Search Legislation

Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol) 2015

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 3

ATODLEN 2Diwygio Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007

1.  Yn Rhan 1 (enwi a dehongli), yn rheol 2(1)—

(a)yn y mannau priodol, mewnosoder—

mae i “aelod arbennig cysylltiedig” (“connected special member”) yr ystyr a roddir yn rheol 1D o Ran 2;;

mae i “aelod cysylltiedig” (“connected member”) yr ystyr a roddir yn rheol 1C o Ran 2;;

mae i “aelod trosiannol” (“transition member”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Reoliadau 2015;;

mae i “cyflogaeth gynllun” (“scheme employment”) mewn perthynas â Chynllun 2015 yr ystyr a roddir yn rheoliad 15 o Reoliadau 2015;;

ystyr “cyswllt cyflog terfynol” (“final salary link”) yw’r cyswllt cyflog terfynol sy’n gymwys pan fo gofynion paragraff 1 neu baragraff 2 o Atodlen 7 i Ddeddf 2013 wedi eu bodloni;;

ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013;;

mae i “dyddiad cau diogelwch taprog” (“tapered protection closing date”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 3 o Atodlen 2 i Reoliadau 2015;;

ystyr “dyddiad cau’r cynllun” (“scheme closing date”) yw 31 Mawrth 2015;;

ystyr “dyddiad trosiant” (“transition date”) yw—

(a)

os yw’r aelod-ddiffoddwr tân neu’r aelod-ddiffoddwr tân arbennig yn aelod diogelwch taprog o’r Cynllun hwn, y dyddiad ar ôl y dyddiad cau diogelwch taprog ar gyfer yr aelod hwnnw;

(b)

os nad yw’r aelod-ddiffoddwr tân neu’r aelod-ddiffoddwr tân arbennig yn aelod diogelwch llawn o’r Cynllun hwn nac yn aelod diogelwch taprog o’r Cynllun hwn, y dyddiad ar ôl dyddiad cau’r cynllun; neu

(c)

y dyddiad y peidiodd yr aelod â bod yn aelod diogelwch llawn o’r Cynllun hwn;;

mae i “parhad gwasanaeth” (“continuity of service”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 2 o Atodlen 2 i Reoliadau 2015;;

mae i “pensiwn parhaus” (“continued pension”) yr ystyr a roddir yn rheol 1B o Ran 3;;

mae i “swm cyfwerth â’r pensiwn afiechyd haen isaf CPNDT” (“equivalent amount to the NFPS lower tier ill-health pension”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 74(5) o Reoliadau 2015;;

(b)yn lle’r diffiniad o “Actiwari’r Cynllun” rhodder—

ystyr “Actiwari’r Cynllun” (“Scheme Actuary”) yw’r actiwari a benodwyd gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 159 (penodi actiwari’r cynllun) o Reoliadau 2015;;

(c)yn lle’r diffiniad o “aelod arbennig” rhodder—

ystyr “aelod arbennig” (“special member”) yw—

(a)

aelod-ddiffoddwr tân arbennig,

(b)

aelod gohiriedig arbennig,

(c)

aelod-bensiynwr arbennig,

(ch)

aelod arbennig cysylltiedig;.

2.  Yn Rhan 2 (aelodaeth o’r cynllun, diweddu ac ymddeol)—

(a)ar ôl rheol 1A (aelodaeth arbennig) mewnosoder—

Diweddu aelodaeth diffoddwr tân ac aelodaeth diffoddwr tân arbennig

1B.  Mae person yn peidio â bod yn aelod-ddiffoddwr tân neu’n aelod-ddiffoddwr tân arbennig o’r Cynllun hwn—

(a)os nad yw’r aelod yn aelod diogelwch llawn o’r Cynllun hwn neu’n aelod diogelwch taprog o’r Cynllun hwn, ar ddyddiad cau’r cynllun;

(b)os yw’r aelod yn aelod diogelwch taprog o’r Cynllun hwn, ar y dyddiad cau diogelwch taprog neu, os yw’n gynharach, ar y dyddiad y mae’r aelod yn peidio â bod yn aelod diogelwch taprog;

(c)os yw’r aelod yn aelod diogelwch llawn o’r Cynllun hwn, ar y dyddiad y mae’r aelod yn ymddeol o gyflogaeth gynllun yng Nghynllun 2015 neu, os yw’n gynharach, ar y dyddiad y mae’r aelod yn peidio â bod yn aelod diogelwch llawn o’r Cynllun hwn.

Aelodaeth safonol o’r Cynllun hwn ar ôl y dyddiad trosiant

1C.(1) Yn achos aelod safonol o’r Cynllun hwn y mae rheol 1B yn gymwys iddo ac sy’n ymuno â Chynllun 2015 gyda pharhad gwasanaeth—

(a)os yw’r person (P) hwnnw yn parhau mewn gwasanaeth pensiynadwy yn y Cynllun hwnnw, mae P yn aelod cysylltiedig o’r Cynllun hwn mewn cysylltiad â’r aelodaeth y mae paragraff (4) yn gymwys iddi;

(b)os yw P yn optio allan o wasanaeth pensiynadwy yng Nghynllun 2015 neu’n gadael cyflogaeth gynllun yng Nghynllun 2015 cyn cyrraedd oedran ymddeol arferol, mae P yn aelod gohiriedig o’r Cynllun hwn;

(c)os yw P yn optio i mewn i Gynllun 2015 neu’n ymgymryd â chyflogaeth gynllun yng Nghynllun 2015 a pharagraff (2) yn gymwys, mae P eto’n aelod cysylltiedig o’r Cynllun hwn.

(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw P yn dychwelyd i wasanaeth pensiynadwy o dan Gynllun 2015 ar ôl bwlch mewn gwasanaeth pensiynadwy nad yw’n hwy na 5 mlynedd.

(3) Yn achos aelod safonol o’r Cynllun hwn y mae rheol 1B yn gymwys iddo ac sy’n ymuno â Chynllun 2015 gyda bwlch mewn gwasanaeth pensiynadwy o fwy na 5 mlynedd, mae’r aelod hwnnw’n aelod gohiriedig o’r Cynllun hwn.

(4) Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â’r cyfrif aelod actif o Gynllun 2015 yr ychwanegwyd ato wasanaeth cymwys yr aelodaeth o’r Cynllun hwn at ddibenion rheoliad 66 (gwasanaeth cymwys) o Reoliadau 2015, neu, os trosglwyddwyd y cofnodion o’r cyfrif i gyfrif aelod actif arall o dan reoliad 158 (trosglwyddo cofnodion cyfrif pensiwn) o’r Rheoliadau hynny, i’r cyfrif aelod actif hwnnw.

Aelodaeth arbennig o’r Cynllun hwn ar ôl y dyddiad trosiant

1D.(1) Yn achos aelod arbennig o’r Cynllun hwn y mae rheol 1B yn gymwys iddo—

(a)os oedd y person hwnnw (A) yn aelod-ddiffoddwr tân arbennig o’r Cynllun hwn a ymunodd â Chynllun 2015 yn union wedi i reol 1B ddod yn gymwys i A, neu a oedd wedi ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig ar neu ar ôl y dyddiad y daeth rheol 1B yn gymwys i A, mae A yn aelod arbennig cysylltiedig o’r Cynllun hwn mewn cysylltiad â’r aelodaeth y mae paragraff (2) yn gymwys iddi;

(b)os oedd y person hwnnw (G) yn aelod-ddiffoddwr tân arbennig o’r Cynllun hwn a ymunodd â Chynllun 2015 gyda bwlch mewn gwasanaeth pensiynadwy wedi i reol 1B ddod yn gymwys i G, neu a oedd wedi ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig gyda bwlch mewn gwasanaeth pensiynadwy ar ôl y dyddiad y daeth rheol 1B yn gymwys i G, mae G yn aelod gohiriedig arbennig o’r Cynllun hwn mewn cysylltiad â’r aelodaeth y mae paragraff (2) yn gymwys iddi;

(c)os yw A yn optio allan o wasanaeth pensiynadwy yng Nghynllun 2015 neu’n gadael cyflogaeth gynllun cyn cyrraedd oedran ymddeol arferol, mae A yn aelod gohiriedig arbennig o’r Cynllun hwn.

(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â’r cyfrif aelod actif o Gynllun 2015 yr ychwanegwyd ato wasanaeth cymwys yr aelodaeth o’r Cynllun hwn at ddibenion rheoliad 66 (gwasanaeth cymwys) o Reoliadau 2015, neu, os trosglwyddwyd y cofnodion o’r cyfrif i gyfrif aelod actif arall o dan reoliad 158 (trosglwyddo cofnodion cyfrif pensiwn) o’r Rheoliadau hynny, i gyfrif yr aelod hwnnw.

Aelodaeth o’r Cynllun hwn pan delir dyfarniad afiechyd o Gynllun 2015

1E.(1) Mae person sydd â hawl ganddo i gael taliad o swm cyfwerth â’r pensiwn afiechyd haen isaf CPNDT o dan Gynllun 2015 yn parhau’n aelod cysylltiedig neu’n aelod arbennig cysylltiedig o’r Cynllun hwn.

(2) Mae person a oedd â hawl ganddo i gael dyfarniad afiechyd o dan y Cynllun hwn neu o dan Gynllun 2015 ac sy’n derbyn cynnig o gyflogaeth y cyfeirir ato yn rheol 2 o Ran 9 o’r Cynllun hwn neu y cyfeirir ato yn rheoliad 78(3)(b) o Gynllun 2015 yn parhau’n aelod cysylltiedig neu’n aelod arbennig cysylltiedig o’r Cynllun hwn.;

(b)yn rheol 3 (yr oedran ymddeol arferol a’r oedran buddion arferol), ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(5) Oedran ymddeol arferol aelodau cysylltiedig yw 60 oed.

(6) Oedran ymddeol arferol aelodau arbennig cysylltiedig yw 55 oed.; ac

(c)yn rheol 4 (diwrnod olaf aelodaeth)—

(i)ym mharagraff (1) yn lle “Pan fo aelod-ddiffoddwr tân” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (5), pan fo aelod-ddiffoddwr tân”;

(ii)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) Bernir mai diwrnod olaf aelodaeth aelod-ddiffoddwr tân neu aelod-ddiffoddwr tân arbennig, nad yw’n aelod diogelwch llawn o’r Cynllun hwn nac yn aelod diogelwch taprog o’r Cynllun hwn, yw dyddiad cau’r cynllun.

(4) Bernir mai diwrnod olaf aelodaeth aelod-ddiffoddwr tân neu aelod-ddiffoddwr tân arbennig, sy’n aelod diogelwch taprog o’r Cynllun hwn, yw’r dyddiad cau diogelwch taprog neu, os yw’n gynharach, y dyddiad y bydd yr aelod hwnnw’n peidio â bod yn aelod diogelwch taprog.

(5) Bernir mai diwrnod olaf aelodaeth aelod-ddiffoddwr tân neu aelod-ddiffoddwr tân arbennig, sy’n aelod diogelwch llawn o’r Cynllun hwn, yw’r dyddiad y mae’r aelod hwnnw’n peidio â bod yn aelod diogelwch llawn o’r Cynllun hwn.

3.  Yn Rhan 3 (dyfarndaliadau personol)—

(a)yn rheol 1 (pensiwn cyffredin), ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r rheol hon yn gymwys i aelod cysylltiedig o’r Cynllun hwn a oedd yn aelod-ddiffoddwr tân o’r Cynllun hwn, sy’n bodloni amod cymhwyster ac sy’n ymddeol o gyflogaeth gynllun yng Nghynllun 2015 ar ôl cyrraedd yr oedran ymddeol arferol o dan y Cynllun hwn.;

(b)yn rheol 1A (pensiwn cyffredin aelod arbennig), ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r rheol hon yn gymwys i aelod arbennig cysylltiedig o’r Cynllun hwn, sy’n bodloni amod cymhwyster arbennig ac sy’n ymddeol o gyflogaeth gynllun yng Nghynllun 2015 ar ôl cyrraedd yr oedran ymddeol arferol.;

(c)ar ôl rheol 1A (pensiwn cyffredin aelod arbennig) mewnosoder—

Pensiwn parhaus

1B.  Pan fo hawl gan aelod cysylltiedig, neu aelod arbennig cysylltiedig, i gael swm cyfwerth â’r pensiwn afiechyd haen isaf CPNDT o dan reoliad 74(4)(a) (hawlogaeth i bensiwn afiechyd haen isaf a phensiwn afiechyd haen uchaf) o Reoliadau 2015 a’r aelod hwnnw’n cyrraedd yr oedran ymddeol arferol o dan y Cynllun hwn, mae hawl gan yr aelod hwnnw i gael pensiwn parhaus sydd â’i swm yn hafal i gyfradd flynyddol y swm cyfwerth â’r pensiwn afiechyd haen isaf CPNDT.;

(d)yn rheol 3 (pensiwn gohiriedig), ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), mae’r rheol hon yn gymwys i berson sy’n peidio â bod yn aelod-ddiffoddwr tân neu’n aelod-ddiffoddwr tân arbennig o dan reol 1B (diweddu aelodaeth diffoddwr tân ac aelodaeth diffoddwr tân arbennig) o Ran 2.

(1B) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), mae’r rheol hon yn gymwys i aelod cysylltiedig, neu aelod arbennig cysylltiedig sydd—

(a)yn optio allan o wasanaeth pensiynadwy yng Nghynllun 2015,

(b)yn gadael cyflogaeth gynllun o dan Gynllun 2015 cyn cyrraedd yr oedran ymddeol arferol, neu

(c)yn peidio â bod â’r hawl i bensiwn afiechyd haen isaf neu bensiwn afiechyd haen uchaf o dan Gynllun 2015 o ganlyniad i adolygiad o dan reoliad 78 (canlyniadau adolygu) o Reoliadau 2015 ac yn gwrthod cynnig o gyflogaeth a wneir gan yr awdurdod, y cyfeirir ato yn rheoliad 78(3)(b) o’r Rheoliadau hynny.

(1C) Mae’r rheol hon yn peidio â bod yn gymwys i aelod cysylltiedig sy’n ailymuno â Chynllun 2015 ar ôl bwlch mewn gwasanaeth pensiynadwy nad yw’n hwy na 5 mlynedd.;

(e)yn rheol 4 (dileu pensiwn gohiriedig)—

(i)ym mharagraff (1) yn lle “Pan” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan”;

(ii)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(4) Os nad yw’r person sydd â hawl i gael pensiwn gohiriedig yn aelod a ddiogelir o’r Cynllun hwn, ni chaiff yr aelod gyfarwyddo’r awdurdod i ddileu’r pensiwn gohiriedig.

(5) Os oedd y person sydd â hawl i gael pensiwn gohiriedig yn aelod cysylltiedig o’r Cynllun hwn ac yn ailymuno â Chynllun 2015 ar ôl bwlch mewn gwasanaeth pensiynadwy nad yw’n hwy na 5 mlynedd, rhaid i’r awdurdod ddileu’r pensiwn gohiriedig.;

(f)yn rheol 6 (pensiwn yn sgil ymddeoliad cynnar ar archiad yr awdurdod), ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(4) Pan fo awdurdod yn ystyried gwneud penderfyniad o dan reoliad 71 (ymddeoliad a ysgogir gan gyflogwr) o Reoliadau 2015 y dylai aelod actif o’r Cynllun hwnnw, sydd wedi cyrraedd yr oedran 55, gael taliad o bensiwn heb y gostyngiad talu’n gynnar, rhaid i’r awdurdod ystyried hefyd wneud penderfyniad o dan baragraff (1) o’r rheol hon.;

(g)yn rheol 7 (yr hawlogaeth i gael dau bensiwn), ar ôl paragraff (9) mewnosoder—

(10) Os yw person y mae’r rheol hon yn gymwys iddo yn berson y mae paragraff (7) o reol 1 o Ran 11 yn gymwys iddo, mae’r rheol hon yn gymwys os rhoddir, ym mharagraff (4), yn lle “tâl pensiynadwy terfynol y mae gan yr aelod hawlogaeth i’w gael ar y diwrnod olaf o aelodaeth yr aelod o’r Cynllun” y geiriau “tâl pensiynadwy terfynol fel y’i haddesir gan baragraff (7) neu (8) o reol 1 o Ran 11.;

(h)yn rheol 7C (budd pensiwn ychwanegol: darpariaethau atodol)—

(i)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) Pan fo rheol 1B o Ran 2 yn gymwys i berson (P) nad yw’n aelod cysylltiedig nac â’r hawl i gael taliad o ddyfarniad afiechyd o dan reoliad 74 (hawlogaeth i bensiwn afiechyd haen isaf a phensiwn afiechyd haen uchaf) o Reoliadau 2015, mae budd pensiwn ychwanegol yn daladwy ar yr oedran buddion arferol, ac mae paragraffau (4) i (6) o reol 3 (pensiwn gohiriedig) yn gymwys mewn perthynas â’r budd hwnnw fel pe bai’n bensiwn gohiriedig y mae hawl gan P i’w gael o dan y rheol honno.;

(ii)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Pan fo hawl gan yr aelod-ddiffoddwr tân i gael dyfarniad afiechyd o dan reoliad 74 o Reoliadau 2015, mae budd pensiwn ychwanegol yn daladwy o dan y Cynllun hwn yr un pryd ag y mae’r swm cyfwerth â’r pensiwn afiechyd haen isaf CPNDT yn daladwy o dan Gynllun 2015.;

(i)yn rheol 9 (cymudo: cyffredinol)—

(i)ym mharagraff (1) yn lle “Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4)” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraffau (1B), (3) a (4)”;

(ii)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Mae’r rheol hon yn gymwys i swm cyfwerth â’r pensiwn afiechyd haen isaf CPNDT a gynhwysir yng nghyfradd flynyddol pensiwn ymddeol ar gyfer y person o dan reoliad 68(2)(ba) o Reoliadau 2015.

(1B) Pan fo hawl gan berson i gael pensiwn parhaus o dan reol 1B, ni chaiff y person hwnnw gymudo cyfran o’r pensiwn hwnnw o dan y rheol hon.;

(j)yn rheol 11 (dyrannu pensiwn), ym mharagraff (1), ar ôl “Caiff aelod-ddiffoddwr tân,” mewnosoder “, aelod cysylltiedig neu aelod arbennig cysylltiedig”.

4.  Yn Rhan 10 (gwasanaeth cymhwysol a gwasanaeth pensiynadwy)—

(a)yn rheol 1 (gwasanaeth cymhwysol), ar ôl paragraff (f) hepgorer “ac” ac ar ôl paragraff (ff) mewnosoder—

ac

(g)unrhyw gyfnod o wasanaeth pensiynadwy ar gyfer y cyfrif aelod actif o dan Gynllun 2015 yr ychwanegwyd gwasanaeth cymhwysol y person ato at ddibenion gwasanaeth cymhwysol yng Nghynllun 2015.;

(b)ar ôl rheol 3 (gwasanaeth anghyfrifadwy) mewnosoder—

Y cyfnod ar ôl y dyddiad trosiant

3A.  Nid yw cyfnod o wasanaeth neu o absenoldeb neu absenoldeb di-dâl ar ôl dyddiad trosiant person yn gyfrifadwy fel gwasanaeth pensiynadwy nac fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig o dan y Cynllun hwn.

5.  Yn Rhan 11 (tâl pensiynadwy, cyfraniadau pensiwn a phrynu gwasanaeth ychwanegol), ym Mhennod 1 (tâl pensiynadwy a chyfraniadau pensiwn)—

(a)yn rheol 1 (tâl pensiynadwy)—

(i)ym mharagraff (1) yn lle “Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (6) a rheol 3(3)” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraffau (3), (6) a (7) a rheol 3(3)”;

(ii)ar ôl paragraff (6) mewnosoder—

(7) Yn ddarostyngedig i baragraffau (8) a (9), os bu rheol 1B o Ran 2 yn gymwys i aelod o’r Cynllun hwn sydd wedi ymuno â Chynllun 2015 gyda pharhad gwasanaeth, a pharagraff 1 neu 2 o Atodlen 7 (cyswllt cyflog terfynol) i Ddeddf 2013 yn gymwys i’r person hwnnw, nid yw paragraff (1) o’r rheol hon yn gymwys, a phenderfynir y tâl pensiynadwy terfynol yn unol ag Atodlen 7,fel bod tâl pensiynadwy’r aelod o dan Reoliadau 2015 (fel y’i haddesir gan baragraff 33 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau hynny) sy’n deillio o wasanaeth yng Nghynllun 2015 i’w ystyried fel tâl pensiynadwy sy’n deillio o wasanaeth yn y Cynllun hwn.

(8) Pan fo paragraff (7) a pharagraff 33(4) o Atodlen 2 i Reoliadau 2015 yn gymwys i aelod o’r Cynllun hwn, y tâl pensiynadwy sydd i’w ystyried fel pe bai’n deillio o wasanaeth yn y Cynllun hwn yw’r tâl pensiynadwy sy’n deillio o wasanaeth yng Nghynllun 2015 o dan Reoliadau 2015 (fel y’i haddesir gan baragraff 33 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau hynny) ar gyfer y flwyddyn olaf o wasanaeth pensiynadwy yng Nghynllun 2015 cyn y gostyngiad mewn tâl pensiynadwy.

(9) Pan fo paragraff 33(3) o Atodlen 2 i Reoliadau 2015 yn gymwys i aelod o’r Cynllun hwn, penderfynir y tâl pensiynadwy yn unol â pharagraff (1) o’r rheol hon, ac nid yw paragraff (7) yn gymwys.

(b)yn rheol 2 (tâl pensiynadwy terfynol)—

(i)ym mharagraff (2) yn lle “Yn ddarostyngedig i baragraff (3)” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraffau (2A) a (3)”;

(ii)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) Yn achos aelod cysylltiedig neu aelod gohiriedig y mae paragraff (7) o reol 1 yn gymwys iddo, ystyr “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw—

(a)pan fo’r cyswllt cyflog terfynol yn gymwys, y diwrnod olaf o wasanaeth pensiynadwy yng Nghynllun 2015, neu

(b)pan fo paragraff 33(4) o Atodlen 2 i Reoliadau 2015 yn gymwys, y diwrnod olaf o wasanaeth pensiynadwy yng Nghynllun 2015 cyn y gostyngiad mewn tâl pensiynadwy yng Nghynllun 2015.;

(c)yn rheol 4 (cyfraniadau pensiwn dewisol yn ystod seibiant mamolaeth a seibiant mabwysiadu)—

(i)ym mharagraff (3) yn lle “Yn ddarostyngedig i baragraff (6)” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7)”;

(ii)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Pan fo’r aelod-ddiffoddwr tân yn dychwelyd i’r gwaith, neu’n peidio â bod yn gyflogedig, ar ôl y dyddiad trosiant, ni chaniateir gwneud y dewisiad o dan baragraff (3) ac eithrio mewn cysylltiad â’r cyfnod cyn y dyddiad trosiant.;

(iii)ar ôl paragraff (6) mewnosoder—

(7) Os yw person y mae’r rheol hon yn gymwys iddo yn aelod cysylltiedig sy’n marw cyn diwedd y cyfnod o 30 diwrnod y cyfeirir ato ym mharagraff (3) heb roi’r hysbysiad gofynnol—

(a)bernir bod y person hwnnw wedi rhoi’r hysbysiad gofynnol, a

(b)o ran yr awdurdod—

(i)rhaid iddo roi i gynrychiolwyr personol y person ddatganiad o swm y cyfraniadau sy’n ddyledus; a

(ii)gyda chydsyniad y cynrychiolwyr personol, caiff gasglu’r cyfraniadau drwy ddidynnu y swm sy’n ofynnol o unrhyw gyfandaliad budd marwolaeth sy’n daladwy o dan reoliad 105 (cyfandaliad sy’n daladwy ar farwolaeth aelod actif) o Reoliadau 2015.;

(d)yn rheol 6A (dewis prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig)—

(i)ar ôl paragraff (7) mewnosoder—

(7A) Rhaid i berson sy’n bwriadu ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig cysylltiedig wneud y dewisiad ym mharagraff (7) a phan fo person yn dewis ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig cysylltiedig, rhaid trin y cyfeiriad at “aelod-ddiffoddwr tân arbennig” yn y rheol hon ac yn rheol 6B fel pe bai’n cyfeirio at “aelod arbennig cysylltiedig”.;

(ii)ar ôl paragraff (9) mewnosoder—

(9A) Os nad yw aelod-ddiffoddwr tân arbennig wedi talu’r holl gyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol cyn y dyddiad pan fo rheol 1B o Ran 2 yn gymwys i’r aelod hwnnw, caiff yr aelod barhau i dalu’r cyfraniadau hynny ar ôl y dyddiad hwnnw.;

(e)yn rheol 7 (hyd y cyfnod talu cyfraniadau cyfnodol a rhoi terfyn cyn pryd ar eu talu)—

(i)ar ddiwedd is-baragraff (c) o baragraff (2) hepgorer “neu” ac ar ôl is-baragraff (ch) mewnosoder—

neu

(d)yn achos aelod cysylltiedig, neu aelod arbennig cysylltiedig, ar y dyddiad y mae’r aelod yn peidio â bod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan Gynllun 2015.;

(f)yn rheol 8 (rhoi’r gorau i gyfraniadau cyfnodol a’u hailgychwyn), ar ôl paragraff (6) mewnosoder—

(7) Mae’r rheol hon yn gymwys i aelod cysylltiedig, neu aelod arbennig cysylltiedig, fel y mae’n gymwys i aelod-ddiffoddwr tân.;

(g)yn rheol 9 (cyfraniadau cyfnodol ar gyfer cyfnodau o wasanaeth di-dâl neu absenoldeb di-dâl), ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(5) Mae’r rheol hon yn gymwys i aelod cysylltiedig, neu aelod arbennig cysylltiedig, fel y mae’n gymwys i aelod-ddiffoddwr tân sy’n dewis prynu gwasanaeth ychwanegol mewn cysylltiad â chyfnod o wasanaeth di-dâl neu absenoldeb di-dâl cyn y dyddiad trosiant.

(6) Os yw’r aelod cysylltiedig yn cydymffurfio â’r gofynion ym mharagraff (2), caiff y person hwnnw ei gwneud yn ofynnol bod yr awdurdod yn trin y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (5) fel gwasanaeth pensiynadwy neu, yn achos aelod arbennig cysylltiedig, fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig.

6.  Yn Rhan 12 (trosglwyddiadau i mewn ac allan o’r Cynllun)—

(a)ym Mhennod 1 (dehongli Rhan 12 a hawlogaeth i gael taliad gwerth trosglwyddo)—

(i)yn rheol 1 (dehongli Rhan 12), yn y man priodol mewnosoder—

ystyr “budd cyflog terfynol” (“final salary benefit”) yw budd sydd wedi cronni o dan gynllun cyflog terfynol fel y diffinnir “final salary scheme” yn adran 37 (dehongli cyffredinol) o Ddeddf 2013;;

(ii)yn rheol 2 (yr hawlogaeth i gael taliad gwerth trosglwyddo), ym mharagraff (2), ar ôl “Yn ddarostyngedig i” mewnosoder “baragraff (2A) ac i” ac ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) Nid oes hawl gan aelod trosiannol (T), sy’n aelod cysylltiedig o’r Cynllun hwn neu sydd wedi cael pensiwn afiechyd haen isaf o dan Gynllun 2015, i’w gwneud yn ofynnol bod taliad gwerth trosglwyddo yn cael ei wneud mewn cysylltiad â’r hawliau i gael buddion sydd wedi cronni ar gyfer, neu mewn cysylltiad â, T o dan y Cynllun hwn.;

(b)ym Mhennod 3 (trosglwyddiadau i mewn i’r Cynllun)—

(i)yn rheol 8 (ceisiadau am dderbyn taliad gwerth trosglwyddo o gynllun arall), ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(4) Caiff person sy’n aelod a ddiogelir o’r Cynllun hwn, neu berson sy’n dod yn aelod actif o Gynllun 2015, wneud cais i daliad gwerth trosglwyddo o gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus arall, sy’n gynllun cyflog terfynol neu sy’n cynnwys budd cyflog terfynol, gael ei dderbyn gan yr awdurdod at ddibenion y Cynllun hwn.;

(ii)yn rheol 9 (y weithdrefn ar gyfer ceisiadau o dan reol 8), ym mharagraff (2) yn lle “Yn ddarostyngedig i baragraff (4)” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5),” ac ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(5) Pan wneir y cais gan berson sy’n ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod-ddiffoddwr tân (ac eithrio aelod-ddiffoddwr tân arbennig) rhaid gwneud y cais o fewn un flwyddyn wedi i’r person ddod yn aelod-ddiffoddwr tân o’r Cynllun hwn neu o fewn un flwyddyn wedi i’r person ddod yn aelod actif o Gynllun 2015, yn ôl fel y digwydd.;

(iii)yn rheol 10 (derbyn taliadau gwerth trosglwyddo), ym mharagraff (1) yn lle “Yn ddarostyngedig i baragraff (3) isod” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4) isod” ac ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(4) Os gwneir y cais o dan reol 8 gan berson y mae paragraff (4) o’r rheol honno’n gymwys iddo, nid yw paragraffau (2) a (3) (terfyn ar swm uchaf y gwasanaeth pensiynadwy y caniateir ei gronni) o reol 2 o Ran 10 yn gymwys i’r taliad gwerth trosglwyddo hwnnw a rhaid i’r awdurdod dderbyn y talid gwerth trosglwyddo onid yw paragraff (3) o’r rheol hon yn gymwys..

7.  Yn Rhan 15 (darpariaethau amrywiol), ar ôl rheol 4 (datganiadau blynyddol o fuddion) mewnosoder—

Prisiadau actiwaraidd

4A.  Pan fo actiwari’r cynllun yn cyflawni prisiad o Gynllun 2015 ac mae’n ofynnol iddo gyflawni prisiad o’r Cynllun hwn, rhaid i’r awdurdod ddarparu i actiwari’r cynllun unrhyw ddata sy’n ofynnol gan actiwari’r cynllun er mwyn cyflawni prisiad a pharatoi adroddiad ar y prisiad.

8.  Yn Atodiad 1 (pensiynau afiechyd), ar ôl paragraff (6) mewnosoder—

(7) Pan fo hawl gan aelod cysylltiedig neu aelod arbennig cysylltiedig o’r Cynllun hwn i gael taliad o swm cyfwerth â phensiwn afiechyd haen isaf, rhaid cyfrifo’r swm hwnnw yn unol â pharagraff (1) o’r atodiad hwn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources