Search Legislation

Rheoliadau Safon Perfformiad Allyriadau (Gorfodi) (Cymru) 2015

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 15

ATODLENDogfennau

1.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), mae darpariaethau’r Atodlen hon yn gymwys i unrhyw ddogfen a gyhoeddir o dan y Rheoliadau hyn.

(2Nid yw darpariaethau’r Atodlen hon yn gymwys i—

(a)hysbysiad terfyn allyriadau;

(b)hysbysiad dal a storio carbon; ac

(c)hysbysiad allyriadau blynyddol y Safon Perfformiad Allyriadau.

2.  Rhaid i ddogfen fod yn ysgrifenedig a bod wedi ei dyddio.

3.  Mae dogfen a roddir i berson ar ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod gwaith i gael ei thrin fel pe byddai wedi ei rhoi ar y diwrnod gwaith nesaf.

4.  Caniateir rhoi dogfen i berson drwy—

(a)ei danfon i’r person hwnnw yn bersonol;

(b)ei gadael yng nghyfeiriad cywir y person hwnnw;

(c)ei hanfon drwy’r post neu ffacs i gyfeiriad cywir y person hwnnw;

(d)ei hanfon drwy e-bost i’r person hwnnw; neu

(e)ei chyflwyno drwy borth penodedig ar wefan y person hwnnw.

5.  At ddibenion paragraff 4(a), rhoddir dogfen i—

(a)corff corfforaethol, pan y’i rhoddir i berson sydd â rheolaeth o’r corff hwnnw neu sy’n ei reoli;

(b)partneriaeth, pan y’i rhoddir i bartner neu berson sydd â rheolaeth o’r busnes partneriaeth neu sy’n ei reoli;

(c)cymdeithas anghorfforedig, pan y’i rhoddir i berson sydd â chyfrifoldebau rheoli mewn cysylltiad â’r gymdeithas.

6.  At ddibenion paragraff 4(d), rhoddir dogfen i—

(a)corff corfforaethol, pan y’i hanfonir i gyfeiriad e-bost—

(i)y corff corfforaethol, neu

(ii)person sydd â rheolaeth dros y corff hwnnw neu sy’n ei reoli,

pan fo’r cyfeiriad hwnnw wedi ei ddarparu gan y corff hwnnw ar gyfer cynnal materion y corff hwnnw;

(b)partneriaeth, pan y’i hanfonir i gyfeiriad e-bost—

(i)y bartneriaeth, neu

(ii)partner neu berson sydd â rheolaeth dros y busnes partneriaeth neu sy’n ei reoli,

pan fo’r cyfeiriad hwnnw wedi ei ddarparu gan y bartneriaeth honno ar gyfer cynnal materion y bartneriaeth honno;

(c)cymdeithas anghorfforedig, pan y’i hanfonir i gyfeiriad e-bost person sydd â chyfrifoldeb rheoli mewn cysylltiad â’r gymdeithas, pan fo’r cyfeiriad hwnnw wedi ei ddarparu gan y gymdeithas honno ar gyfer cynnal materion y gymdeithas honno.

7.  Caiff person, yn lle cyfeiriad cywir a fyddai’n gymwys fel arall, nodi cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig lle y caniateir rhoi dogfennau i’r person hwnnw neu rywun ar ran y person hwnnw, a rhaid trin y cyfeiriad hwnnw yn lle hynny fel cyfeiriad cywir y person hwnnw.

8.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “cyfeiriad cywir” (“proper address”) yw yn achos—

(a)

corff corfforaethol, y swyddfa gofrestredig (os yw yn y Deyrnas Unedig) neu brif swyddfa’r corff hwnnw yn y Deyrnas Unedig;

(b)

partneriaeth, prif swyddfa’r bartneriaeth yn y Deyrnas Unedig;

(c)

unrhyw berson arall, cyfeiriad hysbys diweddaraf y person hwnnw, sy’n cynnwys cyfeiriad e-bost;

(d)

unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig;

ystyr “diwrnod nad yw’n ddiwrnod gwaith” (“non-working day”) yw—

(a)

dydd Sadwrn neu ddydd Sul;

(b)

Noswyl Nadolig, Diwrnod Nadolig neu Ddydd Gwener y Groglith; neu

(c)

diwrnod sy’n ŵyl y banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(1) yn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig,

a rhaid darllen “diwrnod gwaith” (“working day”) yn unol â hynny; ac

ystyr “porth penodedig” (“dedicated portal”) yw cyfleuster ar wefan person sydd wedi ei sefydlu er mwyn gallu cyfathrebu â’r person hwnnw’n electronig.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources