Search Legislation

Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2014

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 41 (Cy. 3)

Landlord A Thenant, Cymru

Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2014

Gwnaed

15 Ionawr 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

16 Ionawr 2014

Yn dod i rym

14 Chwefror 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986(1) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2014, mae’n gymwys o ran Cymru, a daw i rym ar 4 Chwefror 2014.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “ardal lai ffafriol” (“less favoured area”) yw tir dan anfantais neu dir dan anfantais ddifrifol;

mae i “hectar cymwys” yr un ystyr ag a roddir i “eligible hectare” yn Erthygl 34(2) o Reoliad y Cyngor 73/2009;

ystyr “mapiau dynodedig (“designated maps”) yw’r ddwy gyfrol o fapiau sydd wedi eu rhifo 1 a 2, y ddwy wedi eu marcio â “Volume of maps of less favoured farming areas in Wales” ac â rhif y gyfrol dyddiedig 20 Mai 1999, ac wedi eu llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’u hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;

ystyr “Rheoliad y Cyngor 73/2009” (“Council Regulation 73/2009”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 sy’n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr o dan y polisi amaethyddol cyffredin, ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr ac yn diwygio ac yn diddymu Rheoliadau penodol(3);

ystyr “tir dan anfantais” (“disadvantaged land”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir dan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio’n las ar y mapiau dynodedig; ac

ystyr “tir dan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw’r ardal o dir sydd wedi ei lliwio’n binc ar y mapiau dynodedig.

Asesu gallu cynhyrchiol tir

2.—(1Mae paragraffau (2) a (3) yn cael effaith at ddiben asesu gallu cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw’r uned honno yn uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr “commercial unit of agricultural land” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.

(2Os gellir defnyddio’r tir dan sylw, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwriaethol yn yr awyr agored, neu ffrwythau fel y crybwyllir yn unrhyw un o’r cofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn, yna—

(a)yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o’r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 o’r Atodlen honno gyferbyn â’r cofnod hwnnw, a

(b)y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 12 Medi 2013, yn incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o’r Atodlen honno gyferbyn â’r cofnod hwnnw fel y’i darllenir ynghyd ag unrhyw nodyn perthnasol i’r Atodlen honno.

(3Os oedd tir sy’n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys yn hectar cymwys yn 2012 (gweler cofnod 4 yng ngholofn 1), yna—

(a)yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o’r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 o’r Atodlen honno gyferbyn â’r cofnod hwnnw, a

(b)y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 12 Medi 2013, yn incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 yn yr Atodlen honno gyferbyn â’r cofnod hwnnw.

Dirymu

3.  Mae Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2012(4) wedi ei ddirymu.

Alun Davies

Y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru

15 Ionawr 2014

Erthygl 2

YR ATODLENUNEDAU CYNHYRCHU RHAGNODEDIG A PHENNU INCWM BLYNYDDOL NET

Colofn 1

Y DefnyddFfermio

Colofn 2

Yr unedgynhyrchu

Colofn 3

Incwmblynyddol net o’runedgynhyrchu (£)

(1)

Dyma’r ffigur ar gyfer anifeiliaid y byddid yn eu cadw am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata o’r ffigur hwn.

(2)

Dyma’r ffigur ar gyfer anifeiliaid (faint bynnag fo’u hoed) y byddid yn eu cadw am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata o’r ffigur hwn.

1. Da byw
Buchod godrobuwch530
Buchod bridio cig eidion:ar dir mewn ardal lai ffafriolbuwch-82
ar dir arallbuwch-39
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys)y pen40(1)
Buchod llaeth i lenwi bylchauy pen102(2)
Mamogiaid:ar dir mewn ardal lai ffafriolmamog-17
ar dir arallmamog-4
Ŵyn stôr (gan gynnwys ŵyn benyw a werthir fel hesbinod)y pen4.70
Moch:hychod a banwesod torroghwch neu fanwes220
moch porcy pen7.50
moch torriy pen10.40
moch bacwny pen13.10
Dofednod:ieir dodwyaderyn3.20
brwyliaidaderyn0.50
cywennod ar ddodwyaderyn0.30
Tyrcwn Nadoligaderyn4.70
2. Cnydau âr fferm
Haiddhectar127
Ffahectar290
Rêp had olewhectar242
Pys sychhectar100
Tatws:cynnar cyntafhectar1700
prif gnwd (gan gynnwys hadyd)hectar3610
Betys siwgrhectar750
Gwenithhectar400
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored a ffrwythau
Ffrwythau’r berllanhectar3100
Ffrwythau meddalhectar9780
4. Hectarau cymwys
Tir a oedd, yn 2012, yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor 73/2009tir dan anfantais ddifrifol

hectar

82.01
tir dan anfantaishectar112.91
pob tir arallhectar82.07

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu gallu cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn pennu’r swm sydd i’w ystyried yn incwm blynyddol net o bob uned o’r fath am y flwyddyn o 12 Medi 2013 i 11 Medi 2014 at ddibenion penodol yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986 (“Deddf 1986”). Mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2012 (O.S. 2012/3022 (Cy.306)).

Mae’n ofynnol asesu gallu cynhyrchiol tir amaethyddol er mwyn penderfynu a yw’r tir dan sylw yn “uned fasnachol o dir amaethyddol” ai peidio at ddibenion y darpariaethau olynu yn Neddf 1986: gweler yn benodol adrannau 36(3) a 50(2). Ystyr “uned fasnachol o dir amaethyddol” yw uned o dir amaethyddol sydd, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, yn gallu cynhyrchu incwm blynyddol net nad yw’n llai na chyfanred enillion blynyddol cyfartalog dau weithiwr amaethyddol gwrywaidd llawn amser sy’n 20 mlwydd oed neu drosodd (paragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf 1986). Wrth benderfynu’r ffigur incwm blynyddol hwn, pa bryd bynnag y bydd math penodol o ddefnydd ffermio a grybwyllir yng ngholofn 1 o’r Atodlen yn berthnasol i’r asesiad o allu cynhyrchiol y tir dan sylw, mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn darparu mai’r unedau cynhyrchu a’r incwm blynyddol net a bennir yng ngholofnau 2 a 3, yn eu trefn, fydd sail yr asesiad hwnnw.

Mae’r Gorchymyn hwn yn cynnwys ffigurau incwm blynyddol net ar gyfer tir a oedd, yn 2012, yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 (OJ Rhif L 30, 31.1.2009, t.16). Rhoddir ffigurau ar wahân yn yr Atodlen ar gyfer tir dan anfantais ddifrifol, tir dan anfantais a thir arall.

Ni pharatowyd asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn oherwydd na ragwelir unrhyw effaith ar fusnes na’r sector preifat na’r sector gwirfoddol.

(1)

1986 p.5; mae adran 96(1) o’r Ddeddf honno yn diffinio “the Minister”.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 (p.5) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 I’r Gorchymyn hwnnw. Mae’r swyddogaethau hynny yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(3)

OJ Rhif L 30, 31.1.2009, t.16, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 929/2013 (OJ Rhif L 255, 27.9.2013, t.5).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources