- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gwnaed
2 Gorffennaf 2014
Yn dod i rym
1 Medi 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 303 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”)(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Newidiadau Ansylweddol) (Cymru) 2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2014.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i geisiadau o dan adran 96A(4) o Ddeddf 1990 (pŵer i wneud newidiadau ansylweddol i ganiatâd cynllunio) a wneir ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl hynny.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “cais gan ddeiliad aelwyd” (“householderapplication”) yw cais am newid caniatâd cynllunio sy’n ymwneud â datblygu tŷ annedd presennol, neu â datblygiad yng nghwrtil tŷ annedd o’r fath at unrhyw ddiben sy’n atodol i fwynhau’r tŷ annedd ond nid yw’n cynnwys cais am newid defnydd na chais am newid nifer yr anheddau mewn adeilad;
ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
ystyr “Gorchymyn 1995” (“the 1995 Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995(2);
ystyr “tŷ annedd” (“dwellinghouse”) yw adeilad neu ran o adeilad a ddefnyddir fel un annedd breifat ac nid at unrhyw ddiben arall.
3.—(1) Pan wneir cais o dan adran 96A(4) o Ddeddf 1990 (pŵer i wneud newidiadau ansylweddol i ganiatâd cynllunio) rhaid talu’r ffi a ganlyn i’r awdurdod cynllunio lleol—
(a)os cais gan ddeiliad aelwyd yw’r cais, £25;
(b)mewn unrhyw achos arall, £83.
(2) O ran yr awdurdod cynllunio lleol sy’n derbyn y ffi yn unol â’r rheoliad hwn—
(a)pan nad ef yw’r awdurdod cynllunio lleol sy’n gorfod penderfynu ar y cais; a
(b)pan fydd yn anfon y cais ymlaen at yr awdurdod hwnnw,
rhaid iddo drosglwyddo’r ffi i’r awdurdod hwnnw yr un pryd ag y bydd yn anfon y cais ymlaen ato.
(3) Rhaid i unrhyw ffi a delir yn unol â’r rheoliad hwn gael ei had-dalu os gwrthodir y cais am nad yw’n ddilys.
4.—(1) Nid yw rheoliad 3 yn gymwys pan fo’r awdurdod cynllunio lleol y gwneir y cais iddo wedi ei fodloni bod y cais yn ymwneud â’r canlynol yn unig—
(a)cyflawni gweithrediadau i addasu neu ymestyn tŷ annedd presennol; neu
(b)cyflawni gweithrediadau (heblaw codi tŷ annedd) yng nghwrtil tŷ annedd presennol,
yn y naill achos neu’r llall er mwyn darparu mynedfa i’r tŷ annedd neu yn y tŷ annedd i berson anabl sy’n preswylio yn y tŷ annedd hwnnw, neu sy’n bwriadu dechrau preswylio ynddo, neu er mwyn darparu cyfleusterau a fwriadwyd i sicrhau gwell diogelwch, iechyd neu gyfforddusrwydd i’r person hwnnw.
(2) Nid yw rheoliad 3 yn gymwys pan fo’r awdurdod cynllunio lleol y gwneir y cais iddo wedi ei fodloni bod y cais yn ymwneud yn unig â chyflawni gweithrediadau er mwyn darparu mynedfa i bersonau anabl i adeilad neu fangre y derbynnir y cyhoedd iddynt (am dâl neu fel arall) neu mewn adeilad neu fangre o’r fath.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “person anabl” yw—
(a)person sydd o fewn unrhyw un neu ragor o’r disgrifiadau o bersonau y mae adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948(3) yn gymwys iddynt; neu
(b)plentyn sy’n anabl at ddibenion Rhan III o Ddeddf Plant 1989(4).
5.—(1) Nid yw rheoliad 3 yn gymwys pan fo’r awdurdod cynllunio lleol y gwneir y cais iddo wedi ei fodloni—
(a)bod y cais yn ymwneud â datblygiad sydd o fewn un neu ragor o’r dosbarthiadau a bennir yn Atodlen 2 i Orchymyn 1995 yn unig; a
(b)nad yw’r caniatâd a roddwyd gan erthygl 3 o’r Gorchymyn hwnnw yn gymwys o ran y datblygiad hwnnw oherwydd y canlynol (ac oherwydd y canlynol yn unig)—
(i)cyfarwyddyd a wnaed o dan erthygl 4 o’r Gorchymyn hwnnw sydd mewn grym ar y dyddiad y gwneir y cais; neu
(ii)gofynion amod a osodwyd ar ganiatâd a roddwyd neu y bernir ei fod wedi ei roi o dan Ran 3 o Ddeddf 1990 heblaw drwy’r Gorchymyn hwnnw.
(2) Mae’r cyfeiriad ym mharagraff (1)(a) at gais sy’n ymwneud â datblygiad sydd o fewn un neu ragor o’r dosbarthiadau a bennir yn Atodlen 2 i Orchymyn 1995 i’w ddehongli fel pe bai’n cynnwys cais am newidiadau ansylweddol i ganiatâd cynllunio i barhau â defnydd tir, neu i gadw adeiladau neu waith, heb gydymffurfio ag amod y rhoddwyd caniatâd cynllunio blaenorol odano, pan fo’r amod o dan sylw yn gwahardd cyflawni unrhyw ddatblygiad sydd o fewn un neu ragor o’r dosbarthiadau hynny neu’n cyfyngu ar gyflawni datblygiad o’r fath.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru
2 Gorffennaf 2014
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer talu ffioedd i awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru mewn perthynas â cheisiadau am newidiadau ansylweddol i ganiatâd cynllunio a wneir o dan adran 96A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer esemptiad rhag ffioedd mewn perthynas â darparu mynedfa i dŷ annedd neu mewn tŷ annedd ar gyfer person anabl. Mae rheoliad 5 yn darparu ar gyfer esemptiad rhag ffioedd mewn achosion penodol lle mae hawliau datblygu a ganiateir wedi eu tynnu’n ôl.
Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n gymwys i’r Rheoliadau hyn ar gael oddi wrth Lywodraeth Cymru yn: Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.cymru.gov.uk.
1990 p. 8; rhoddwyd is-adrannau (1), (2) a (2A) o adran 303 yn lle is-adrannau (1) a (2) fel y’u deddfwyd yn wreiddiol gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) adran 53(1) a (2). Ceir diwygiadau eraill i adran 303 ac i weddill Deddf 1990 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
1948 p. 29. Mae adran 29(1) wedi ei diwygio gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) adran 195, Atodlen 23, paragraff 2 a Deddf Plant 1989 (p. 41) adran 108(5) a (6), Atodlen 13, paragraff 11(2), Atodlen 14, paragraff 1. Ceir diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
1989 p. 41.Ceir diwygiadau i’r Ddeddf hon nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: