- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Darfodol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) 2015.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai (Cymru) 2014.
2. Yn ddarostyngedig i erthyglau 4, 5, 6, 7 ac 8, y diwrnod penodedig i’r darpariaethau yn y Ddeddf a restrwyd yn yr Atodlen ddod i rym at y dibenion a bennwyd (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) yw 27 Ebrill 2015.
3. Yn ddarostyngedig i erthyglau 4, 5 ac 8, y diwrnod penodedig i adran 78 o’r Ddeddf (penderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb) ddod i rym at yr holl ddibenion sy’n weddill yw 1 Gorffennaf 2015.
4. Mae’r darpariaethau darfodol a throsiannol a’r darpariaethau arbed a ganlyn yn cael effaith.
5.—(1) Er gwaethaf cychwyn adran 61 o’r Ddeddf, ac Atodlen 2 iddi, mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014(1) yn parhau i gael effaith (yn ddarostyngedig i unrhyw ddiwygiad neu ddirymiad wedyn) fel pe baent wedi eu gwneud o dan baragraff 1 o Atodlen 2 i’r Ddeddf.
(2) I’r graddau y mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 yn parhau i gael effaith yn rhinwedd paragraff (1), maent yn gwneud hynny yn ddarostyngedig i’r addasiadau a ganlyn—
(a)yn rheoliad 5(1) mae’r cyfeiriad at “Ran 7 o Ddeddf 1996” yn cael effaith fel pe bai’n gyfeiriad at “adran 66, 68, 73 neu 75 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014”; a
(b)yn rheoliad 6(1) mae’r cyfeiriad at “Ran 7 o Ddeddf 1996” yn cael effaith fel pe bai’n gyfeiriad at “adran 66, 68, 73 neu 75 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014”.
6.—(1) Daw’r erthygl hon i rym ar 27 Ebrill 2015.
(2) Mae’r erthygl hon yn gwneud addasiad darfodol i adran 75(2)(d) o’r Ddeddf gydag effaith tan 1 Gorffennaf 2015.
(3) Hyd nes i adran 78 o’r Ddeddf (penderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb) ddod i rym yn llawn yn rhinwedd erthygl 3, mae adran 75(2)(d) i’w darllen fel pe bai’r geiriau “os yw’r awdurdod yn rhoi sylw i ba un a yw ceisydd yn ddigartref yn fwriadol ai peidio (gweler adran 77)” wedi eu hepgor.
7.—(1) Daw’r erthygl hon i rym ar 27 Ebrill 2015.
(2) Mae’r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â cheisydd sydd wedi gwneud cais, cyn 27 Ebrill 2015, i awdurdod tai lleol am lety neu gynhorthwy i sicrhau llety o dan Ran 7 o Ddeddf Tai 1996(2).
(3) Er gwaethaf erthyglau 2 a 3, mae Rhan 7 o Ddeddf Tai 1996 yn parhau mewn grym mewn perthynas â’r ceiswyr hyn.
8.—(1) Mae’r erthygl hon yn gwneud addasiad darfodol i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970(3)fel y mae’n gymwys i Gymru, gydag effaith o 27 Ebrill 2015.
(2) Hyd nes i Atodlen 2 (swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol) i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(4) ddod i rym, mae Atodlen 1 (swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol) i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 i’w darllen o ran ei chymhwyso at Gymru—
(a)fel pe bai’r eitem ar gyfer Deddf Tai 1996 wedi ei hepgor;
(b)fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod yn lle’r eitem honno:
“Housing (Wales) Act 2014 Section 95(2), (3) and (4); but only where those functions apply by virtue of subsection (5)(b) of that section. | Co-operation and information sharing in relation to homeless persons and persons threatened with homelessness.” |
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
21 Ebrill 2015
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: