Search Legislation

Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol) 2015

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 2

ATODLEN 1Diwygiadau i Reoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015

1.  Yn Rhan 1 (rhagarweiniol), yn rheoliad 3 (dehongli)—

(a)yn y mannau priodol mewnosoder—

mae i “aelod arbennig cysylltiedig o CPNDT” (“connected special member of the NFPS”) yr ystyr a roddir yn rheol 1D o Ran 2 o CPNDT;;

mae i “aelod cysylltiedig o CPNDT” (“connected member of the NFPS”) yr ystyr a roddir yn rheol 1C o Ran 2 o CPNDT;;

mae i “aelod gohiriedig o CPNDT” (“deferred member of the NFPS”) yr ystyr a roddir yn rheol 2(1) o Ran 1 o CPNDT;;

ystyr “aelod gohiriedig o Gynllun 1992” (“deferred member of the 1992 Scheme”) yw person sydd â’r hawl ganddo i bensiwn gohiriedig o dan reol B5 o Gynllun 1992;;

mae i “cyfnod dechreuol” (“initial period”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 86 (ystyr “cyfnod dechreuol”);;

ystyr “gwasanaeth pensiynadwy yng Nghynllun 2015” (“pensionable service in the 2015 Scheme”) yw unrhyw wasanaeth pensiynadwy parhaus mewn perthynas â’r cyfrif aelod actif yn y cynllun hwn yr ychwanegwyd gwasanaeth pensiynadwy yng Nghynllun 1992 ato at ddibenion rheoliad 66 (gwasanaeth cymwys) o’r Rheoliadau hyn am y cyfnod tra bo paragraff (7) o reol A3 o Gynllun 1992 yn parhau’n gymwys i’r person hwnnw.;

mae i “pensiwn addasedig afiechyd haen isaf” (“adjusted lower tier ill-health pension”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 75(4) (cyfradd flynyddol dyfarniadau afiechyd);;

ystyr “pensiwn parhaus” (“continued pension”) yw—

(a)

mewn perthynas ag aelod o CPNDT, yr hawlogaeth i bensiwn o dan reol 1B o Ran 3 o CPNDT,

(b)

mewn perthynas ag aelod o Gynllun 1992, yr hawlogaeth i bensiwn o dan reol B2A o Gynllun 1992;;

mae i “swm cyfwerth â’r pensiwn afiechyd haen isaf CPNDT” (“equivalent amount to the NFPS lower tier ill-health pension”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 74(5)(a) (hawlogaeth i bensiwn afiechyd haen isaf a phensiwn afiechyd haen uchaf);”;

“mae i “swm cyfwerth â’r pensiwn afiechyd haen isaf Cynllun 1992” (“equivalent amount to the 1992 Scheme lower tier ill-health pension”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 74(5) (hawlogaeth i bensiwn afiechyd haen isaf a phensiwn afiechyd haen uchaf);;

(b)yn y diffiniad o “pensiwn ymddeol”, ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(c)dyfarniad afiechyd a thaliad o unrhyw swm cyfwerth â’r pensiwn afiechyd haen isaf Cynllun 1992 (os oes un) a thaliad o unrhyw swm cyfwerth â’r pensiwn afiechyd haen isaf CPNDT (os es un);.

2.  Yn Rhan 2 (llywodraethu), ar ddiwedd paragraff (2) o reoliad 4 (rheolwr cynllun) mewnosoder “mewn perthynas â phob un o gyfrifon pensiwn yr aelod”.

3.  Yn Rhan 3 (aelodaeth o’r cynllun) ym Mhennod 1 (cymhwystra ar gyfer aelodaeth actif), yn rheoliad 15 (cyflogaeth gynllun), yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Mae person sy’n aelod o Gynllun 1992 neu o CPNDT yn bodloni’r gofyniad yn y paragraff hwn.

4.  Yn Rhan 4 (cyfrifon pensiwn), ym Mhennod 8 (cyfrif ymddeol), yn rheoliad 60 (y cyfrif i bennu swm y pensiwn ymddeol (aelodau actif))—

(a)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Os oes gan yr aelod actif hawlogaeth i swm cyfwerth â’r pensiwn afiechyd haen isaf Cynllun 1992 neu swm cyfwerth â’r pensiwn afiechyd haen isaf CPNDT, rhaid i’r cyfrif ymddeol bennu’r swm hwnnw.;

(b)ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(4A) Ar gyfer swm cyfwerth â’r pensiwn afiechyd haen isaf Cynllun 1992 neu swm cyfwerth â’r pensiwn afiechyd haen isaf CPNDT, rhaid i’r cyfrif ymddeol bennu swm unrhyw gymudiad.

5.  Yn Rhan 5 (buddion ymddeol), ym Mhennod 2—

(a)yn rheoliad 68 (cyfradd flynyddol pensiwn ymddeol (aelodau actif))—

(i)ym mharagraff (2), yn lle “is-baragraffau (a), (b) ac (c)” rhodder “is-baragraffau (a), (b), (ba) ac (c)”;

(ii)ar ôl paragraff (2)(b) mewnosoder—

(ba)y cyfanswm canlynol—

(i)y swm cyfwerth â’r pensiwn afiechyd haen isaf CPNDT (os es un) neu’r swm cyfwerth â’r pensiwn afiechyd haen isaf Cynllun 1992 (os oes un) a bennir yng nghyfrif ymddeol yr aelod,

(ii)ar ôl didynnu swm y cymudiad (os oes un), a bennir yn y cyfrif hwnnw mewn perthynas â’r swm hwnnw; ac;

(b)yn rheoliad 71 (ymddeoliad a ysgogir gan gyflogwr), ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) Pan fo cyflogwr yn ystyried gwneud y penderfyniad ym mharagraff (2) mewn cysylltiad ag aelod actif sy’n aelod cysylltiedig o CPNDT, neu’n aelod arbennig cysylltiedig o CPNDT, mewn perthynas â chyfrif pensiwn yr aelod actif hwnnw, rhaid i’r cyflogwr ystyried hefyd wneud penderfyniad o dan reol 6 (pensiwn yn sgil ymddeoliad cynnar ar archiad yr awdurdod) o Ran 3 o’r CPNDT.;

(c)yn rheoliad 74 (hawlogaeth i bensiwn afiechyd haen isaf a phensiwn afiechyd haen uchaf), ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(4) Pan fo hawl gan aelod actif (A) i gael pensiwn afiechyd haen isaf, a pharagraff 22 (aelod trosiannol nad yw wedi cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan CPNDT) neu baragraff 24 (aelod trosiannol nad yw wedi cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan Gynllun 1992) o Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag A—

(a)os paragraff 22 sy’n gymwys mewn perthynas ag A, mae gan A hawlogaeth hefyd i swm cyfwerth â swm blynyddol y pensiwn afiechyd haen isaf a fyddai’n daladwy i’r aelod o dan CPNDT, pe bai hawl gan yr aelod i gael taliad o bensiwn afiechyd haen isaf o dan reol 2(2) o CPNDT;

(b)os paragraff 24 sy’n gymwys mewn perthynas ag A, mae gan A hawlogaeth hefyd i swm cyfwerth â swm blynyddol y pensiwn afiechyd haen isaf a fyddai’n daladwy i’r aelod o dan Gynllun 1992, pe bai hawl gan yr aelod i gael taliad o bensiwn afiechyd haen isaf o dan reol B3 (dyfarniadau afiechyd) o Gynllun 1992.

(5) Yn y Rheoliadau hyn—

(a)cyfeirir at y swm cyfwerth â swm blynyddol pensiwn afiechyd haen isaf yn is-baragraff (a) o baragraff (4) fel y “swm cyfwerth â’r pensiwn afiechyd haen isaf CPNDT” (“equivalent amount to the NFPS lower tier ill-health pension”);

(b)cyfeirir at y swm cyfwerth â swm blynyddol pensiwn afiechyd haen isaf yn is-baragraff (b) o baragraff (4) fel y “swm cyfwerth â’r pensiwn afiechyd haen isaf Cynllun 1992” (“equivalent amount to the 1992 Scheme lower tier ill-health pension”).;

(d)yn rheoliad 75 (cyfradd flynyddol dyfarniadau afiechyd)—

(i)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Yn achos aelod sydd â hawl i swm cyfwerth â’r pensiwn afiechyd haen isaf CPNDT neu i swm cyfwerth â’r pensiwn afiechyd haen isaf Cynllun 1992, mae’r pensiwn addasedig afiechyd haen isaf yn cynnwys y swm cyfwerth addasedig.;

(ii)ym mharagraff (4), yn y man priodol mewnosoder—

ystyr “y swm cyfwerth addasedig” (“the adjusted equivalent amount”) yw—

(a)

yn achos aelod sydd â hawl i swm cyfwerth â’r pensiwn afiechyd haen isaf CPNDT, y swm hwnnw a gyfrifir—

(i)

gan hepgor o’r cyfrifiad swm unrhyw gyfnod ychwanegol o wasanaeth a brynwyd o dan Ran 11 o CPNDT, a

(ii)

heb ddidynnu unrhyw gyfran a gymudwyd; a

(b)

yn achos aelod sydd â hawl i swm cyfwerth â’r pensiwn afiechyd haen isaf Cynllun 1992, y swm hwnnw a gyfrifir heb ddidynnu unrhyw gyfran a gymudwyd;;

(e)yn rheoliad 78 (canlyniadau adolygu), ar ôl paragraff (6) mewnosoder—

(6A) Os oes gan I hawl i swm cyfwerth â’r pensiwn afiechyd haen isaf CPNDT neu i swm cyfwerth â’r pensiwn afiechyd haen isaf Cynllun 1992, mae paragraffau (3) a (5) yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriad at “pensiwn afiechyd haen isaf” yn cynnwys swm cyfwerth â’r pensiwn afiechyd haen isaf CPNDT neu swm cyfwerth â’r pensiwn afiechyd haen isaf Cynllun 1992, yn ôl fel y digwydd.;

(f)ar ôl rheoliad 80 (opsiwn i gymudo rhan o’r pensiwn) mewnosoder—

Opsiwn i gymudo rhan o swm gyfwerth

80A.(1) Caiff aelod sy’n cael yr hawl i daliad ar unwaith o swm cyfwerth â’r pensiwn afiechyd haen isaf CPNDT neu i swm cyfwerth â’r pensiwn afiechyd haen isaf Cynllun 1992 arfer opsiwn o dan y rheoliad hwn i gyfnewid rhan o’r pensiwn am gyfandaliad.

(2) Ni chaniateir arfer yr opsiwn ac eithrio—

(a)drwy hysbysiad ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun, sy’n nodi’r swm sydd i’w gymudo; a

(b)cyn gwneud y taliad cyntaf o’r swm cyfwerth â’r pensiwn afiechyd haen isaf CPNDT neu swm cyfwerth â’r pensiwn afiechyd haen isaf Cynllun 1992.

(3) Pan fo hawl gan y person i gael taliad ar unwaith o swm cyfwerth â’r pensiwn afiechyd haen isaf CPNDT ac yntau’n arfer yr opsiwn i gymudo o dan y rheoliad hwn, cyfrifir y cyfandaliad—

(a)yn achos person sy’n aelod cysylltiedig o CPNDT, yn unol â pharagraffau (2) a (4) o reol 9 (cymudo: cyffredinol) o Ran 3 o CPNDT, ac

(b)yn achos person sy’n aelod arbennig cysylltiedig o CPNDT, yn unol â pharagraffau (2A), (4) a (4A) o reol 9 o Ran 3 o’r cynllun hwnnw.

6.  Yn Rhan 6 (buddion marwolaeth)—

(a)ym Mhennod 1 (dehongli), yn rheoliad 86 (ystyr “cyfnod dechreuol”), yn lle “At ddibenion y Rhan hon” rhodder “At ddibenion y Rheoliadau hyn”;

(b)ym Mhennod 2 (pensiynau ar gyfer partneriaid sy’n goroesi)—

(i)ym mharagraff (3) o reoliad 87 (pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod actif) yn lle “Yn ddarostyngedig i reoliad 91 (lleihau pensiynau mewn achosion o wahaniaeth oedran eang)” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (4) a rheoliad 91 (lleihau pensiynau mewn achosion o wahaniaeth oedran eang)”;

(ii)ar ôl paragraff (3) o reoliad 87 mewnosoder—

(4) Os oedd yr aelod y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn aelod trosiannol a chanddo fudd pensiwn ychwanegol o dan reol 7A neu 7B o CPNDT neu fudd pensiwn ychwanegol o dan reol B5B neu B5C o Gynllun 1992, ychwanegir hanner y swm o fudd pensiwn ychwanegol at swm cyfradd flynyddol pensiwn y partner sy’n goroesi, y cyfeirir ato ym mharagraff (3).;

(iii)ar ddechrau paragraff (2) o reoliad 95 (pensiwn plentyn cymwys ar farwolaeth aelod actif) mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (3)”, ac ar ôl y paragraff hwnnw mewnosoder—

(3) Os oedd yr aelod y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn aelod trosiannol a chanddo fudd pensiwn ychwanegol o dan reol 7A neu 7B o CPNDT neu fudd pensiwn ychwanegol o dan reol B5B neu B5C o Gynllun 1992, ychwanegir swm y budd pensiwn ychwanegol at y pensiwn afiechyd haen uchaf y cyfeirir ato ym mharagraff (2).;

(c)ym Mhennod 4 (cyfandaliadau o fuddion marwolaeth), ar ôl paragraff (4) yn rheoliad 102 (ystyr “tâl terfynol”) mewnosoder—

(5) Os yw’r aelod y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn aelod trosiannol a oedd mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan Gynllun 1992 neu CPNDT, yn ôl fel y digwydd, yn ystod y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) neu (1)(b), a gwasanaeth o’r cynllun hwnnw wedi ei gynnwys yn y gwasanaeth cymwys ar gyfer y cyfrif pensiwn y telir y cyfandaliad o fudd marwolaeth mewn cysylltiad ag ef—

(a)mae tâl pensiynadwy ym mharagraff (1)(a) neu (1)(b) yn cynnwys tâl pensiynadwy cyfartalog, a ddehonglir yn unol â rheol G1 os oedd y person yn aelod o Gynllun 1992, neu dâl pensiynadwy o dan reol 1 neu reol 2 o Ran 11 o CPNDT os oedd y person yn aelod-ddiffoddwr tân neu’n aelod-ddiffoddwr tân arbennig o CPNDT, a

(b)mae gwasanaeth pensiynadwy yn cynnwys gwasanaeth pensiynadwy a ddehonglir yn unol â rheol F1 os oedd y person yn aelod o Gynllun 1992 neu wasanaeth pensiynadwy a ddehonglir yn unol â rheolau 2 i 5 o Ran 10 o CPNDT.;

(d)ar ôl paragraff (3) o reoliad 105 (cyfandaliad sy’n daladwy ar farwolaeth aelod actif) mewnosoder—

(4) Os oedd cyfrif yr aelod actif y telir y cyfandaliad o fudd marwolaeth mewn cysylltiad ag ef yn cynnwys gwasanaeth pensiynadwy sy’n gyfrifadwy fel gwasanaeth cymwys o dan reol F1 o Gynllun 1992 ac arian rhodd i berthynas dibynnol wedi ei dalu o dan reol E3 o Gynllun 1992, neu daliad o falans cyfraniadau i’r ystad wedi ei dalu o dan reol E4 o Gynllun 1992, rhaid didynnu’r symiau hynny o swm y cyfandaliad budd marwolaeth sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn.

7.  Mae Atodlen 2 (darpariaethau trosiannol) wedi ei diwygio fel a ganlyn—

(a)yn Rhan 1, ym mharagraff 3(2) yn lle “Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3)” rhodder “Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (4)” ac ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—

(4) yn achos aelod diogelwch taprog o CPNDT sy’n aelod arbennig o CPNDT, canfyddir y dyddiad cau diogelwch taprog drwy gymhwyso’r dyddiad perthnasol yng ngholofn 3 o’r tabl Cynllun 1992 yn Rhan 4 o’r Atodlen hon, i’r dyddiad geni y cyfeirir ato yng ngholofn 1 a cholofn 2.;

(b)yn Rhan 2, ym mharagraff 9, ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(2A) Os oedd P yn aelod diogelwch llawn o Gynllun 1992 ac ar ôl ymddeol o wasanaeth pensiynadwy yn y cynllun hwn, yn cael yr hawl i bensiwn gwasanaeth parhaus o dan reol B1A, pensiwn cyffredin o dan reol B1, dyfarniad gwasanaeth byr o dan reol B2 neu bensiwn parhaus o dan reol B2A o’r cynllun hwnnw, mae P yn peidio â bod yn gymwys i fod yn aelod diogelwch llawn o CPNDT.;

(c)yn Rhan 3, ym mharagraff 15, ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

(1A) Os oedd P yn aelod diogelwch llawn o Gynllun 1992 ac ar ôl ymddeol o wasanaeth pensiynadwy yn y cynllun hwn, yn cael yr hawl i bensiwn gwasanaeth parhaus o dan reol B1A, pensiwn cyffredin o dan reol B1, dyfarniad gwasanaeth byr o dan reol B2 neu bensiwn parhaus o dan reol B2A o’r cynllun hwnnw, mae P yn peidio â bod yn gymwys i fod yn aelod diogelwch taprog o CPNDT.;

(d)ar ôl Rhan 3 mewnosoder—

RHAN 3ATalu buddion afiechyd i aelodau trosiannol

Aelod trosiannol nad yw wedi cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan CPNDT

22.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas ag aelod trosiannol sydd â pharhad gwasanaeth ac—

(a)sy’n aelod cysylltiedig o CPNDT neu’n aelod arbennig cysylltiedig o CPNDT;

(b)sy’n cael yr hawl i ddyfarniad afiechyd o dan y cynllun hwn mewn perthynas â chyflogaeth gynllun berthnasol; ac

(c)nad yw wedi cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan CPNDT.

(2) Os yw’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)nid oes na phensiwn afiechyd haen isaf na phensiwn afiechyd haen uchaf yn daladwy o dan reol 2 (dyfarndal yn sgil ymddeol oherwydd afiechyd) o CPNDT; a

(b)mae dyfarniad afiechyd yn daladwy o dan y cynllun hwn yn unol â’r paragraff hwn.

(3) Os yw’r aelod yn bodloni’r amodau ar gyfer pensiwn afiechyd haen isaf yn unig o dan y cynllun hwn, y gyfradd flynyddol o bensiwn afiechyd haen isaf sy’n daladwy o dan y cynllun hwn yw cyfanswm y canlynol—

(a)y gyfradd flynyddol o bensiwn afiechyd haen isaf sy’n daladwy o dan y cynllun hwn; a

(b)swm sy’n daladwy o dan reoliad 74 (hawlogaeth i bensiwn afiechyd haen isaf a phensiwn afiechyd haen uchaf).

(4) Pan fo’r aelod yn bodloni’r amodau ar gyfer pensiwn afiechyd haen uchaf o dan y cynllun hwn, mae’r pensiwn addasedig afiechyd haen isaf yn rheoliad 75(4) (cyfradd flynyddol dyfarniadau afiechyd) yn cynnwys y swm yn is-baragraff (3)(b) at ddibenion cyfrifo cyfradd flynyddol y pensiwn afiechyd haen uchaf.

(5) Wedi i ddyfarniad afiechyd ddod yn daladwy o dan y cynllun hwn, os gwneir taliad gwerth trosglwyddo o dan Bennod 2 (trosglwyddiadau allan o’r Cynllun) o Ran 12 (trosglwyddiadau i mewn ac allan o’r Cynllun) o CPNDT mewn cysylltiad â hawliau’r aelod o dan y Cynllun hwnnw, a’r trosglwyddiad yn ymwneud â chyfnod o wasanaeth a gynhwysir fel gwasanaeth cymwys mewn perthynas â chyfrif ymddeol yr aelod, rhaid i’r rheolwr cynllun ddidynnu o’r dyfarniad afiechyd y swm mewn cysylltiad â gwasanaeth yn CPNDT sy’n hafal i’r gwerth a gynrychiolir gan y taliad gwerth trosglwyddo hwnnw.

(6) Yn y paragraff hwn—

ystyr “cyflogaeth gynllun berthnasol” (“relevant scheme employment”) yw’r cyfnod parhaus o wasanaeth pensiynadwy mewn cyflogaeth gynllun mewn perthynas â’r cyfrif aelod actif yr ychwanegwyd ato’r gwasanaeth cymwys ar gyfer yr aelod cysylltiedig hwnnw o CPNDT neu’r aelod arbennig cysylltiedig hwnnw o’r CPNDT at ddibenion rheoliad 66 (gwasanaeth cymwys).

Aelod trosiannol sy’n cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan CPNDT

23.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas ag aelod trosiannol sydd â pharhad gwasanaeth ac sy’n cael taliad o ddyfarniad afiechyd yn unol â pharagraff 22.

(2) Pan fo’r aelod yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan CPNDT—

(a)mae’r swm cyfwerth â’r pensiwn afiechyd haen isaf CPNDT a bennir o dan reoliad 68(2)(ba) (cyfradd flynyddol pensiwn ymddeol (aelodau actif)) yn peidio â bod yn daladwy o dan y cynllun hwn; a

(b)mae’r aelod yn cael yr hawl o dan CPNDT i daliad ar unwaith o bensiwn parhaus, sydd â’i swm yn hafal i gyfradd flynyddol y swm cyfwerth â’r pensiwn afiechyd haen isaf CPNDT a oedd yn daladwy yn union cyn y dyddiad y cyrhaeddodd yr aelod oedran pensiwn arferol.

Aelod trosiannol nad yw wedi cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan Gynllun 1992

24.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas ag aelod trosiannol—

(a)a oedd mewn gwasanaeth pensiynadwy yng Nghynllun 1992 tan y diwrnod cyn y dyddiad trosiant; a

(b)sydd wedi parhau mewn gwasanaeth pensiynadwy mewn cyflogaeth gynllun berthnasol, neu sydd wedi ei drin fel aelod actif o’r cynllun hwn mewn perthynas â’r gyflogaeth honno, hyd nes i’r aelod hwnnw gael yr hawl i ddyfarniad afiechyd o dan y cynllun hwn; ac

(c)nad yw wedi cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan Gynllun 1992 nac ychwaith yr oedran pan fodlonir amodau rheol B1 (pensiwn cyffredin) fel y’i haddaswyd gan reol B1A (pensiwn gwasanaeth parhaus) o’r cynllun hwnnw.

(2) Os yw’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)nid oes pensiwn afiechyd haen isaf na phensiwn afiechyd haen uchaf yn daladwy o dan reol B3 (dyfarniadau afiechyd) o Gynllun 1992; a

(b)mae dyfarniad afiechyd yn daladwy o dan y cynllun hwn.

(3) Os yw’r aelod yn bodloni’r amodau ar gyfer pensiwn afiechyd haen isaf yn unig o dan y cynllun hwn, y gyfradd flynyddol o bensiwn afiechyd haen isaf sy’n daladwy o dan y cynllun hwn yw cyfanswm y canlynol—

(a)y gyfradd flynyddol o bensiwn afiechyd haen isaf sy’n daladwy o dan y cynllun hwn; a

(b)swm sy’n daladwy o dan reoliad 74(4) (hawlogaeth i bensiwn afiechyd haen isaf a phensiwn afiechyd haen uchaf).

(4) Pan fo’r aelod yn bodloni’r amodau ar gyfer pensiwn afiechyd haen uchaf o dan y cynllun hwn, mae’r pensiwn addasedig afiechyd haen isaf yn rheoliad 75(4) (cyfradd flynyddol dyfarniadau afiechyd) yn cynnwys y swm yn is-baragraff (3)(b) at ddibenion cyfrifo cyfradd flynyddol y pensiwn afiechyd haen uchaf.

(5) Wedi i ddyfarniad afiechyd ddod yn daladwy o dan y cynllun hwn, os gwneir taliad gwerth trosglwyddo o dan reol F9 (taliad o werth trosglwyddo) o Gynllun 1992 mewn cysylltiad â hawliau’r aelod o dan y cynllun hwnnw, a’r trosglwyddiad yn ymwneud â chyfnod o wasanaeth a gynhwysir fel gwasanaeth cymwys mewn perthynas â chyfrif ymddeol yr aelod hwnnw, rhaid i’r rheolwr cynllun ddidynnu, o swm y dyfarniad afiechyd, swm mewn cysylltiad â gwasanaeth yng Nghynllun 1992 sy’n hafal i’r gwerth a gynrychiolir gan y taliad o werth trosglwyddo hwnnw.

(6) Yn y paragraff hwn—

ystyr “cyflogaeth gynllun berthnasol” (“relevant scheme employment”) yw’r cyfnod parhaus o wasanaeth pensiynadwy mewn cyflogaeth gynllun mewn perthynas â’r cyfrif aelod actif yr ychwanegwyd ato’r gwasanaeth pensiynadwy yng Nghynllun 1992 at ddibenion rheoliad 66 (gwasanaeth cymwys).

Aelod trosiannol sy’n cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan Gynllun 1992

25.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas ag aelod trosiannol sy’n cael taliad o ddyfarniad afiechyd yn unol â pharagraff 24.

(2) Pan fo’r aelod yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan Gynllun 1992 neu’r oedran ar gyfer ymddeol a ganfyddir o dan reol B1A(3)(i) o’r cynllun hwnnw—

(a)mae’r aelod yn peidio â bod â’r hawl i daliad ar unwaith o swm cyfwerth â’r pensiwn afiechyd haen isaf Cynllun 1992 o dan reoliad 74(4)(b) (hawlogaeth i bensiwn afiechyd haen isaf a phensiwn afiechyd haen uchaf) o dan y cynllun hwn; a

(b)mae’r aelod yn cael yr hawl o dan Gynllun 1992 i daliad ar unwaith o bensiwn parhaus, sydd â’i swm yn hafal i gyfradd flynyddol y swm cyfwerth â’r pensiwn afiechyd haen isaf Cynllun 1992 a oedd yn daladwy yn union cyn y dyddiad y cyrhaeddodd yr aelod oedran pensiwn arferol neu’r oedran ar gyfer ymddeol a ganfyddir o dan reol B1A(3)(i) o Gynllun 1992.

RHAN 3BTalu buddion marwolaeth mewn cysylltiad ag aelodau trosiannol

Cyfradd flynyddol pensiynau i bartneriaid sy’n goroesi, sy’n daladwy o dan y cynllun hwn pan fydd farw aelodau trosiannol penodol sydd â buddion cronedig yng Nghynllun 1992, tra’n gwasanaethu

26.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas ag aelod trosiannol—

(a)a oedd mewn gwasanaeth pensiynadwy yng Nghynllun 1992 tan y diwrnod cyn y dyddiad trosiant;

(b)sydd wedi parhau mewn gwasanaeth pensiynadwy mewn cyflogaeth gynllun, neu i gael ei drin fel aelod actif o’r cynllun hwn, hyd at farwolaeth yr aelod hwnnw; ac

(c)a fu farw fel aelod actif o’r cynllun hwn.

(2) Nid oes dyfarniadau yn daladwy i briodau a phartneriaid sifil sy’n goroesi o dan Ran C (dyfarniadau yn dilyn marwolaeth: priodau) o Gynllun 1992 mewn cysylltiad ag aelod y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo.

(3) Nid oes hawl gan briod neu bartner sifil aelod y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo i gael pensiwn profedigaeth o dan reol E8 o Gynllun 1992.

Cyfradd flynyddol pensiynau sy’n daladwy i blentyn cymwys o dan y cynllun hwn pan fydd farw aelod trosiannol, sydd â buddion cronedig yn CPNDT, tra’n gwasanaethu

27.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas ag aelod trosiannol sydd â pharhad gwasanaeth ac yn aelod cysylltiedig o CPNDT neu’n aelod arbennig cysylltiedig o CPNDT—

(a)a fu farw tra’n aelod actif o’r cynllun hwn; a

(b)sydd â chyfnod o 3 mis o leiaf o wasanaeth cymwys.

(2) Nid yw pensiynau ar gyfer plentyn cymwys yn daladwy o dan CPNDT mewn perthynas â’r aelod hwnnw.

Cyfradd flynyddol pensiynau sy’n daladwy i blentyn cymwys o dan y cynllun hwn pan fydd farw aelod trosiannol, sydd â buddion cronedig yng Nghynllun 1992, tra’n gwasanaethu

28.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas ag aelod trosiannol—

(a)a oedd mewn gwasanaeth pensiynadwy yng Nghynllun 1992 tan y diwrnod cyn y dyddiad trosiant;

(b)sydd wedi parhau mewn gwasanaeth pensiynadwy mewn cyflogaeth gynllun, neu i gael ei drin fel aelod actif o’r cynllun hwn, hyd at farwolaeth yr aelod hwnnw; ac

(c)a fu farw fel aelod actif o’r cynllun hwn.

(2) Nid yw dyfarniadau ar gyfer plentyn cymwys yn daladwy o dan Ran D (dyfarniadau yn dilyn marwolaeth – plant) ac nid oes pensiwn profedigaeth yn daladwy o dan reol E8A o Gynllun 1992 mewn cysylltiad â’r aelod hwnnw.

Swm y cyfandaliad o fudd marwolaeth sy’n daladwy o dan y cynllun hwn pan fydd farw aelod trosiannol, sydd â buddion cronedig yn CPNDT, tra’n gwasanaethu

29.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas ag aelod trosiannol (T) sy’n aelod o CPNDT ac a fu farw fel aelod actif o’r cynllun hwn.

(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), os bu farw T fel aelod-bensiynwr o CPNDT, swm y cyfandaliad budd marwolaeth sy’n daladwy o dan y cynllun hwn yw’r mwyaf o naill ai swm y cyfandaliad budd marwolaeth sy’n daladwy o dan reoliad 105(2) neu swm y grant marwolaeth ôl-ymddeol sy’n daladwy o dan reol 2 (grant marwolaeth ôl-ymddeol) o Ran 5 o CPNDT.

(3) Os oedd T, ar yr adeg y bu farw, yn aelod-bensiynwr o’r cynllun hwn ac yn aelod actif o’r cynllun hwn, a rheoliad 107 (cyfandaliad sy’n daladwy ar farwolaeth mewn achosion penodol) yn gymwys, ac os swm y cyfandaliad budd marwolaeth o dan reoliad 106 (cyfandaliad sy’n daladwy ar farwolaeth aelod-bensiynwr) yw’r mwyaf sy’n daladwy yn yr achos hwnnw, rhaid darllen is-baragraff (2) fel pe rhoddid “rheoliad 106” yn lle “rheoliad 105”.

Swm y cyfandaliad o fudd marwolaeth sy’n daladwy o dan y cynllun hwn pan fydd farw aelod trosiannol, sydd â buddion cronedig yng Nghynllun 1992, tra’n gwasanaethu

30.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas ag aelod trosiannol (T) sy’n aelod o Gynllun 1992 ac a fu farw fel aelod actif o’r cynllun hwn.

(2) Mae is-baragraff (3) yn gymwys os oedd paragraff (7) o reol A3 o Gynllun 1992 yn gymwys i T yn union cyn ei farwolaeth a chyfandaliad o grant marwolaeth, y pennir ei swm yn rheoliad 105(2) (cyfandaliad sy’n daladwy ar farwolaeth aelod actif) o’r cynllun hwn, yn daladwy i’r personau hynny a benderfynir gan y rheolwr cynllun o dan reoliad 104 (person y mae cyfandaliad budd marwolaeth yn daladwy iddo) ac—

(a)cyfandaliad grant marwolaeth wedi ei dalu o dan reol E1 o Gynllun 1992,

(b)taliad o’r balans o’r cyfraniadau wedi ei wneud o dan reol E4 o Gynllun 1992, neu

(c)arian rhodd i berthynas dibynnol wedi ei dalu o dan reol E3 o Gynllun 1992.

(3) Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys, rhaid didynnu’r taliadau a wnaed ac y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a), (b) neu (c) o is-baragraff (2) allan o’r cyfandaliad grant marwolaeth sy’n daladwy o dan reoliad 105.

(4) Mae is-baragraff (5) yn gymwys os bu T farw fel aelod gohiriedig o Gynllun 1992 neu os oedd yn cael pensiwn o’r cynllun hwnnw, a chyfandaliad o grant marwolaeth, y pennir ei swm yn rheoliad 105(2) o’r cynllun hwn, yn daladwy i’r personau hynny a benderfynir gan y rheolwr cynllun o dan reoliad 104 ac—

(a)arian rhodd i berthynas dibynnol wedi ei dalu o dan reol E3 o Gynllun 1992, neu

(b)swm o grant marwolaeth ôl-ymddeol wedi ei dalu o dan reol E4.

(5) Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys, rhaid didynnu’r taliadau a wnaed ac y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) neu (b) o is-baragraff (4) allan o’r cyfandaliad grant marwolaeth sy’n daladwy o dan reoliad 105.

RHAN 3CDarpariaethau trosiannol mewn perthynas ag CPNDT a Chynllun 1992

Gwasanaeth pensiynadwy o dan CPNDT

31.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas ag aelod trosiannol (T) sy’n aelod cysylltiedig o’r CPNDT neu’n aelod arbennig cysylltiedig o’r CPNDT, a chanddo barhad gwasanaeth.

(2) Mae’r darpariaethau canlynol o Bennod 2 (prynu gwasanaeth ychwanegol) o Ran 11 (tâl pensiynadwy, cyfraniadau pensiwn a phrynu gwasanaeth ychwanegol) o CPNDT yn parhau’n gymwys ar ôl y dyddiad trosiant, fel pe bai T yn parhau mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwnnw—

(a)y darpariaethau sy’n ymwneud â thalu cyfraniadau cyfnodol i brynu gwasanaeth ychwanegol os oedd T wedi gwneud dewisiad i brynu gwasanaeth ychwanegol o dan reoliad 6 (dewis prynu gwasanaeth ychwanegol) neu os yw T yn dychwelyd i wasanaeth pensiynadwy fel diffoddwr tân ar ôl cyfnod o wasanaeth di-dâl neu absenoldeb di-dâl a T yn gwneud dewisiad i brynu gwasanaeth ychwanegol mewn cysylltiad â’r cyfnod cyn y dyddiad trosiant o dan y rheol honno; a

(b)y darpariaethau sy’n ymwneud â thalu’r cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol sy’n daladwy mewn cysylltiad â dewisiad i brynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig o dan reol 6A (dewis prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig).

(3) Wrth benderfynu a yw T yn gymwys o dan CPNDT ar gyfer buddion ymddeol (ac eithrio dyfarniad wrth ymddeol oherwydd afiechyd neu bensiwn gohiriedig), mae gwasanaeth pensiynadwy T o dan CPNDT yn terfynu pan fo gwasanaeth pensiynadwy T o dan y cynllun hwn yn terfynu.

Cyflog terfynol aelodau trosiannol penodol at unrhyw ddibenion CPNDT

32.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i aelod trosiannol (T) sydd â pharhad gwasanaeth, sydd mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn ac sy’n aelod o CPNDT.

(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) i (5), wrth benderfynu tâl pensiynadwy terfynol T at unrhyw ddibenion CPNDT o dan Atodlen 7 i Ddeddf 2013 (cyswllt cyflog terfynol)—

(a)mae darpariaethau paragraff 1 neu baragraff 2 o’r Atodlen honno yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriad at “final salary” yn gyfeiriad at “final pensionable pay”, a

(b)rhaid ystyried bod tâl pensiynadwy sy’n deillio o wasanaeth o dan y cynllun hwn wedi deillio o wasanaeth o dan CPNDT.

(3) Os yw tâl pensiynadwy T sy’n deillio o wasanaeth o dan y cynllun hwn, ar adeg pan benderfynir tâl pensiynadwy terfynol T at unrhyw ddibenion CPNDT o dan Atodlen 7 (cyswllt cyflog terfynol) i Ddeddf 2013, yn is na thâl pensiynadwy T sy’n deillio o wasanaeth o dan CPNDT ar y diwrnod cyn y dyddiad trosiant—

(a)nid yw is-baragraff (2) yn gymwys, a

(b)penderfynir tâl pensiynadwy terfynol T yn unol â rheol 1 (tâl pensiynadwy) a rheol 2 (tâl pensiynadwy terfynol) o Ran 11 o CPNDT.

(4) Os yw tâl pensiynadwy T sy’n deillio o wasanaeth o dan y cynllun hwn, ar adeg pan benderfynir tâl pensiynadwy terfynol T at unrhyw ddibenion CPNDT o dan Atodlen 7 (cyswllt cyflog terfynol) i Ddeddf 2013, yn is na’r tâl pensiynadwy ar gyfer unrhyw flwyddyn ar ôl y dyddiad trosiant, rhaid ystyried at ddibenion Atodlen 7 mai’r tâl pensiynadwy ar gyfer y flwyddyn o wasanaeth cyn y gostyngiad yn y tâl pensiynadwy yw’r tâl pensiynadwy sy’n deillio o wasanaeth o dan CPNDT.

(5) Mae’r diffiniad, yn rheoliad 26, o’r tâl pensiynadwy sy’n deillio o wasanaeth o dan y cynllun hwn wedi ei addasu at ddibenion is-baragraffau (2) a (4) drwy hepgor paragraff (1)(d) o’r rheoliad hwnnw, ac mewn achos pan delir i T unrhyw lwfans neu atodiad, o fewn ystyr paragraff (6) o reol 1 o Ran 11 o CPNDT, y byddai’r cyflogwr wedi ei drin yn bensiynadwy o dan y cynllun hwnnw pe bai’r aelod yn parhau’n aelod-ddiffoddwr tân o’r cynllun hwnnw, trinnir y swm hwnnw fel pe bai’n gynwysedig yn y tâl pensiynadwy at ddibenion penderfynu tâl pensiynadwy terfynol T o dan CPNDT.

Cyflog terfynol aelodau trosiannol penodol at unrhyw ddibenion Cynllun 1992

33.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas ag aelod trosiannol (T) sydd â pharhad gwasanaeth, sydd mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn ac sy’n aelod o Gynllun 1992.

(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) i (5), wrth benderfynu tâl pensiynadwy cyfartalog T at unrhyw ddibenion Cynllun 1992 o dan Atodlen 7 i Ddeddf 2013 (cyswllt cyflog terfynol)—

(a)mae darpariaethau paragraff 1 o’r Atodlen honno yn gymwys fel pe bai cyfeiriad at “final salary” yn gyfeiriad at “average pensionable pay”, a

(b)rhaid ystyried bod tâl pensiynadwy sy’n deillio o wasanaeth o dan y cynllun hwn wedi deillio o wasanaeth o dan Gynllun 1992.

(3) Os yw tâl pensiynadwy T sy’n deillio o wasanaeth o dan y cynllun hwn, ar adeg pan benderfynir tâl pensiynadwy cyfartalog T at unrhyw ddibenion Cynllun 1992 o dan Atodlen 7 (cyswllt cyflog terfynol) i Ddeddf 2013, yn is na thâl pensiynadwy T sy’n deillio o wasanaeth o dan Gynllun 1992 ar y diwrnod cyn y dyddiad trosiant—

(a)nid yw is-baragraff (2) yn gymwys, a

(b)penderfynir tâl pensiynadwy cyfartalog T yn unol â rheol G1 (tâl pensiynadwy a thâl pensiynadwy cyfartalog) o Gynllun 1992.

(4) Os yw tâl pensiynadwy T sy’n deillio o wasanaeth o dan y cynllun hwn, ar adeg pan benderfynir tâl pensiynadwy cyfartalog T at unrhyw ddibenion Cynllun 1992 o dan Atodlen 7 (cyswllt cyflog terfynol) i Ddeddf 2013, yn is na’r tâl pensiynadwy ar gyfer unrhyw flwyddyn ar ôl y dyddiad trosiant, rhaid ystyried at ddibenion Atodlen 7 mai’r tâl pensiynadwy ar gyfer y flwyddyn o wasanaeth cyn y gostyngiad yn y tâl pensiynadwy yw’r tâl pensiynadwy sy’n deillio o wasanaeth o dan Gynllun 1992.

(5) Mae’r diffiniad, yn rheoliad 26, o’r tâl pensiynadwy sy’n deillio o wasanaeth o dan y cynllun hwn wedi ei addasu at ddibenion is-baragraffau (2) a (4) drwy hepgor paragraff (1)(d) o’r rheoliad hwnnw, ac mewn achos pan delir i’r aelod o Gynllun 1992 unrhyw lwfans neu atodiad o fewn ystyr paragraff (9) o reol G1 (tâl pensiynadwy a thâl pensiynadwy cyfartalog), y byddai’r cyflogwr wedi ei drin yn dâl pensiynadwy o dan y Cynllun hwnnw pe bai’r aelod yn parhau â’r hawl i gyfrif gwasanaeth pensiynadwy yn y Cynllun hwnnw, caiff y swm hwnnw ei gynnwys yn y tâl pensiynadwy at ddibenion penderfynu tâl pensiynadwy cyfartalog T o dan Gynllun 1992.

Gwasanaeth pensiynadwy parhaus o dan Gynllun 1992

34.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i aelod trosiannol (T) a oedd mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan Gynllun 1992 ar y dyddiad cyn dyddiad trosiant yr aelod hwnnw, ac a ymunodd â’r cynllun hwn ar y dyddiad trosiant, ac sydd wedi parhau mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn tan y dyddiad pan fo T yn dod yn gymwys o dan Gynllun 1992 ar gyfer dyfarniad o dan y cynllun hwnnw.

(2) Bodlonir y gofyniad ym mharagraff (1) fod T wedi parhau mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn os yw T wedi bod, neu wedi ei drin fel pe bai, yn aelod actif o’r cynllun hwn.

(3) Ar gyfer penderfynu a yw T yn gymwys o dan Gynllun 1992 i gael buddion ymddeol (ac eithrio dyfarniad ymddeol ar sail afiechyd neu bensiwn gohiriedig), mae gwasanaeth pensiynadwy T o dan Gynllun 1992 yn terfynu pan fo gwasanaeth pensiynadwy T o dan y cynllun hwn yn terfynu.

(4) At ddibenion cyfrifo’r pensiwn o dan reol B1A o Gynllun 1992 ac ar gyfer y cymudo o dan reol B7 (cymudo – darpariaeth gyffredinol) o’r cynllun hwnnw, mae gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn yn gyfrifadwy o dan reol F2 (gwasanaeth cyfredol) o’r cynllun hwnnw fel gwasanaeth pensiynadwy 2015.

(5) Os oedd T wedi gwneud dewisiad i dalu cyfraniadau cyfnodol ar gyfer buddion cynyddol o dan reol G6 (dewis prynu buddion cynyddol) o Gynllun 1992, mae’r cyfraniadau hyn yn parhau’n daladwy fel pe bai T wedi parhau mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan Gynllun 1992 hyd nes bydd T yn gadael gwasanaeth pensiynadwy o dan Gynllun 2015.

(6) Os yw T, ar ôl y dyddiad trosiant, yn dychwelyd i’w waith yn dilyn cyfnod o absenoldeb mamolaeth neu absenoldeb mabwysiadu, a hawl ganddo i ddewis talu cyfraniadau pensiwn mewn cysylltiad â’r cyfnod hwnnw o dan reol G2A (cyfraniadau pensiwn opsiynol yn ystod absenoldeb mamolaeth a mabwysiadu) o Gynllun 1992, ni chaniateir gwneud y dewisiad ac eithrio mewn cysylltiad â’r cyfnod cyn y dyddiad trosiant.

(7) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, a hawl gan T i gael pensiwn cyffredin o dan reol B1 (pensiwn cyffredin) o Gynllun 1992 neu ddyfarndal gwasanaeth byr o dan reol B2 (dyfarndal gwasanaeth byr) o’r cynllun hwnnw, cyfrifir pensiwn cyffredin T neu ddyfarndal gwasanaeth byr T, yn ôl fel y digwydd, yn unol â Rhan 2A o Atodlen 2 i Gynllun 1992 ac nid yw Rhan 1 a Rhan 2 o Atodlen 2 i’r cynllun hwnnw yn gymwys.

Aelod gohiriedig o Gynllun 1992

35.  Mae aelod trosiannol sydd â buddion cronedig yng Nghynllun 1992 ac nad yw paragraff 34 yn gymwys iddo yn aelod gohiriedig o Gynllun 1992.

Aelod gohiriedig o CPNDT

36.(1) Nid yw aelod trosiannol (T), sydd â pharhad gwasanaeth ac sy’n aelod cysylltiedig o CPNDT neu’n aelod arbennig cysylltiedig o CPNDT yn dod yn aelod gohiriedig o’r cynllun hwnnw oni fydd T yn dod yn aelod gohiriedig o’r cynllun hwn mewn perthynas â’r cyfrif aelod actif yr ychwanegwyd ato’r gwasanaeth cymwys ar gyfer yr aelod cysylltiedig hwnnw o CPNDT neu’r aelod arbennig cysylltiedig hwnnw o CPNDT.

(2) Os yw T yn optio allan o’r cynllun hwn mewn perthynas â chyflogaeth gynllun, neu’n gadael cyflogaeth gynllun cyn cael yr hawl i bensiwn mewn perthynas â’r gwasanaeth pensiynadwy hwnnw, a bod gan T dri mis, o leiaf, o wasanaeth cymwys—

(a)daw T yn aelod gohiriedig o CPNDT mewn perthynas â gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwnnw; a

(b)mae unrhyw daliadau cyfnodol am wasanaeth ychwanegol o dan CPNDT yn peidio â bod yn daladwy.

(3) Os yw T yn dychwelyd i wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn ar ôl bwlch mewn gwasanaeth nad yw’n hwy na 5 mlynedd, mae T yn peidio â bod yn aelod gohiriedig o CPNDT.

Rheolwr cynllun yn penderfynu nad oes gan aelod o CPNDT hawl i ddyfarniad afiechyd

37.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw’r awdurdod wedi penderfynu cael barn ysgrifenedig gan YMCA ynglŷn ag a yw aelod o CPNDT yn anabl yn barhaol, neu’n abl i ymgymryd â chyflogaeth reolaidd, cyn penderfynu a oes hawl gan yr aelod i gael dyfarniad afiechyd, ac nad yw’r penderfyniad wedi ei wneud cyn dyddiad trosiant yr aelod.

(2) Os yw’r paragraff hwn yn gymwys, mae’r aelod yn ymuno â’r cynllun hwn ar y diweddaraf o’r canlynol—

(a)dyddiad trosiant yr aelod;

(b)os yw’r aelod yn penderfynu peidio ag apelio, diwedd y cyfnod o 28 diwrnod o’r dyddiad y mae’r aelod yn cael yr olaf o’r dogfennau y mae’n ofynnol i’r awdurdod eu cyflenwi o dan reol 4 (apelau yn erbyn penderfyniadau sydd wedi’u seilio ar gyngor meddygol) o Ran 8 o CPNDT;

(c)os yw’r aelod yn tynnu’r apêl yn ôl, y dyddiad y tynnir yr apêl yn ôl; a

(d)pan fo apêl gan yr aelod wedi ei chlywed, ar ddiwedd y cyfnod o 28 diwrnod o’r dyddiad y mae’r aelod yn cael adroddiad y bwrdd o ganolwyr meddygol os nad oes datganiad wedi ei gyflenwi gan yr awdurdod i Weinidogion Cymru neu, os yw’r bwrdd yn ailystyried ei benderfyniad, yn cael yr hysbysiad sy’n cadarnhau’r penderfyniad neu’r penderfyniad diwygiedig.

Rheolwr cynllun yn penderfynu nad oes gan aelod o Gynllun 1992 hawl i ddyfarniad afiechyd

38.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw’r awdurdod wedi penderfynu cael barn ysgrifenedig gan YMCA o dan reol H1 (penderfyniad gan awdurdod tân) o Gynllun 1992 ynglŷn ag a yw aelod o’r cynllun hwnnw yn anabl yn barhaol, neu’n abl i ymgymryd â chyflogaeth reolaidd, cyn penderfynu a oes hawl gan yr aelod i gael dyfarniad afiechyd, ac nad yw’r penderfyniad wedi ei wneud cyn dyddiad trosiant yr aelod.

(2) Os yw’r paragraff hwn yn gymwys, mae’r aelod yn ymuno â’r cynllun hwn ar y diweddaraf o’r canlynol—

(a)dyddiad trosiant yr aelod;

(b)os yw’r aelod yn penderfynu peidio ag apelio, diwedd y cyfnod o 28 diwrnod o’r dyddiad y mae’r aelod yn cael yr olaf o’r dogfennau y mae’n ofynnol i’r awdurdod eu cyflenwi o dan reol H2A (apelau yn erbyn barn sy’n seiliedig ar gyngor meddygol) o Ran H o Gynllun 1992;

(c)os yw’r aelod yn tynnu’r apêl yn ôl, y dyddiad y tynnir yr apêl yn ôl; a

(d)pan fo apêl gan yr aelod wedi ei chlywed, ar ddiwedd y cyfnod o 28 diwrnod o’r dyddiad y mae’r aelod yn cael adroddiad y bwrdd o ganolwyr meddygol neu, os yw’r bwrdd yn ailystyried ei benderfyniad, yn cael yr hysbysiad sy’n cadarnhau’r penderfyniad neu’r penderfyniad diwygiedig.

Ad-dalu cyfraniadau o dan CPNDT

39.  Os yw aelod trosiannol (T), sydd â pharhad gwasanaeth, yn optio allan o’r cynllun hwn, a bod gan T lai na 3 mis o wasanaeth cymwys yn CPNDT a’r cynllun hwn—

(a)rhaid ad-dalu i T ei gyfraniadau pensiwn a’i gyfraniadau pensiwn arbennig a’i gyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol a dalwyd o dan CPNDT; a

(b)bydd unrhyw daliadau cyfnodol pellach am wasanaeth ychwanegol, a oedd i’w talu o dan CPNDT yn peidio â bod yn daladwy.

Cymhwystra am fuddion ymddeol o dan CPNDT

40.  Ar gyfer penderfynu a yw aelod trosiannol sydd â pharhad gwasanaeth yn gymwys i gael buddion ymddeol o dan CPNDT, mae gwasanaeth cymwys yr aelod yn cynnwys cyfanswm y canlynol—

(a)gwasanaeth cymwys yr aelod o dan CPNDT; a

(b)gwasanaeth cymwys yr aelod o dan y cynllun hwn.

Cymhwystra am fuddion ymddeol o dan Gynllun 1992

41.  Ar gyfer penderfynu a yw aelod trosiannol sydd â pharhad gwasanaeth yn gymwys i gael buddion ymddeol o dan Gynllun 1992, mae gwasanaeth cymwys yr aelod yn cynnwys cyfanswm y canlynol —

(a)gwasanaeth cymwys yr aelod o dan Gynllun 1992; a

(b)gwasanaeth cymwys yr aelod o dan y cynllun hwn.

Cyswllt cyflog terfynol i beidio â chael ei gymhwyso drachefn at bensiwn a delir eisoes o dan CPNDT

42.  Pan fo unrhyw elfen o bensiwn o dan CPNDT, a delir eisoes o dan y Cynllun hwnnw, wedi ei chyfrifo drwy gyfeirio at Atodlen 7 (cyswllt cyflog terfynol) i Ddeddf 2013, ni ailgyfrifir yr elfen honno o’r pensiwn drwy gyfeirio at Atodlen 7 o ganlyniad i gyfnod diweddarach o wasanaeth cyhoeddus pensiynadwy (o fewn ystyr paragraff 3 o Atodlen 7 i Ddeddf 2013).

Cyswllt cyflog terfynol i beidio â chael ei gymhwyso drachefn at bensiwn a delir eisoes o dan Gynllun 1992

43.  Pan fo unrhyw elfen o bensiwn o dan Gynllun 1992, a delir eisoes o dan y cynllun hwnnw, wedi ei chyfrifo drwy gyfeirio at Atodlen 7 (cyswllt cyflog terfynol) i Ddeddf 2013, ni ailgyfrifir yr elfen honno o’r pensiwn drwy gyfeirio at Atodlen 7 (cyswllt cyflog terfynol) i Ddeddf 2013 o ganlyniad i gyfnod diweddarach o wasanaeth cyhoeddus pensiynadwy (o fewn ystyr paragraff 3 o Atodlen 7 i’r Ddeddf).

RHAN 3DTrosglwyddo buddion cyflog terfynol

Ystyr “budd cyflog terfynol”

44.(1) Yn y Rhan hon, ystyr “budd cyflog terfynol” (“final salary benefityw budd sydd wedi cronni o dan gynllun cyflog terfynol, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2).

(2) Os rhan yn unig o’r hawlogaeth pensiwn, sy’n daladwy i berson neu mewn cysylltiad â pherson o dan gynllun cyflog terfynol sy’n seiliedig ar wasanaeth pensiynadwy’r person hwnnw, a benderfynir neu y caniateir ei phenderfynu drwy gyfeirio at gyflog terfynol y person hwnnw, ystyr “budd cyflog terfynol” yw’r budd y penderfynir yr hawlogaeth pensiwn mewn cysylltiad ag ef felly.

Derbyn taliadau gwerth trosglwyddiad clwb

45.  Rhaid i unrhyw ran o daliad gwerth trosglwyddiad clwb o gynllun arall, sy’n ymwneud â budd cyflog terfynol aelod, gael ei dalu i mewn i’r CPNDT.

Aelod o’r cynllun hwn neu o’r CPNDT

46.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n trosglwyddo buddion cyflog terfynol i mewn i’r CPNDT.

(2) Onid yw’r person yn aelod a ddiogelir o CPNDT, bydd gwasanaeth y person mewn perthynas â’r buddion cyflog terfynol a drosglwyddwyd i mewn i CPNDT yn cael ei ystyried fel gwasanaeth cymwys at ddibenion y cynllun hwn, a bydd y person—

(a)yn dod yn aelod o’r cynllun hwn; a

(b)yn cael ei ystyried fel aelod trosiannol sydd â pharhad gwasanaeth.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources