Search Legislation

Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2014

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 2894 (Cy. 295)

Amaethyddiaeth, Cymru

Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2014

Gwnaed

4 Tachwedd 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

7 Tachwedd 2014

Yn dod i rym

1 Rhagfyr 2014

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn yr adran honno ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i ddehongli unrhyw gyfeiriadau at offerynnau’r UE yn y Rheoliadau hyn fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2014.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Rhagfyr 2014.

Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006

2.—(1Mae Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006(3), wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 17, mewnosoder—

18.  Rheoliad (EU) Rhif 1305/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 ar gefnogi datblygu gwledig gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD)(4).

19.  Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 ar gyllido, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin(5).

20.  Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n gosod rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin(6).

21.  Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 639/2014 dyddiedig 11 Mawrth 2014 sy’n ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin ac sy’n diwygio Atodiad X i’r Rheoliad hwnnw(7).

22.  Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 640/2014 dyddiedig 11 Mawrth 2014 sy’n ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y system weinyddu a rheoli integredig a’r amodau ar gyfer gwrthod taliadau neu eu tynnu yn ôl a chosbau gweinyddol sy’n gymwys i daliadau uniongyrchol, cymorth ar gyfer datblygu gwledig a thrawsgydymffurfio(8).

23.  Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 641/2014 dyddiedig 16 Mehefin 2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin(9).

24.  Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 807/2014 dyddiedig 11 Mawrth 2014 sy’n ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 1305/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gefnogi datblygu gwledig gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) a chyflwyno darpariaethau trosiannol(10).

25.  Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 808/2014 dyddiedig 17 Gorffennaf 2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1305/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ar gefnogi datblygu gwledig gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD)(11).

26.  Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 809/2014 dyddiedig 17 Gorffennaf 2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y system weinyddu a rheoli integredig, mesurau datblygu gwledig a thrawsgydymffurfio(12).

Rebecca Evans

Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, o dan awdurdod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

4 Tachwedd 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006, O.S. 2006/3342 (Cy. 303). Mae’r diwygiadau yn diweddaru’r rhestr o ddeddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd yn O.S. 2006/3342 (Cy. 303) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2007/2900 (Cy. 251) ac O.S. 2010/1807 (Cy. 175).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn am fod y diwygiadau yn y Rheoliadau hyn yn ymwneud â threfniadau sydd eisoes yn bodoli ar gyfer apelau.

(2)

1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) ac adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006.

(4)

OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t. 487.

(5)

OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t. 549.

(6)

OJ Rhif L 347, 20.12.2014, t. 608.

(7)

OJ Rhif L 181, 20.6.2014, t. 1.

(8)

OJ Rhif L 181, 20.6.2014, t. 48.

(9)

OJ Rhif L 181, 20.6.2014, t. 74.

(10)

OJ Rhif L 227, 31.7.2014, t. 1.

(11)

OJ Rhif L 227, 31.7.2014, t. 18.

(12)

OJ Rhif L 227, 31.7.2014, t. 69.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources