- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Bwyd, Cymru
Gwnaed
22 Ionawr 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
24 Ionawr 2014
Yn dod i rym
28 Chwefror 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) ac adrannau 16(1)(e), 17(1) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(2)(3).
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd(4).
Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i unrhyw gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd(5).
Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(6), cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.
1972 p.68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51) ac adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p.7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi.
1990 p.16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17(1) ac 48(1) gan baragraffau 7 ac 8 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28) (“Deddf 1999”). Diwygiwyd adran 17(1) hefyd gan baragraff 12 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999.
Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers”, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).
O.S. 2005/1971. Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).
Sefydlwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd gan adran 1(1) o Ddeddf 1999.
OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t.1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 (OJ Rhif L 188, 18.7.2009, t.14).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: