Search Legislation

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2015

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN ACyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2015.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 9 Mawrth 2015 ond mae’n cael effaith o 1 Ebrill 2015.

(3Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “blwyddyn ariannol berthnasol” (“relevant fiancial year”) yw’r flwyddyn ariannol y mae trethdalwr wedi cyflwyno hysbysiad mewn cysylltiad â hi yn unol ag erthygl 16;

mae i “cod cyfathrebiadau electronig” yr un ystyr ag a roddir i “electronic communications code” yn adran 106(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003(1);

mae “cyfarpar cyfathrebiadau electronig” (“electronic communications apparatus”) yn cynnwys—

(a)

cyfarpar o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 1(1) o’r cod cyfathrebiadau electronig;

(b)

strwythurau ar lun cytiau neu adeiladau eraill (gan gynnwys strwythurau nad ydynt ond yn rhan o adeilad) a ddefnyddir, neu a ddyluniwyd i’w defnyddio, ddim ond i gadw cyfarpar sy’n dod o fewn y disgrifiad ym mharagraff (a); ac

(c)

unrhyw offer atodol a gaiff ei feddiannu at ddibenion person a drwyddedir o dan adran 8 o Ddeddf Telegraffiaeth Ddiwifr 2006(2) neu berson y rhoddwyd iddo fynediad sbectrwm cydnabyddedig o dan adran 18 o’r Ddeddf honno, a dim ond ar gyfer hynny;

mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(3);

ystyr “Deddf 1988” (“the 1988 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;

mae “gwerthu nwyddau” (“sale of goods”) yn cynnwys gwerthu unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)

pryd neu luniaeth i’w fwyta neu i’w yfed yn y fangre lle y caiff ei werthu neu ei baratoi neu i ffwrdd o’r fangre honno;

(b)

diod feddwol i’w hyfed yn y fangre lle y caiff ei gwerthu neu i ffwrdd o’r fangre honno;

(c)

petrol neu danwydd arall i yrru cerbydau modur a fwriedir ar gyfer eu defnyddio ar ffyrdd neu a addaswyd i’w defnyddio ar ffyrdd;

ystyr “hereditament a eithrir” (“excepted hereditament”) yw hereditament—

(a)

a ddefnyddir ar gyfer arddangos hysbysebion, parcio cerbydau modur, gweithfeydd trin carthion neu gyfarpar cyfathrebiadau electronig, a dim ond ar gyfer hynny;

(b)

sy’n gwt glan môr neu’n swyddfa bost;

(c)

sy’n hereditament a eithrir fel y’i diffinnir yn adran 47(9) o Ddeddf 1988(4); neu

(d)

sy’n hereditament y Goron fel y diffinnir “Crown hereditament” yn adran 65A(4) o Ddeddf 1988(5);

mae “llofnod” (“signature”), “llofnodi” (“sign”) neu “llofnodwyd”, (“signed”), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynir yn unol ag erthygl 16(6) drwy gyfathrebiad electronig, yn cynnwys ymgorffori yn yr hysbysiad, neu gysylltu’n rhesymegol â’r hysbysiad, lofnod electronig, fel y’i diffinnir yn adran 7(2) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000;

ystyr “mangre fanwerthu” (“retail premises”) yw unrhyw hereditament lle y cynhelir masnach neu fusnes sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yn golygu gwerthu nwyddau;

ystyr “person wedi ei awdurdodi i lofnodi ar ran y trethdalwr” (“person authorised to sign on behalf of the ratepayer”), os yw’r trethdalwr—

(a)

yn bartneriaeth, yw partner yn y bartneriaeth honno;

(b)

yn ymddiriedolaeth, yw ymddiriedolwr yn yr ymddiriedolaeth honno;

(c)

yn gorff corfforaethol, yw cyfarwyddwr yn y corff hwnnw, ac

mewn unrhyw achos arall, yw person wedi ei awdurdodi’n briodol i lofnodi ar ran y trethdalwr; ac

ystyr “swyddfa bost” (“post office”) yw swyddfa bost gyhoeddus o fewn yr ystyr a roddir i “public post office” gan adran 125(1) o Ddeddf Gwasanaethau Post 2000(6).

Darpariaeth gyffredinol ynghylch cymhwyso’r Gorchymyn hwn

3.—(1Nid yw Rhan C o’r Gorchymyn hwn ond yn gymwys pan fo’r diwrnod y codir tâl mewn perthynas ag ef ar ddyddiad o fewn y cyfnod sy’n dechrau ag 1 Ebrill 2015 ac sy’n dod i ben ag 31 Mawrth 2016 (“y cyfnod perthnasol”).

(2Pan fo hereditament yn cydymffurfio ag—

(a)yr amodau yn erthygl 6, 7 neu 9 a hefyd (ar ddiwrnod y codir tâl mewn perthynas ag ef yn ystod y cyfnod perthnasol) yr amodau yn erthygl 12, 13 neu 14;

(b)yr amodau mewn mwy nag un o erthyglau 6, 7, 8 neu 9; neu

(c)(ar ddiwrnod y codir tâl mewn perthynas ag ef yn ystod y cyfnod perthnasol) yr amodau mewn mwy nag un o erthyglau 12, 13 neu 14,

yr erthygl sydd i fod yn gymwys yw’r erthygl sy’n cael yr effaith fod swm is yn daladwy mewn cysylltiad â’r hereditament.

Uchafswm gwerth ardrethol ar gyfer rhyddhad ardrethi

4.  At ddibenion adran 43(4B)(b)(i) o Ddeddf 1988, y swm a ragnodir ar gyfer hereditament yw £12,000.

RHAN BRhyddhad

Amodau rhyddhad

5.  Yr amodau i’w bodloni at ddibenion adran 43(4B)(b)(ii) o Ddeddf 1988 yw’r rhai a ragnodir yn erthyglau 6 i 9.

Amodau gwerth ardrethol

6.  Yr amodau gwerth ardrethol yw—

(a)nad yw gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy na £7,800;

(b)nad yw’r hereditament yn hereditament a eithrir; ac

(c)bod yr hereditament yn cael ei feddiannu’n gyfan gwbl.

Amodau gofal plant

7.  Yr amodau gofal plant yw—

(a)bod yr hereditament yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl at ddibenion gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd gan berson wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(7);

(b)nad yw’r hereditament yn hereditament a eithrir;

(c)bod yr hereditament yn cael ei feddiannu’n gyfan gwbl;

(d)bod gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy na £2,000 ond nad yw’n fwy na £12,000; ac

(e)bod y trethdalwr wedi rhoi hysbysiad i’r awdurdod bilio mewn cysylltiad â’r hereditament yn unol ag erthygl 16.

Amodau swyddfa bost

8.  Yr amodau a ragnodir gan yr erthygl hon (“yr amodau swyddfa bost”) yw—

(a)y defnyddir yr hereditament, neu ran o’r hereditament, at ddibenion swyddfa bost;

(b)nad yw gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy na £12,000;

(c)bod yr hereditament yn cael ei feddiannu’n gyfan gwbl; a

(d)bod y trethdalwr wedi rhoi hysbysiad i’r awdurdod bilio mewn cysylltiad â’r hereditament yn unol ag erthygl 16.

Amodau mangre fanwerthu

9.  Yr amodau mangre fanwerthu yw—

(a)bod yr hereditament yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion mangre fanwerthu;

(b)nad yw’r hereditament yn hereditament a eithrir;

(c)bod yr hereditament yn cael ei feddiannu’n gyfan gwbl;

(d)bod gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy na £7,800 ond nad yw’n fwy nag £11,000;

(e)bod y trethdalwr wedi rhoi hysbysiad i’r awdurdod bilio mewn cysylltiad â’r hereditament yn unol ag erthygl 16; ac

(f)nad yw’r trethdalwr wedi rhoi hysbysiad yn unol ag erthygl 16 i’r awdurdod bilio, neu i unrhyw awdurdod bilio arall yng Nghymru, mewn cysylltiad ag unrhyw hereditament arall.

Swm E

10.—(1Mae’r swm a bennir ym mharagraff (2) wedi ei ragnodi fel swm E at ddibenion adran 44(9) o Ddeddf 1988 pan fo’r amodau yn erthygl 6, 7, 8 neu 9 wedi eu bodloni.

(2Mewn perthynas â hereditament, pan fo’r amodau a ragnodir gan yr erthygl a bennir yng ngholofn (1) o’r tabl wedi eu bodloni a gwerth ardrethol yr hereditament o fewn yr ystod yn y golofn (2) gyfatebol, yna E yw’r swm a bennir yn y golofn (3) gyfatebol.

Tabl

(1)

Erthygl

(2)

Gwerth Ardrethol

(£)

(3)

Swm E

6 (Gwerth Ardrethol)0 i 2,4002
6 (Gwerth Ardrethol)2,401 i 7,8001.333333
7 (Gofal Plant)2,001 i 12,0002
8 (Swyddfa Bost)0 i 9,0001,000,000
8 (Swyddfa Bost)9,001 i 12,0002
9 (Mangre Fanwerthu)7,801 i 11,0001.333333

RHAN CRhyddhad dros dro

Amodau rhyddhad

11.  At ddibenion adran 43(4B)(b)(ii) o Ddeddf 1988, yr amodau i’w bodloni yw’r rhai a ragnodir yn erthygl 12, 13 neu 14.

Amodau gwerth ardrethol

12.  Yr amodau gwerth ardrethol yw—

(a)nad yw gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy na £12,000;

(b)nad yw’r hereditament yn hereditament a eithrir; ac

(c)bod yr hereditament yn cael ei feddiannu’n gyfan gwbl.

Amodau gofal plant

13.  Yr amodau gofal plant yw—

(a)bod yr hereditament yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl at ddibenion gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd gan berson wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;

(b)nad yw’r hereditament yn hereditament a eithrir;

(c)bod yr hereditament yn cael ei feddiannu’n gyfan gwbl;

(d)nad yw gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy na £9,000; ac

(e)bod y trethdalwr wedi rhoi hysbysiad i’r awdurdod bilio mewn cysylltiad â’r hereditament yn unol ag erthygl 16.

Amodau mangre fanwerthu

14.  Yr amodau mangre fanwerthu yw—

(a)bod yr hereditament yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion mangre fanwerthu;

(b)bod gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy na £10,499 ond nad yw’n fwy nag £11,000;

(c)bod y trethdalwr wedi rhoi hysbysiad i’r awdurdod bilio mewn cysylltiad â’r hereditament yn unol ag erthygl 16; a

(d)nad yw’r trethdalwr wedi rhoi hysbysiad yn unol ag erthygl 16 i’r awdurdod bilio, neu i unrhyw awdurdod bilio arall yng Nghymru, mewn cysylltiad ag unrhyw hereditament arall.

Swm E

15.—(1Mae’r swm a bennir ym mharagraff (2), neu a gyfrifir yn unol â’r paragraff hwnnw, wedi ei ragnodi fel swm E at ddibenion is-adran 44(9) o Ddeddf 1988 pan fo’r amodau yn erthygl 12, 13 neu 14 wedi eu bodloni.

(2Mewn perthynas â hereditament, pan fo’r amodau a ragnodir gan yr erthygl a bennir yng ngholofn (1) o’r tabl isod wedi eu bodloni a gwerth ardrethol yr hereditament o fewn yr ystod yn y golofn (2) gyfatebol, yna E yw’r swm a bennir neu a gyfrifir yn y golofn (3) gyfatebol.

Tabl

(1)

Erthygl

(2)

Gwerth Ardrethol

(£)

(3)

Swm E

0 i 6,0005,000,000
12 (Gwerth Ardrethol)6,001 i 12,000Cyfrifir yn unol â pharagraffau (3) a (4) o’r erthygl hon
13 (Gofal Plant)0 i 6,0005,000,000
13 (Gofal Plant)6,001 i 9,000Cyfrifir yn unol â pharagraffau (3) a (4) o’r erthygl hon
14 (Mangre Fanwerthu)10,500 i 11,0001.333333

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), cyfrifir swm E drwy rannu 6000 â’r ffigur a gyrhaeddir drwy dynnu 6000 o werth ardrethol yr hereditament a ddangosir yn y rhestr ardrethu annomestig leol ar gyfer y diwrnod hwnnw.

(4Cyfrifir y symiau a gyfrifir o dan baragraff (3) i dri lle degol yn unig—

(a)drwy ychwanegu un milfed pan fyddai (ar wahân i’r is-baragraff hwn) fwy na phum deng milfed; a

(b)drwy anwybyddu’r deng milfedau pan fyddai (ar wahân i’r is-baragraff hwn) bum, neu lai na phum, deng milfed.

RHAN DAmrywiol

Hysbysiad

16.—(1Rhaid i hysbysiad o dan yr erthygl hon gynnwys yr wybodaeth a’r materion eraill a bennir yn Atodlen 1 a rhaid iddo gael ei lofnodi gan y trethdalwr neu gan berson wedi ei awdurdodi i lofnodi ar ran y trethdalwr.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (5), caniateir i hysbysiad a roddir heb fod yn hwyrach na 30 Medi mewn blwyddyn ariannol gael effaith o ddyddiad nad yw’n gynharach nag 1 Ebrill yn y flwyddyn ariannol flaenorol.

(3Ni chaniateir rhoi hysbysiad yn gynharach nag 1 Hydref yn y flwyddyn ariannol sy’n dod o flaen y flwyddyn ariannol berthnasol.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mewn perthynas â’r hereditament y mae a wnelo’r hysbysiad ag ef—

(a)pan fo’r rhan o’r amodau perthnasol ynghylch gwerth ardrethol yn cael ei bodloni yn sgil newid rhestr ardrethu annomestig leol; a

(b)pan roddir hysbysiad o fewn 4 mis ar ôl y dyddiad pryd yr hysbysir yr awdurdod bilio o dan sylw am y newid yn unol â rheoliadau o dan adran 55 o Ddeddf 1988(8) (newid rhestrau),

caniateir i’r hysbysiad gael effaith o ddyddiad nad yw’n gynharach na’r dyddiad pryd y mae’r newid yn dod yn effeithiol o dan y rheoliadau hynny.

(5Ni chaniateir i unrhyw hysbysiad gael effaith am ddiwrnod sy’n gynharach nag 1 Ebrill 2015.

(6Mae hysbysiad i’w gyflwyno i’r awdurdod bilio o dan sylw drwy—

(a)ei gyfeirio at yr awdurdod; a

(b)ei ddanfon neu ei anfon i swyddfa’r awdurdod drwy’r post neu drwy gyfathrebiad electronig.

(7Mae unrhyw hysbysiad a anfonir drwy gyfathrebiad electronig i’w ystyried, oni phrofir i’r gwrthwyneb, fel pe bai wedi ei gyflwyno ar yr adeg y daw i law ar ffurf ddarllenadwy.

(8Pan fydd hysbysiad wedi ei roi mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol, caiff yr awdurdod bilio ei gwneud yn ofynnol i’r trethdalwr roi hysbysiadau pellach yn unol â’r erthygl hon mewn perthynas â’r blynyddoedd ariannol dilynol hynny y caiff yr awdurdod eu pennu o bryd i’w gilydd.

Dirymu a darpariaeth arbed

17.  Mae’r Gorchmynion a bennir yn Atodlen 2 wedi eu dirymu ond maent yn parhau i fod yn gymwys i flwyddyn ariannol sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2015 neu cyn hynny.

Edwina Hart

Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, , un o Weinidogion Cymru

11 Chwefror 2015

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources