rhoddwyd neu os talwyd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs dysgu o bell dynodedig—

(i)bwrsari gofal iechyd y cyfrifir ei swm drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr dysgu o bell cymwys; neu

(ii)lwfans gofal iechyd yr Alban pa un a gyfrifir swm y lwfans hwnnw drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr dysgu o bell cymwys ai peidio.

(4Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i gael cymorth dan y rheoliad hwn oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf.

(5Ni fydd gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl bellach i gael cymorth o dan y rheoliad hwn os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell dynodedig y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

(6Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i gael cymorth dan y rheoliad hwn os yw’r myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ymgymryd ag un neu ragor o gyrsiau dysgu o bell dros gyfnod cyfanredol o wyth o flynyddoedd academaidd ac wedi cael benthyciad neu grant o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (7) mewn perthynas â phob un o’r blynyddoedd academaidd hynny.

(7Y benthyciadau a’r grantiau yw—

(a)benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio neu wariant arall a wnaed mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell yn unol â’r rheoliadau a wnaed dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(b)benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio neu wariant arall a wnaed mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell gan Adran Gyflogaeth a Dysgu (Gogledd Iwerddon) yn unol â rheoliadau wnaed dan Erthyglau 3 ac 8(4) o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998(3); neu

(c)benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell a wnaed yn unol â rheoliadau a wnaed dan adrannau 73(f), 73B a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(4).

(8Yn ddarostyngedig i baragraff (11), nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i gael cymorth dan y rheoliad hwn os yw’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn ddeiliad gradd gyntaf gan sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig.

(9At ddibenion paragraff (8), rhaid peidio â thrin gradd fel gradd gyntaf—

(a)os yw’n radd (ac eithrio gradd anrhydedd) a ddyfarnwyd i’r myfyriwr dysgu o bell cymwys sydd wedi cwblhau’r modiwlau, arholiadau neu’r dulliau asesu gofynnol eraill ar gyfer cwrs gradd gyntaf y myfyriwr dysgu o bell cymwys; a

(b)y myfyriwr hwnnw’n ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell presennol er mwyn cael gradd anrhydedd ar ôl cwblhau’r modiwlau, arholiadau neu’r dulliau asesu gofynnol eraill (pa un a yw’r myfyriwr hwnnw yn parhau’r cwrs yn yr un sefydliad addysgol ai peidio, ar ôl dyfarnu’r radd y cyfeirir ati yn is-baragraff (a)).

(10Nid oes cymorth yn daladwy o dan y Rheoliadau hyn i fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn perthynas â’r myfyriwr hwnnw’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell nad yw’n gwrs dysgu o bell dynodedig.

(11Nid yw paragraff (8) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod yr amodau a ganlyn wedi eu bodloni mewn perthynas â myfyriwr dysgu o bell cymwys—

(a)bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi darparu’r holl wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â gradd gyntaf sydd gan y myfyriwr o sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig;

(b)bod yr wybodaeth honno yn gywir; ac

(c)bod Gweinidogion Cymru wedi darparu’n anghywir hysbysiad bod gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael cymorth o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â’r cwrs dysgu o bell presennol.

(12Pan fo paragraff (11) yn gymwys, caiff myfyriwr dysgu o bell cymwys fod â hawl i gael cymorth o dan y rheoliad hwn yn unol â pharagraffau (13) i (15).

(13Yn ddarostyngedig i baragraff (15), os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud y penderfyniad o dan baragraff (11) cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dysgu o bell presennol, yna caiff y myfyriwr dysgu o bell cymwys fod â hawl i gael cymorth o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dysgu o bell presennol.

(14Yn ddarostyngedig i baragraff (15), os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud y penderfyniad o dan baragraff (11) ar neu ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dysgu o bell presennol, yna caiff y myfyriwr dysgu o bell cymwys fod â hawl i gael cymorth o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â—

(a)blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell presennol y mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y penderfyniad ynddi; a

(b)blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell presennol y mae’r myfyriwr wedi ei chwblhau cyn i Weinidogion Cymru wneud y penderfyniad.

(15Caiff myfyriwr dysgu o bell cymwys sy’n ddarostyngedig i benderfyniad o dan baragraff (7) fod â hawl i gael cymorth o dan y rheoliad hwn ac eithrio yn unol â pharagraffau (13) a (14), pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod hyn yn briodol o ganlyniad i amgylchiadau eithriadol achos penodol.

Swm y cymorth

74.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a rheoliad 80(6), mae swm y cymorth sy’n daladwy o dan reoliad 73 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd fel a ganlyn—

(a)os oes gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys neu ei bartner, ar ddyddiad ei gais, hawlogaeth—

(i)o dan Ran VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(5) i gymhorthdal incwm neu fudd-dal tai;

(ii)o dan Ran 1 o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995(6) i lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm;

(iii)o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007(7) i lwfans cyflogaeth a chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm;

(iv)i gredyd cynhwysol; neu

(v)i ostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor;

mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan reoliad 73(1) yn daladwy;

(b)pan fo’r incwm perthnasol yn llai na £16,865, mae’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 73(1) yn daladwy;

(c)pan fo’r incwm perthnasol yn £16,865, mae’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 73(1)(b) yn daladwy ynghyd â £50 yn llai na’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 73(1)(a);

(d)pan fo’r incwm perthnasol yn uwch na £16,865, ond yn llai na £25,435, mae’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 73(1)(b) yn daladwy a swm y cymorth taladwy o dan reoliad 73(1)(a) yw’r swm a benderfynir arno yn unol â pharagraff (2);

(e)pan fo’r incwm perthnasol yn £25,435, mae’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 73(1)(b) yn daladwy a swm y cymorth taladwy o dan reoliad 73(1)(a) yw £50;

(f)pan fo’r incwm perthnasol yn uwch na £25,435 ond yn llai na £26,095, mae’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 73(1)(b) yn daladwy ac nid oes unrhyw gymorth yn daladwy o dan reoliad 73(1)(a);

(g)pan fo’r incwm perthnasol yn £26,095 neu ragor ond yn llai na £28,180, nid oes unrhyw gymorth ar gael o dan reoliad 73(1)(a) a swm y cymorth taladwy o dan reoliad 73(1)(b) yw’r swm a adewir yn dilyn didynnu o’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 73(1)(b) £1 am bob £1.886 o incwm perthnasol uwchlaw £26,095;

(h)pan fo’r incwm perthnasol yn £28,180, nid oes unrhyw gymorth yn daladwy o dan reoliad 73(1)(a) ac mae swm y cymorth taladwy o dan reoliad 73(1)(b) yn £50;

(i)pan fo’r incwm perthnasol yn uwch na £28,180, nid oes unrhyw gymorth yn daladwy o dan reoliad 73(1).

(2Pan fo paragraff (1)(d) yn berthnasol, penderfynir faint o gymorth sy’n daladwy o dan reoliad 73(1)(a) drwy ddidynnu o’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 73(1)(a) un o’r symiau canlynol—

(a)£50 a £1 ychwanegol am bob £9.26 cyflawn o incwm perthnasol uwchlaw £16,865; neu

(b)pan fo’r ffioedd gwirioneddol yn llai na £1,025, cyfanswm sy’n hafal i’r hyn a adewir wedi didynnu o’r swm a gyfrifwyd o dan is-baragraff (a) y gwahaniaeth rhwng £1,025 a’r ffioedd gwirioneddol (oni bai bod y swm yn rhif negatif ac yn yr achos hwnnw telir yr uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 73(1)(a)).

Dehongli rheoliad 74

75.—(1At ddibenion rheoliad 74 a’r rheoliad hwn—

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (b), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o’r canlynol—

(i)priod myfyriwr dysgu o bell cymwys;

(ii)partner sifil myfyriwr dysgu o bell cymwys;

(iii)person sydd fel rheol yn byw gyda myfyriwr dysgu o bell cymwys fel pe bai’n briod i’r myfyriwr dysgu o bell cymwys, pan fo’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn 25 oed neu’n hŷn ar y diwrnod cyntaf o’r flwyddyn academaidd y caiff ei asesu ar gyfer cymorth mewn perthynas â hi, a phan fo’r myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi dechrau ar y cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir cyn 1 Medi 2005;

(iv)person sydd fel rheol yn byw gyda myfyriwr dysgu o bell cymwys fel pe bai’n briod neu’n bartner sifil i’r myfyriwr dysgu o bell cymwys, pan fo’r myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi dechrau ar y cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(b)nid yw person fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (a) i’w drin fel partner os—

(i)ym marn Gweinidogion Cymru fod y person hwnnw a’r myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi gwahanu; neu

(ii)bod y person fel rheol yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac nas cynhelir gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys;

(c)mae i “incwm perthnasol” (“relevant income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (2).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae incwm perthnasol myfyriwr dysgu o bell cymwys yn hafal i’w ffynonellau ariannol yn y flwyddyn ariannol flaenorol llai—

(a)£2,000 mewn perthynas â’i bartner;

(b)£2,000 mewn perthynas â’r unig blentyn neu’r plentyn hynaf sy’n ddibynnol ar y myfyriwr dysgu o bell cymwys neu ar ei bartner; a

(c)£1,000 mewn perthynas â phob plentyn arall sy’n ddibynnol ar y myfyriwr dysgu o bell cymwys neu ar ei bartner.

(3Pan fo Gweinidogion Cymru yn fodlon bod ffynonellau ariannol y myfyriwr dysgu o bell cymwys am y flwyddyn ariannol flaenorol yn fwy na’i ffynonellau ariannol am y flwyddyn ariannol gyfredol a bod y gwahaniaeth rhwng y ddau gyfanswm yn £1,000 neu ragor, rhaid iddynt asesu ffynonellau ariannol y myfyriwr hwnnw drwy gyfeirio at y ffynonellau hynny yn y flwyddyn ariannol gyfredol.

(4Yn y rheoliad hwn ystyr ffynonellau ariannol myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn blwyddyn ariannol yw swm cyfanredol ei incwm am y flwyddyn honno ynghyd â swm cyfanredol incwm am y flwyddyn honno unrhyw berson sy’n bartner i’r myfyriwr dysgu o bell cymwys, ar y dyddiad y gwneir y cais am gymorth o dan y Rhan hon.

(5Yn y rheoliad hwn—

(a)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr gyfrifoldeb rhiant drosto;

(b)ystyr “blwyddyn ariannol gyfredol” (“current financial year”) yw’r flwyddyn ariannol sy’n cynnwys diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae person yn cael ei asesu ar gyfer cymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas â hi;

(c)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf;

(d)ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cael ei gyfrifiannu mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy’n gymwys iddo;

(e)ystyr “incwm” (“income”) yw incwm gros o bob ffynhonnell heb gynnwys—

(i)unrhyw daliad a wneir o dan adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989; a

(ii)unrhyw gredydau treth a ddyfarnwyd yn unol ag unrhyw hawliadau o dan adran 3 o Ddeddf Credydau Treth 2002(8);

(f)ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol gyfredol;

(g)ystyr “cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir” (“specified designated distance learning course”) yw’r cwrs y mae’r person yn gwneud cais am gymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas ag ef, neu, pan fo statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo i’r cwrs dysgu o bell presennol o ganlyniad i un trosglwyddiad neu fwy o’r statws hwnnw gan Weinidogion Cymru o gwrs dysgu o bell (y “cwrs cychwynnol”) (“initial course”) y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998, y cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir yw’r cwrs cychwynnol.

Grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl

76.—(1Mae gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl yn unol â’r Rhan hon i gael grant i helpu gyda’r gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod yn ofynnol i’r myfyriwr dysgu o bell cymwys ei ysgwyddo oherwydd anabledd sydd ganddo mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig.

(2Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael y grant o dan y rheoliad hwn os yr unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y daw’r myfyriwr dysgu o bell cymwys odano yw paragraff 9.

(3Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael y grant o dan y rheoliad hwn mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n flwyddyn bwrsari.

(4Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael y grant o dan y rheoliad hwn oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell dynodedig yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf.

(5Ni fydd gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl bellach i gael y grant o dan y rheoliad hwn os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell dynodedig y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

(6Yn ddarostyngedig i’r paragraffau canlynol, swm y grant o dan y rheoliad hwn yw’r swm sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru yn unol ag amgylchiadau’r myfyriwr.

(7Ni ddylai swm y grant o dan y rheoliad hwn fod yn fwy na’r canlynol—

(a)£21,181 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;

(b)£5,332 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;

(c)y gwariant ychwanegol a ysgwyddir—

(i)o fewn y Deyrnas Unedig at ddiben gallu bod yn bresennol yn y sefydliad;

(ii)o fewn neu o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o gwrs y myfyriwr dysgu o bell cymwys, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad tramor neu at ddiben bod yn bresennol yn yr Athrofa;

(d)£1,785 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant a ysgwyddwyd at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy’n fwy na’r uchafsymiau penodedig.

(8Yn ddarostyngedig i baragraffau (9) a (10), mae’r grant o dan y rheoliad hwn yn daladwy i fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.

(9Pan fo grant o dan y rheoliad hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol (o fewn ystyr paragraff (7)(b)) caiff fod yn daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd gyfan.

(10Pan fo rheoliad 70(3) yn gymwys, dim ond at y dibenion a bennir ym mharagraff (7)(a), (c) a (d) mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol yn rheoliad 70(4) ddigwydd y caiff myfyriwr dysgu o bell cymwys fod â hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn.

Ceisiadau am gymorth

77.—(1Rhaid i berson wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell dynodedig drwy gwblhau ffurflen gais ar y cyfryw ffurf ag y byddo Gweinidogion Cymru yn gofyn amdani a’i chyflwyno i Weinidogion Cymru.

(2Rhaid anfon gyda’r cais—

(a)datganiad a gwblhawyd gan yr awdurdod academaidd; a

(b)unrhyw ddogfennaeth ychwanegol a fydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru.

(3Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau yr ystyriant yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw’r ceisydd yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth o dan y Rhan hon, a swm y cymorth sy’n daladwy, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd a oes ganddo hawl i gael cymorth o dan y Rhan hon, ac os oes ganddo hawl, swm y cymorth sy’n daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6) rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o chwe mis sy’n dechrau gyda diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell dynodedig y cyflwynir y cais mewn perthynas ag ef.

(6Nid yw paragraff (5) yn gymwys—

(a)pan fo un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (4) o reoliad 70 yn digwydd ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas â hi, ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o chwe mis sy’n dechrau gyda diwrnod y digwyddiad perthnasol;

(b)pan fo’r ceisydd yn gwneud cais am y grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl, ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol; neu

(c)pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau’r achos penodol, y dylid llacio’r terfyn amser, ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir ganddynt.

Datganiadau a ddarperir gan awdurdodau academaidd

78.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i’r awdurdod academaidd, ar gais y ceisydd, gwblhau datganiad yn y cyfryw ffurf ag y byddo Gweinidogion Cymru yn gofyn amdano fynd gyda’r cais am gymorth o dan reoliad 77.

(2Nid yw’n ofynnol i awdurdod academaidd gwblhau datganiad os nad yw’n gallu rhoi’r cadarnhad sy’n ofynnol gan is-baragraff (3)(a)(ii) neu (3)(b)(ii).

(3Yn y Rhan hon, ystyr “datganiad” (“declaration”) yw—

(a)pan fo’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â’r cwrs dysgu o bell dynodedig am y tro cyntaf, datganiad—

(i)sy’n darparu gwybodaeth am y cwrs; a

(ii)sy’n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymgymryd ag o leiaf ddwy wythnos o’r cwrs dysgu o bell dynodedig;

(b)mewn unrhyw achos arall, datganiad—

(i)sy’n darparu gwybodaeth am y cwrs; a

(ii)sy’n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymrestru i ymgymryd â blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell dynodedig y mae’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwybodaeth am y cwrs” (“course information”) yw—

(a)swm y ffioedd a godir mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd y mae’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas â hi;

(b)ardystiad gan yr awdurdod academaidd ei fod yn ystyried bod y ceisydd yn ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell dynodedig yng Nghymru; ac

(c)mewn unrhyw achos pan fo’r ceisydd yn fyfyriwr anabl, ardystiad gan yr awdurdod academaidd ei fod yn ystyried bod y ceisydd wedi dewis ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell dynodedig am reswm ac eithrio’r ffaith na all y ceisydd fod yn bresennol ar gwrs dynodedig oherwydd rhesymau sy’n ymwneud ag anabledd y ceisydd.

Gwybodaeth

79.  Mae Atodlen 3 yn gymwys mewn perthynas â darparu gwybodaeth gan geisydd neu gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys.

Trosglwyddo statws

80.—(1Pan fo myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo o gwrs dysgu o bell dynodedig i gwrs dysgu o bell dynodedig arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys i’r cwrs arall hwnnw—

(a)pan dderbyniant gais i wneud hynny oddi wrth y myfyriwr dysgu o bell cymwys;

(b)pan ydynt wedi eu bodloni bod un neu fwy o’r seiliau trosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac

(c)pan nad yw’r cyfnod cymhwystra wedi ei derfynu.

(2Y seiliau trosglwyddo yw—

(a)bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig arall yn yr un sefydliad;

(b)bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig mewn sefydliad arall; neu

(c)ar ôl iddo ddechrau cwrs dysgu o bell dynodedig ar gyfer gradd gyntaf (ac eithrio gradd anrhydedd) bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys, cyn cwblhau’r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs dysgu o bell dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc neu bynciau yn yr un sefydliad.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd myfyriwr dysgu o bell cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1) yn parhau i gael, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo iddo, weddill y cymorth o dan y Rhan hon y penderfynodd Gweinidogion Cymru fod gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys hawl iddo mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’n trosglwyddo oddi arno.

(4Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sydd yn daladwy ar ôl y trosglwyddo yn unol â’r Rhan hon.

(5Ni chaiff myfyriwr cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar gymorth o dan y Rhan hon y myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo oddi arno ond cyn iddo gwblhau’r flwyddyn honno, wneud cais am grant arall o dan reoliad 73(1)(b) neu reoliad 76 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo iddo.

(6Pan fo myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (1), uchafswm y cymorth o dan reoliad 73(1)(a) mewn perthynas â’r blynyddoedd academaidd y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo iddynt ac ohonynt yw swm y cymorth sydd ar gael mewn cysylltiad â’r cwrs sydd â’r ffioedd uchaf gwirioneddol fel y’u diffinnir yn rheoliad 73.

Trosi statws – myfyrwyr cymwys yn trosglwyddo i gyrsiau dysgu o bell dynodedig

81.—(1Pan fo myfyriwr cymwys yn rhoi’r gorau i ymgymryd â chwrs dynodedig ac yn trosglwyddo i gwrs dysgu o bell dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i statws myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y mae’r myfyriwr cymwys yn trosglwyddo iddo—

(a)pan dderbyniant gais oddi wrth y myfyriwr dysgu o bell cymwys i wneud hynny; a

(b)pan nad yw’r cyfnod cymhwystra wedi terfynu.

(2Mae’r canlynol yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1)—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant at gostau byw myfyriwr anabl o dan Ran 5 i’r myfyriwr hwnnw mewn rhandaliadau rheolaidd, ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â’r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy’n dechrau ar ôl y dyddiad y daw’r myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys;

(b)mae uchafswm y grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl, y byddai gan y myfyriwr hwnnw hawl iddo, ar wahân i’r rheoliad hwn, mewn cysylltiad â’r myfyriwr hwnnw yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daw’r myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd, ac o ddau draean os daw’r myfyriwr hwnnw’n fyfyriwr dysgu o bell cymwys yn ystod chwarter diweddarach o’r flwyddyn honno;

(c)pan fo swm o grant at gostau byw myfyrwyr anabl at unrhyw ddiben wedi ei dalu i’r myfyriwr o dan Ran 5 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl sy’n daladwy iddo at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (b) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant a dalwyd iddo at y diben hwnnw yn unol â Rhan 5, ac os yw’r swm sy’n deillio o hyn yn ddim neu’n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim; a

(d)pan fo’r myfyriwr, yn union cyn dod yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys, yn gymwys i wneud cais, ond ei fod heb wneud cais am fenthyciad at gostau byw ar gyfer y flwyddyn honno, neu heb wneud cais am yr uchafswm neu’r uchafswm a gynyddwyd yr oedd â hawl iddo, caiff y myfyriwr hwnnw wneud cais am y benthyciad hwnnw neu’r swm ychwanegol hwnnw o fenthyciad fel pe bai wedi parhau yn fyfyriwr cymwys; ac o dan yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (3) gostyngir uchafswm y benthyciad hwnnw neu uchafswm cynnydd y cyfryw fenthyciad am y flwyddyn academaidd yn unol â’r paragraff hwnnw.

(3Pan fo’r cais o dan baragraff (1) yn cael ei wneud yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn academaidd y mae’r benthyciad at gostau byw yn daladwy ar ei chyfer, gostyngir uchafswm y benthyciad neu’r uchafswm a gynyddwyd o’r cyfryw fenthyciad (yn ôl fel y digwydd) o ddau draean, ac os yw’r cais yn cael ei wneud yn ystod ail chwarter y flwyddyn honno gostyngir y swm hwnnw o un traean.

Trosi statws – myfyrwyr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo i gyrsiau dynodedig

82.—(1Pan fo myfyriwr dysgu o bell cymwys yn rhoi’r gorau i ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig a’i fod yn trosglwyddo i gwrs dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys i statws myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo iddo—

(a)pan dderbyniant gais oddi wrth y myfyriwr cymwys i wneud hynny; a

(b)pan nad yw’r cyfnod cymhwystra wedi terfynu.

(2Mae’r canlynol yn gymwys i fyfyriwr dysgu o bell cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1)—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl i’r myfyriwr hwnnw mewn rhandaliadau rheolaidd ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â’r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy’n dechrau ar ôl y dyddiad y daw’r myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr cymwys;

(b)bydd unrhyw gymorth y mae gan y myfyriwr hwnnw hawl iddo o dan y Rhan hon mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd y trosglwydda’r myfyriwr hwnnw ynddi yn cael ei anwybyddu wrth benderfynu swm y cymorth y gall bod ganddo hawl iddo am y flwyddyn honno o dan Rannau 4 i 6;

(c)mae uchafswm unrhyw gymorth o dan Ran 5 neu 6 y byddai’r myfyriwr hwnnw ar wahân i’r rheoliad hwn, â hawl iddo mewn cysylltiad â chwrs dynodedig o fewn y flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean pan ddaeth y myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd honno, ac o ddau draean os daeth y myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr cymwys mewn chwarter diweddarach o’r flwyddyn honno; a

(d)pan fo swm grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl at unrhyw ddiben wedi ei dalu i’r myfyriwr hwnnw mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant at gostau byw myfyrwyr anabl sy’n daladwy iddo o dan Ran 5 at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (c) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl a dalwyd iddo at y diben hwnnw, a phan fo’r swm sy’n deillio o hyn yn ddim neu’n swm negyddol bydd y swm hwnnw yn ddim.

Talu grantiau ar gyfer ffioedd

83.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r grant mewn perthynas â ffioedd y mae hawl gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys i’w gael unwaith y byddant wedi cael gan yr awdurdod academaidd perthnasol—

(a)cais am daliad; a

(b)cadarnhad o bresenoldeb y myfyriwr dysgu o bell cymwys ar y cwrs dysgu o bell dynodedig.

(2Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau o dan baragraff (1) ar unrhyw adegau ac mewn unrhyw randaliadau (os bydd rhandaliadau) fel y gwelant yn dda.

(3Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau dros dro o dan baragraff (1) mewn unrhyw achosion y barnant sy’n briodol.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “cadarnhad o bresenoldeb y myfyriwr dysgu o bell cymwys ar y cwrs dysgu o bell dynodedig” (“confirmation of theeligible distance learning student’s attendance on the designated distance learning course”) yw cadarnhad gan yr awdurdod academaidd perthnasol fod y myfyriwr cymwys dysgu o bell—

(a)wedi ymrestru ar y cwrs dysgu o bell dynodedig ac wedi dechrau ymgymryd â’r cwrs hwnnw, pan fo’r cadarnhad yn ymwneud â thaliad y cyfan o’r grant mewn perthynas â ffioedd neu’r rhandaliad cyntaf o’r grant mewn perthynas â ffioedd; neu

(b)yn parhau wedi ymrestru ar y cwrs dysgu o bell dynodedig ac yn parhau i ymgymryd â’r cwrs hwnnw ar ddyddiad y cadarnhad, pan fo’r cadarnhad yn ymwneud â rhandaliad o’r grant mewn perthynas â ffioedd, ac eithrio’r rhandaliad cyntaf.

(5Os yw myfyriwr dysgu o bell cymwys yn rhoi’r gorau i ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig, yn ystod y flwyddyn academaidd, a’r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dychwelyd yn ystod y flwyddyn academaidd honno, rhaid i’r awdurdod academaidd hysbysu Gweinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ynghylch ymadawiad y myfyriwr dysgu o bell cymwys o’r cwrs dysgu o bell dynodedig.

Talu grantiau at lyfrau, teithio a gwariant arall a grantiau at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl

84.—(1Caiff taliadau’r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl eu gwneud mewn dull y barna Gweinidogion Cymru sydd briodol a chânt osod amod ar gyfer yr hawl i daliad bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys i roi iddynt fanylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gellir gwneud y taliadau iddo drwy drosglwyddiad electronig.

(2Pan fetha Gweinidogion Cymru â gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a roddwyd gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys, cânt wneud asesiad dros dro a gwneud taliad o’r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall ac o’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl.

(3Caiff Gweinidogion Cymru dalu’r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl mewn rhandaliadau neu mewn un cyfandaliad.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff Gweinidogion Cymru dalu’r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl ar adegau y barnant hwy yn briodol.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu’r rhandaliad cyntaf na chwaith, pan benderfynwyd peidio â thalu cymorth mewn rhandaliadau, wneud unrhyw daliad o’r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall na’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl cyn iddynt dderbyn datganiad o dan reoliad 78 oni bai bod eithriad y cyfeirir ato ym mharagraff (6) yn gymwys.

(6Mae eithriad at ddibenion paragraff (5) yn gymwys—

(a)os oes grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl yn daladwy, a’r pryd hynny gellir talu’r grant hwnnw cyn bo datganiad wedi dod i law Gweinidogion Cymru;

(b)os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu y byddai’n briodol oherwydd yr amgylchiadau eithriadol i wneud taliad heb i ddatganiad ddod i law.

Gordaliadau

85.—(1Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad grant mewn perthynas â ffioedd oddi ar yr awdurdod academaidd.

(2Os bydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru, bydd yn rhaid i fyfyriwr dysgu o bell cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd iddo o dan y Rhan hon ac sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae gan y myfyriwr hwnnw hawl iddo o dan y Rhan hon.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru adennill gordaliad grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl oni bai eu bod yn ystyried nad yw’n briodol gwneud hynny.

(4Y dulliau o adennill yw—

(a)tynnu’r gordaliad o unrhyw fath o grant sy’n daladwy i’r myfyriwr dysgu o bell cymwys o bryd i’w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(b)cymryd unrhyw gamau eraill sydd ar gael i Weinidogion Cymru er mwyn adennill gordaliad.

(5Mae taliad o grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordaliad os yw’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn rhoi’r gorau i’r cwrs cyn y dyddiad perthnasol oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu’n wahanol.

(6Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw dyddiad dechrau gwirioneddol tymor cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw.

(7O dan yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff (8) neu (9), ceir gordaliad o’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu’n wahanol.

(8Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7) yw—

(a)bod Gweinidogion Cymru yn cymhwyso’r cyfan neu ran o’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl ar gyfer prynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr dysgu o bell cymwys;

(b)bod cyfnod cymhwystra’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu ar ôl y dyddiad perthnasol; ac

(c)nad yw’r offer wedi ei ddanfon at y myfyriwr dysgu o bell cymwys cyn diwedd cyfnod cymhwystra’r myfyriwr.

(9Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7) yw—

(a)bod cyfnod cymhwystra’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu ar ôl y dyddiad perthnasol; a

(b)bod taliad grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl yn cael ei wneud ar gyfer offer arbenigol i’r myfyriwr ar derfyn y cyfnod cymhwystra.

(10Pan fo gordaliad o’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl, caiff Gweinidogion Cymru dderbyn dychweliad offer arbenigol a brynwyd â’r grant fel modd i adennill y cyfan neu ran o’r gordaliad os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.

(3)

O.S. 1998/1760 (G.I. 14), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(4)

1980 p. 44; diwygiwyd adran 73(f) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 29(1) a Deddf Addysg (Gwaddoliad Graddedigion a Chymorth i Fyfyrwyr) (Yr Alban) 2001 (dsa 6), adran 3(2). Mewnosodwyd adran 73B gan adran 29(2) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Addysg (Gwaddol Graddedigion a Chymorth Myfyrwyr) (Yr Alban) 2001, Atodlen 6 i Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1) ac adran 34(1) o Ddeddf Methdaliad a Diwydrwydd etc. (Yr Alban) 2007 (dsa 3). Diwygiwyd adran 74 gan adran 82 o Ddeddf Ysgolion Hunanlywodraethol etc. (Yr Alban) 1989 (p. 39) ac Atodlen 10 iddi. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion yr Alban yn rhinwedd adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (p. 46).

(5)

1992 p. 4; diwygiwyd Rhan VII gan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14), Atodlen 9 ac Atodlen 14; Deddf Nawdd Cymdeithasol (Anallu i Weithio) 1994, Atodlenni 1 a 2; Deddf Ceiswyr Gwaith 1995 (p. 18), Atodlen 2 ac Atodlen 3; Deddf Tai 1996 (p. 52), Atodlen 19, Rhan 6; Deddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlen 8; Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p. 15), Atodlen 6, Rhan 3; Deddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 (p. 16), Atodlen 2 ac Atodlen 3, Deddf Credydau Treth 2002 (p. 21), Atodlen 6; O.S. 2002/1937; Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, paragraffau 169 a 179; Deddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33), Atodlen 24 ac Atodlen 30; Deddf Diwygio Lles 2007 (p. 5), adrannau 30(2) a 31(1), Atodlen 3, Atodlen 5 ac Atodlen 8; Deddf Diwygio Lles 2009 (p. 24), adran 3; Deddf Diwygio Lles 2012 (p. 5), adran 69 ac Atodlen 14(1); O.S. 2008/632; O.S. 2008/787; O.S. 2009/497; O.S. 2010/793; O.S. 2014/516 ac O.S. 2014/560.

(7)

2007 p. 5, a ddiwygiwyd gan Ddeddf Diwygio Lles 2012 (p. 5), adrannau 28, 51, 52, 53, 54, 57 a 60 ac Atodlenni 3 a 14 a Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), Atodlen 7.

(8)

2002 p. 21, diwygiwyd adran 3 gan Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33), adran 254 ac Atodlen 24.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources