- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Bwyd, Cymru
Gwnaed
25 Ebrill 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
29 Ebrill 2014
Yn dod i rym
23 Mai 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 6(4), 16(1)(e) ac (f), 17(1) a (2), 26(1)(a) a (3) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1).
Yn unol ag adran 48(4A) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trosglwyddo Swyddogaethau (Bwyd) (Cymru) 2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Mai 2014 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn rheoliad 3 (cyfyngiadau ar werthu) o Reoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000(2), ym mharagraff (3), is-baragraff (a), yn lle “yr Asiantaeth Safonau Bwyd” rhodder “Gweinidogion Cymru”.
3. Mae Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Cymru) 2007(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn:
(a)yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff 1 cyn y diffiniad o “awdurdod bwyd” mewnosoder—
“ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd;”; a
(b)yn rheoliad 3 (cyfyngiad ar werthu), paragraff 2, is-baragraff (a), yn lle “yr Asiantaeth Safonau Bwyd” rhodder “Gweinidogion Cymru”.
4. Yn rheoliad 3 (awdurdodau cymwys) o Reoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007(4), yn is-baragraff (a), yn lle “yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd” rhodder “yw Gweinidogion Cymru”.
5. Mae Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn:
(a)yn rheoliad 2 (dehongli) hepgorer y diffiniad o “yr Asiantaeth”; a
(b)yn rheoliad 13 (hysbysiad o fformiwla fabanod) yn lle “i’r Asiantaeth drwy anfon ati” rhodder “i Weinidogion Cymru drwy anfon atynt”.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
25 Ebrill 2014
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys i Gymru, yn diwygio Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000 (O.S. 2000/1866 (Cy.125)), Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1040 (Cy.100)), Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007 (O.S. 2007/2611 (Cy.222)), a Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3573 (Cy.316)), drwy drosglwyddo swyddogaethau maethiad o dan bob set o reoliadau o’r Asiantaeth Safonau Bwyd i Weinidogion Cymru.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1990 p.16, fel y’i diwygiwyd. Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers” i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).
O.S. 2000/1866 (Cy.125), fel y’i diwygiwyd.
O.S. 2007/1040 (Cy.100), fel y’i diwygiwyd.
O.S. 2007/2611 (Cy.222), fel y’i diwygiwyd.
O.S. 2007/3573 (Cy.316), fel y’i diwygiwyd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: