- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
7.—(1) Caiff awdurdod trwyddedu dynnu awdurdodiad yn ôl os yw’r darparwr hyfforddiant—
(a)wedi methu ag ufuddhau i amod a osodwyd ar ei awdurdodiad gan yr awdurdod trwyddedu; neu
(b)wedi peidio â bod yn ddarparwr hyfforddiant priodol.
(2) Pan fo’r awdurdod trwyddedu yn cynnig tynnu awdurdodiad yn ôl, rhaid i’r awdurdod trwyddedu roi hysbysiad ysgrifenedig i’r darparwr hyfforddiant sy’n nodi—
(a)y rhesymau am y cynnig; a
(b)hawl y darparwr hyfforddiant i gyflwyno sylwadau o dan baragraff (3) ynghylch y cynnig.
(3) Pan fo’r awdurdod trwyddedu yn rhoi hysbysiad i’r darparwr hyfforddiant o dan baragraff (2)—
(a)caiff y darparwr hyfforddiant, yn ddim hwyrach na’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad o dan baragraff (2), gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r awdurdod trwyddedu ynghylch y cynnig;
(b)ni chaiff yr awdurdod trwyddedu benderfynu pa un ai i dynnu awdurdodiad yn ôl ai peidio nes i’r cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) ddod i ben; ac
(c)os cyflwynir unrhyw sylwadau o fewn y cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (a), rhaid i’r awdurdod trwyddedu ystyried y sylwadau hynny cyn penderfynu pa un ai i dynnu’r awdurdodiad yn ôl ai peidio.
(4) Wrth wneud penderfyniad i dynnu awdurdodiad darparwr hyfforddiant yn ôl, rhaid i’r awdurdod trwyddedu roi hysbysiad ysgrifenedig i’r darparwr hyfforddiant a rhaid i’r hysbysiad nodi—
(a)y dyddiad y mae’r tynnu’n ôl, yn ddarostyngedig i baragraff (3), yn cael effaith; a
(b)y rhesymau am y penderfyniad i dynnu’r awdurdodiad yn ôl.
(5) Nid yw paragraffau (2) i (4) yn gymwys os yw’r awdurdod trwyddedu—
(a)wedi ei fodloni, oherwydd camymddwyn difrifol ar ran y darparwr hyfforddiant neu berson sy’n gweithredu ar ran neu o dan gyfarwyddyd y darparwr hyfforddiant, bod rhaid tynnu’r awdurdodiad yn ôl yn ddi-oed; a
(b)yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r darparwr hyfforddiant i’r perwyl hwnnw sy’n nodi natur y camymddwyn difrifol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: