Search Legislation

Rheoliadau Mêl (Cymru) 2015

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 1Rhagymadrodd

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mêl (Cymru) 2015.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Awst 2015 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diffiniad “mêl” a gwahanol fathau o fêl

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn ystyr “mêl” (“honey”) yw’r sylwedd melys naturiol a gynhyrchir gan wenyn Apis mellifera o neithdar planhigion neu o secretiadau rhannau byw o blanhigion neu ysgarthiadau pryfed sy’n sugno planhigion ar y rhannau byw o blanhigion, y mae’r gwenyn yn eu casglu, yn eu gweddnewid trwy eu cyfuno â’u sylweddau penodol eu hunain, eu gwaddodi, eu dadhydradu, eu storio a’u gadael mewn diliau mêl i aeddfedu.

(2Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “mêl blodau” (“blossom honey”) a “mêl neithdar” (“nectarhoney”) yw mêl a geir o neithdar planhigion;

ystyr “mêl diliau” (“comb honey”) yw mêl sy’n cael ei storio gan wenyn yng nghelloedd diliau heb chwiler sydd newydd eu hadeiladu neu haenau sylfaen diliau tenau sydd wedi eu gwneud o gŵyr gwenyn yn unig ac a werthir mewn diliau cyfan wedi eu selio neu rannau o ddiliau o’r fath;

ystyr “mêl melwlith” (“honeydew honey”) yw mêl a geir yn bennaf o ysgarthiadau pryfed sy’n sugno planhigion (Hemiptera) ar y rhannau byw o blanhigion neu secretiadau rhannau byw o blanhigion;

ystyr “mêl pobydd” (“baker’s honey”) yw mêl sy’n addas at ddibenion diwydiannol neu fel cynhwysyn mewn deunydd bwyd arall sydd wedyn yn cael ei brosesu;

ystyr “mêl talpiau” (“chunkhoney”) a “diliau wedi eu torri mewn mêl” (“cut comb in honey”) yw mêl sy’n cynnwys un neu ragor o ddarnau o fêl diliau;

ystyr “mêl wedi ei ddraenio” (“drained honey”) yw mêl a geir drwy ddraenio diliau heb chwiler a’u capanau wedi eu tynnu;

ystyr “mêl wedi ei echdynnu” (“extracted honey”) yw mêl a geir trwy allgyrchu diliau heb chwiler a’u capanau wedi eu tynnu;

ystyr “mêl wedi ei hidlo” (“filtered honey”) yw mêl a geir trwy dynnu ohono ddeunyddiau anorganig neu organig estron yn y fath fodd fel y bydd rhan helaeth o’r paill yn cael ei dynnu ohono;

ystyr “mêl wedi ei wasgu” (“pressed honey”) yw mêl a geir trwy wasgu diliau heb chwiler gan ddefnyddio neu heb ddefnyddio gwres cymedrol heb fod yn fwy na 45° Celsius.

Dehongli yn gyffredinol

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “awdurdod bwyd” (“food authority”) yw—

(a)

cyngor sir;

(b)

cyngor bwrdeistref sirol;

mae i “cynhwysyn” yr ystyr a roddir i “ingredient” yn Erthygl 2(2)(f) o FIC, fel y’i darllenir gydag Erthygl 2(5) o’r Gyfarwyddeb Mêl;

mae i “cynwysyddion swmpus” yr un ystyr â “bulkcontainers” yn Erthygl 3 o’r Gyfarwyddeb Mêl;

mae i “dogfennau masnach” yr un ystyr â “tradedocuments” yn Erthygl 3 o’r Gyfarwyddeb Mêl;

ystyr “y Ddeddf” (“theAct”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “FIC” (“FIC”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004(1);

ystyr “y Gyfarwyddeb Mêl” (“the Honey Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/110/EC ynglŷn â mêl(2);

mae i “label” yr ystyr a roddir i “label” yn Erthygl 2(2)(i) o FIC;

mae i “meini prawf ansawdd penodol” yr un ystyr â “specific quality criteria” yn nhrydydd paragraff indentiedig paragraff (b) o ail is-baragraff pwynt 2 o Erthygl 2 o’r Gyfarwyddeb Mêl;

mae i “mewn masnach” yr un ystyr ag sydd i “in trade” yn y Gyfarwyddeb Mêl ac mae’r ymadrodd “masnachu” i’w ddehongli yn unol â hynny;

mae i “pecynnau” yr un ystyr â “packs” yn Erthygl 3 o’r Gyfarwyddeb Mêl.

(2Mae i unrhyw ymadrodd arall sy’n cael ei ddefnyddio yn y Rheoliadau hyn ac y mae’r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn cael ei ddefnyddio yn y Gyfarwyddeb Mêl yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn â’r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Gyfarwyddeb honno.

Cwmpas cyfyngedig darpariaethau penodedig

4.—(1Mae’r darpariaethau a ganlyn yn gymwys o ran cynnyrch a fwriedir i’w gyflenwi i ddefnyddiwr terfynol neu arlwywr mawr yn unig—

(a)Rhan 2, ac eithrio rheoliadau 14(4) a 15(4) a (5);

(b)rheoliad 16(1) a (2);

(c)Rhan 4.

(2Dim ond pan fo’r cynhyrchion a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl a bennir yn y paragraffau hynny (y cynhyrchon yr ychwanegir mêl atynt fel cynhwysyn) wedi eu bwriadu i’w cyflenwi i ddefnyddiwr terfynol neu arlwywr mawr y mae rheoliad 16(3) a (4) yn gymwys.

(3Yn y rheoliad hwn—

mae i “arlwywr mawr” yr ystyr a roddir i “masscaterer” yn Erthygl 2(2)(d) o FIC;

mae i “defnyddiwr terfynol” yr ystyr a roddir i “final consumer” ym mhwynt 18 o Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3).

Cymhwyso gofynion ynglŷn ag enwau cynhyrchion

5.  Pan fo dwy neu ragor o’r darpariaethau yn y Rheoliadau hyn yn gymwys wrth benderfynu ar yr enw sydd i’w ddefnyddio o ran mêl penodol, rhaid i berson sy’n masnachu yn y mêl hwnnw ddefnyddio enw neu enw cyfun sy’n cydymffurfio â gofynion pob un o’r darpariaethau hynny.

RHAN 2Enwau cynhyrchion a’u disgrifiadau

Mêl

6.—(1Rhaid i berson sy’n masnachu mewn mêl, ac eithrio mêl y mae paragraff (2) yn gymwys iddo, ddefnyddio’r enw “honey” mewn masnach fel enw’r cynnyrch.

(2Mae’r paragraff hwn yn gymwys i’r canlynol—

(a)mêl pobydd;

(b)mêl diliau;

(c)mêl wedi ei ddraenio;

(d)mêl wedi ei echdynnu;

(e)mêl wedi ei hidlo;

(f)mêl melwlith;

(g)mêl sy’n cynnwys un neu ragor o ddarnau o fêl diliau (mêl talpiau a diliau wedi eu torri mewn mêl);

(h)mêl a geir o neithdar planhigion (mêl blodau a mêl neithdar); a

(i)mêl wedi ei wasgu.

(3Rhaid i berson beidio â defnyddio’r enw “honey”, “mêl”, na’r enw cyfatebol mewn unrhyw iaith arall, mewn masnach, fel enw cynnyrch os nad mêl yw’r cynnyrch.

(4Nid oes dim ym mharagraff (1) yn atal person sy’n masnachu mewn mêl y mae paragraff (2) yn gymwys iddo rhag defnyddio’r enw “mêl” yn ogystal â’r enw “honey”.

(5Nid oes dim ym mharagraffau (1) neu (4) yn atal yr enw “honey” rhag bod mewn unrhyw iaith yn ogystal ag yn Gymraeg a Saesneg.

Mêl blodau a mêl neithdar

7.—(1Rhaid i berson sy’n masnachu mewn mêl a geir o neithdar planhigion ddefnyddio’r enw “honey”, “blossom honey” neu “nectar honey” mewn masnach fel enw’r cynnyrch.

(2Rhaid i berson beidio â defnyddio’r enw “blossom honey”, “mêl blodau”, “nectar honey”, “mêl neithdar”, na’r enw cyfatebol mewn unrhyw iaith arall, mewn masnach, fel enw cynnyrch os nad mêl a geir o neithdar planhigion yw’r cynnyrch.

(3Nid oes dim ym mharagraff (1) yn atal person sy’n masnachu mewn mêl a geir o neithdar planhigion rhag defnyddio’r enw “mêl”, “mêl blodau” neu “mêl neithdar” yn ogystal â’r enwau “honey”, “blossom honey” neu “nectar honey” yn y drefn honno.

(4Nid oes dim ym mharagraffau (1) neu (3) yn atal yr enw “honey”, “blossom honey” neu “nectar honey” rhag bod mewn unrhyw iaith arall yn ogystal ag yn Gymraeg a Saesneg.

Mêl melwlith

8.—(1Rhaid i berson sy’n masnachu mewn mêl melwlith ddefnyddio’r enw “honey” neu “honeydew honey” mewn masnach fel enw’r cynnyrch.

(2Rhaid i berson beidio â defnyddio’r enw “honeydew honey”, “mêl melwlith”, na’r enw cyfatebol mewn unrhyw iaith arall, mewn masnach, fel enw cynnyrch os nad mêl melwlith yw’r cynnyrch.

(3Nid oes dim ym mharagraff (1) yn atal person sy’n masnachu mewn mêl melwlith rhag defnyddio’r enw “mêl” neu “mêl melwlith” yn ogystal â’r enw “honey” neu “honeydew honey”.

(4Nid oes dim ym mharagraffau (1) neu (3) yn atal yr enw “honey” neu “honeydew honey” rhag bod mewn unrhyw iaith arall ogystal ag yn Gymraeg a Saesneg.

Mêl diliau

9.—(1Rhaid i berson sy’n masnachu mewn mêl diliau ddefnyddio’r enw “comb honey” mewn masnach fel enw’r cynnyrch.

(2Rhaid i berson beidio â defnyddio’r enw “comb honey”, “mêl diliau”, na’r enw cyfatebol mewn unrhyw iaith arall, mewn masnach, fel enw cynnyrch os nad mêl diliau yw’r cynnyrch.

(3Nid oes dim ym mharagraff (1) yn atal person sy’n masnachu mewn mêl diliau rhag defnyddio’r enw “mêl diliau” yn ogystal â’r enw “comb honey”.

(4Nid oes dim ym mharagraffau (1) neu (3) yn atal yr enw “comb honey” rhag bod mewn unrhyw iaith arall yn ogystal ag yn Gymraeg a Saesneg.

Mêl talpiau a diliau wedi eu torri mewn mêl

10.—(1Rhaid i berson sy’n masnachu mewn mêl sy’n cynnwys un neu ragor o ddarnau o fêl diliau ddefnyddio’r enw “chunk honey” neu “cut comb in honey” mewn masnach fel enw’r cynnyrch.

(2Rhaid i berson beidio â defnyddio’r enw “chunk honey”, “mêl talpiau”, “cut comb in honey”, “diliau wedi eu torri mewn mêl”, na’r enw cyfatebol mewn unrhyw iaith arall, mewn masnach, fel enw cynnyrch os nad yw’r cynnyrch yn cynnwys un neu ragor o ddarnau o fêl diliau.

(3Nid oes dim ym mharagraff (1) yn atal person sy’n masnachu mewn mêl sy’n cynnwys un neu ragor o ddarnau o fêl diliau rhag defnyddio’r enw “mêl talpiau” neu “diliau wedi eu torri mewn mêl” yn ogystal â’r enwau “chunk honey” neu “cut comb in honey” yn y drefn honno.

(4Nid oes dim ym mharagraffau (1) neu (3) yn atal yr enw “chunk honey” neu “cut comb in honey” rhag bod mewn unrhyw iaith arall yn ogystal ag yn Gymraeg a Saesneg.

Mêl wedi ei ddraenio

11.—(1Rhaid i berson sy’n masnachu mewn mêl wedi ei ddraenio ddefnyddio’r enw “honey” neu “drained honey” mewn masnach fel enw’r cynnyrch.

(2Rhaid i berson beidio â defnyddio’r enw “drained honey”, “mêl wedi ei ddraenio”, na’r enw cyfatebol mewn unrhyw iaith arall, mewn masnach, fel enw cynnyrch os nad mêl wedi ei ddraenio yw’r cynnyrch.

(3Nid oes dim ym mharagraff (1) yn atal person sy’n masnachu mewn mêl wedi ei ddraenio rhag defnyddio’r enw “mêl” neu “mêl wedi ei ddraenio” yn ogystal â’r enw “honey” neu “drained honey”.

(4Nid oes dim ym mharagraffau (1) neu (3) yn atal yr enw “honey” neu “drained honey” rhag bod mewn unrhyw iaith arall yn ogystal ag yn Gymraeg a Saesneg.

Mêl wedi ei echdynnu

12.—(1Rhaid i berson sy’n masnachu mewn mêl wedi ei echdynnu ddefnyddio’r enw “honey” neu “extracted honey” mewn masnach fel enw’r cynnyrch.

(2Rhaid i berson beidio â defnyddio’r enw “extracted honey”, “mêl wedi ei echdynnu”, na’r enw cyfatebol mewn unrhyw iaith arall, mewn masnach, fel enw cynnyrch os nad mêl wedi ei echdynnu yw’r cynnyrch.

(3Nid oes dim ym mharagraff (1) yn atal person sy’n masnachu mewn mêl wedi ei echdynnu rhag defnyddio’r enw “mêl” neu “mêl wedi ei echdynnu” yn ogystal â’r enw “honey” neu “extracted honey”.

(4Nid oes dim ym mharagraffau (1) neu (3) yn atal yr enw “honey” neu “extracted honey” rhag bod mewn unrhyw iaith arall yn ogystal ag yn Gymraeg a Saesneg.

Mêl wedi ei wasgu

13.—(1Rhaid i berson sy’n masnachu mewn mêl wedi ei wasgu ddefnyddio’r enw “honey” neu “pressed honey” mewn masnach fel enw’r cynnyrch.

(2Rhaid i berson beidio â defnyddio’r enw “pressed honey”, “mêl wedi ei wasgu”, na’r enw cyfatebol mewn unrhyw iaith arall, mewn masnach, fel enw cynnyrch os nad mêl wedi ei wasgu yw’r cynnyrch.

(3Nid oes dim ym mharagraff (1) yn atal person sy’n masnachu mewn mêl wedi ei wasgu rhag defnyddio’r enw “mêl” neu “mêl wedi ei wasgu” yn ogystal â’r enw “honey” neu “pressed honey”.

(4Nid oes dim ym mharagraffau (1) neu (3) yn atal yr enw “honey” neu “pressed honey” rhag bod mewn unrhyw iaith arall yn ogystal ag yn Gymraeg a Saesneg.

Mêl wedi ei hidlo

14.—(1Rhaid i berson sy’n masnachu mewn mêl wedi ei hidlo ddefnyddio’r enw “filtered honey” mewn masnach fel enw’r cynnyrch.

(2Rhaid i berson beidio â defnyddio’r enw “filtered honey”, “mêl wedi ei hidlo”, na’r enw cyfatebol mewn unrhyw iaith arall, mewn masnach, fel enw cynnyrch os nad mêl wedi ei hidlo yw’r cynnyrch.

(3Rhaid i berson sy’n masnachu mewn mêl wedi ei hidlo beidio â darparu gwybodaeth am darddiad blodeuol, llysieuol, rhanbarthol, tiriogaethol neu dopograffyddol y cynnyrch na meini prawf ansawdd penodol y cynnyrch.

(4Rhaid i berson beidio â masnachu mewn mêl wedi ei hidlo mewn cynwysyddion swmpus neu becynnau oni bai bod yr enw cynnyrch “filtered honey” wedi ei ddangos yn glir—

(a)ar y cynwysyddion a’r pecynnau hynny; a

(b)ar y dogfennau masnach sy’n ymwneud â’r cynnyrch.

(5Nid oes dim ym mharagraff (1) yn atal person sy’n masnachu mewn mêl wedi ei hidlo rhag defnyddio’r enw “mêl wedi ei hidlo” yn ogystal â’r enw “filtered honey”.

(6Nid oes dim ym mharagraff (4) yn atal yr enw cynnyrch “mêl wedi ei hidlo” rhag cael ei ddangos ar y cynwysyddion swmpus a’r pecynnau ac ar y dogfennau masnach sy’n ymwneud â’r cynnyrch yn ogystal â’r enw “filtered honey”.

(7Nid oes dim ym mharagraffau (1), (4), (5) neu (6) yn atal yr enw “filtered honey” rhag bod mewn unrhyw iaith arall yn ogystal ag yn Gymraeg a Saesneg.

Mêl pobydd

15.—(1Rhaid i berson sy’n masnachu mewn mêl pobydd ddefnyddio’r enw “baker’s honey” mewn masnach fel enw’r cynnyrch.

(2Rhaid i berson beidio â defnyddio’r enw “baker’s honey”, “mêl pobydd”, na’r enw cyfatebol mewn unrhyw iaith arall, mewn masnach, fel enw cynnyrch os nad mêl pobydd yw’r cynnyrch.

(3Rhaid i berson sy’n masnachu mewn mêl pobydd beidio â darparu gwybodaeth am darddiad blodeuol, llysieuol, rhanbarthol, tiriogaethol neu dopograffyddol y cynnyrch na meini prawf ansawdd penodol y cynnyrch.

(4Rhaid i berson beidio â masnachu mewn mêl pobydd oni bai bod y geiriau “intended for cooking only” yn ymddangos ar label y cynnyrch yn agos at enw’r cynnyrch.

(5Rhaid i berson beidio â masnachu mewn mêl pobydd mewn cynwysyddion swmpus neu becynnau oni bai bod yr enw cynnyrch “baker’s honey” wedi ei ddangos yn glir—

(a)ar y cynwysyddion a’r pecynnau hynny; a

(b)ar y dogfennau masnach sy’n ymwneud â’r cynnyrch.

(6Pan ddefnyddir mêl pobydd fel cynhwysyn mewn deunydd bwyd cyfansawdd, caniateir defnyddio’r enw cynnyrch “honey”, mewn masnach, yn enw cynnyrch y deunydd bwyd cyfansawdd yn lle “baker’s honey”.

(7Pan ddefnyddir mêl pobydd fel cynhwysyn mewn deunydd bwyd cyfansawdd a bod yr enw “honey” yn cael ei ddefnyddio yn enw cynnyrch y deunydd bwyd cyfansawdd, rhaid i berson beidio â masnachu yn y deunydd bwyd hwnnw oni bai bod rhestr cynhwysion y deunydd bwyd hwnnw’n nodi’r cynhwysyn mêl hwnnw gan ddefnyddio’r enw “baker’s honey”.

(8Nid oes dim ym mharagraff (1) yn atal person sy’n masnachu mewn mêl pobydd rhag defnyddio’r enw “mêl pobydd” yn ogystal â’r enw “baker’s honey”.

(9Nid oes dim ym mharagraff (4) yn atal y geiriau “wedi ei fwriadu ar gyfer coginio yn unig” rhag ymddangos ar label y cynnyrch yn ogystal â’r geiriau “intended for cooking only”.

(10Nid oes dim ym mharagraff (5) yn atal yr enw cynnyrch “mêl pobydd” rhag cael ei ddangos ar y cynwysyddion swmpus a’r pecynnau ac ar y dogfennau masnach sy’n ymwneud â’r cynnyrch yn ogystal â’r enw “baker’s honey”.

(11Pan ddefnyddir mêl pobydd fel cynhwysyn mewn deunydd bwyd cyfansawdd, nid oes dim ym mharagraff (6) yn atal yr enw cynnyrch “mêl” rhag cael ei ddefnyddio, mewn masnach, yn enw cynnyrch y deunydd bwyd cyfansawdd, yn ogystal â’r enw cynnyrch “honey”.

(12Nid oes dim ym mharagraff (7) yn atal yr enw “mêl pobydd” rhag cael ei ddangos ar y rhestr cynhwysion yn ogystal â’r enw “baker’s honey”.

(13Nid oes dim ym mharagraffau (1), (4), (5), (6), (8), (9), (10), (11) neu (12) yn atal yr enwau a’r geiriau perthnasol rhag bod mewn unrhyw iaith arall yn ogystal ag yn Gymraeg a Saesneg.

RHAN 3Gofynion ynglŷn â chyfansoddiad

Gofynion ynglŷn â chyfansoddiad

16.—(1Rhaid i berson beidio â gosod unrhyw gynnyrch ar y farchnad fel “honey”, “mêl”, neu’r enw cyfatebol mewn unrhyw iaith arall, oni bai ei fod yn bodloni’r meini prawf priodol ynglŷn â chyfansoddiad “mêl” a bennir yn Atodlen 1.

(2Rhaid i berson beidio â gosod unrhyw gynnyrch ar y farchnad gan ddefnyddio enw cynnyrch a restrir ym mharagraff (5) oni bai ei fod yn bodloni’r meini prawf priodol ynglŷn â chyfansoddiad y math hwnnw o fêl a bennir yn Atodlen 1.

(3Rhaid i berson beidio â defnyddio cynnyrch (“y cynhwysyn mêl”) (“the honey ingredient”) fel “honey”, “mêl”, neu’r enw cyfatebol mewn unrhyw iaith arall, mewn cynnyrch y bwriedir ei osod ar y farchnad ar gyfer ei fwyta gan bobl oni bai bod y cynhwysyn mêl yn bodloni’r meini prawf priodol ynglŷn â chyfansoddiad “mêl” a bennir yn Atodlen 1.

(4Rhaid i berson beidio â defnyddio cynnyrch (“y cynhwysyn mêl”) (“the honey ingredient”) fel mêl o fath a restrir ym mharagraff (5) mewn cynnyrch y bwriedir ei osod ar y farchnad ar gyfer ei fwyta gan bobl oni bai bod y cynhwysyn mêl yn bodloni’r meini prawf priodol ynglŷn â chyfansoddiad y math hwnnw o fêl a bennir yn Atodlen 1.

(5Enwau cynnyrch a’r mathau o fêl yw—

(a)mêl pobydd;

(b)mêl blodau;

(c)mêl talpiau;

(d)mêl diliau;

(e)diliau wedi eu torri mewn mêl;

(f)mêl wedi ei ddraenio;

(g)mêl wedi ei echdynnu;

(h)mêl wedi ei hidlo;

(i)mêl melwlith;

(j)mêl neithdar;

(k)mêl wedi ei wasgu.

RHAN 4Gofynion ychwanegol ynglŷn â labeli

Gofynion ychwanegol ynglŷn â labeli

17.—(1Ni chaiff neb fasnachu mewn mêl oni bai bod y wlad tarddiad lle cynaeafwyd y mêl wedi ei dangos ar y label ac eithrio, os yw’r mêl yn tarddu o fwy nag un Aelod-wladwriaeth neu drydedd wlad, y caniateir gosod un o’r mynegiadau a ganlyn yn lle’r gwledydd y tarddodd ohonynt, fel y bo’n briodol—

“blend of EU honeys”;

“blend of non-EU honeys”;

“blend of EU and non-EU honeys”.

(2Ym mharagraffau (3) i (5), ystyr “mêl perthnasol” (“relevant honey”) yw pob mêl ac eithrio mêl pobydd a mêl wedi ei hidlo.

(3Caniateir ategu enw cynnyrch mêl perthnasol gyda gwybodaeth am ei darddiad blodeuol neu lysieuol ond ni chaiff neb fasnachu mewn mêl perthnasol y darperir gwybodaeth ategol o’r fath yn ei gylch oni bai bod y cynnyrch yn dod yn gyfan gwbl neu’n bennaf o’r ffynhonnell a nodir a bod ganddo nodweddion organoleptig, ffisigocemegol a microsgopig y ffynhonnell.

(4Caniateir ategu enw cynnyrch mêl perthnasol gyda gwybodaeth am ei darddiad rhanbarthol, tiriogaethol neu dopograffyddol ond ni chaiff neb fasnachu mewn mêl perthnasol y darperir gwybodaeth ategol o’r fath yn ei gylch oni bai bod y cynnyrch yn dod yn gyfan gwbl o’r tarddiad a nodir.

(5Caniateir ategu enw cynnyrch mêl perthnasol gyda gwybodaeth am ei feini prawf ansawdd penodol.

(6Yn ogystal â’r geiriau a ddangosir ar y label yn rhinwedd paragraff (1), caniateir cynnwys y mynegiadau a ganlyn fel y bo’n briodol—

“cyfuniad o felau o’r UE”;

“cyfuniad o felau o’r tu allan i’r UE”; neu

“cyfuniad o felau o’r UE ac o’r tu allan i’r UE”.

(7Nid oes dim ym mharagraffau (1) neu (6) yn atal y geiriau y caniateir eu cynnwys yn rhinwedd paragraff (1) rhag cael eu cynnwys mewn unrhyw iaith arall yn ogystal ag yn Gymraeg a Saesneg.

RHAN 5Gorfodi a darpariaethau amrywiol

Gorfodi

18.  Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu’r Rheoliadau hyn yn ei ardal.

Cymhwyso ac addasu darpariaethau yn y Ddeddf

19.  Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 2 yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw, at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Dirymu

20.—(1Mae’r canlynol wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau Mêl (Cymru) 2003(4);

(b)Rheoliadau Mêl (Cymru) (Diwygio) 2005(5); a

(c)Rheoliadau Mêl (Cymru) (Diwygio) 2008(6).

(2Yn Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014(7) mae’r darpariaethau a ganlyn wedi eu hepgor—

(a)eitem 13 o’r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 6; a

(b)paragraffau 32 i 34 o Atodlen 7.

Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014

21.  Mae Atodlen 3 (diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014) yn cael effaith.

Darpariaeth drosiannol

22.  Rhaid i swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd beidio â chyflwyno hysbysiad gwella o dan adran 10(1) o’r Ddeddf, fel y’i cymhwysir ac y’i haddasir gan reoliad 19, fel y’i darllenir gydag Atodlen 2—

(a)os byddai’r hysbysiad gwella’n ymwneud â chynnyrch a gafodd ei osod ar y farchnad neu ei labelu cyn 3 Awst 2015; a

(b)os na fyddai’r materion a fuasai’n ffurfio’r drosedd honedig wedi bod yn drosedd o dan Reoliadau Mêl (Cymru) 2003 fel yr oeddent yn gymwys yn union cyn 3 Awst 2015.

Vaughan Gething

Y Dirprwy Weinidog Iechyd, un o Weinidogion Cymru

8 Gorffennaf 2015

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources