Search Legislation

Gorchymyn Ysgol Uwchradd y Dwyrain (Newid Amserau Sesiynau Ysgolion) 2015

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1227 (Cy. 81)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Ysgol Uwchradd y Dwyrain (Newid Amserau Sesiynau Ysgolion) 2015

Gwnaed

20 Ebrill 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

24 Ebrill 2015

Yn dod i rym

1 Mehefin 2015

Yn unol ag adran 4(2) o Ddeddf Addysg 2002(1) (“y Ddeddf”), mae corff llywodraethu Ysgol Uwchradd y Dwyrain (“y corff llywodraethu”) wedi ymgynghori â’r awdurdod lleol a’r personau hynny y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn briodol, gan gynnwys rhieni disgyblion sydd wedi eu cofrestru yn yr ysgol a’r staff sy’n gweithio yn yr ysgol;

Mae Gweinidogion Cymru o’r farn, ar ôl rhoi sylw i’r materion a nodir yn adran 1(2) o’r Ddeddf, y gall gweithredu gan y corff llywodraethu ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn gyfrannu at godi’r safonau addysgol a gyrhaeddir gan blant yng Nghymru;

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 2(1) o’r Ddeddf(2), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, ar gais y corff llywodraethu, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ysgol Uwchradd y Dwyrain (Newid Amserau Sesiynau Ysgolion) 2015 a daw i rym ar 1 Mehefin 2015.

Esemptiad o’r Rheoliadau Sesiynau Ysgolion

2.  Nid yw rheoliad 4(2), (3) a (4) o Reoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2009(3) yn gymwys i gorff llywodraethu Ysgol Uwchradd y Dwyrain(4) ar Heol Casnewydd, Caerdydd CF3 3XG.

Y cyfnod amser

3.  Bydd y Gorchymyn hwn yn cael effaith tan 31 Awst 2015.

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

20 Ebrill 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adran 2 o Ddeddf Addysg 2002. Mae erthygl 2 yn darparu nad yw rheoliad 4(2), (3) a (4) o Reoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2009 yn gymwys i gorff llywodraethu Ysgol Uwchradd y Dwyrain. Bydd hyn yn caniatáu i’r corff llywodraethu wneud newidiadau i ba bryd y mae sesiynau’r ysgol yn dechrau ac yn dod i ben, gan gynnwys pa bryd y mae’r diwrnod ysgol yn dechrau ac yn dod i ben o 1 Mehefin 2015 ymlaen, yn hytrach nag ar ddechrau tymor ysgol neu flwyddyn ysgol. Mae erthygl 3 yn pennu bod y Gorchymyn yn cael effaith tan 31 Awst 2015.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

(2)

Breiniwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn adrannau 1 i 5 yng Ngweinidogion Cymru gan baragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(4)

Rhif Cyfeirnod Unigryw’r Ysgol: 6814076.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources