- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gwnaed
14 Hydref 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd gan adran 241(3) o Ddeddf Cynllunio 2008(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio 2008 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2014.
2. Daw adran 198 o Ddeddf Cynllunio 2008 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) i rym o ran Cymru ar 28 Tachwedd 2014.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
14 Hydref 2014
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym, ar 28 Tachwedd 2014, adran 198 o Ddeddf Cynllunio 2008 (apelau yn ymwneud â hen ganiatadau mwynau), mewn perthynas â Chymru, i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Cynllunio 2008 wedi eu dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Darpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adrannau 1 i 4 ac Atodlen 1 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr ac yn rhannol o ran yr Alban | 1 Hydref 2009 | 2009/2260 (C.98) |
Paragraffau 24 i 27 o Atodlen 1 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) | 1 Hydref 2009 | 2009/2573 (C.110) |
Adrannau 5 i 12 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr ac yn rhannol o ran yr Alban | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
Adran 13 (i’r graddau nad oedd eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
Adran 14 yn rhannol o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2011 | 2011/705 (C.29) |
Adran 14 yn rhannol (i’r graddau nad oedd eisoes mewn grym) o ran Cymru, Lloegr ac i’r graddau a bennir, o ran yr Alban | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 (C.11) |
1 Hydref 2011 | 2011/2054 (C.75) | |
Adrannau 15 i 20 a 22 i 26 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 (C.11) |
Adrannau 21 a 31 i 35 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr ac yn rhannol o ran yr Alban | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 (C.11) |
Adran 29 o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2011 | 2011/705 (C.29) |
Adran 30 (i’r graddau nad oedd eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr ac yn rhannol o ran yr Alban | 1 Hydref 2011 | 2011/2054 (C.75) |
Adran 36 ac Atodlen 2 o ran Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 (C.11) |
Adrannau 37 i 54 a 56 i 59 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr ac yn rhannol o ran yr Alban | 1 Hydref 2009 | 2009/2260 (C.98) |
Adrannau 55, 60 i 119 ac Atodlenni 3 a 4, adrannau 120 i 121 ac Atodlen 5, adrannau 122 i 132, 134 a 135 i 138 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr ac yn rhannol o ran yr Alban | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 (C.11) |
Adrannau 133 a 139 i 149 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 (C.11) |
Adrannau 150 i 152, 154 i 159, 160 i 173 a 174 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr ac yn rhannol o ran yr Alban | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 (C.11) |
Adran 153 ac Atodlen 6 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr ac yn rhannol o ran yr Alban | 1 Hydref 2011 | 2011/2054 (C.75) |
Adran 175(1) i (2) a (4) i (8) (i’r graddau nad oedd eisoes mewn grym) yn rhannol o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
Adran 175 (i’r graddau nad oedd eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 (C.11) |
Adran 176(1) i (3) a (5) i (9) yn rhannol o ran yr Alban | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
Adran 176 (i’r graddau nad oedd eisoes mewn grym) o ran yr Alban | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 (C.11) |
Adran 177 (i’r graddau nad oedd eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
Adran 178 o ran yr Alban | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
Adrannau 179 a 180 i 182 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
Adrannau 183 a 185 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
Adran 184 (i’r graddau nad oedd eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
Adran 185 (i’r graddau nad oedd eisoes mewn grym) o ran Cymru | 8 Awst 2014 | 2014/1769 (W.181) (C.76) |
Adran 187 a pharagraffau 1, 2(1) a (2), 3(1), (2) a (4) a 4 i 6 o Atodlen 7 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
Paragraffau 2(3) a (4) a 3(3) o Atodlen 7 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
Adran 188 (i’r graddau nad oedd eisoes mewn grym) o ran Lloegr | 23 Mehefin 2009 | 2009/1303 (C.70) |
Adran 188 (i’r graddau nad oedd eisoes mewn grym) o ran Cymru | 30 Ebrill 2012 | 2012/802 (W.111) (C.20) |
Adrannau 189 a 190(4) (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2010 | 2010/566 (C.39) |
Adran 190(1) i (3), (5) a (6) o ran Cymru a Lloegr | 1 Hydref 2009 | 2009/2260 (C.98) |
Adran 191(1) a (3) (i’r graddau nad oedd eisoes mewn grym) o ran Lloegr ac adran 191(2) (i’r graddau nad oedd eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
Adran 192 ac Atodlen 8 ac adran 193 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Lloegr | 6 Ebrill 2012 | 2012/601 (C.13) |
Adran 194(1) a pharagraffau 1 i 4 a 6 o Atodlen 9, adran 195, adran 196 a pharagraffau 1 a 3 i 6 a 10 i 14 o Atodlen 10 yn rhannol, (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
Adran 197 ac Atodlen 11, adran 198 ac adran 199 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
Adran 197 ac Atodlen 11 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Cymru | 30 Ebrill 2012 | 2012/802 (W.111) (C.20) |
Adran 199 (i’r graddau nad oedd eisoes mewn grym) o ran Cymru | 8 Awst 2014 | 2014/1769 (W.181) (C.76) |
Adran 200 o ran Lloegr | 1 Hydref 2009 | 2009/2260 (C.98) |
Adran 206 (i’r graddau nad oedd eisoes mewn grym) yn rhannol o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
Adran 206 (i’r graddau nad oedd eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2010 | 2010/566 (C.39) |
Adrannau 211(7) a 224(1) a (4) (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
Adran 224(3) | 6 Ebrill 2010 | 2010/566 (C.39) |
Adran 236 a pharagraff 1 o Atodlen 12 o ran yr Alban | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
Adran 238 ac Atodlen 13 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) yn rhannol o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
6 Ebrill 2010 | 2010/566 (C.39) | |
Adran 238 ac Atodlen 13 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) yn rhannol o ran Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
23 Mehefin 2009 | 2009/1303 (C.70) | |
6 Ebrill 2012 | 2012/601 (C.13) | |
Adran 238 ac Atodlen 13 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) yn rhannol o ran Cymru | 30 Ebrill 2012 | 2012/802 (W.111) (C.20) |
Gweler hefyd adran 241(1) o Ddeddf Cynllunio 2008 ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 26 Tachwedd 2008 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: