- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Rhagfyr 2014.
2.—(1) Mae Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006(1), wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 17, mewnosoder—
“18. Rheoliad (EU) Rhif 1305/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 ar gefnogi datblygu gwledig gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD)(2).
19. Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 ar gyllido, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin(3).
20. Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n gosod rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin(4).
21. Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 639/2014 dyddiedig 11 Mawrth 2014 sy’n ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin ac sy’n diwygio Atodiad X i’r Rheoliad hwnnw(5).
22. Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 640/2014 dyddiedig 11 Mawrth 2014 sy’n ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y system weinyddu a rheoli integredig a’r amodau ar gyfer gwrthod taliadau neu eu tynnu yn ôl a chosbau gweinyddol sy’n gymwys i daliadau uniongyrchol, cymorth ar gyfer datblygu gwledig a thrawsgydymffurfio(6).
23. Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 641/2014 dyddiedig 16 Mehefin 2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin(7).
24. Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 807/2014 dyddiedig 11 Mawrth 2014 sy’n ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 1305/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gefnogi datblygu gwledig gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) a chyflwyno darpariaethau trosiannol(8).
25. Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 808/2014 dyddiedig 17 Gorffennaf 2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1305/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ar gefnogi datblygu gwledig gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD)(9).
26. Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 809/2014 dyddiedig 17 Gorffennaf 2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y system weinyddu a rheoli integredig, mesurau datblygu gwledig a thrawsgydymffurfio(10).”
Rebecca Evans
Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, o dan awdurdod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
4 Tachwedd 2014
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: