Search Legislation

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliadau 8, 12, 17, 23, 26 a 27

ATODLEN 1Gwybodaeth sydd i'w chynnwys mewn ceisiadau am gael darparu gwasanaethau fferyllol

RHAN 1Ceisiadau am gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu ddiwygio rhestr fferyllol

Gwybodaeth sy'n ofynnol gan bob ceisydd

Manylion am y cais

1.  Enw'r Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo.

2.  Y math o gydsyniad y gwnaed cais amdano (llawn neu ragarweiniol).

3.  Y math o gais (er enghraifft: cynnwys o'r newydd; adleoliad bach o fewn ardal Bwrdd Iechyd Lleol; adleoliad bach rhwng ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol cyfagos; adleoli dros dro; newid perchnogaeth).

Manylion am y ceisydd

4.  Enw a chyfeiriad y ceisydd.

5.  Os yw'r ceisydd yn unigolyn neu'n bartneriaeth sy'n cynnal busnes fferyllfa fanwerthu, rhif cofrestru'r ceisydd neu rif cofrestru pob un o'r partneriaid yng nghofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol.

6.  Os yw'r ceisydd yn gorff corfforaethol sy'n cynnal busnes fferyllfa fanwerthu, enw a rhif cofrestru uwch arolygydd y ceisydd yng nghofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol.

Manylion am y fangre a'r oriau agor

7.  Cyfeiriad y fangre y mae'r ceisydd yn gwneud cais i ddarparu gwasanaethau fferyllol ohoni; neu leoliad y fangre y mae'r ceisydd yn bwriadu darparu gwasanaethau fferyllol ohoni os yw'r cais ar gyfer cydsyniad rhagarweiniol.

8.  Pa un a yw'r fangre ym meddiant y ceisydd ar hyn o bryd, neu, er enghraifft, a yw'r fangre yn cael ei hadeiladu neu'n destun negodi.

9.  Ar ba ddiwrnodau y bydd y fferyllfa ar agor ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol, a'r oriau agor ar y diwrnodau hynny.

Y gwasanaethau fferyllol sydd i'w darparu

10.  Cadarnhad y bydd yr holl wasanaethau hanfodol yn cael eu darparu.

11.  Manylion am y gwasanaethau cyfeiriedig y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gael eu darparu.

12.  Os yw'r cais ar gyfer darparu gwasanaethau o ddisgrifiad gwahanol i'r rhai a ddarperir ar hyn o bryd o'r fangre restredig, manylion am y gwasanaethau hynny.

Gwybodaeth mewn perthynas â'r prawf angenrheidiol neu hwylus

13.  Pan fo'r prawf angenrheidiol neu hwylus yn rheoliad 9 yn gymwys ar gyfer penderfynu cais, rhaid i'r ceisydd—

(a)darparu disgrifiad ysgrifenedig o'r gymdogaeth arfaethedig;

(b)darparu map sy'n dangos ffiniau'r gymdogaeth arfaethedig; ac

(c)datgan y rhesymau pam y mae'r ceisydd o'r farn bod caniatáu'r cais yn angenrheidiol neu'n hwylus er mwyn sicrhau, yn y gymdogaeth, ddarpariaeth ddigonol, gan bersonau sydd wedi eu cynnwys mewn rhestr fferyllol o'r gwasanaethau a bennir yn y cais, neu rai o'r gwasanaethau hynny.

Gwybodaeth mewn perthynas â'r prawf niweidio

14.  Pan fo'r prawf niweidio yn rheoliad 9 yn gymwys ar gyfer penderfynu cais, rhaid i'r ceisydd ddatgan y rhesymau pam y mae o'r farn na fydd caniatáu'r cais yn niweidio darpariaeth briodol o wasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau gweinyddu neu wasanaethau fferyllol yn yr ardal reoledig y lleolir ynddi'r fangre a bennir yn y cais.

Gwybodaeth mewn perthynas â cheisiadau sy'n ymwneud ag adleoliadau

15.  Pan fo'r ceisydd yn gwneud cais adleoli (pa un ai o fewn ardal Bwrdd Iechyd Lleol o dan reoliad 13, rhwng ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol cyfagos o dan reoliad 14, neu dros dro o dan reoliad 15), rhaid i'r ceisydd ddarparu manylion am yr adleoliad arfaethedig, gan gynnwys cyfeiriad mangre restredig bresennol y ceisydd.

16.  Pan fo'r cais yn ymwneud ag adleoliad bach rhwng ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol cyfagos o dan reoliad 14, rhaid i'r ceisydd ddatgan—

(a)enw'r Bwrdd Iechyd Lleol y lleolir y fangre bresennol ynddo;

(b)bod y ceisydd yn cydsynio â thynnu ei enw oddi ar y rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol y lleolir y fangre bresennol yn ei ardal, ac mewn perthynas â'r fangre restredig bresennol honno, gydag effaith o'r dyddiad y bydd y ddarpariaeth o wasanaethau fferyllol o'r fangre newydd yn cychwyn.

17.  Rhaid i'r ceisydd ddarparu manylion fel a ganlyn—

(a)pa un a yw lleoliad y fangre newydd yn llai hygyrch i raddau sylweddol, ar gyfer y cleifion sy'n gyfarwydd â chael mynediad i wasanaethau fferyllol yn y fangre bresennol;

(b)pa un a ddarperir yr un gwasanaethau fferyllol yn y fangre newydd, ag a ddarperir yn y fangre restredig; ac

(c)pa un a fydd y ddarpariaeth o wasanaethau fferyllol yn parhau'n ddi-dor, ynteu a fydd toriad, a'r rhesymau am unrhyw doriad.

18.  Os yw'r cais yn gais am adleoliad dros dro, rhaid i'r ceisydd ddatgan yr amgylchiadau sy'n gwneud adleoli dros dro yn ofynnol.

Gwybodaeth mewn perthynas â cheisiadau sy'n ymwneud â newid perchnogaeth

19.  Enw'r person sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr fferyllol ac, ar hyn o bryd, yn darparu gwasanaethau fferyllol o'r fangre.

20.  Rhaid i'r ceisydd ddarparu manylion fel a ganlyn—

(a)pa un a barheir i ddarparu'r un gwasanaethau fferyllol o'r fangre; a

(b)pa un a barheir i ddarparu'r gwasanaethau fferyllol yn ddi-dor, ynteu a fydd toriad, a'r rhesymau am unrhyw doriad.

Ymrwymiad y ceisydd

21.  Rhaid i'r ceisydd roi ymrwymiad y bydd y ceisydd, os caniateir y cais, yn darparu'r gwasanaethau yn y fangre y caniateir y cais mewn perthynas â hi, yn unol â'r telerau gwasanaethu.

RHAN 2Gwybodaeth ac ymrwymiadau ar gyfer ceisiadau am gynnwys person mewn rhestr fferyllol

Manylion am y ceisydd

22.—(1Rhaid i geisydd (ac eithrio ceisydd sy'n gorff corfforaethol) ddarparu'r wybodaeth ganlynol—

(a)enw llawn;

(b)rhyw;

(c)dyddiad geni;

(d)cyfeiriad a rhif teleffon;

(e)datganiad bod y ceisydd yn fferyllydd cofrestredig; ac

(f)rhif cofrestru proffesiynol a'r dyddiad y'i cofrestrwyd gyntaf yn y gofrestr.

(2Rhaid i geisydd sy'n gorff corfforaethol ddarparu'r wybodaeth ganlynol—

(a)enw llawn;

(b)rhif cofrestru cwmni;

(c)swyddfa gofrestredig a rhif teleffon y swyddfa honno;

(d)datganiad bod y ceisydd yn berson sy'n cynnal busnes fferyllfa fanwerthu yn gyfreithlon yn unol ag adran 69 o Ddeddf Meddyginiaethau 1968;

(e)rhif cofrestru yn y Gofrestr o Fangreoedd a gynhelir gan y Cyngor Fferylliaeth Cyffredinol;

(f)manylion am unrhyw restr berthnasol y tynnwyd y ceisydd oddi arni, neu y'i tynnwyd yn ddigwyddiadol oddi arni, neu y gwrthodwyd ei dderbyn arni, neu y'i cynhwyswyd yn amodol ynddi ar sail addasrwydd, ynghyd ag esboniad o'r rhesymau am hynny.

Ymchwiliadau, achosion llys a chollfarnau

23.  Rhaid i geisydd gyflenwi gwybodaeth ysgrifenedig ynghylch a yw'r ceisydd, neu os yw'r ceisydd yn gorff corfforaethol, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y ceisydd—

(a)wedi ei gollfarnu am unrhyw drosedd yn y Deyrnas Unedig;

(b)wedi ei rwymo yn dilyn collfarn droseddol yn y Deyrnas Unedig;

(c)wedi derbyn rhybuddiad gan yr heddlu yn y Deyrnas Unedig;

(d)mewn achos diannod yn yr Alban ynglŷn â throsedd, wedi bod yn destun gorchymyn i'w ryddhau'n ddiamod (heb fynd ymlaen at gollfarn);

(e)wedi derbyn cynnig amodol o dan adran 302 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995 (cosb benodedig: cynnig amodol gan y procuradur ffisgal) neu wedi cytuno i dalu cosb o dan adran 115A o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992 (cosb fel dewis amgen yn lle erlyn);

(f)wedi ei gollfarnu yn rhywle arall am drosedd, neu'r hyn a fyddai'n drosedd pe bai wedi ei gyflawni yng Nghymru a Lloegr, neu'n ddarostyngedig i gosb a fyddai'n cyfateb i rwymo neu rybuddiad;

(g)ar hyn o bryd yn destun unrhyw achos a allai arwain at gollfarn o'r fath, ac nad hysbyswyd y Bwrdd Iechyd Lleol yn ei gylch eto;

(h)wedi bod yn destun unrhyw ymchwiliad i'w ymddygiad proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall, gyda chanlyniad a oedd yn anffafriol;

(i)ar hyn o bryd yn destun unrhyw ymchwiliad i'w ymddygiad proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall;

(j)ar hyn o bryd, neu wedi bod gyda chanlyniad anffafriol, yn destun unrhyw ymchwiliad i'w ymddygiad proffesiynol mewn perthynas ag unrhyw gyflogaeth bresennol neu flaenorol;

(k)yn destun unrhyw ymchwiliad gan Fwrdd Iechyd Lleol arall neu gorff cyfatebol, a allai arwain at ei dynnu oddi ar unrhyw restr berthnasol;

(l)ar hyn o bryd, neu wedi bod gyda chanlyniad anffafriol, yn destun unrhyw ymchwiliad gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG(1) mewn perthynas â thwyll;

(m)wedi ei dynnu neu ei dynnu yn ddigwyddiadol oddi ar, neu ei gynnwys yn amodol ar, unrhyw restr berthnasol a gedwir gan Fwrdd Iechyd Lleol arall neu gorff cyfatebol, neu a wrthodwyd ei gynnwys, neu a yw wedi ei atal, ar hyn o bryd neu yn y gorffennol, oddi ar restr o'r fath ar sail addasrwydd ac os ydyw, y rhesymau am hynny ac enw'r Bwrdd Iechyd Lleol neu'r corff cyfatebol hwnnw; neu

(n)ar hyn o bryd, neu wedi bod erioed, yn destun anghymhwysiad cenedlaethol,

ac os felly, rhaid i'r ceisydd roi manylion, gan gynnwys y dyddiadau yn fras, neu os cynhaliwyd neu os cynhelir unrhyw ymchwiliad neu achos cyfreithiol, natur yr ymchwiliad neu'r achos hwnnw ac unrhyw ganlyniad.

24.  Os yw'r ceisydd, (ac os yw'r ceisydd yn gorff corfforaethol, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y ceisydd), neu os bu, yn ystod y chwe mis blaenorol, neu os oedd ar adeg y digwyddiadau cychwynnol, yn gyfarwyddwr neu'n uwcharolygydd corff corfforaethol, rhaid i'r ceisydd, yn ychwanegol, ddarparu gwybodaeth mewn ysgrifen i'r Bwrdd Iechyd Lleol ynghylch a yw'r corff corfforaethol—

(a)wedi ei gollfarnu am unrhyw drosedd yn y Deyrnas Unedig;

(b)wedi ei gollfarnu yn rhywle arall am drosedd, neu'r hyn a fyddai'n drosedd pe bai wedi ei gyflawni yng Nghymru a Lloegr;

(c)ar hyn o bryd yn destun unrhyw achos a allai arwain at gollfarn o'r fath, ac nad hysbyswyd y Bwrdd Iechyd Lleol yn ei gylch eto;

(d)wedi bod yn destun unrhyw ymchwiliad i'w ddarpariaeth o wasanaethau proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall, gyda chanlyniad a oedd yn anffafriol;

(e)ar hyn o bryd yn destun unrhyw ymchwiliad i'w ddarpariaeth o wasanaethau proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall;

(f)yn destun unrhyw ymchwiliad gan Fwrdd Iechyd Lleol arall neu gorff cyfatebol, a allai arwain at ei dynnu oddi ar unrhyw restr berthnasol;

(g)ar hyn o bryd, neu wedi bod gyda chanlyniad anffafriol, yn destun unrhyw ymchwiliad gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG mewn perthynas â thwyll;

(h)wedi ei dynnu neu ei dynnu yn ddigwyddiadol oddi ar, neu ei gynnwys yn amodol ar, unrhyw restr berthnasol neu a wrthodwyd ei gynnwys, neu a yw wedi ei atal, ar hyn o bryd neu yn y gorffennol, oddi ar restr o'r fath ar sail addasrwydd; neu

(i)ar hyn o bryd, neu wedi bod erioed, yn destun anghymhwysiad cenedlaethol,

ac os felly, rhaid i'r ceisydd roi enw a chyfeiriad swyddfa gofrestredig y corff corfforaethol a manylion, gan gynnwys y dyddiadau yn fras, neu os cynhaliwyd neu os cynhelir unrhyw ymchwiliad neu achos cyfreithiol, natur yr ymchwiliad neu'r achos hwnnw, ac unrhyw ganlyniad.

Cymwysterau fferyllol, canolwyr etc.

25.  Os yw'r ceisydd, (neu os yw'r ceisydd yn gorff corfforaethol, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y ceisydd) yn fferyllydd cofrestredig, rhaid i'r ceisydd gyflenwi manylion o'i gymwysterau fferyllol (gan gynnwys lle y'u cafwyd) a manylion cronolegol am ei brofiad proffesiynol (gan gynnwys dyddiadau cychwyn a gorffen pob penodiad), ynghyd ag esboniad o unrhyw fylchau rhwng y penodiadau a pham y'i diswyddwyd o unrhyw swydd.

26.  Os yw'r ceisydd, (neu os yw'r ceisydd yn gorff corfforaethol, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y ceisydd) yn fferyllydd cofrestredig, rhaid i'r ceisydd gyflenwi enwau a chyfeiriadau dau ganolwr sy'n fodlon darparu geirdaon mewn perthynas â dwy swydd ddiweddar (caniateir cynnwys unrhyw swydd gyfredol) fel fferyllydd, a barhaodd am gyfnod o dri mis o leiaf heb doriad sylweddol, neu, os nad yw hynny'n bosibl, eglurhad llawn a chanolwyr amgen.

27.  Os yw'r ceisydd yn gorff corfforaethol, rhaid cyflenwi enw a chyfeiriad pob cyfarwyddwr ac uwcharolygydd y corff corfforaethol.

28.  Rhaid i'r ceisydd gyflenwi enw unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol (neu gorff cyfatebol) y cynhwysir y ceisydd ac, os yw'r ceisydd yn gorff corfforaethol, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y ceisydd, yn ei restr fferyllol, a'r manylion am unrhyw geisiadau sydd yn yr arfaeth (gan gynnwys ceisiadau gohiriedig) am gynnwys ceisydd mewn unrhyw restr fferyllol Bwrdd Iechyd Lleol (neu gorff cyfatebol), neu am gydsyniad rhagarweiniol ar gyfer cynnwys ceisydd mewn unrhyw restr o'r fath, ynghyd ag enw'r Bwrdd Iechyd Lleol (neu'r corff) dan sylw.

29.  Os yw'r ceisydd yn gyfarwyddwr neu'n uwcharolygydd corff corfforaethol sydd wedi ei gynnwys mewn unrhyw restr berthnasol, neu sydd â chais yn yr arfaeth (gan gynnwys cais gohiriedig) am gael ei gynnwys mewn unrhyw restr berthnasol, rhaid i'r ceisydd gyflenwi enw'r Bwrdd Iechyd Lleol neu'r corff cyfatebol dan sylw, ac enw a swyddfa gofrestredig unrhyw gorff corfforaethol o'r fath.

Ymrwymiadau

30.—(1Rhaid i'r ceisydd roi ymrwymiad ysgrifenedig i hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol o fewn 7 diwrnod os digwydd unrhyw newidiadau perthnasol yn yr wybodaeth a ddarparwyd yn y cais—

(a)hyd nes y cofnodir enw'r ceisydd yn y rhestr fferyllol;

(b)hyd nes bo'r cyfnod wedi dod i ben, a bennir yn rheoliad 17(2) ar gyfer hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol gan y ceisydd, y bydd y ceisydd yn cychwyn darparu'r gwasanaethau y gwnaed y cais mewn perthynas â hwy;

(c)hyd nes bo'r ceisydd yn tynnu'r cais yn ôl; neu

(d)yn achos ceisydd y rhoddwyd cydsyniad rhagarweiniol iddo o dan reoliad 12, hyd nes bo'r cyfnod pan fo'r cydsyniad rhagarweiniol yn cael effaith o dan reoliad 12(5) wedi dod i ben.

(2Rhaid i'r ceisydd roi ymrwymiad ysgrifenedig y bydd yn hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol os caiff ei gynnwys, neu os bydd yn gwneud cais am gael ei gynnwys mewn rhestr berthnasol.

RHAN 3Hysbysiad o'r dyddiad cychwyn

Gwybodaeth sydd i'w darparu cyn cychwyn y ddarpariaeth o wasanaethau fferyllol

31.  Rhaid i'r ceisydd ddarparu'r wybodaeth ganlynol—

(a)enw'r ceisydd;

(b)dyddiad caniatáu'r cais;

(c)y fangre a bennir yn y cais ac y darperir y gwasanaethau fferyllol ohoni;

(d)cadarnhad bod y fangre wedi ei chofrestru gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol (gan gynnwys y rhif cyfeirnod);

(e)manylion am y gwasanaethau sydd i'w darparu;

(f)y dyddiad y bydd darparu gwasanaethau fferyllol yn cychwyn;

(g)enw a rhif cofrestru'r fferyllydd cofrestredig sydd â chyfrifoldeb yn y fangre; ac

(h)ymrwymiad y bydd y ceisydd, yn unol â'r cais a ganiatawyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol, yn darparu'r gwasanaethau fferyllol o'r fangre yn unol â'r telerau gwasanaethu.

RHAN 4Ceisiadau am gydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre

Manylion am y cais

32.  Enw'r Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo.

33.  Y math o gais (cydsyniad amlinellol, cymeradwyaeth mangre neu'r ddau).

Manylion am y ceisydd

34.  Enw a chyfeiriad y ceisydd.

35.  Rhif cyfeirnod y Cyngor Meddygol Cyffredinol, y cynhwysir y ceisydd odano yn y Rhestr o Ymarferwyr Meddygol Cofrestredig a gynhelir gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol.

Cais am gydsyniad amlinellol

36.  Disgrifiad a map o'r ardal y mae'r ceisydd yn dymuno darparu gwasanaethau fferyllol ynddi.

37.  Cyfeiriad unrhyw fferyllfa o fewn yr ardal a ddisgrifir ac a amlinellir o dan baragraff 36.

Cais am gymeradwyaeth mangre

38.  Cyfeiriad y fangre practis y mae'r ceisydd yn gwneud cais i ddarparu gwasanaethau fferyllol ohoni, ac a yw'r fangre practis honno yn fangre restredig mewn perthynas ag ardal wahanol.

39.  Y pellter rhwng y fangre honno a'r fferyllfa agosaf (a chyfeiriad y fferyllfa honno).

40.  Pa un a yw'r cais ar gyfer cymeradwyaeth mangre i fangre ychwanegol ynteu ar gyfer adleoli i fangre newydd (ac os yr olaf, y pellter o'r fangre newydd i'r fangre y mae gan y ceisydd gymeradwyaeth mangre mewn perthynas â hi ar hyn o bryd).

41.  Pa un a yw'r cais yn codi oherwydd bod cyfuno practisiau naill ai wedi digwydd neu yn yr arfaeth, ac os felly, enwau'r meddygon neu'r contractwyr sy'n cymryd rhan yn y cyfuno.

42.  Os oes cydsyniad amlinellol wedi ei roi eisoes, disgrifiad a map o'r ardal y rhoddwyd y cydsyniad mewn perthynas â hi.

43.  Manylion am unrhyw fangre practis meddygol arall y rhoddwyd cymeradwyaeth mangre iddi, neu y gwnaed cais mewn perthynas â hi eisoes, nad yw'r Bwrdd Iechyd Lleol eto wedi ei benderfynu.

Y gwasanaethau fferyllol sydd i'w darparu

44.  Y gwasanaethau fferyllol sydd i'w darparu a'r oriau agor a'r diwrnodau pan ddarperir y gwasanaethau hynny.

Y prawf niweidio

45.  Y rhesymau pam y mae'r ceisydd o'r farn na fydd caniatáu'r cais yn niweidio darpariaeth briodol o wasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau gweinyddu neu wasanaethau fferyllol yn yr ardal reoledig y lleolir ynddi'r fangre a bennir yn y cais.

Angenrheidiol neu hwylus

46.  Y rhesymau pam y mae'r ceisydd o'r farn bod caniatáu'r cais yn angenrheidiol neu'n hwylus er mwyn sicrhau darpariaeth ddigonol, gan bersonau a gynhwysir mewn rhestr, o'r gwasanaethau a bennir yn y cais, neu rai o'r gwasanaethau hynny, yn yr ardal y gwnaeth y ceisydd gais am gydsyniad amlinellol ynddi.

Ymrwymiad y ceisydd

47.  Rhaid i'r ceisydd roi ymrwymiad, os caniateir y cais a phan fydd cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn cael effaith, y bydd y ceisydd yn darparu'r gwasanaethau o'r fangre practis y caniateir y cais mewn perthynas â hi, yn unol â'r telerau gwasanaethu.

Rheoliadau 6, 8 a 24

ATODLEN 2Gweithdrefnau sydd i'w dilyn gan Fyrddau Iechyd Lleol wrth benderfynu ceisiadau o dan y Rheoliadau

RHAN 1Materion rhagarweiniol

Egwyddorion cyffredinol

1.—(1Ac eithrio i'r graddau y mae'r Rheoliadau hyn yn darparu i'r gwrthwyneb, caiff Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu cais a gyflwynir iddo ym mha bynnag fodd yr ystyria'n briodol.

(2Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ddychwelyd cais a gyflwynir iddo os nad yw'r cais yn cynnwys yr holl wybodaeth y mae'n ofynnol i'r ceisydd ei darparu yn unol ag Atodlen 1.

(3Caiff Bwrdd Iechyd Lleol, os yw o'r farn bod hynny'n briodol, ystyried dau neu ragor o geisiadau ar y cyd ac mewn perthynas â'i gilydd, ond os yw'r Bwrdd Iechyd Lleol yn bwriadu gwneud hynny rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig o'r bwriad hwnnw i'r canlynol—

(a)pob ceisydd unigol; a

(b)os yw'r cais yn un y mae'n rhaid rhoi hysbysiad ohono o dan baragraff 8, unrhyw berson arall y mae'n rhaid rhoi hysbysiad o'r cais hwnnw iddo.

(4Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol, yn unol ag is-baragraff (3), yn ystyried dau neu ragor o geisiadau y mae rheoliad 9(2) yn gymwys iddynt ar y cyd ac mewn perthynas â'i gilydd, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol wrthod cais (er gwaethaf y ffaith y byddai, pe bai'n penderfynu'r cais fel cais unigol ar ei ben ei hunan, yn ei ganiatáu) os yw nifer y ceisiadau, neu'r amgylchiadau y gwneir y ceisiadau ynddynt yn peri y byddai caniatáu pob un, neu fwy nag un, ohonynt yn niweidio'r ddarpariaeth briodol o wasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu yn yr ardal reoledig y lleolir ynddi'r fangre a bennir yn y cais.

Yr amserlen ar gyfer penderfynu ceisiadau

2.  Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ymdrechu i benderfynu cais cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl ei gael.

Personau a waherddir rhag cymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau ar geisiadau

3.—(1Ni chaiff unrhyw berson gymryd rhan mewn penderfynu cais os yw—

(a)yn berson sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr fferyllol neu restr meddygon fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu'n gyflogai person o'r fath;

(b)neu'n gyfranddaliwr, yn gyfarwyddwr neu'n ysgrifennydd cwmni sy'n cynnal busnes fferyllfa fanwerthu yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol;

(c)yn ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol;

(d)yn gontractwr GMDdA yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol, neu'n swyddog, ymddiriedolwr neu berson arall sy'n ymwneud â rheoli cwmni, cymdeithas neu sefydliad gwirfoddol neu gorff arall sy'n gontractwr GMDdA, neu a gyflogir neu a gymerwyd ymlaen gan gontractwr GMDdA o'r fath; neu

(e)yn gyflogedig, neu wedi ei gymryd ymlaen, gan y Bwrdd Iechyd Lleol at y diben o ddarparu gwasanaethau meddygol sylfaenol o fewn practis GMBILl.

(2Ni chaiff unrhyw berson arall gymryd rhan mewn penderfynu cais os byddai ei gyfranogiad, oherwydd buddiant neu gysylltiad sydd ganddo, neu oherwydd pwysau y gellid ei roi arno, yn peri amheuaeth resymol o bleidgarwch.

RHAN 2Penderfynu ar ardaloedd rheoledig

Hysbysu ynghylch bwriad i wneud penderfyniad mewn perthynas ag ardaloedd rheoledig

4.—(1Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol, yn rhinwedd rheoliad 6(3) (ardaloedd sy'n ardaloedd rheoledig), yn penderfynu na all ystyried cais gan Bwyllgor Meddygol Lleol neu Bwyllgor Fferyllol Lleol, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol beidio â chymryd unrhyw gam mewn perthynas â'r cais hwnnw, ac eithrio hysbysu'r ceisydd o'r ffaith honno ac o hawl y ceisydd i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw o dan reoliad 7 (apelau).

(2Ym mhob achos arall, cyn gwneud penderfyniad o dan reoliad 6(2), rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad ysgrifenedig o'i fwriad i wneud penderfyniad i'r canlynol—

(a)y Pwyllgor Meddygol Lleol yn ei ardal;

(b)y Pwyllgor Fferyllol Lleol yn ei ardal;

(c)y Cyngor Iechyd Cymuned ar gyfer yr ardal; a

(d)unrhyw berson sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol ac unrhyw ddarparwr gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot neu unrhyw ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer, y gallai'r penderfyniad effeithio arno ym marn y Bwrdd Iechyd Lleol.

(3Rhaid i hysbysiad o fwriad i wneud penderfyniad roi gwybod i'r person a hysbysir fod hawl ganddo i gyflwyno sylwadau (neu, os hysbysir Pwyllgor Meddygol Lleol neu Bwyllgor Fferyllol Lleol a wnaeth gais am y penderfyniad, unrhyw sylwadau pellach) mewn ysgrifen ynglŷn â'r penderfyniad arfaethedig, o fewn 30 diwrnod o'r dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad ato.

Gohirio ystyried ceisiadau

5.  Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi dyroddi hysbysiad o fwriad i wneud penderfyniad, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol ohirio'r ystyried unrhyw gais a gyflwynwyd o dan Ran 4 neu Ran 5 o'r Rheoliadau hyn ond nas penderfynwyd gan y Bwrdd, os yw'r cais yn un y gallai'r penderfyniad arfaethedig effeithio arno—

(a)hyd nes bo'r Bwrdd wedi penderfynu a yw'r ardal yn ardal reoledig neu'n rhan o ardal reoledig ai peidio, a'r cyfnod a ganiateir ar gyfer dwyn apêl yn erbyn y penderfyniad hwnnw wedi dod i ben; neu

(b)tan y dyddiad y penderfynir unrhyw apêl o'r fath.

Gosod amodau

6.  Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu a yw unrhyw ardal benodol, o fewn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd ar ei chyfer, oherwydd ei chymeriad gwledig, yn ardal reoledig neu'n rhan o ardal reoledig ai peidio—

(a)rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol ystyried a yw'n debygol yr effeithir yn anffafriol ar y ddarpariaeth o—

(i)gwasanaethau meddygol sylfaenol gan ddarparwr gwasanaethau o'r fath (ac eithrio'r Bwrdd ei hunan),

(ii)gwasanaethau fferyllol gan fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG,

(iii)gwasanaethau fferyllol lleol a ddarperir o dan gynllun peilot, neu

(iv)gwasanaethau fferyllol gan feddyg,

o ganlyniad i'r penderfyniad hwnnw; a

(b)caiff y Bwrdd Iechyd Lleol, os yw o'r farn ei bod yn debygol yr effeithir yn anffafriol ar unrhyw un o'r gwasanaethau hynny, osod amodau i ohirio, am ba bynnag gyfnod yr ystyria'n briodol, wneud neu derfynu trefniadau o dan reoliad 20 (trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol gan feddygon), neu ddarpariaeth gyfatebol o dan y Rheoliadau GMC ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu gan feddyg neu gontractwr GMC i gleifion ar y rhestr cleifion berthnasol.

Hysbysu ynghylch penderfyniadau a gweithredu yn dilyn penderfyniadau

7.—(1Unwaith y bydd Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu'r cwestiwn pa un a yw unrhyw ardal benodol, o fewn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd ar ei chyfer, oherwydd ei chymeriad gwledig, yn ardal reoledig neu'n rhan o ardal reoledig ai peidio, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyrraedd penderfyniad, roi hysbysiad ysgrifenedig i'r rhai a hysbyswyd o dan baragraff 4(2) i'w hysbysu o'r canlynol—

(i)y penderfyniad a'r rhesymau drosto,

(ii)unrhyw amodau a osodwyd gan y Bwrdd o dan baragraff 6, a

(iii)unrhyw hawliau i apelio o dan Atodlen 3; a

(b)cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl y dyddiad perthnasol—

(i)amlinellu ffiniau'r ardal reoledig yn fanwl gywir ar fap, neu dynnu ymaith yr amlinelliad o ffin ardal sydd wedi peidio â bod yn ardal reoledig;

(ii)rhoi cyfnod rhesymol o rybudd i feddyg yr effeithir arno ynghylch unrhyw amodau sydd wedi eu gosod o dan baragraff 6 o ganlyniad i'r penderfyniad; a

(iii)mynd ymlaen i benderfynu unrhyw geisiadau sydd wedi eu gohirio o dan baragraff 5.

(2At ddibenion y paragraff hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw'r diweddaraf o'r canlynol—

(a)y dyddiad y mae'r cyfnod ar gyfer dwyn apêl mewn perthynas â'r penderfyniad yn dod i ben; neu

(b)dyddiad penderfynu unrhyw apêl o'r fath.

RHAN 3Ceisiadau am gynnwys personau mewn rhestrau fferyllol a rhestrau meddygon fferyllol, neu ddiwygio rhestrau o'r fath

Hysbysu ynghylch ceisiadau penodol

8.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i geisiadau am—

(a)cynnwys person mewn, neu ddiwygio—

(i)rhestr fferyllol a wnaed o dan Ran 4 o'r Rheoliadau hyn, ac eithrio ceisiadau o dan reoliad 16 (ceisiadau sy'n ymwneud â newid perchnogaeth); a

(ii)rhestr meddygon fferyllol a wnaed o dan Ran 5 o'r Rheoliadau hyn;

(b)estyn y cyfnod perthnasol o dan reoliad 18; ac

(c)penderfyniad pellach, pa un a yw mangre neu leoliad perthnasol mewn lleoliad neilltuedig o dan reoliad 11(2) ai peidio.

(2Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu na ellir ystyried cais sy'n dod o fewn—

(a)is-baragraff (1)(a)(i) oherwydd rheoliad 10 (penderfynu ceisiadau am gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu ddiwygio rhestr fferyllol: effaith penderfyniadau cynharach); neu

(b)is-baragraff (1)(a)(ii) oherwydd rheoliad 24(7),

rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol beidio â chymryd unrhyw gam mewn perthynas â'r cais hwnnw, ac eithrio hysbysu'r ceisydd o'r ffaith honno ac o unrhyw hawl i apelio o dan Atodlen 3.

(3Ym mhob achos arall, rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'r cais yn unol â pharagraff 9.

(4Caiff y rhai a hysbyswyd o'r cais, o fewn 30 o'r dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad atynt, gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar y cais i'r Bwrdd Iechyd Lleol y cyflwynwyd y cais iddo,.

Personau a chyrff sydd i'w hysbysu

9.—(1Y personau a'r cyrff y mae'n rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol eu hysbysu yw—

(a)y Pwyllgor Fferyllol Lleol;

(b)y Pwyllgor Meddygol Lleol;

(c)unrhyw berson—

(i)sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol a gynhelir ganddo, neu

(ii)y rhoddwyd iddo gydsyniad rhagarweiniol ar gyfer ei gynnwys mewn rhestr fferyllol,

y gallai caniatáu'r cais, ym marn y Bwrdd Iechyd Lleol, effeithio'n sylweddol ar ei fuddiannau;

(d)unrhyw ddarparwr gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer, y gallai caniatáu'r cais, ym marn y Bwrdd Iechyd Lleol, effeithio'n sylweddol ar ei fuddiannau;

(e)unrhyw Gyngor Iechyd Cymuned sy'n gwasanaethu ardal y Bwrdd Iechyd Lleol;

(f)unrhyw grŵp cleifion, grŵp defnyddwyr neu grŵp cymunedol yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol sydd â buddiant sylweddol, ym marn y Bwrdd, yn y ddarpariaeth o wasanaethau fferyllol yn yr ardal;

(g)os yw'r fangre a bennir yn y cais mewn ardal reoledig, unrhyw berson (ac eithrio'r Bwrdd ei hunan) sy'n ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol o fewn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol, neu sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr meddygon fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, ac y gallai caniatáu'r cais, ym marn y Bwrdd Iechyd Lleol, effeithio'n sylweddol ar ei fuddiannau;

(h)unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol neu gorff cyfatebol sydd ag unrhyw ran o'i ardal o fewn dau gilometr o'r fangre, neu o leoliad y fangre, a bennir yn y cais; ac

(i)yn achos cais a wnaed o dan reoliad 14 (ceisiadau sy'n ymwneud ag adleoliad bach rhwng ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol cyfagos) y Bwrdd Iechyd Lleol y mae'r ceisydd yn bwriadu adleoli o'i ardal.

(2Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol a hysbysir o dan is-baragraff (1)(h)—

(a)o fewn 14 diwrnod ar ôl cael yr hysbysiad, rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r personau a'r cyrff a bennir yn is-baragraff (1)(a) i (g) sydd o fewn, neu sy'n gwasanaethu, yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer; a

(b)hysbysu'r Bwrdd Iechyd lleol a ddarparodd yr hysbysiad o dan is-baragraff (1) ei fod wedi darparu'r hysbysiad sy'n ofynnol gan is-baragraff (2)(a).

(3Caiff corff cyfatebol a hysbysir o dan is-baragraff (1)(h) ofyn i'r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad i'r personau hynny, yn yr ardal y sefydlwyd corff cyfatebol ar ei chyfer, y gallai caniatáu'r cais, ym marn y corff cyfatebol, effeithio'n sylweddol ar eu buddiannau, a rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol gydymffurfio ag unrhyw ofyniad o'r fath.

Cynnwys yr hysbysiadau

10.  Rhaid i hysbysiad o gais o dan baragraff 8—

(a)rhoi gwybod i'r person neu'r corff a hysbysir—

(i)am ei hawl i wneud sylwadau ar y cais o dan baragraff 8(4);

(ii)am yr amgylchiadau pan gaiff Bwrdd Iechyd Lleol ei gwneud yn ofynnol cynnal gwrandawiad llafar o dan baragraff 11; a

(iii)os yw'r Bwrdd Iechyd Lleol yn bwriadu ystyried y cais ar y cyd ac mewn perthynas ag unrhyw gais arall, am y bwriad hwnnw;

(b)darparu copi iddo o'r cais a gyflwynwyd gan y ceisydd, i alluogi'r person neu'r corff a hysbysir i wneud sylwadau gwybodus ynglŷn ag a ddylid caniatáu'r cais ai peidio; ac

(c)pan fo rheoliad 11(1) yn gymwys i gais o dan baragraff 8(1)(a), rhoi gwybod i'r person neu'r corff a hysbysir y bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu pa un a yw'r fangre neu'r lleoliad perthnasol, a bennwyd yn y cais ac sydd mewn ardal reoledig, hefyd mewn lleoliad neilltuedig.

Gwrandawiadau llafar

11.—(1Yn achos cais sy'n dod o fewn paragraff 8, caiff Bwrdd Iechyd Lleol ei gwneud yn ofynnol cynnal gwrandawiad llafar, os yw o'r farn bod angen clywed sylwadau llafar cyn penderfynu cais o'r fath.

(2Os yw'r Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu cynnal gwrandawiad llafar, rhaid iddo—

(a)rhoi dim llai na 14 diwrnod o rybudd o amser a lleoliad y gwrandawiad i'r canlynol—

(i)y ceisydd; a

(ii)unrhyw berson sydd wedi gwneud sylwadau ar y cais o dan baragraff 8(4);

(b)rhoi gwybod i'r ceisydd pwy y rhoddwyd hysbysiad iddynt o'r gwrandawiad; ac

(c)rhoi gwybod i'r rhai a hysbysir y cânt roi sylwadau ar lafar yn y gwrandawiad, ynglŷn â'r cais.

(3Caiff unrhyw berson a grybwyllir yn is-baragraff (2), sy'n dymuno rhoi sylwadau ar lafar yn y gwrandawiad, gael ei gynorthwyo i gyflwyno ei sylwadau gan berson arall a chael ei gynrychioli yn y gwrandawiad gan y person arall hwnnw, hyd yn oed pan na all y person a hysbysir o dan is-baragraff (2) fod yn bresennol ei hunan yn y gwrandawiad.

(4Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu'r weithdrefn a ddilynir yn y gwrandawiad.

(5Ni fydd y Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei rwymo gan unrhyw argymhellion a fydd yn codi o wrandawiad llafar.

Gwybodaeth y mae'n rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol roi sylw iddi

12.  Wrth benderfynu cais sy'n dod o fewn paragraff 8 rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol roi sylw, yn benodol, i'r canlynol—

(a)unrhyw sylwadau a gaiff y Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff 8(4);

(b)unrhyw argymhellion sy'n codi o wrandawiad llafar, os cynhelir un o dan baragraff 11; ac

(c)unrhyw wybodaeth arall sydd ar gael i'r Bwrdd Iechyd Lleol ac, ym marn y Bwrdd, yn berthnasol i'r ystyriaeth o'r cais.

Gosod amodau

13.—(1Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu caniatáu cais sy'n dod o fewn—

(a)paragraff 8(1)(a)(i) pan fo'r fangre a bennir yn y cais mewn ardal reoledig; neu

(b)paragraff 8(1)(a)(ii).

(2Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol—

(a)ystyried a yw'n debygol yr effeithir yn anffafriol ar y ddarpariaeth o—

(i)gwasanaethau meddygol sylfaenol gan ddarparwr gwasanaethau o'r fath (ac eithrio'r Bwrdd Iechyd Lleol ei hunan),

(ii)gwasanaethau fferyllol gan fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG,

(iii)gwasanaethau fferyllol lleol a ddarperir o dan gynllun peilot, neu

(iv)gwasanaethau fferyllol gan feddyg,

o ganlyniad i'w benderfyniad i ganiatáu'r cais; a

(b)os yw o'r farn ei bod yn debygol yr effeithir yn anffafriol ar y ddarpariaeth o unrhyw un o'r gwasanaethau hynny, caiff osod amodau i ohirio, am ba bynnag gyfnod yr ystyria'n briodol, gwneud neu derfynu trefniadau o dan reoliad 20 (trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol gan feddygon) neu ddarpariaeth gyfatebol gan feddyg neu gontractwr GMC o wasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu i gleifion ar y rhestr berthnasol.

Hysbysu ynghylch penderfyniadau: ceisiadau am gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu ddiwygio rhestr fferyllol

14.—(1Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyrraedd penderfyniad ar gais sy'n dod o fewn paragraff 8(1)(a)(i), roi hysbysiad ysgrifenedig o'i benderfyniad (gan gynnwys y cwestiwn o osod amodau o dan baragraff 13) ac o'r penderfyniad ynghylch lleoliad neilltuedig o dan reoliad 11(1)—

(a)yn achos cais y mae paragraff 8(2)(a) yn gymwys iddo, i'r ceisydd;

(b)yn achos pob cais arall sy'n dod o fewn paragraff 8(1)(a)(i)—

(i)i'r ceisydd, a

(ii)i unrhyw berson a gyflwynodd sylwadau ar y cais i'r Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â pharagraff 8(4).

(2Yn achos cais a benderfynir o dan reoliad 16 (ceisiadau sy'n ymwneud â newid perchnogaeth), rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyrraedd penderfyniad roi hysbysiad ysgrifenedig yn unol â pharagraff 9.

(3Rhaid i hysbysiad o benderfyniad o dan y paragraff hwn gynnwys datganiad o'r rhesymau am y penderfyniad ac o unrhyw hawliau apelio.

Hysbysu ynghylch penderfyniadau: ceisiadau am gynnwys person mewn rhestr meddygon fferyllol neu ddiwygio rhestr meddygon fferyllol

15.—(1Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyrraedd penderfyniad ar gais sy'n dod o fewn paragraff 8(1)(a)(ii) roi hysbysiad ysgrifenedig o'i benderfyniad (gan gynnwys y cwestiwn o osod amodau o dan baragraff 13)—

(a)yn achos cais y mae paragraff 8(2)(b) yn gymwys iddo, i'r ceisydd; a

(b)yn achos pob cais arall sy'n dod o fewn paragraff 8(1)(a)(ii)—

(i)i'r ceisydd; a

(ii)i unrhyw berson sydd wedi cyflwyno sylwadau ar y cais i'r Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â pharagraff 8(4).

(2Rhaid i hysbysiad o benderfyniad o dan y paragraff hwn gynnwys datganiad o'r rhesymau am y penderfyniad ac o unrhyw hawliau apelio.

Hysbysu ynghylch penderfyniadau: ceisiadau o dan reoliad 18 am estyn y cyfnod perthnasol

16.—(1Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyrraedd penderfyniad ar gais sy'n dod o fewn paragraff 8(1)(b), roi hysbysiad ysgrifenedig o'i benderfyniad i—

(a)y ceisydd, a

(b)unrhyw berson a gyflwynodd sylwadau ar y cais i'r Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â pharagraff 8(4).

(2Rhaid i hysbysiad o benderfyniad o dan y paragraff hwn gynnwys datganiad o'r rhesymau am y penderfyniad ac o unrhyw hawliau apelio.

Hysbysu ynghylch penderfyniadau: ceisiadau o dan reoliad 11(2)

17.—(1Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyrraedd penderfyniad ar gais sy'n dod o fewn paragraff 8(1)(c), roi hysbysiad ysgrifenedig o'i benderfyniad i—

(a)y ceisydd, a

(b)unrhyw berson a gyflwynodd sylwadau ar y cais i'r Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â pharagraff 8(4).

(2Rhaid i hysbysiad o benderfyniad o dan y paragraff hwn gynnwys datganiad o'r rhesymau am y penderfyniad ac o unrhyw hawliau apelio.

Gweithredu yn dilyn penderfyniad ynghylch lleoliadau neilltuedig

18.—(1Ar ôl penderfynu cais sy'n dod o dan reoliad 11(2) neu wneud penderfyniad yn unol â rheoliad 11(1), cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl y dyddiad perthnasol rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol amlinellu, yn fanwl gywir ar fap, ffiniau unrhyw leoliad neilltuedig a benderfynwyd ganddo, neu, yn ôl fel y digwydd, dynnu ymaith yr amlinelliad o ffin unrhyw leoliad sydd wedi peidio â bod yn lleoliad neilltuedig.

(2At ddibenion y paragraff hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw'r diweddaraf o'r canlynol—

(a)y dyddiad y mae'r cyfnod ar gyfer dwyn apêl mewn perthynas â'r penderfyniad yn dod i ben; neu

(b)dyddiad penderfynu unrhyw apêl o'r fath.

Rheoliadau 7, 19 a 30

ATODLEN 3Apelau i Weinidogion Cymru

RHAN 1Materion rhagarweiniol

Egwyddorion cyffredinol

1.  Ac eithrio i'r graddau y mae'r Rheoliadau hyn yn darparu i'r gwrthwyneb, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu apêl a gyflwynir iddynt ym mha bynnag fodd yr ystyriant yn briodol, ac yn benodol, cânt—

(a)ystyried yr holl wybodaeth sydd ar gael iddynt ac, yn eu barn hwy, yn berthnasol i benderfynu'r apêl;

(b)ystyried dwy neu ragor o apelau ar y cyd ac mewn perthynas â'i gilydd (ond nid oes rhwymedigaeth arnynt i wneud hynny pan fo'r Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu dau neu ragor o geisiadau ar y cyd ac mewn perthynas â'i gilydd), ond os ydynt yn bwriadu gwneud hynny, rhaid iddynt roi hysbysiad o'r bwriad hwnnw i bob apelydd ac i'r rhai a hysbysir ynghylch pob apêl yn unol â'r Atodlen hon;

(c)pan fo Gweinidogion Cymru, yn unol ag is-baragraff (b), yn ystyried dwy neu ragor o apelau y mae rheoliad 9(2) yn gymwys iddynt ar y cyd ac mewn perthynas â'i gilydd, cânt wrthod apêl (er gwaethaf y ffaith y byddent, pe baent yn penderfynu'r apêl fel apêl unigol ar ei phen ei hunan, yn ei chaniatáu) os yw nifer yr apelau, neu'r amgylchiadau y'u gwneir ynddynt, yn peri y byddai caniatáu pob un, neu fwy nag un ohonynt, yn niweidio'r ddarpariaeth briodol o wasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu yn yr ardal reoledig y lleolir ynddi'r fangre a bennir yn yr apêl;

(d)dychwelyd apêl a gyflwynwyd iddynt at y Bwrdd Iechyd Lleol i'w ailbenderfynu, mewn achosion pan oedd yr wybodaeth y mae'n ofynnol i'r ceisydd ei darparu yn unol ag Atodlen 1 yn anghyflawn;

(e)gwrthod apêl os ydynt o'r farn bod yr hysbysiad o apêl—

(i)yn annilys oherwydd nad yw'n cydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon;

(ii)yn amddifad o unrhyw sail resymol dros apelio; neu

(iii)rywfodd arall yn flinderus neu'n wacsaw.

Gwrandawiadau llafar

2.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol cynnal gwrandawiad llafar os ydynt o'r farn bod angen clywed sylwadau ar lafar cyn penderfynu apêl a gyflwynwyd iddynt.

(2Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu cynnal gwrandawiad llafar, rhaid iddynt—

(a)penodi un neu ragor o bersonau i glywed yr apêl ac i adrodd wrthynt ar yr apêl;

(b)rhoi dim llai na 14 diwrnod o rybudd o amser a lleoliad y gwrandawiad i'r apelydd ac i unrhyw berson yr anfonwyd copi o'r hysbysiad o apêl ato o dan baragraff 4 neu 7;

(c)rhoi gwybod i'r apelydd i bwy y rhoddwyd hysbysiad o'r gwrandawiad; a

(d)rhoi gwybod i'r rhai a hysbysir y cânt wneud sylwadau ar lafar ynglŷn â'r apêl yn y gwrandawiad.

(3Caiff unrhyw berson a grybwyllir yn is-baragraff (2), sy'n dymuno rhoi sylwadau ar lafar yn y gwrandawiad, gael ei gynorthwyo i gyflwyno ei sylwadau gan berson arall a chael ei gynrychioli yn y gwrandawiad gan y person arall hwnnw, hyd yn oed pan na all y person a hysbysir o dan is-baragraff (2) fod yn bresennol ei hunan yn y gwrandawiad.

(4Caiff y person neu'r personau a benodir gan Weinidogion Cymru i glywed yr apêl benderfynu'r weithdrefn a ddilynir yn y gwrandawiad.

(5Ni fydd Gweinidogion Cymru wedi eu rhwymo gan unrhyw argymhellion a fydd yn codi o'r gwrandawiad llafar.

RHAN 2Apelau yn erbyn penderfyniadau sy'n pennu ardaloedd rheoledig

Hawl i apelio i Weinidogion Cymru

3.—(1Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu, yn rhinwedd rheoliad 6(3) (ardaloedd sy'n ardaloedd rheoledig), na ellir ystyried cais gan Bwyllgor Meddygol Lleol neu Bwyllgor Fferyllol Lleol, caiff y ceisydd gyflwyno hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru yn erbyn y penderfyniad hwnnw.

(2Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu, o dan reoliad 6(2), a yw ardal benodol o fewn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer, oherwydd ei chymeriad gwledig, yn ardal reoledig neu'n rhan o ardal reoledig ai peidio, y personau sydd â hawl i gyflwyno hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru yn erbyn y penderfyniad hwnnw yw—

(a)y Pwyllgor Meddygol Lleol;

(b)y Pwyllgor Fferyllol Lleol; ac

(c)unrhyw berson sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, unrhyw ddarparwr gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot neu unrhyw ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer ac y rhoddwyd hysbysiad iddo o'r penderfyniad gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff 7(1) o Atodlen 2.

(3Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu y dylai neu na ddylai ohirio gwneud neu derfynu trefniadau, fel a grybwyllir ym mharagraff 6(b) o Atodlen 2, y rhai a gaiff gyflwyno hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru yn erbyn y penderfyniad hwnnw yw—

(a)y Pwyllgor Meddygol Lleol;

(b)y Pwyllgor Fferyllol Lleol; ac

(c)unrhyw berson a gynhwysir mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, unrhyw ddarparwr gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot neu unrhyw ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol, yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer ac y rhoddwyd hysbysiad o'r penderfyniad iddynt gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff 7(1) o Atodlen 2.

(4Mae hysbysiad o apêl yn ddilys os—

(a)cyflwynir yr hysbysiad gan berson sydd â hawl i apelio o dan is-baragraff (1), (2) neu (3);

(b)anfonir yr hysbysiad at Weinidogion Cymru o fewn 30 diwrnod o'r dyddiad yr anfonodd y Bwrdd Iechyd Lleol yr hysbysiad o'r penderfyniad yr apelir yn ei erbyn at y person sy'n gwneud yr apêl; ac

(c)bod yr hysbysiad yn cynnwys datganiad o seiliau'r apêl.

Hysbysu ynghylch apelau

4.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cael hysbysiad o apêl a gyflwynwyd o dan baragraff 3(1) anfon copi o'r hysbysiad at y Bwrdd Iechyd Lleol.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cael hysbysiad o apêl a gyflwynwyd o dan baragraff 3(2) neu 3(3) anfon copi o'r hysbysiad at—

(a)y Bwrdd Iechyd Lleol; a

(b)y personau hynny y rhoddodd y Bwrdd Iechyd Lleol hysbysiad o'i benderfyniad iddynt o dan baragraff 7(1) o Atodlen 2.

(3Ar yr un pryd, rhaid i Weinidogion Cymru roi gwybod i'r rhai yr anfonwyd copi o'r hysbysiad o apêl atynt o dan is-baragraffau (1) i (3)—

(a)y cânt gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i Weinidogion Cymru ynglŷn â'r apêl, o fewn 30 diwrnod o'r dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad o apêl atynt; a

(b)am yr amgylchiadau pan gaiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol cynnal gwrandawiad llafar.

Penderfynu mewn apelau

5.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cyrraedd penderfyniad mewn apêl a gyflwynwyd o dan baragraff 3, roi hysbysiad ysgrifenedig o'u penderfyniad, ynghyd â'r rhesymau drosto, i'r personau yr anfonwyd copi o'r hysbysiad o apêl atynt o dan baragraff 4.

(2O ran Gweinidogion Cymru—

(a)rhaid iddynt, os ydynt yn caniatáu apêl yn erbyn penderfyniad gan Fwrdd Iechyd Lleol na ellid ystyried cais yn rhinwedd rheoliad 6(3), naill ai—

(i)penderfynu eu hunain y cwestiwn pa un a yw'r ardal benodol yn ardal reoledig neu'n rhan o ardal reoledig ai peidio, neu

(ii)dychwelyd y cwestiwn at y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ei benderfynu;

(b)os oedd y Bwrdd Iechyd Lleol, wrth benderfynu'r cais, wedi ystyried gosod amodau o dan baragraff 6 o Atodlen 2, caiff Gweinidogion Cymru ystyried a ddylent, eu hunain, osod amodau;

(c)os nad oedd y Bwrdd Iechyd Lleol, wrth benderfynu'r cais, wedi ystyried gosod amodau o dan baragraff 6 o Atodlen 2, caiff Gweinidogion Cymru naill ai—

(i)ystyried a ddylent, eu hunain, osod amodau; neu

(ii)dychwelyd y cwestiwn at y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ei benderfynu;

(d)os oedd y Bwrdd Iechyd Lleol, wrth benderfynu'r cais, wedi ystyried y cwestiwn a ddylid gohirio gwneud neu ohirio terfynu trefniadau o dan reoliad 20 (neu ddarpariaeth gyfatebol o dan y Rheoliadau GMC) ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu i gleifion gan feddyg neu gontractwr GMC, caiff Gweinidogion Cymru eu hunain ohirio gwneud neu ohirio terfynu trefniadau o'r fath am ba bynnag gyfnod a ystyriant yn briodol; neu

(e)os nad oedd y Bwrdd Iechyd Lleol wedi ystyried y cwestiwn a ddylid gohirio gwneud neu derfynu trefniadau o dan reoliad 20 (neu ddarpariaeth gyfatebol o dan y Rheoliadau GMC) ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu i gleifion gan feddyg neu gontractwr GMC, rhaid i Weinidogion Cymru ddychwelyd y cwestiwn at y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ei benderfynu.

RHAN 3Apelau yn erbyn penderfyniadau ynglŷn â chynnwys personau mewn rhestrau fferyllol a rhestrau meddygon fferyllol neu ddiwygio rhestrau o'r fath

Hawl i apelio i Weinidogion Cymru

6.—(1Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol, o dan baragraff 8(2) o Atodlen 2, wedi penderfynu peidio â gweithredu mewn perthynas â chais, caiff y ceisydd gyflwyno hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol.

(2Yn achos pob cais arall y mae paragraff 8 o Atodlen 2 yn gymwys iddo, y personau sydd â hawl i gyflwyno hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol yw—

(a)y ceisydd;

(b)unrhyw rai o'r canlynol a gyflwynodd sylwadau ar y cais i'r Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff 8(4) o Atodlen 2—

(i)unrhyw berson sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol,

(ii)unrhyw berson y rhoddwyd iddo gydsyniad rhagarweiniol ar gyfer ei gynnwys mewn rhestr fferyllol,

(iii)unrhyw ddarparwr gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot, a

(iv)os yw'r fangre a bennir yn y cais mewn ardal reoledig, unrhyw berson sy'n ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol neu sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr meddygon fferyllol.

(3Yn achos cais a benderfynwyd o dan reoliad 16 (ceisiadau sy'n ymwneud â newid perchnogaeth), y personau sydd â hawl i gyflwyno hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru yw—

(a)y ceisydd; a

(b)unrhyw rai o'r canlynol, y rhoddwyd iddynt hysbysiad, o dan baragraff 14(2) o Atodlen 2, o'r penderfyniad gan y Bwrdd Iechyd Lleol ar y cais—

(i)unrhyw berson sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol,

(ii)unrhyw berson y rhoddwyd iddo gydsyniad rhagarweiniol ar gyfer ei gynnwys mewn rhestr fferyllol,

(iii)unrhyw ddarparwr gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot, a

(iv)os yw'r fangre a bennir yn y cais mewn ardal reoledig, unrhyw berson sy'n ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol neu sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr meddygon fferyllol.

(4Mae hysbysiad o apêl yn ddilys os—

(a)cyflwynir yr hysbysiad gan berson sydd â hawl i apelio o dan is-baragraffau (1), (2) neu (3);

(b)anfonir yr hysbysiad at Weinidogion Cymru o fewn 30 diwrnod o'r dyddiad yr anfonodd y Bwrdd Iechyd Lleol yr hysbysiad o'r penderfyniad yr apelir yn ei erbyn at y person sy'n gwneud yr apêl; ac

(c)bod yr hysbysiad yn cynnwys datganiad o seiliau'r apêl.

Hysbysu ynghylch apelau

7.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cael hysbysiad o apêl a gyflwynwyd o dan baragraff 6(1) anfon copi o'r hysbysiad at y Bwrdd Iechyd Lleol.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cael hysbysiad o apêl a gyflwynwyd o dan baragraff 6(2), anfon copi o'r hysbysiad at—

(a)y ceisydd, os nad y ceisydd a gyflwynodd yr hysbysiad o apêl;

(b)y Bwrdd Iechyd Lleol, ac

(c)y rhai a hysbyswyd o'r cais ac a wnaeth sylwadau arno o dan baragraff 8(4) o Atodlen 2.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cael hysbysiad o apêl a gyflwynwyd o dan baragraff 6(3) anfon copi o'r hysbysiad at—

(a)y ceisydd, os nad y ceisydd a gyflwynodd yr hysbysiad o apêl;

(b)y Bwrdd Iechyd Lleol, ac

(c)y rhai y rhoddodd y Bwrdd Iechyd Lleol hysbysiad o'i benderfyniad iddynt o dan baragraff 14(2) o Atodlen 2.

(4Ar yr un pryd, rhaid i Weinidogion Cymru roi gwybod i'r personau yr anfonwyd copi o'r hysbysiad o apêl atynt o dan y paragraff hwn—

(a)y cânt, o fewn 30 diwrnod o'r dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad o apêl atynt, gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i Weinidogion Cymru ynglŷn â'r apêl;

(b)am yr amgylchiadau pan gaiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol cynnal gwrandawiad llafar; ac

(c)pan fo bwriad gan Weinidogion Cymru i ystyried dwy neu ragor o apelau ar y cyd ac mewn perthynas â'i gilydd, am y bwriad hwnnw.

Penderfynu mewn apelau

8.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth benderfynu apêl a wnaed o dan baragraff 6, naill ai—

(a)caniatáu'r apêl; neu

(b)cadarnhau penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol.

(2Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol, o dan baragraff 8(2) o Atodlen 2, wedi penderfynu peidio â gweithredu mewn perthynas â chais, a Gweinidogion Cymru yn caniatáu apêl y ceisydd yn erbyn y penderfyniad hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru dychwelyd y cais yn ôl at y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ei benderfynu gan y Bwrdd Iechyd Lleol.

(3Mewn achos pan fo'r fangre a bennir mewn cais, sydd yn destun apêl, mewn ardal reoledig—

(a)os oedd y Bwrdd Iechyd Lleol, wrth benderfynu'r cais, wedi ystyried a ddylid gosod amodau o dan baragraff 13 o Atodlen 2 neu reoliad 11(6)(b), caiff Gweinidogion Cymru eu hunain ystyried a ddylent osod amodau i ohirio gwneud neu derfynu trefniadau o'r fath, am ba bynnag gyfnod a ystyriant yn briodol; neu

(b)os nad oedd y Bwrdd Iechyd Lleol, wrth benderfynu'r cais, wedi ystyried a ddylid gosod amodau o dan baragraff 13 o Atodlen 2 neu reoliad 11(6)(b), rhaid i Weinidogion Cymru naill ai—

(i)ystyried a ddylent, eu hunain, osod amodau; neu

(ii)dychwelyd y cwestiwn yn ôl at y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ei benderfynu.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cyrraedd penderfyniad mewn apêl, gan gynnwys gosod amodau o dan is-baragraff (3) roi hysbysiad ysgrifenedig o'u penderfyniad, ynghyd â'r rhesymau drosto, i'r personau hynny yr anfonwyd copi o'r hysbysiad o apêl atynt o dan baragraff 7.

Effaith penderfyniadau gan Weinidogion Cymru

9.  At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae penderfyniad Gweinidogion Cymru yn dod yn benderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol ar y mater (ond ni fydd apêl bellach i Weinidogion Cymru ar y penderfyniad hwnnw yn bosibl, oni chaiff penderfyniad Gweinidogion Cymru ei wrthdroi gan lys).

Rheoliad 5

ATODLEN 4Telerau gwasanaethu ar gyfer fferyllwyr GIG sy'n darparu gwasanaethau fferyllol yn benodol drwy ddarparu cyffuriau

RHAN 1Cyffredinol

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon, mae cyffuriau neu gyfarpar i'w hystyried wedi eu harchebu neu eu darparu yn unol â phresgripsiwn amlroddadwy, hyd yn oed os nad yw'r person sy'n dymuno cael y gwasanaethau fferyllol yn cyflwyno'r presgripsiwn hwnnw, cyhyd ag—

(a)bod y presgripsiwn hwnnw gan y fferyllydd GIG yn ei feddiant; a

(b)bod y person hwnnw'n cyflwyno swp-ddyroddiad cysylltiedig, neu fod gan y fferyllydd GIG swp-ddyroddiad cysylltiedig yn ei feddiant.

Ymgorffori darpariaethau

2.  Mae unrhyw ddarpariaethau o'r canlynol sy'n effeithio ar hawliau a rhwymedigaethau fferyllwyr GIG sy'n darparu gwasanaethau fferyllol yn ffurfio rhan o'r telerau gwasanaethu—

(a)y Rheoliadau;

(b)y Tariff Cyffuriau i'r graddau y mae'n rhestru cyffuriau a chyfarpar at ddibenion adran 80 o Ddeddf 2006 (trefniadau ar gyfer gwasanaethau fferyllol);

(c)cymaint o Ran II o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaeth a Thribiwnlys) 1992 ag y sy'n ymwneud ag—

(i)ymchwiliadau a wneir gan y pwyllgor disgyblu fferyllol a'r cyd-bwyllgor disgyblu a chamau y caiff y Bwrdd Iechyd Lleol eu cymryd o ganlyniad i ymchwiliadau o'r fath, a

(ii)apelau i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniadau'r Bwrdd Iechyd Lleol; a

(d)cymaint o reoliad 29 o Reoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010(2) (mynd i mewn i fangreoedd a'u harchwilio) ag y sy'n ymwneud â mynd i mewn i fangreoedd ac archwilio mangreoedd, y mae fferyllydd GIG naill ai'n berchen arnynt, neu'n eu rheoli neu'n darparu gwasanaethau fferyllol ynddynt.

RHAN 2Gwasanaethau hanfodol

Gwasanaethau hanfodol

3.  At ddibenion yr Atodlen hon, ystyr “gwasanaethau hanfodol” (“essential services”) yw—

(a)y gwasanaethau a ddisgrifir yn y Rhan hon; a

(b)y gweithgareddau a ddisgrifir yn y Rhan hon sydd i'w cyflawni mewn cysylltiad â'r gwasanaethau hynny.

Gwasanaethau gweinyddu

4.  Rhaid i fferyllydd GIG, i'r graddau y mae'n ofynnol gan baragraffau 5 i 9 ac yn y modd a ddisgrifir yn y paragraffau hynny, ddarparu cyffuriau a chyfarpar priodol a digonol i bersonau sy'n cyflwyno presgripsiwn am y cyffur neu'r cyfarpar hwnnw, wedi ei lofnodi gan ragnodydd yn unol â'r swyddogaethau yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

Gweinyddu cyffuriau a chyfarpar

5.—(1Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol o'r Rhan hon, pan fo person yn cyflwyno ar ffurflen bresgripsiwn—

(a)archeb am gyffuriau nad ydynt yn gyffuriau Atodlen, neu am gyfarpar nad ydyw'n gyfarpar argaeledd cyfyngedig, wedi ei llofnodi gan ragnodydd;

(b)archeb am gyffur a bennir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau Rhagnodi Cyffuriau (cyffuriau neu feddyginiaethau sydd i'w harchebu mewn amgylchiadau penodol yn unig), wedi ei llofnodi a'i harnodi ar ei hwyneb gyda'r cyfeirnod “SLS” gan ragnodydd; neu

(c)archeb am gyfarpar argaeledd cyfyngedig, wedi ei llofnodi a'i harnodi ar ei hwyneb gyda'r cyfeirnod “SLS” gan ragnodydd,

rhaid i fferyllydd GIG, yn rhesymol brydlon ac yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y rhagnodydd ar y ffurflen bresgripsiwn, ddarparu'r cyffuriau a archebir felly, a'r cyfryw rai o'r cyfarpar a archebir felly a gyflenwir gan y fferyllydd GIG yng nghwrs arferol ei fusnes.

(2Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y Rhan hon, pan fo unrhyw berson—

(a)yn cyflwyno presgripsiwn amlroddadwy anelectronig sy'n cynnwys—

(i)archeb am gyffuriau nad ydynt yn gyffuriau Atodlen, nac yn gyffuriau rheoledig yn yr ystyr a roddir i “controlled drug” yn Neddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971(3), ac eithrio cyffur a bennir am y tro yn Atodlen 4 neu 5 i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001(4) (sy'n ymwneud â chyffuriau rheoledig a eithriwyd rhag gwaharddiadau penodol o dan y Rheoliadau), wedi ei llofnodi gan ragnodydd amlroddadwy,

(ii)archeb am gyffur a bennir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau Rhagnodi Cyffuriau, nad yw'n gyffur rheoledig yn yr ystyr a roddir i “controlled drug” yn Neddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971, ac eithrio cyffur a bennir am y tro yn Atodlen 4 neu 5 i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001, wedi ei llofnodi a'i harnodi ar ei hwyneb gyda'r cyfeirnod “SLS” gan ragnodydd amlroddadwy,

(iii)archeb am gyfarpar, nad ydynt yn gyfarpar argaeledd cyfyngedig, wedi ei llofnodi gan ragnodydd amlroddadwy, neu

(iv)archeb am gyfarpar argaeledd cyfyngedig, wedi ei llofnodi a'i harnodi ar ei hwyneb gyda'r cyfeirnod “SLS” gan ragnodydd amlroddadwy,

a hefyd yn cyflwyno swp-ddyroddiad cysylltiedig; neu

(b)yn gofyn am ddarparu cyffuriau neu gyfarpar yn unol â phresgripsiwn amlroddadwy electronig sy'n cynnwys archeb o fath a bennir ym mharagraff (a)(i) i (iv),

rhaid i fferyllydd GIG, yn rhesymol brydlon ac yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y rhagnodydd amlroddadwy yn y presgripsiwn amlroddadwy, ddarparu'r cyffuriau a archebir felly, a'r cyfryw rai o'r cyfarpar a archebir felly a gyflenwir gan y fferyllydd GIG yng nghwrs arferol ei fusnes.

(3At ddibenion y paragraff hwn, mae presgripsiwn amlroddadwy anelectronig am gyffuriau neu gyfarpar i'w ystyried wedi ei gyflwyno, hyd yn oed os nad yw'r person sy'n dymuno cael y cyffuriau neu gyfarpar yn cyflwyno'r presgripsiwn hwnnw, os yw—

(a)y presgripsiwn hwnnw gan y fferyllydd GIG yn ei feddiant; a

(b)y person hwnnw'n cyflwyno swp-ddyroddiad cysylltiedig, neu fod gan y fferyllydd GIG swp-ddyroddiad cysylltiedig yn ei feddiant.

Cyflenwi ar frys heb bresgripsiwn

6.—(1Mae'r paragraff yn gymwys pan fo rhagnodydd, mewn achos brys, yn gofyn i fferyllydd GIG ddarparu cyffur neu gyfarpar.

(2Caiff y fferyllydd GIG ddarparu'r cyffur neu gyfarpar y gofynnir amdano cyn cael ffurflen bresgripsiwn na phresgripsiwn amlroddadwy mewn perthynas â'r cyffur neu gyfarpar hwnnw, ar yr amod—

(a)yn achos cais am gyffur, nad yw'r cyffur—

(i)yn gyffur Atodlen, na

(ii)yn gyffur rheoledig yn yr ystyr a roddir i “controlled drug” yn Neddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971, ac eithrio cyffur a bennir am y tro yn Atodlen 4 neu 5 i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001; a

(b)yn achos cais am gyffur neu am gyfarpar, bod y rhagnodydd yn ymrwymo i—

(i)rhoi i'r fferyllydd GIG ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig mewn perthynas â'r cyffur neu gyfarpar o fewn 72 awr ar ôl gwneud y cais, neu

(ii)rhoi i'r fferyllydd GIG ffurflen bresgripsiwn electronig neu ffurflen bresgripsiwn amlroddadwy electronig sy'n cydymffurfio â'r gwasanaeth TPE o fewn 72 awr ar ôl gwneud y cais.

Materion rhagarweiniol cyn darparu cyffuriau neu gyfarpar a archebwyd

7.—(1Os gofynnir i'r fferyllydd GIG wneud hynny gan y person sy'n cyflwyno ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy neu'n gofyn am ddarparu cyffuriau neu gyfarpar yn unol â phresgripsiwn amlroddadwy—

(a)rhaid i'r fferyllydd GIG roi amcangyfrif o'r amser pan fydd y cyffuriau neu'r cyfarpar yn barod; a

(b)os na fyddant yn barod erbyn yr amser hwnnw, rhaid i'r fferyllydd GIG roi amcangyfrif diwygiedig o'r amser pan fyddant yn barod (ac felly ymlaen).

(2Cyn darparu unrhyw gyffuriau neu gyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)rhaid i'r fferyllydd GIG ofyn i unrhyw berson, sy'n gwneud datganiad nad oes raid i'r person a enwir ar y ffurflen bresgripsiwn neu'r presgripsiwn amlroddadwy dalu'r ffioedd a bennir yn rheoliad 3(1) o'r Rheoliadau Ffioedd (cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan fferyllwyr), yn rhinwedd naill ai—

(i)hawl i esemptiad o dan reoliad 8(1) (esemptiadau) o'r Rheoliadau Ffioedd, neu

(ii)hawl i beidio â thalu ffioedd o'r fath o dan reoliad 4 o'r Rheoliadau Peidio â Chodi Tâl (ffioedd GIG y gellir peidio â'u codi),

ddangos tystiolaeth foddhaol o'r cyfryw hawl, oni wneir y datganiad mewn perthynas â hawl i esemptiad o dan reoliad 8(1) o'r Rheoliadau Ffioedd neu mewn perthynas â hawl i beidio â thalu yn rhinwedd is-baragraffau (d) i (ng) o reoliad 4(2) o'r Rheoliadau Peidio â Chodi Tâl, a bod tystiolaeth o'r fath eisoes ar gael i'r fferyllydd GIG ar yr adeg y gwneir y datganiad; a

(b)os na ddangosir tystiolaeth foddhaol i'r fferyllydd GIG, fel sy'n ofynnol gan baragraff (a), rhaid i'r fferyllydd GIG arnodi'r ffurflen y gwnaed y datganiad arni i'r perwyl hwnnw.

Darparu cyffuriau neu gyfarpar a archebwyd

8.—(1Pan gyflwynir ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy i fferyllydd GIG, rhaid iddo beidio â darparu'r cyffuriau neu gyfarpar a archebir felly, ac eithrio—

(a)pan fo'r ffurflen bresgripsiwn neu'r presgripsiwn amlroddadwy wedi eu llofnodi a'u harnodi yn briodol, fel a ddisgrifir ym mharagraff 5(1) neu (2); a

(b)yn unol â'r archeb ac unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd gan y rhagnodydd ar y ffurflen bresgripsiwn neu'r presgripsiwn amlroddadwy,

yn ddarostyngedig i unrhyw reoliadau sydd mewn grym o dan Ddeddf Pwysau a Mesurau 1985(5) a darpariaethau canlynol y Rhan hon.

(2Rhaid i gyffuriau neu gyfarpar a archebir felly gael eu darparu naill ai gan fferyllydd cofrestredig neu o dan oruchwyliaeth uniongyrchol fferyllydd cofrestredig.

(3Pan fo'r fferyllydd y cyfeirir ato yn is-baragraff (2) yn gyflogedig gan fferyllydd GIG, ni chaniateir i'r fferyllydd cofrestredig fod yn rhywun sydd—

(a)wedi ei anghymhwyso rhag ei gynnwys mewn rhestr berthnasol; neu

(b)wedi ei atal dros dro o Gofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol.

(4Os yw'r archeb yn archeb am fath o gyfarpar y mae'n ofynnol ei fesur a'i ffitio (er enghraifft, gwasgrwym), rhaid i'r fferyllydd GIG wneud yr holl drefniadau angenrheidiol—

(a)ar gyfer mesur y person a enwir ar y ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy ar gyfer y cyfarpar; a

(b)ar gyfer ffitio'r cyfarpar.

(5Os yw'r archeb yn archeb am gyffur neu gyfarpar sydd wedi ei gynnwys yn y Tariff Cyffuriau, Fformiwlari Cenedlaethol Prydain (gan gynnwys unrhyw Atodiad a gyhoeddwyd yn rhan o'r Fformiwlari hwnnw), Fformiwlari'r Ymarferydd Deintyddol, y Cyffuriadur Ewropeaidd neu Godecs Fferyllol Prydain, rhaid i'r cyffur neu gyfarpar a gyflenwir gydymffurfio â'r safon neu'r fformiwla a bennir yno.

(6Os yw'r archeb—

(a)yn archeb am gyffur; ond

(b)nid yn archeb am gyffur rheoledig yn yr ystyr a roddir i “controlled drug” yn Neddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971, ac eithrio cyffur a bennir am y tro yn Atodlenni 4 neu 5 i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001,

ac nad yw'r archeb yn rhagnodi ei faint, ei gryfder na'r dosau, caiff fferyllydd GIG ddarparu'r cyffur ym mha bynnag gryfder a dosau a ystyria'n briodol drwy arfer ei sgil, ei wybodaeth a'i ofal proffesiynol ac, yn ddarostyngedig i is-baragraff (7), ym mha bynnag faint a ystyrir yn briodol ganddo ar gyfer cwrs o driniaeth o ddim mwy na phum diwrnod.

(7Os yw archeb y mae is-baragraff (6) yn gymwys iddi yn archeb ar gyfer—

(a)sylwedd atal cenhedlu geneuol;

(b)cyffur nad yw ar gael i'w gyflenwi fel rhan o wasanaethau fferyllol ac eithrio ar y cyd ag un neu ragor o gyffuriau eraill; neu

(c)gwrthfiotig ar ffurf hylif sydd i'w roi drwy'r genau, pan fo'n ofynnol, am resymau fferyllol mewn perthynas ag ef, ei ddarparu mewn pecyn heb ei agor,

nad yw ar gael i'w ddarparu fel rhan o wasanaethau fferyllol ac eithrio mewn pecynnau o'r fath lle mae'r maint lleiaf sydd ar gael yn cynnwys maint addas ar gyfer cwrs o driniaeth o fwy na 5 diwrnod, caiff y fferyllydd GIG ddarparu pecyn o'r maint lleiaf sydd ar gael.

(8Pan fo unrhyw gyffur y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo (hynny yw, cyffur nad yw Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 yn gymwys iddo, onid yw'n gyffur a bennir am y tro yn Atodlenni 4 neu 5 i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001), a archebwyd gan ragnodydd ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, ar gael ar gyfer ei ddarparu gan fferyllydd GIG mewn pecyn mewn maint gwahanol i'r maint a archebwyd felly, a'r cyffur hwnnw—

(a)yn ddi-haint;

(b)yn eferw neu hygrosgopig;

(c)yn gymysgedd hylifol i'w ychwanegu at ddŵr bath;

(d)yn gymysgedd col-tar;

(e)yn gymysgedd gludiog; neu

(f)wedi ei becynnu ar adeg ei weithgynhyrchu mewn pecyn calendr neu gynhwysydd arbennig,

rhaid i'r fferyllydd GIG ddarparu'r cyffur yn y pecyn sydd o'r maint agosaf i'r maint a archebwyd felly.

(9Yn y paragraff hwn, ystyr “cynhwysydd arbennig” (“special container”) yw unrhyw gynhwysydd sydd â'r modd o roi'r cynnwys yn rhan integrol ohono, neu nad yw'n ymarferol ei ddefnyddio i weinyddu maint cywir o'r cynnwys.

(10Pan fo rhagnodydd yn archebu cyffur mewn maint, neu luosydd o faint, sydd ar gael yn hwylus fel maint pecyn a weithgynhyrchir i ddeiliad awdurdodiad marchnata ar gyfer y cyffur, rhaid i'r fferyllydd GIG ddarparu'r cyffur mewn pecyn gwreiddiol (neu mewn pecynnau gwreiddiol) o'r maint hwnnw sydd wedi eu cydosod gan weithgynhyrchydd o'r cyffur ar gyfer y deiliad awdurdodiad marchnata hwnnw, oni bai—

(a)nad yw'n bosibl i'r fferyllydd GIG gael pecyn (neu becynnau) o'r fath yn rhesymol brydlon yng nghwrs arferol busnes; neu

(b)nad yw'n ymarferol i'r fferyllydd GIG ddarparu pecyn (neu becynnau) o'r fath wrth ymateb i'r archeb (er enghraifft oherwydd anghenion y claf neu'r dull o roi'r cyffur).

(11Ac eithrio fel a ddarperir yn is-baragraff (12), rhaid i fferyllydd GIG beidio â darparu cyffur Atodlen wrth ymateb i archeb sy'n cyfeirio ato wrth ei enw, ei fformiwla neu ddisgrifiad arall ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy.

(12Pan fo gan gyffur enw amherchnogol priodol a phan archebir ef ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, naill ai wrth yr enw hwnnw neu wrth ei fformiwla, caiff fferyllydd GIG ddarparu cyffur sydd â'r un fanyleb, hyd yn oed pan fo'r cyffur hwnnw'n gyffur Atodlen, ar yr amod pan fo cyffur Atodlen mewn pecyn sy'n cynnwys cyffur mewn mwy nag un cryfder, nad yw darparu felly yn golygu cyflenwi rhan yn unig o'r pecyn.

(13Pan fo cyffur a archebir fel a bennir yn is-baragraff (12) yn gyfuniad o fwy nag un cyffur, nid yw'r is-baragraff hwnnw yn gymwys ac eithrio pan fo gan y cyfuniad enw amherchnogol priodol, pa un a oes gan y cyffuriau unigol yn y cyfuniad enwau o'r fath ai peidio.

(14Rhaid i fferyllydd GIG ddarparu unrhyw gyffur y mae'n ofynnol iddo ei ddarparu o dan y paragraff mewn cynhwysydd addas.

Gwrthod darparu cyffuriau neu gyfarpar a archebir

9.—(1Caiff fferyllydd GIG wrthod darparu cyffuriau neu gyfarpar a archebir ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)os yw'r fferyllydd GIG yn credu, yn rhesymol, nad yw'r archeb yn archeb ddilys ar gyfer y person a enwir ar y ffurflen bresgripsiwn neu'r presgripsiwn amlroddadwy (er enghraifft, oherwydd bod y fferyllydd GIG yn credu, yn rhesymol, fod y ffurflen wedi ei lladrata neu'i ffugio);

(b)os yw'n ymddangos i'r fferyllydd GIG fod camgymeriad yn y ffurflen bresgripsiwn neu'r presgripsiwn amlroddadwy neu'i swp-ddyroddiad cysylltiedig (gan gynnwys camgymeriad clinigol a wnaed gan y rhagnodydd) neu y byddai darparu'r cyffuriau neu'r cyfarpar, yn yr amgylchiadau, yn groes i farn glinigol y fferyllydd GIG;

(c)os yw'r fferyllydd GIG neu bersonau eraill yn y fangre yn dioddef trais neu'n cael eu bygwth â thrais gan y person sy'n cyflwyno'r ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, neu gan unrhyw berson sydd gyda'r person hwnnw; neu

(d)os yw'r person sy'n cyflwyno'r ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, neu unrhyw berson arall sydd gyda'r person hwnnw, yn cyflawni neu'n bygwth cyflawni trosedd.

(2Rhaid i fferyllydd GIG wrthod darparu cyffur a archebir ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy os yw'r archeb am feddyginiaeth a roddir ar bresgripsiwn yn unig, ac nad oedd hawl gan y rhagnodydd i'w rhagnodi.

(3Rhaid i fferyllydd GIG wrthod darparu cyffuriau neu gyfarpar a archebir ar bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)os nad oes ganddo gofnod o'r presgripsiwn hwnnw;

(b)os nad oes ganddo, yn achos presgripsiwn amlroddadwy anelectronig unrhyw swp-ddyroddiad cysylltiedig ac os na chyflwynir swp-ddyroddiad o'r fath iddo;

(c)os nad yw wedi ei lofnodi gan ragnodydd amlroddadwy;

(d)os byddai gwneud hynny yn anghyson ag unrhyw ysbeidiau a bennir yn y presgripsiwn;

(e)os hwnnw fyddai'r tro cyntaf y darperid cyffur neu gyfarpar yn unol â'r presgripsiwn, ac os llofnodwyd y presgripsiwn fwy na chwe mis yn gynharach;

(f)os aeth mwy na blwyddyn heibio er pan lofnodwyd y presgripsiwn amlroddadwy;

(g)os yw'r dyddiad dod i ben ar y presgripsiwn amlroddadwy wedi mynd heibio; neu

(h)os hysbyswyd y fferyllydd GIG, gan y rhagnodydd amlroddadwy, nad oes angen y presgripsiwn bellach.

(4Pan fo claf yn gofyn am gyflenwi cyffuriau neu gyfarpar a archebwyd ar bresgripsiwn amlroddadwy (ac eithrio'r tro cyntaf y mae'n gwneud cais o'r fath), rhaid i fferyllydd GIG beidio â darparu cyffuriau a chyfarpar a archebir felly oni fydd wedi ei fodloni—

(a)bod y claf yr ysgrifennwyd y presgripsiwn ar ei gyfer—

(i)yn cymryd neu'n defnyddio'r cyffur neu'r cyfarpar yn briodol, ac yn debygol o barhau i'w gymryd neu ei ddefnyddio felly, a

(ii)nad yw'n dioddef o unrhyw sgil effeithiau'r driniaeth, sy'n dynodi bod angen, neu y byddai'n fuddiol, adolygu triniaeth y claf;

(b)nad yw trefn feddyginiaethol y claf yr ysgrifennwyd y presgripsiwn ar ei gyfer, neu'r modd y defnyddir y cyfarpar gan y claf hwnnw, wedi newid mewn ffordd sy'n dynodi bod angen, neu y byddai'n fuddiol, adolygu triniaeth y claf; ac

(c)na ddigwyddodd unrhyw newidiadau yn iechyd y claf yr ysgrifennwyd y presgripsiwn ar ei gyfer, sy'n dynodi bod angen, neu y byddai'n fuddiol, adolygu triniaeth y claf.

Gweithgareddau pellach sydd i'w cyflawni mewn cysylltiad â gwasanaethau gweinyddu

10.—(1Mewn cysylltiad â'r gwasanaethau a ddarperir o dan baragraff 4, rhaid i fferyllydd GIG—

(a)sicrhau y rhoddir cyngor priodol i gleifion ynghylch unrhyw gyffuriau neu gyfarpar a ddarperir iddynt—

(i)i'w galluogi i ddefnyddio'r cyffuriau neu'r cyfarpar yn briodol, a

(ii)bodloni anghenion rhesymol y claf am wybodaeth gyffredinol ynglŷn â'r cyffuriau neu gyfarpar;

(b)darparu cyngor priodol i bersonau y mae'n darparu cyffuriau neu gyfarpar iddynt ynghylch—

(i)cadw'r cyffuriau neu'r cyfarpar yn ddiogel, a

(ii)dychwelyd unrhyw gyffuriau neu gyfarpar diangen i'r fferyllfa i'w dinistrio'n ddiogel;

(c)wrth ddarparu cyffuriau i gleifion yn unol â phresgripsiwn amlroddadwy, darparu cyngor priodol, yn benodol, ar y pwysigrwydd o ofyn am yr eitemau hynny, yn unig, sydd arnynt eu hangen mewn gwirionedd;

(d)wrth ddarparu cyfarpar i gleifion yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—

(i)darparu cyngor priodol, yn benodol, ar y pwysigrwydd o ofyn am yr eitemau hynny, yn unig, sydd arnynt eu hangen mewn gwirionedd, a

(ii)at y dibenion hynny, rhoi sylw i'r manylion a gynhwysir yn y cofnodion a gynhelir o dan baragraff (f) mewn perthynas â darparu cyfarpar a'r patrwm presgripsiynu mewn cysylltiad â'r claf dan sylw;

(e)darparu nodyn ysgrifenedig i'r claf o unrhyw gyffur neu gyfarpar sy'n ddyledus iddo, a rhoi gwybod i'r claf pan ddaw'r cyffur neu'r cyfarpar ar gael;

(f)cadw a chynnal cofnodion—

(i)o'r cyffuriau a'r cyfarpar a ddarperir, pan yw'n angenrheidiol neu'n ddymunol gwneud hynny i hwyluso parhad gofal y claf;

(ii)mewn achosion priodol, o'r cyngor a roddir ac unrhyw ymyriadau neu atgyfeiriadau a wneir (yn enwedig ymyriadau o arwyddocâd clinigol mewn achosion sy'n ymwneud â phresgripsiynau amlroddadwy), a

(iii)o nodiadau a ddarperir o dan baragraff (e);

(g)dilyn hyfforddiant priodol ynglŷn â phresgripsiynu amlroddadwy, gan roi sylw i unrhyw argymhellion ynglŷn ag hyfforddiant o'r fath a bennir yn y Tariff Cyffuriau;

(h)os yw'r fferyllydd GIG yn cymryd meddiant o bresgripsiwn amlroddadwy neu swp-ddyroddiad cysylltiedig, storio'r presgripsiwn amlroddadwy neu'r swp-ddyroddiad cysylltiedig hwnnw yn ddiogel;

(i)cynnal cofnodion o bresgripsiynau amlroddadwy mewn ffurf a fydd yn darparu trywydd archwilio eglur o'r cyflenwadau o dan y presgripsiwn amlroddadwy (gan gynnwys dyddiadau a'r meintiau a gyflenwir);

(j)dinistrio unrhyw swp-ddyroddiadau dros ben mewn cysylltiad â chyffuriau neu gyfarpar—

(i)nad oes eu hangen, neu

(ii)y gwrthodwyd eu darparu i glaf yn unol â pharagraff 9;

(k)sicrhau, pan wrthodir cyffuriau neu gyfarpar i berson yn unol â pharagraff 9(1)(b), (2), (3) neu (4), y cyfeirir y claf yn ôl at y rhagnodydd am gyngor pellach;

(l)pan ddarperir cyffuriau neu gyfarpar i glaf o dan bresgripsiwn amlroddadwy, hysbysu'r rhagnodydd ynghylch unrhyw faterion o arwyddocâd clinigol sy'n codi mewn cysylltiad â'r presgripsiwn a chadw cofnod o'r hysbysiad hwnnw;

(m)hysbysu'r rhagnodydd ynghylch unrhyw wrthodiad i ddarparu cyffuriau neu gyfarpar yn unol â pharagraff 9(4);

(n)wrth ddarparu cyfarpar, darparu nodyn ysgrifenedig i'r claf, o enw, cyfeiriad a rhif teleffon y fferyllydd GIG; ac

(o)wrth ddarparu cyfarpar penodedig, cydymffurfio â'r gofynion ychwanegol a bennir ym mharagraff 11.

(2Pan gyflwynir ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy mewn cysylltiad â gwasanaethau gweinyddu o dan baragraff 4, os na all fferyllydd GIG ddarparu cyfarpar, neu pan fo angen addasu cyfarpar stoma ac na all y fferyllydd GIG ddarparu'r addasiad, rhaid i'r fferyllydd GIG—

(a)os yw'r claf yn cydsynio, atgyfeirio'r ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy at fferyllydd GIG arall neu at gontractwr cyfarpar GIG; neu

(b)os nad yw'r claf yn cydsynio ag atgyfeirio, darparu i'r claf fanylion cyswllt dau, o leiaf, o bobl eraill sy'n fferyllwyr GIG neu'n gontractwyr cyfarpar GIG gyda'r gallu i ddarparu'r cyfarpar neu'r addasiad cyfarpar stoma (yn ôl fel y digwydd), os yw'r manylion hynny'n hysbys i'r fferyllydd GIG.

Gofynion ychwanegol mewn perthynas â chyfarpar penodedig

11.—(1Mae'r paragraff hwn yn pennu'r gofynion ychwanegol y cyfeirir atynt ym mharagraff 10(1)(o) ynglŷn â darparu cyfarpar penodedig.

(2Rhaid i fferyllydd GIG sy'n gweinyddu cyfarpar penodedig yng nghwrs arferol ei fusnes ddarparu gwasanaeth danfon i gartrefi mewn perthynas â'r cyfarpar hynny ac, yn rhan o'r gwasanaeth hwnnw—

(a)rhaid i'r fferyllydd GIG gynnig danfon y cyfarpar penodedig i gartref y claf;

(b)os yw'r claf yn derbyn y cynnig hwnnw, rhaid gwneud y danfoniad yn rhesymol brydlon ac ar yr adeg a gytunir gyda'r claf;

(c)rhaid danfon y cyfarpar penodedig mewn pecyn nad yw'n arddangos unrhyw ysgrifen neu farciau eraill a allai ddynodi ei gynnwys; a

(d)rhaid i'r modd y danfonir y pecyn ac unrhyw eitemau atodol sy'n ofynnol gan is-baragraff (3) beidio â chyfleu'r math o gyfarpar a ddanfonir.

(3Mewn unrhyw achos pan ddarperir cyfarpar penodedig (drwy ei ddanfon i'r cartref neu fel arall), rhaid i'r fferyllydd GIG ddarparu cyflenwad rhesymol o eitemau atodol priodol (megis clytiau tafladwy a bagiau gwaredu) ac—

(a)rhaid iddo sicrhau y caiff y claf, os yw'r claf yn dymuno, ymgynghori â pherson i gael cyngor clinigol arbenigol ynglŷn â'r cyfarpar; neu

(b)os yw'r fferyllydd GIG o'r farn bod hynny'n briodol, rhaid iddo—

(i)cyfeirio'r claf at ragnodydd, neu

(ii)cynnig gwasanaeth i'r claf ar gyfer adolygu'r defnydd o'r cyfarpar.

(4Os na all y fferyllydd GIG ddarparu gwasanaeth ar gyfer adolygu'r defnydd o'r cyfarpar yn unol ag is-baragraff (3)(b)(ii), rhaid i'r fferyllydd GIG roi i'r claf fanylion cyswllt dau, o leiaf, o bobl eraill sy'n fferyllwyr GIG neu'n gontractwyr cyfarpar GIG gyda'r gallu i drefnu ar gyfer darparu'r gwasanaeth hwnnw, os yw'r manylion hynny'n hysbys i'r fferyllydd GIG.

(5Pan fo fferyllydd GIG yn darparu llinell gofal teleffon mewn perthynas â gweinyddu unrhyw gyfarpar penodedig, rhaid i'r fferyllydd GIG sicrhau, yn ystod cyfnodau y tu allan i oriau—

(a)y bydd cyngor ar gael i gleifion drwy'r llinell gofal teleffon honno; neu

(b)bod rhif teleffon Galw Iechyd Cymru, neu gyfeiriad gwefan Galw Iechyd Cymru(6), ar gael i gleifion drwy'r llinell gofal teleffon honno.

(6At ddibenion y paragraff hwn—

ystyr “cyfnodau y tu allan i oriau” (“out of hours periods”), mewn perthynas â fferyllfa, yw'r cyfnodau y tu allan i'r cyfnodau pan fo'r fferyllydd GIG—

(a)

dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fferyllfa yn rhinwedd paragraff 22(1) neu 26(1); neu

(b)

yn darparu gwasanaethau fferyllol yn y fferyllfa yn unol â hysbysiad o dan baragraff 22(2);

ystyr “cyngor clinigol arbenigol” (“expert clinical advice”), mewn perthynas â chyfarpar penodedig yw cyngor a roddir gan berson sydd wedi ei hyfforddi'n briodol ac sydd â phrofiad perthnasol mewn cysylltiad â'r cyfarpar.

Gwasanaeth gwaredu mewn perthynas â chyffuriau diangen

12.  Rhaid i fferyllydd GIG, i'r graddau y mae paragraff 13 yn ei gwneud yn ofynnol ac yn y modd a ddisgrifir yn y paragraff hwnnw, dderbyn a gwaredu cyffuriau diangen a gyflwynir iddo i'w gwaredu.

Gweithdrefn sylfaenol mewn perthynas â chyffuriau diangen

13.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), os yw person yn cyflwyno i fferyllydd GIG, neu i unrhyw un o staff y fferyllydd GIG, unrhyw gyffuriau a ddarparwyd ar gyfer claf sydd—

(a)ar aelwyd breifat; neu

(b)mewn cartref gofal preswyl,

a'r cyffuriau wedi eu cadw yn un o'r mannau hynny, rhaid i'r fferyllydd GIG dderbyn y cyffuriau a'u gwaredu yn unol ag is-baragraff (3).

(2Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol bod fferyllydd GIG yn derbyn unrhyw gyffuriau ar gyfer eu gwaredu oni fydd y Bwrdd Iechyd Lleol y mae'r fferyllydd GIG wedi ei gynnwys yn ei restr fferyllol, wedi gwneud trefniadau gyda'r fferyllydd GIG i gasglu a gwaredu cyffuriau o'r disgrifiad hwnnw.

(3Ar ôl cael y cyffuriau, rhaid i'r fferyllydd GIG—

(a)os gofynnir iddo wneud hynny gan y Bwrdd Iechyd Lleol, neu gan gontractwr gwaredu gwastraff y defnyddir ei wasanaeth gan y Bwrdd Iechyd Lleol, wahanu'r cyffuriau solid neu ampylau, yr hylifau a'r aerosolau oddi wrth ei gilydd;

(b)storio'r cyffuriau mewn cynwysyddion a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, neu gan gontractwr gwaredu gwastraff y defnyddir ei wasanaeth gan y Bwrdd Iechyd Lleol at y diben o storio cyffuriau o'r disgrifiad hwnnw; ac

(c)cydymffurfio ag unrhyw ofynion statudol eraill mewn perthynas â storio neu waredu cyffuriau o'r disgrifiad hwnnw (mae bodloni'r gofynion hynny, felly, yn wasanaeth hanfodol at ddibenion y Rheoliadau hyn),

a rhaid iddo gydweithredu ag unrhyw drefniadau addas sydd wedi eu sefydlu gan y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer casglu'r cyffuriau yn rheolaidd o fangre'r fferyllydd GIG, gan neu ar ran y Bwrdd Iechyd Lleol.

Gweithgareddau pellach sydd i'w cyflawni mewn cysylltiad â gwaredu cyffuriau diangen

14.  Mewn cysylltiad â'r gwasanaethau a ddarperir o dan baragraff 12, rhaid i fferyllydd GIG—

(a)sicrhau bod y fferyllydd GIG ac unrhyw aelodau o'i staff yn ymwybodol o'r risgiau sy'n gysylltiedig â thrin cyffuriau gwastraff ac o'r gweithdrefnau cywir sydd i'w dilyn er mwyn lleihau'r risgiau hynny; a

(b)sicrhau bod cyfarpar diogelu priodol, gan gynnwys menyg, oferôls a deunyddiau i drin â gollyngiadau, ar gael yn hwylus i'r fferyllydd GIG ac i unrhyw aelodau o'i staff, ac wrth law unrhyw fan lle cedwir cyffuriau gwastraff.

Hyrwyddo ffyrdd iach o fyw

15.  Rhaid i fferyllydd GIG, i'r graddau y mae paragraffau 16 a 17 yn ei gwneud yn ofynnol, ac yn y modd a bennir yn y paragraffau hynny, hyrwyddo negeseuon iechyd cyhoeddus i aelodau o'r cyhoedd.

Ymyrryd mewn cysylltiad â phresgripsiwn

16.—(1Pan fo person sy'n defnyddio fferyllfa—

(a)yn cyflwyno ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy i fferyllydd GIG; ac

(b)os yw'n ymddangos i'r fferyllydd GIG fod y person hwnnw yn—

(i)dioddef o ddiabetes,

(ii)mewn perygl o ddioddef clefyd coronaidd y galon neu bwysedd gwaed uchel, neu

(iii)yn ysmygu neu'n pwyso gormod,

rhaid i'r fferyllydd GIG, fel y bo'n briodol, ddarparu cyngor i'r person hwnnw, gyda'r nod o ychwanegu at ei wybodaeth a'i ddealltwriaeth o'r materion iechyd sy'n berthnasol i amgylchiadau personol y person hwnnw.

(2Caniateir ategu'r cyngor a roddir o dan is-baragraff (1), fel y bo'n briodol—

(a)drwy ddarparu deunydd ysgrifenedig (er enghraifft, taflenni); a

(b)drwy gyfeirio'r person at ffynonellau eraill o wybodaeth a chyngor.

(3Rhaid i fferyllydd GIG, mewn achosion priodol, gadw a chynnal cofnod o'r cyngor a roddir yn unol â'r paragraff hwn, a rhaid i'r cofnod hwnnw fod mewn ffurf sy'n hwyluso—

(a)cynnal archwiliad o'r ddarpariaeth o wasanaethau fferyllol gan y fferyllydd GIG; a

(b)gofal dilynol i'r person y rhoddwyd y cyngor iddo.

Ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus

17.  Rhaid i fferyllydd GIG, os gofynnir iddo gan y Bwrdd Iechyd Lleol y mae'r fferyllydd GIG wedi ei gynnwys yn ei restr fferyllol, sicrhau—

(a)bod y fferyllydd GIG ac unrhyw aelodau o'i staff yn cymryd rhan, yn y modd y gofynnir iddynt yn rhesymol gan y Bwrdd Iechyd Lleol, mewn hyd at chwe ymgyrch ym mhob blwyddyn galendr i hyrwyddo negeseuon iechyd cyhoeddus i ddefnyddwyr fferyllfa'r fferyllydd GIG; a

(b)os gofynnir iddo wneud hynny gan y Bwrdd Iechyd Lleol, cofnodi'r nifer o bobl y darparwyd gwybodaeth iddynt fel rhan o un o'r ymgyrchoedd hynny.

Cyfeirio defnyddwyr

18.  Rhaid i fferyllydd GIG, i'r graddau y mae paragraff 19 yn ei gwneud yn ofynnol, ac yn y modd a bennir yn y paragraff hwnnw, ddarparu gwybodaeth i ddefnyddwyr fferyllfa'r fferyllydd GIG ynghylch darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol eraill a sefydliadau cymorth.

Amlinelliad o'r gwasanaeth mewn perthynas â chyfeirio defnyddwyr

19.—(1Os yw'n ymddangos i fferyllydd GIG neu aelod o'i staff, gan ystyried yr angen i leihau'r defnydd amhriodol o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r gwasanaethau cymorth, bod ar berson sy'n defnyddio fferyllfa'r fferyllydd GIG—

(a)angen cyngor, triniaeth neu gymorth na all y fferyllydd GIG ei ddarparu neu ei darparu; ond

(b)bod darparwr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol neu ddarparwr gwasanaethau cymorth arall, sy'n hysbys i'r fferyllydd GIG, yn debygol o allu darparu'r cyngor, y driniaeth neu'r cymorth hwnnw,

rhaid i'r fferyllydd GIG ddarparu manylion cyswllt y darparwr hwnnw i'r person hwnnw, ac mewn achosion priodol, rhaid iddo gyfeirio'r person hwnnw at y darparwr hwnnw.

(2Os na all fferyllydd GIG, pan gyflwynir ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, ddarparu cyfarpar, neu addasu cyfarpar stoma, oherwydd nad yw darparu'r cyfarpar neu'r addasu yn dod o fewn maes busnes arferol y fferyllydd GIG, rhaid i'r fferyllydd GIG—

(a)os yw'r claf yn cydsynio, atgyfeirio'r ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy at fferyllydd GIG arall neu at gontractwr cyfarpar GIG; neu

(b)os nad yw'r claf yn cydsynio ag atgyfeirio, darparu i'r claf fanylion cyswllt dau, o leiaf, o bobl eraill sy'n fferyllwyr GIG neu'n gontractwyr cyfarpar GIG gyda'r gallu i ddarparu'r cyfarpar neu addasu'r cyfarpar stoma (yn ôl fel y digwydd), os yw'r manylion hynny'n hysbys i'r fferyllydd GIG.

(3Pan fo'n briodol, caniateir defnyddio nodyn atgyfeirio ysgrifenedig i wneud atgyfeiriad o dan y paragraff hwn.

(4Rhaid i fferyllydd GIG, mewn achosion priodol, gadw a chynnal cofnod o unrhyw wybodaeth a roddir, neu atgyfeiriad a wneir, o dan y paragraff hwn, a rhaid i'r cofnod hwnnw fod mewn ffurf sy'n hwyluso—

(a)cynnal archwiliad o'r ddarpariaeth o wasanaethau fferyllol gan y fferyllydd GIG; a

(b)gofal dilynol i'r person y rhoddwyd yr wybodaeth iddo neu y gwnaed yr atgyfeiriad mewn perthynas ag ef.

Cymorth ar gyfer hunanofal

20.  Rhaid i fferyllydd GIG, i'r graddau y mae paragraff 21 yn ei gwneud yn ofynnol, ac yn y modd a bennir yn y paragraff hwnnw, ddarparu cyngor a chymorth i bobl sy'n gofalu amdanynt eu hunain neu eu teuluoedd.

Amlinelliad o'r gwasanaeth mewn perthynas â chymorth ar gyfer hunanofal

21.—(1Os yw'n ymddangos i fferyllydd GIG neu aelod o'i staff, gan ystyried yr angen i leihau'r defnydd amhriodol o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, y byddai person sy'n defnyddio fferyllfa'r fferyllydd GIG yn cael budd o gyngor gan y fferyllydd GIG i helpu'r person hwnnw i reoli cyflwr meddygol (gan gynnwys, yn achos gofalwr, cyngor i helpu'r gofalwr i gynorthwyo i reoli cyflwr meddygol person arall), rhaid i'r fferyllydd GIG ddarparu cyngor i'r person sy'n defnyddio'r fferyllfa ynglŷn â rheoli'r cyflwr meddygol gan gynnwys, fel y bo'n briodol, cyngor—

(a)ar y dewis o driniaethau, gan gynnwys cyngor ar ddethol a defnyddio cyffuriau priodol nad ydynt yn gyffuriau a roddir ar bresgripsiwn yn unig; a

(b)newidiadau yn ffordd o fyw y claf.

(2Rhaid i fferyllydd GIG, mewn achosion priodol, gadw a chynnal cofnod o unrhyw gyngor a roddir o dan is-baragraff (1), a rhaid i'r cofnod hwnnw fod mewn ffurf sy'n hwyluso—

(a)cynnal archwiliad o'r ddarpariaeth o wasanaethau fferyllol gan y fferyllydd GIG; a

(b)gofal dilynol i'r person y rhoddwyd y cyngor iddo neu mewn perthynas ag ef.

RHAN 3Oriau Agor Fferyllfa

Oriau agor fferyllfa: cyffredinol

22.—(1Rhaid i fferyllydd GIG sicrhau y darperir gwasanaethau fferyllol ym mhob mangre y mae'r fferyllydd GIG wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau fferyllol ohoni—

(a)am ddim llai na 40 awr bob wythnos; neu

(b)os yw'r Bwrdd Iechyd Lleol y cynhwysir y fferyllydd GIG yn ei restr fferyllol, neu Weinidogion Cymru yn dilyn apêl, wedi cyfarwyddo y caiff y fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre am lai na 40 awr yr wythnos ar yr amod bod y fferyllydd GIG yn darparu'r gwasanaethau hynny ar amseroedd penodol ac ar ddiwrnodau penodol, ar yr amseroedd ac ar y diwrnodau a bennwyd felly;

(c)os yw'r Bwrdd Iechyd Lleol y cynhwysir y fferyllydd GIG yn ei restr fferyllol, neu Weinidogion Cymru yn dilyn apêl, wedi cyfarwyddo bod rhaid i'r fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre am fwy na 40 awr yr wythnos ar amseroedd penodol ac ar ddiwrnodau penodol, ar yr amseroedd ac ar y diwrnodau a bennwyd felly; neu

(d)os yw'r Bwrdd Iechyd Lleol y cynhwysir y fferyllydd GIG yn ei restr fferyllol, neu Weinidogion Cymru yn dilyn apêl, wedi cyfarwyddo bod rhaid i'r fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre am fwy na 40 awr yr wythnos—

(i)am y cyfanswm oriau bob wythnos sy'n ofynnol yn rhinwedd y cyfarwyddyd hwnnw, a

(ii)o ran yr oriau ychwanegol y gwneir yn ofynnol bod y fferyllydd GIG yn darparu gwasanaethau fferyllol yn rhinwedd y cyfarwyddyd hwnnw, ar y diwrnodau ac ar yr amseroedd y mae'n ofynnol bod y fferyllydd GIG yn darparu gwasanaethau fferyllol yn ystod yr oriau ychwanegol hynny, fel a bennir yn y cyfarwyddyd hwnnw,

ond caiff Bwrdd Iechyd Lleol, mewn amgylchiadau priodol, gytuno i atal gwasanaethau dros dro am gyfnod penodedig, os yw wedi cael 3 mis o rybudd gan y fferyllydd GIG o'r bwriad i atal y gwasanaethau dros dro.

(2Rhaid i fferyllydd GIG hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol y cynhwysir y fferyllydd GIG yn ei restr fferyllol ynghylch oriau eraill y bydd y fangre yr ymrwymodd y fferyllydd GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol ohoni ar agor, sef oriau ychwanegol at yr oriau pan fo'r fferyllfa dan rwymedigaeth i agor yn rhinwedd is-baragraff (1) (ac y cyfeirir atynt fel “oriau agor atodol”).

(3Ym mhob un o'r mangreoedd y mae fferyllydd GIG wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau fferyllol ohonynt, rhaid i'r fferyllydd GIG arddangos—

(a)hysbysiad sy'n nodi'r amseroedd y bydd y fangre ar agor ar gyfer darparu cyffuriau a chyfarpar; a

(b)ar yr adegau pan nad yw'r fangre ar agor, hysbysiad sy'n seiliedig ar wybodaeth a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol ac yn ddarllenadwy o'r tu allan i'r fangre, sy'n nodi cyfeiriadau fferyllwyr GIG eraill a gynhwysir yn y rhestr fferyllol a'r amseroedd y gellir cael cyffuriau a chyfarpar o'r cyfeiriadau hynny.

(4Rhaid i fferyllydd GIG, os gofynnir iddo, gyflwyno datganiad i'r Bwrdd Iechyd Lleol y mae'r fferyllydd GIG wedi ei gynnwys yn ei restr fferyllol, sy'n nodi—

(a)yr amseroedd y darperir gwasanaethau fferyllol ym mhob un o'r mangreoedd yr ymrwymodd y fferyllydd GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol ohonynt (gan gynnwys yr amseroedd y darperir gwasanaethau fferyllol pan nad yw'r fferyllydd GIG dan rwymedigaeth i wneud hynny yn rhinwedd is-baragraff (1)); a

(b)y gwasanaethau fferyllol y mae'r fferyllydd GIG fel arfer yn eu darparu ym mhob un o'r mangreoedd hynny.

(5Os yw fferyllydd GIG yn newid—

(a)y diwrnodau neu'r amseroedd y bydd gwasanaethau fferyllol yn cael eu darparu o fangre yr ymrwymodd y fferyllydd GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol ohoni; neu

(b)y gwasanaethau fferyllol y bydd y fferyllydd GIG fel arfer yn eu darparu yn y fangre honno,

rhaid i'r fferyllydd GIG gyflenwi, i'r Bwrdd Iechyd Lleol y cynhwysir y fferyllydd GIG yn ei restr fferyllol, ddatganiad sy'n rhoi gwybod i'r Bwrdd Iechyd Lleol am y newid.

(6Pan fo fferyllydd GIG wedi cyflwyno datganiad o dan is-baragraff (4) neu (5) mewn perthynas ag unrhyw fangre, neu pan fo'r fferyllydd GIG wedi pennu, mewn cais o dan y Rheoliadau hyn am gael ei gynnwys yn y rhestr fferyllol, y diwrnodau a'r amseroedd y darperir gwasanaethau fferyllol yn y fangre y mae'r cais yn ymwneud â hi os caniateir y cais—

(a)rhaid i'r fferyllydd GIG sicrhau y darperir gwasanaethau fferyllol yn y fangre y mae'r datganiad neu'r cais yn ymwneud â hi ar y diwrnodau ac ar yr amseroedd a bennir yn y datganiad neu'r cais (oni fydd y datganiad neu'r cais wedi ei ddisodli gan ddatganiad, neu ddatganiad pellach, o dan is-baragraff (5)); a

(b)rhaid i'r fferyllydd GIG beidio â newid—

(i)y diwrnodau na'r amseroedd pan fo gwasanaethau fferyllol i'w darparu yn y fangre honno; neu

(ii)y gwasanaethau fferyllol y mae'r fferyllydd GIG i'w darparu fel arfer yn y fangre honno,

fel y'u pennir yn y datganiad neu'r cais hwnnw, am gyfnod o 3 mis o leiaf ar ôl y dyddiad y cafodd y Bwrdd Iechyd Lleol y datganiad neu'r cais hwnnw.

(7Os rhwystrir fferyllydd GIG, gan salwch neu achos rhesymol arall, rhag cydymffurfio â'i rwymedigaethau o dan is-baragraff (1), rhaid iddo, os yw'n ymarferol, wneud trefniadau gydag un neu ragor o fferyllwyr GIG eraill sydd â'u mangreoedd wedi'u lleoli yn y gymdogaeth, ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol yn ystod y cyfnod hwnnw.

(8Pan fo'r ddarpariaeth o wasanaethau fferyllol wedi ei hatal dros dro am reswm sydd y tu hwnt i reolaeth y fferyllydd GIG, ni fydd y fferyllydd GIG wedi torri paragraffau (1), (2) a (3) ar yr amod—

(a)bod y fferyllydd GIG yn hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol y cynhwysir y fferyllydd GIG yn ei restr fferyllol ynghylch yr ataliad hwnnw cyn gynted ag y bo'n ymarferol; a

(b)bod y fferyllydd GIG yn gwneud pob ymdrech resymol i ailddechrau darparu gwasanaethau fferyllol cyn gynted ag y bo'n ymarferol.

(9Nid yw gwaith a gynlluniwyd ymlaen llaw i ailwampio fferyllfa yn “achos rhesymol” at ddibenion is-baragraff (7) nac yn “rheswm sydd y tu hwnt i reolaeth y fferyllydd GIG” at ddibenion is-baragraff (8).

(10At y dibenion o gyfrifo'r nifer o oriau y mae fferyllfa ar agor yn ystod wythnos sy'n cynnwys Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith, Sul y Pasg neu ŵyl banc, rhaid ystyried bod y fferyllfa ar agor ar y diwrnod hwnnw yn ystod yr amseroedd y byddai wedi bod ar agor fel arfer ar y diwrnod hwnnw o'r wythnos.

(11Yn y Rhan hon—

ystyr “cyfarwyddyd presennol” (“existing direction”) yw cyfarwyddyd a wnaed yn unol â'r Rhan hon neu gyfarwyddyd a oedd yn bodoli ar y dyddiad y daeth y Rheoliadau hyn i rym; ac

yr “oriau ychwanegol” (“additional hours”) pan wneir yn ofynnol bod fferyllydd GIG yn darparu gwasanaethau fferyllol yw'r oriau hynny pan na fyddai fferyllydd GIG yn darparu gwasanaethau fferyllol, pe bai'r fferyllydd GIG yn ddarostyngedig i'r amod a bennir yn is-baragraff (1)(a) ac nid yr amod a bennir yn is-baragraff (1)(d).

Materion i'w hystyried wrth ddyroddi cyfarwyddiadau mewn perthynas ag oriau agor fferyllfeydd

23.—(1Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn dyroddi cyfarwyddyd sy'n pennu amseroedd neu ddiwrnodau o dan y Rhan hon, rhaid iddo, wrth wneud hynny, geisio sicrhau bod yr oriau pan fydd mangre ar agor i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn rhai sy'n sicrhau y darperir y gwasanaethau fferyllol ar y cyfryw ddiwrnodau ac amseroedd sy'n angenrheidiol er mwyn bodloni anghenion pobl y gymdogaeth, neu ddefnyddwyr tebygol eraill y fferyllfa, am wasanaethau fferyllol.

(2Wrth ystyried y materion a grybwyllir yn is-baragraff (1), caiff y Bwrdd Iechyd Lleol roi sylw i unrhyw wasanaethau fferyllol a ddarperir yn y gymdogaeth honno mewn amgylchiadau pan nad oes rhwymedigaeth ar y fferyllydd GIG i ddarparu'r gwasanaethau hynny.

(3Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol gyfarwyddo y caiff fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre am lai na 40 awr yn ystod unrhyw wythnos, oni fodlonir y Bwrdd Iechyd Lleol fod y ddarpariaeth o wasanaethau fferyllol yn y gymdogaeth yn debygol o fod yn ddigonol i ddiwallu'r angen am wasanaethau o'r fath ar yr adegau pan na fydd y fferyllydd GIG yn darparu gwasanaethau fferyllol.

(4Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol gyfarwyddo bod rhaid i fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre am fwy na 40 awr yn ystod unrhyw wythnos, oni fydd y Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni y bydd y fferyllydd GIG yn cael cydnabyddiaeth ariannol resymol am yr oriau ychwanegol y gofynnir iddo ddarparu gwasanaethau fferyllol (a bydd unrhyw gydnabyddiaeth ariannol ychwanegol sy'n daladwy yn unol â phenderfyniad a wnaed o ganlyniad i reoliad 37 mewn perthynas â'r oriau hynny yn “gydnabyddiaeth ariannol resymol” at y dibenion hyn).

Penderfyniad a ysgogir gan y Bwrdd Iechyd Lleol ynghylch oriau agor fferyllfa

24.—(1Os yw'n ymddangos i'r Bwrdd Iechyd Lleol sydd â'r fferyllydd GIG yn gynwysedig yn ei restr fferyllol, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Fferyllol Lleol neu ar ôl ystyried y mater ar gais y Pwyllgor hwnnw, nad yw, neu na fydd, yr amseroedd pan fo, neu pan fydd, fferyllfa ar agor i ddarparu gwasanaethau fferyllol bellach yn bodloni anghenion—

(a)y bobl yn y gymdogaeth; neu

(b)defnyddwyr tebygol eraill fferyllfa'r fferyllydd GIG,

am wasanaethau fferyllol, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol asesu a ddylid dyroddi cyfarwyddyd i wneud yn ofynnol bod y fferyllydd GIG sy'n berchen y fferyllfa yn darparu gwasanaethau fferyllol yn y fferyllfa ar amseroedd penodedig ac ar ddiwrnodau penodedig (gan gynnwys, o bosibl, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith, Sul y Pasg a gwyliau banc).

(2Cyn cwblhau'r asesiad o dan is-baragraff (1) rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)rhoi hysbysiad i'r fferyllydd GIG o unrhyw newidiadau arfaethedig yn yr amseroedd neu'r diwrnodau y mae'r fferyllfa i fod ar agor; a

(b)caniatáu cyfnod o 30 diwrnod i'r fferyllydd GIG ar gyfer cyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Bwrdd Iechyd Lleol ynglŷn â'r newidiadau arfaethedig.

(3Ar ôl ystyried unrhyw sylwadau a wneir yn unol ag is-baragraff (2)(b), rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)dyroddi cyfarwyddyd (a fydd yn disodli unrhyw gyfarwyddyd presennol) sy'n bodloni gofynion is-baragraffau (4) a (5);

(b)cadarnhau unrhyw gyfarwyddyd presennol sy'n pennu ar ba ddiwrnodau ac amseroedd y mae'n rhaid i'r fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fferyllfa, ar yr amod y byddai'r cyfarwyddyd presennol yn bodloni gofynion is-baragraffau (4) a (5) pe dyroddid ef o dan y paragraff hwn; neu

(c)naill ai—

(i)dirymu (heb ei amnewid) unrhyw gyfarwyddyd presennol sy'n pennu ar ba amseroedd neu ddiwrnodau y mae'n rhaid i'r fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fferyllfa, neu

(ii)mewn achos pan nad oes cyfarwyddyd presennol, peidio â dyroddi unrhyw gyfarwyddyd,

ac mewn achos o'r fath, yn rhinwedd paragraff 22(1)(a), rhaid i'r fferyllfa fod ar agor am ddim llai na 40 o oriau bob wythnos.

(4Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn dyroddi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (3), mewn perthynas â fferyllfa y mae'n ofynnol iddi fod ar agor—

(a)am fwy na 40 awr bob wythnos, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol, yn y cyfarwyddyd hwnnw, bennu—

(i)cyfanswm nifer yr oriau bob wythnos y bydd rhaid i'r fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fferyllfa, a

(ii)ynglŷn â'r oriau ychwanegol y mae'r fferyllydd GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol, ar ba ddiwrnodau ac ar ba amseroedd y bydd yn ofynnol i'r fferyllydd GIG ddarparu'r gwasanaethau hynny yn ystod yr oriau ychwanegol hynny,

ond rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol, yn y cyfarwyddyd hwnnw, beidio â phennu ar ba ddiwrnodau neu ar ba amseroedd y mae'r fferyllydd GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn ystod oriau nad ydynt yn oriau ychwanegol; neu

(b)am lai na 40 awr bob wythnos, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol, yn y cyfarwyddyd hwnnw, bennu ar ba ddiwrnodau ac amseroedd y mae gwasanaethau fferyllol i'w darparu yn y fferyllfa honno.

(5Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol beidio â dyroddi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (3) os ei effaith, yn syml, yw ei gwneud yn ofynnol bod fferyllfa ar agor am 40 awr bob wythnos ar ddiwrnodau penodedig ac amseroedd penodedig (hynny yw, rhaid i'r cyfarwyddyd gael yr effaith o wneud yn ofynnol bod y fferyllfa ar agor am naill ai mwy neu lai na 40 awr bob wythnos).

(6Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r fferyllydd GIG, mewn ysgrifen, o unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddir, neu unrhyw gam arall a gymerir, o dan is-baragraff (3), ac os yw'r Bwrdd Iechyd Lleol yn pennu diwrnodau newydd neu amseroedd newydd y mae'r fferyllydd GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fferyllfa, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol gynnwys gyda'r hysbysiad ddatganiad ysgrifenedig o'r canlynol—

(a)y rhesymau am y newid; a

(b)hawl y fferyllydd GIG i apelio o dan is-baragraff (7).

(7Caiff fferyllydd GIG, o fewn 30 diwrnod ar ôl cael hysbysiad o dan is-baragraff (6), apelio mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru yn erbyn unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd neu unrhyw gam arall a gymerwyd o dan is-baragraff (3), sy'n pennu diwrnodau newydd neu amseroedd newydd y mae'r fferyllydd GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol.

(8Caiff Gweinidogion Cymru, wrth benderfynu apêl, naill ai gadarnhau'r cam a gymerwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu gymryd unrhyw gam y gallai'r Bwrdd Iechyd Lleol fod wedi ei gymryd o dan is-baragraff (3).

(9Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r fferyllydd GIG o'u penderfyniad mewn ysgrifen a rhaid iddynt, ym mhob achos, gynnwys gyda'r hysbysiad ddatganiad ysgrifenedig o'r rhesymau dros y penderfyniad.

(10Os yw'r amseroedd neu'r diwrnodau y mae'r fferyllydd GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol mewn fferyllfa wedi eu newid yn unol â'r paragraff hwn, rhaid i'r fferyllydd GIG gyflwyno'r newidiadau—

(a)os nad yw'r fferyllydd GIG wedi apelio o dan is-baragraff (7), ddim hwyrach nag 8 wythnos ar ôl y dyddiad y mae'r fferyllydd GIG yn cael hysbysiad o dan is-baragraff (6); neu

(b)os yw'r fferyllydd GIG wedi apelio o dan is-baragraff (7), ddim hwyrach nag 8 wythnos ar ôl y dyddiad y mae'r fferyllydd GIG yn cael hysbysiad o dan is-baragraff (9).

Penderfyniad a ysgogir gan y fferyllydd GIG ynghylch oriau agor fferyllfa

25.—(1Caiff fferyllydd GIG wneud cais i Fwrdd Iechyd Lleol sydd â'r fferyllydd GIG yn gynwysedig yn ei restr fferyllol am i'r Bwrdd newid y diwrnodau neu'r amseroedd y mae'r fferyllydd GIG dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn ei fferyllfa, mewn ffordd sy'n—

(a)lleihau cyfanswm nifer yr oriau y mae'r fferyllydd GIG dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol bob wythnos; neu

(b)yn cadw cyfanswm nifer yr oriau yn ddigyfnewid.

(2Pan fo fferyllydd GIG yn gwneud cais o dan is-baragraff (1), rhaid i'r fferyllydd GIG, yn rhan o'r cais hwnnw, ddarparu i'r Bwrdd Iechyd Lleol pa bynnag wybodaeth y gofynnir amdani yn rhesymol gan y Bwrdd Iechyd Lleol ynglŷn ag unrhyw newidiadau yn anghenion pobl y gymdogaeth, neu ddefnyddwyr tebygol eraill y fferyllfa, am wasanaethau fferyllol sy'n berthnasol i'r cais.

(3Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu cais o dan is-baragraff (1) o fewn 60 diwrnod ar ôl cael y cais (ynghyd ag unrhyw wybodaeth y mae'n ofynnol i'r ceisydd ei darparu yn unol ag is-baragraff (2)).

(4Wrth benderfynu'r cais, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)dyroddi cyfarwyddyd (a fydd yn disodli unrhyw gyfarwyddyd presennol) sy'n bodloni gofynion is-baragraffau (5) a (6) ac yn cael yr effaith naill ai o ganiatáu'r cais o dan y paragraff hwn neu ei ganiatáu yn rhannol yn unig;

(b)cadarnhau unrhyw gyfarwyddyd presennol sy'n pennu ar ba ddiwrnodau ac amseroedd y mae'n rhaid i'r fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fferyllfa, ar yr amod y byddai'r cyfarwyddyd presennol yn bodloni gofynion is-baragraffau (5) a (6); neu

(c)naill ai—

(i)dirymu (heb ei amnewid) unrhyw gyfarwyddyd presennol sy'n pennu ar ba amseroedd neu ddiwrnodau y mae'n rhaid i'r fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fferyllfa, pan fo hyn yn cael yr effaith naill ai o ganiatáu'r cais o dan y paragraff hwn neu ei ganiatáu yn rhannol yn unig, neu

(ii)mewn achos pan nad oes cyfarwyddyd presennol, peidio â dyroddi unrhyw gyfarwyddyd,

ac mewn achos o'r fath, yn rhinwedd paragraff 22(1)(a), rhaid i'r fferyllfa fod ar agor am ddim llai na 40 o oriau bob wythnos.

(5Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn dyroddi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (4), mewn perthynas â fferyllfa y mae'n ofynnol iddi fod ar agor—

(a)am fwy na 40 awr bob wythnos, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol, yn y cyfarwyddyd hwnnw, bennu—

(i)cyfanswm nifer yr oriau bob wythnos y mae'n ofynnol i'r fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fferyllfa, a

(ii)ynglŷn â'r oriau ychwanegol y mae'r fferyllydd GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol, ar ba ddiwrnodau ac ar ba amseroedd y bydd yn ofynnol i'r fferyllydd GIG ddarparu'r gwasanaethau hynny yn ystod yr oriau ychwanegol hynny,

ond rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol, yn y cyfarwyddyd hwnnw, beidio â phennu ar ba ddiwrnodau neu ar ba amseroedd y mae'r fferyllydd GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn ystod oriau nad ydynt yn oriau ychwanegol; neu

(b)am lai na 40 awr bob wythnos, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol, yn y cyfarwyddyd hwnnw, bennu ar ba ddiwrnodau ac amseroedd y mae gwasanaethau fferyllol i'w darparu yn y fferyllfa honno.

(6Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol beidio â dyroddi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (4) os ei effaith, yn syml, yw ei gwneud yn ofynnol bod fferyllfa ar agor am 40 awr bob wythnos ar ddiwrnodau penodedig ac amseroedd penodedig (hynny yw, rhaid i'r cyfarwyddyd gael yr effaith o wneud yn ofynnol bod y fferyllfa ar agor am naill ai mwy neu lai na 40 awr bob wythnos).

(7Pan fo'r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried gweithredu o dan is-baragraff (4)(a) neu is-baragraff (4)(c)(i), rhaid iddo ymgynghori â'r Pwyllgor Fferyllol Lleol cyn penderfynu'r cais.

(8Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r fferyllydd GIG, mewn ysgrifen, o unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddir, neu unrhyw gam arall a gymerir, o dan is-baragraff (4), ac os effaith hynny yw gwrthod cais a wnaed o dan y paragraff hwn, neu ei ganiatáu yn rhannol, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol anfon at y fferyllydd GIG ddatganiad ysgrifenedig sy'n nodi—

(a)y rhesymau am y gwrthodiad neu, yn ôl fel y digwydd am ganiatáu y cais yn rhannol yn unig; a

(b)hawl y fferyllydd GIG i apelio o dan is-baragraff (9).

(9Caiff fferyllydd GIG, o fewn 30 diwrnod ar ôl cael hysbysiad yn unol ag is-baragraff (8), apelio mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru yn erbyn unrhyw weithred o dan is-baragraff (4) sy'n cael yr effaith o wrthod cais o dan y paragraff hwn neu ei ganiatáu yn rhannol yn unig.

(10Caiff Gweinidogion Cymru, wrth benderfynu apêl, naill ai gadarnhau'r cam a gymerwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu gymryd unrhyw gam y gallai'r Bwrdd Iechyd Lleol fod wedi ei gymryd o dan is-baragraff (4).

(11Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r fferyllydd GIG o'u penderfyniad mewn ysgrifen a rhaid iddynt, ym mhob achos, gynnwys gyda'r hysbysiad ddatganiad ysgrifenedig o'r rhesymau dros y penderfyniad.

(12Os yw'r diwrnodau neu'r amseroedd y mae'r fferyllydd GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol mewn fferyllfa wedi eu newid yn unol â'r paragraff hwn, rhaid i'r fferyllydd GIG gyflwyno'r newidiadau—

(a)os nad yw'r fferyllydd GIG wedi apelio o dan is-baragraff (9), ddim cynharach na 30 diwrnod ar ôl y dyddiad y mae'r fferyllydd GIG yn cael hysbysiad o dan is-baragraff (8); neu

(b)os yw'r fferyllydd GIG wedi apelio o dan is-baragraff (9), ddim cynharach na 30 diwrnod ar ôl y dyddiad y mae'r fferyllydd GIG yn cael hysbysiad o dan is-baragraff (11).

Oriau agor dros dro a chyfnodau caeedig yn ystod argyfwng, sy'n galw am ddarparu gwasanaethau fferyllol yn hyblyg

26.—(1Er gwaethaf darpariaethau'r Atodlen hon, yn ystod argyfwng pan yw'n ofynnol darparu gwasanaethau fferyllol mewn ffordd hyblyg, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol y mae'r fferyllydd GIG yn gynwysedig yn ei restr fferyllol, os gwneir cais gan y fferyllydd GIG, ganiatáu i'r fferyllydd GIG newid dros dro y diwrnodau neu'r amseroedd pan fo'r fferyllydd GIG dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre yr ymrwymodd i ddarparu gwasanaethau fferyllol ohoni, neu ganiatáu cau'r fangre honno dros dro—

(a)os rhoddir 24 awr, o leiaf, o rybudd gan y fferyllydd GIG o'r newid neu'r cau; a

(b)os yw'r rhesymau a roddir gan y fferyllydd GIG dros wneud y cais yn rhesymau digonol ym marn y Bwrdd Iechyd Lleol.

(2Nid oes angen i'r Bwrdd Iechyd Lleol gymeradwyo'r cais ymlaen llaw cyn y newid neu'r cau, ac os nad yw'r Bwrdd yn cymeradwyo ymlaen llaw, ond yn penderfynu yn ddiweddarach nad yw rhesymau'r fferyllydd GIG, ym marn y Bwrdd, yn rhesymau digonol, yna rhaid i'r diwrnodau neu'r amseroedd y mae'r fferyllydd GIG dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre ddychwelyd i'r hyn oeddent cyn eu disodli, o'r diwrnod ar ôl y dyddiad yr hysbysir y fferyllydd GIG o'r penderfyniad hwnnw.

RHAN 4Llywodraethu Clinigol a Chwynion

Llywodraethu clinigol

27.—(1Rhaid i fferyllydd GIG, mewn cysylltiad â'r holl wasanaethau a ddarperir ganddo, gyfranogi mewn system dderbyniol o lywodraethu clinigol, yn y modd y gofynnir iddo yn rhesymol gan y Bwrdd Iechyd Lleol y mae'r fferyllydd GIG wedi ei gynnwys yn ei restr fferyllol.

(2Mae system o lywodraethu clinigol yn “dderbyniol” os yw'n darparu ar gyfer—

(a)cydymffurfiaeth â'r cydrannau llywodraethu clinigol a bennir yn is-baragraff (3), a

(b)cyflwyno hunanasesiad blynyddol o'r gydymffurfiaeth (hyd at lefel gymeradwy) â'r cydrannau llywodraethu clinigol hynny, drwy gyfrwng trefniadau cyflwyno data cymeradwy sy'n caniatáu i'r Bwrdd Iechyd Lleol gael mynediad i'r asesiad hwnnw.

(3Y cydrannau llywodraethu clinigol yw'r canlynol—

(a)rhaglen ar gyfer cynnwys y cleifion a'r cyhoedd, sy'n cynnwys—

(i)gofyniad bod y fferyllydd GIG yn paratoi, mewn ffordd gymeradwy, taflen ymarfer mewn perthynas â fferyllfa'r fferyllydd GIG ac yn rhoi'r daflen ar gael mewn ffordd briodol,

(ii)gofyniad bod y fferyllydd GIG yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r gwasanaethau GIG sydd ar gael yn ei fferyllfa neu ohoni,

(iii)gofyniad bod y fferyllydd GIG, wrth roi cyhoeddusrwydd i'r gwasanaethau GIG sydd ar gael yn ei fferyllfa neu ohoni (pa un a yw'r fferyllydd GIG yn paratoi ei ddeunyddiau cyhoeddusrwydd ei hunan, ynteu'n hysbysebu'r gwasanaethau mewn deunydd a gyhoeddir gan berson arall), yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n dangos yn eglur mai fel rhan o'r gwasanaeth iechyd y cyllidir y gwasanaethau,

(iv)gofyniad bod y fferyllydd GIG yn cynnal arolwg cymeradwy o foddhad y cleifion yn flynyddol, gan wneud hynny mewn ffordd a gymeradwyir, a chan gynnwys gofyniad i roi cyhoeddusrwydd i ganlyniadau'r arolwg ac i unrhyw gamau priodol y mae'r fferyllydd GIG yn bwriadu eu cymryd,

(v)trefniadau ar gyfer monitro cyffuriau neu gyfarpar sy'n ddyledus i gleifion ond nad ydynt mewn stoc,

(vi)system gwynion gymeradwy (sy'n bodloni gofynion y Rhan hon),

(vii)gofyniad bod y fferyllydd GIG yn cydweithredu'n briodol gydag ymweliadau'r Cyngor Iechyd Cymuned Lleol ac yn cymryd camau priodol o ganlyniad i ymweliadau o'r fath,

(viii)gofyniad bod y fferyllydd GIG yn cydweithredu'n briodol gydag unrhyw arolygiad neu adolygiad rhesymol y mae'r Bwrdd Iechyd Lleol neu unrhyw awdurdod statudol perthnasol yn dymuno'i gynnal, a

(ix)trefniadau ar gyfer monitro cydymffurfiaeth â Deddf Cydraddoldeb 2010(7);

(b)rhaglen o archwiliadau clinigol (pum diwrnod, fel arfer), sy'n cynnwys o leiaf un archwiliad mewn fferyllfa ac un archwiliad amlddisgyblaethol a gytunir gyda'r Bwrdd Iechyd Lleol ym mhob blwyddyn ariannol;

(c)rhaglen rheoli risg, sy'n cynnwys—

(i)trefniadau i sicrhau bod yr holl stoc yn cael ei drafod mewn ffordd briodol,

(ii)trefniadau i sicrhau bod yr holl gyfarpar a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn cael ei gynnal yn briodol,

(iii)system gymeradwy o adrodd am ddigwyddiadau, ynghyd â threfniadau ar gyfer dadansoddi ac ymateb i ddigwyddiadau critigol, sy'n cynnwys y canlynol—

(aa)cofnod o ddigwyddiadau diogelwch cleifion, a

(bb)cofnod o ddigwyddiadau croen dannedd,

(iv)trefniadau, sy'n cynnwys trefniadau cadw cofnodion, i ymdrin yn brydlon a phriodol â chyfathrebiadau ynglŷn â diogelwch cleifion oddi wrth Weinidogion Cymru, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd a Bwrdd Comisiynu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol,

(v)trefniadau gweithredu safonol priodol, gan gynnwys trefniadau gweithredu safonol mewn perthynas â phresgripsiynau amlroddadwy a darparu cyngor a chymorth i bobl sy'n gofalu amdanynt eu hunain neu eu teuluoedd,

(vi)trefniadau gwaredu gwastraff priodol (yn ychwanegol at yr hyn sy'n ofynnol o dan baragraffau 13 a 14) ar gyfer gwastraff clinigol a chyfrinachol,

(vii)arweinydd llywodraethu clinigol ym mhob fferyllfa unigol (sef naill ai person a benodir fel y cyfryw gan y fferyllydd GIG neu'r fferyllydd GIG ei hunan) sy'n wybodus ynglŷn â'r gweithdrefnau fferylliaeth yn y fferyllfa honno a'r gwasanaethau GIG eraill sydd ar gael yn ardal y fferyllfa honno,

(viii)gweithdrefnau priodol ar gyfer amddiffyn plant, a

(ix)trefniadau ar gyfer monitro cydymffurfiaeth â Deddf Iechyd a Diogelwch etc. 1974(8);

(d)rhaglen effeithiolrwydd clinigol, sy'n cynnwys trefniadau i sicrhau y rhoddir cyngor priodol gan y fferyllydd GIG—

(i)mewn perthynas â darparu cyffuriau yn unol â phresgripsiwn amlroddadwy,

(ii)mewn perthynas â darparu cyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, neu

(iii)i bobl sy'n gofalu amdanynt eu hunain neu eu teuluoedd,

a threfniadau i sicrhau bod y fferyllydd GIG, wrth roi cyngor i unrhyw glaf ar fater a grybwyllir ym mharagraff (d)(ii), yn rhoi sylw i'r manylion a gynhwysir yn y cofnodion a gynhelir o dan baragraff 10(1)(f) mewn perthynas â'r ddarpariaeth o gyfarpar a'r patrwm presgripsiynu ar gyfer y claf dan sylw;

(e)rhaglen staffio a rheoli staff, sy'n cynnwys—

(i)trefniadau i ddarparu hyfforddiant ymsefydlu priodol i aelodau o'r staff gan gynnwys unrhyw locwm,

(ii)hyfforddiant priodol i'r holl staff ar gyfer pa bynnag rôl y gofynnir iddynt ei chyflawni,

(iii)trefniadau i wirio cymwysterau a geirdaon yr holl staff sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau GIG,

(iv)trefniadau ar gyfer canfod a chefnogi anghenion datblygu pob aelod o'r staff sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau fel rhan o'r gwasanaeth iechyd, gan gynnwys datblygiad proffesiynol parhaus i fferyllwyr cofrestredig ac unrhyw achredu sydd ei angen mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau cyfeiriedig,

(v)trefniadau ar gyfer mynd i'r afael â pherfformiad gwael (ar y cyd â'r Bwrdd Iechyd Lleol fel y bo'n briodol), a

(vi)trefniadau (y mae'n rhaid iddynt gynnwys polisi ysgrifenedig) i sicrhau, bod yr holl staff gan gynnwys unrhyw locwm sydd, o ganlyniad i'w cyflogaeth gyda'r fferyllydd GIG—

(aa)yn gwneud yr hyn sy'n ddatgeliad gwarchodedig o fewn yr ystyr a roddir i “protected disclosure” yn adran 43A o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(9) (ystyr datgeliad gwarchodedig), yn cael arfer yr hawliau a roddir mewn perthynas â datgeliadau o'r fath gan y Ddeddf honno, a

(bb)yn darparu gwybodaeth yn ddidwyll ac nid er eu budd personol, i'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol neu i Fwrdd Iechyd Lleol, sy'n cynnwys honiad difrifol ei natur, y credant yn rhesymol ei fod yn wir o ran ei sylwedd er nad yw datgeliad ohono yn ddatgeliad gwarchodedig o fewn yr ystyr a roddir i “protected disclosure” yn adran 43A, yn cael yr hawl i beidio â dioddef unrhyw anfantais neu ddioddef eu diswyddo o ganlyniad i'r weithred honno;

(f)rhaglen lywodraethu gwybodaeth, sy'n darparu ar gyfer—

(i)cydymffurfio â gweithdrefnau cymeradwy ar gyfer rheoli a diogelu gwybodaeth, a

(ii)cyflwyno hunanasesiad blynyddol o'r gydymffurfiaeth (hyd at lefel gymeradwy) â'r gweithdrefnau hynny, drwy gyfrwng trefniadau cyflwyno data cymeradwy sy'n caniatáu i'r Bwrdd Iechyd Lleol gael mynediad i'r asesiad hwnnw; ac

(g)rhaglen safonau mangre sy'n cynnwys—

(i)system ar gyfer cynnal glanweithdra yn y fferyllfa, sydd wedi ei chynllunio er mwyn sicrhau lleihau, mewn ffordd gymesur, y risg i bobl yn y fferyllfa o'u heintio drwy gael gofal iechyd, a

(ii)trefniadau ar gyfer gwahanu'n eglur rhwng y mannau mewn fferyllfa sy'n amgylchedd gofal iechyd priodol (lle mae cleifion yn cael gwasanaethau GIG) a'r mannau hynny nad ydynt yn amgylchedd gofal iechyd.

Safonau proffesiynol

28.  Rhaid i fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol, ac arfer unrhyw farn broffesiynol mewn cysylltiad â darparu'r gwasanaethau hynny, gan gydymffurfio â'r safonau a dderbynnir yn gyffredinol yn y proffesiwn fferyllol.

Cymhellion

29.—(1Rhaid i fferyllydd GIG a'i staff beidio â rhoi, addo na chynnig, i unrhyw berson, unrhyw rodd neu wobr (boed ar ffurf cyfran o elw'r busnes, neu ddifidend ar yr elw hwnnw, neu ar ffurf disgownt neu ad-daliad, neu rywfodd arall) fel cymhelliad i'r person arall gyflwyno archeb am gyffuriau neu gyfarpar ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, neu'n gydnabyddiaeth am i'r person arall wneud hynny.

(2Nid yw addo, cynnig neu ddarparu cymorth cydymffurfio neu wasanaeth danfon gartref yn “rhodd neu wobr” at ddibenion is-baragraff (1).

(3Yn achos darparu cyfarpar, ni chaniateir i fferyllydd GIG nac unrhyw berson a gyflogir neu a gymerir ymlaen ganddo dderbyn na chael unrhyw rodd neu wobr mewn perthynas, yn unig, ag—

(a)darparu manylion cyswllt fferyllwyr GIG neu gontractwyr cyfarpar GIG amgen yn unol â pharagraff 10(2)(b), 11(4) neu 19(2)(b); neu

(b)atgyfeirio ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy at fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG arall yn unol â pharagraff 10(2)(a) neu 19(2)(a) heb ddarparu unrhyw wasanaeth ychwanegol mewn cysylltiad â'r eitem ar y presgripsiwn hwnnw.

Dyletswydd i ddarparu gwybodaeth am faterion addasrwydd i ymarfer: Fferyllwyr GIG sydd ar restrau fferyllol ar 10 Mai 2013

30.  Rhaid i fferyllydd GIG ac, yn ddarostyngedig i baragraff 32, os yw'n gorff corfforaethol, pob cyfarwyddwr ac uwcharolygydd y fferyllydd GIG, sydd wedi ei gynnwys ar restr fferyllol a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Lleol ar 10 Mai 2013, ddarparu i'r Bwrdd Iechyd Lleol, mewn ysgrifen ar neu cyn 9 Tachwedd 2013, yr wybodaeth am faterion addasrwydd a bennir ym mharagraff 31.

Dyletswydd i ddarparu gwybodaeth am faterion addasrwydd i ymarfer wrth iddynt godi

31.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff 32, rhaid i fferyllydd GIG, ac os yw'r fferyllydd GIG yn rhan o gorff corfforaethol, pob un o'i gyfarwyddwyr, hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol mewn ysgrifen, o fewn 7 diwrnod ar ôl y digwyddiad, os yw'r fferyllydd GIG neu'r cyfarwyddwr—

(a)yn cael ei gollfarnu am unrhyw drosedd yn y Deyrnas Unedig;

(b)yn cael ei rwymo yn dilyn collfarn droseddol yn y Deyrnas Unedig;

(c)yn derbyn rhybuddiad gan yr heddlu yn y Deyrnas Unedig;

(d)mewn achos diannod yn yr Alban mewn perthynas â throsedd, wedi bod yn destun gorchymyn i'w ryddhau'n ddiamod (heb fynd ymlaen i'w gollfarnu);

(e)wedi derbyn a chytuno i dalu naill ai dirwy procuradur ffisgal o dan adran 302 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(10) (cosb benodedig: cynnig amodol gan brocuradur ffisgal) neu gosb o dan adran 115A o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992(11) (cosb fel dewis arall yn lle erlyn);

(f)yn cael ei gollfarnu mewn man arall am drosedd, neu'r hyn a fyddai'n drosedd pe bai wedi ei gyflawni yng Nghymru a Lloegr;

(g)yn cael ei gyhuddo o drosedd yn y Deyrnas Unedig, neu wedi ei gyhuddo mewn man arall o drosedd a fyddai wedi bod yn drosedd, pe bai wedi ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr;

(h)yn cael ei hysbysu am ganlyniad unrhyw ymchwiliad i'w ymddygiad proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall, a bod canfyddiad yn ei erbyn;

(i)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad i'w ymddygiad proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall;

(j)yn mynd yn destun ymchwiliad i'w ymddygiad proffesiynol mewn cysylltiad ag unrhyw gyflogaeth gyfredol neu flaenorol, neu'n cael ei hysbysu o ganlyniad unrhyw ymchwiliad o'r fath ac unrhyw ganfyddiad yn ei erbyn;

(k)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG mewn perthynas â thwyll;

(l)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad gan Fwrdd Iechyd Lleol arall neu gorff cyfatebol, a allai arwain at dynnu ymaith o restr berthnasol; neu

(m)ar sail ei addasrwydd, yn cael ei dynnu ymaith, ei dynnu yn ddigwyddiadol, neu ei atal dros dro o restr berthnasol, neu os gwrthodir mynediad iddo i restr o'r fath, neu os caiff ei gynnwys yn amodol mewn rhestr o'r fath,

ac os felly, rhaid i'r fferyllydd GIG roi manylion am unrhyw ymchwiliad neu achos a gynhaliwyd neu sydd i'w gynnal, gan gynnwys natur yr ymchwiliad neu achos, ym mhle ac oddeutu pa bryd y cynhaliwyd neu y cynhelir yr ymchwiliad hwnnw neu'r achos hwnnw, ac unrhyw ganlyniad.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff 32, os yw person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo yn gyfarwyddwr corff corfforaethol, neu os oedd yn gyfarwyddwr corff corfforaethol ar adeg y digwyddiadau cychwynnol, rhaid iddo, yn ychwanegol, hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol o fewn 7 diwrnod os yw unrhyw gorff corfforaethol o'r fath—

(a)yn cael ei gollfarnu am unrhyw drosedd yn y Deyrnas Unedig;

(b)yn cael ei gollfarnu mewn man arall am drosedd, neu'r hyn a fyddai'n drosedd pe bai wedi ei gyflawni yng Nghymru a Lloegr;

(c)yn cael ei gyhuddo o drosedd yn y Deyrnas Unedig, neu wedi ei gyhuddo mewn man arall o drosedd a fyddai wedi bod yn drosedd, pe bai wedi ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr;

(d)yn cael ei hysbysu gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall am ganlyniad unrhyw ymchwiliad i'w ddarpariaeth o wasanaethau proffesiynol, a bod canfyddiad yn erbyn y corff corfforaethol;

(e)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad i'w ddarpariaeth o wasanaethau proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall;

(f)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad mewn perthynas â thwyll neu wedi ei hysbysu o ganlyniad unrhyw ymchwiliad o'r fath, a'r canlyniad hwnnw yn ei erbyn;

(g)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad gan Fwrdd Iechyd Lleol neu gorff cyfatebol, a allai arwain at dynnu ymaith y corff corfforaethol o restr berthnasol; neu

(h)ar sail ei addasrwydd, wedi ei dynnu ymaith, ei dynnu yn ddigwyddiadol, neu ei atal dros dro o restr berthnasol, neu os gwrthodwyd mynediad iddo i restr o'r fath, neu os yw wedi ei gynnwys yn amodol ar restr o'r fath,

ac os felly, rhaid i'r person hwnnw roi enw'r corff corfforaethol a chyfeiriad ei swyddfa gofrestredig a manylion am unrhyw ymchwiliad neu achos a gynhaliwyd neu sydd i'w gynnal, gan gynnwys natur yr ymchwiliad neu achos, ym mha le ac oddeutu pa bryd y cynhaliwyd neu y cynhelir yr ymchwiliad hwnnw neu'r achos hwnnw, ac unrhyw ganlyniad.

(3Rhaid i berson y mae is-baragraff (1) neu (2) yn gymwys iddo gydsynio i'r Bwrdd Iechyd Lleol ofyn i unrhyw gyflogwr neu gyngyflogwr neu unrhyw gorff trwyddedu neu reoleiddio, yn y Deyrnas Unedig neu unrhyw le arall, am wybodaeth ynghylch ymchwiliad cyfredol neu ymchwiliad â chanlyniad anffafriol.

Bwrdd Iechyd Lleol cartref cyrff corfforaethol

32.  Os yw fferyllydd GIG yn gorff corfforaethol sydd â'i swyddfa gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, caniateir i'r wybodaeth sydd i'w darparu o dan baragraffau 30, 31 a 35(3) i (6) gael ei darparu yn hytrach i Fwrdd Iechyd Lleol cartref (fel y'i diffinnir yn rheoliad 46). Pan fo'r fferyllydd GIG yn darparu'r wybodaeth i'w Fwrdd Iechyd Lleol cartref, rhaid iddo hefyd ddarparu i'r Bwrdd Iechyd Lleol cartref fanylion o'r holl Fyrddau Iechyd Lleol eraill y cynhwysir y fferyllydd GIG yn eu rhestrau fferyllol.

Cwynion

33.  Rhaid i fferyllydd GIG fod wedi sefydlu trefniadau sy'n cydymffurfio â gofynion Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011(12), ar gyfer trin ac ystyried unrhyw bryderon neu gwynion ynghylch mater sy'n gysylltiedig â'r ddarpariaeth o wasanaethau fferyllol gan y fferyllydd GIG.

RHAN 5Telerau gwasanaethu eraill

Gwasanaethau cyfeiriedig

34.  Rhaid i fferyllydd GIG, y mae'r Bwrdd Iechyd Lleol sydd â'r fferyllydd GIG hwnnw ar ei restr fferyllol wedi gwneud trefniant gydag ef ar gyfer darparu unrhyw wasanaethau cyfeiriedig, gydymffurfio â thelerau ac amodau'r trefniant hwnnw.

Gwybodaeth sydd i'w chyflenwi

35.—(1Rhaid i fferyllydd GIG roi hysbysiad o'r canlynol i'r Bwrdd Iechyd Lleol sydd â'r fferyllydd GIG hwnnw ar ei restr fferyllol, o fewn 28 diwrnod (neu os nad yw hynny'n ymarferol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedyn)—

(a)unrhyw ddigwyddiad sy'n ei gwneud yn ofynnol newid yr wybodaeth a gofnodwyd am y fferyllydd GIG yn y rhestr fferyllol, na roddodd y fferyllydd GIG hysbysiad ohono rywfodd arall yn unol â'r Rheoliadau hyn;

(b)yn achos fferyllydd GIG sy'n unigolyn, unrhyw newid yn ei gyfeiriad preifat; ac

(c)yn achos fferyllydd GIG sy'n gorff corfforaethol, unrhyw newid yng nghyfeiriad ei swyddfa gofrestredig.

(2Rhaid i fferyllydd GIG, os gofynnir iddo, roi i'r Bwrdd Iechyd Lleol enw unrhyw fferyllydd GIG a gyflogir ganddo sy'n gyfrifol am weinyddu presgripsiwn penodol.

(3Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), rhaid i fferyllydd GIG sy'n gorff corfforaethol roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Bwrdd Iechyd Lleol o fewn 28 diwrnod (neu os nad yw hynny'n ymarferol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedyn) o unrhyw newidiadau yn enwau a chyfeiriadau pob un o'i gyfarwyddwyr a'i uwcharolygydd.

(4Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), os yw fferyllydd GIG sy'n gorff corfforaethol yn penodi cyfarwyddwr neu uwcharolygydd nas rhestrwyd yng nghais y fferyllydd GIG am ei gynnwys mewn rhestr fferyllol, rhaid i'r fferyllydd GIG roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Bwrdd Iechyd Lleol o fewn 28 diwrnod (neu os nad yw hynny'n ymarferol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedyn) o'r wybodaeth am addasrwydd y person hwnnw i ymarfer.

(5Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), rhaid i fferyllydd GIG, neu gyfarwyddwr neu uwcharolygydd fferyllydd GIG sy'n gorff corfforaethol, hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)os yw'r unigolyn hwnnw, neu'r corff corfforaethol y mae'n gyfarwyddwr neu'n uwcharolygydd ohono, yn gwneud cais am gael ei gynnwys yn unrhyw un o restrau cyflawnwyr neu ddarparwyr GIG Bwrdd Iechyd Lleol arall ac o ganlyniad unrhyw gais o'r fath; a

(b)os daw'r unigolyn hwnnw yn gyfarwyddwr neu'n uwcharolygydd corff corfforaethol sydd yn unrhyw un o restrau cyflawnwyr neu ddarparwyr GIG Bwrdd Iechyd Lleol arall, neu sy'n gwneud cais am ei gynnwys mewn rhestr o'r fath, ac o ganlyniad unrhyw gais o'r fath.

(6Os yw'r fferyllydd GIG yn gorff corfforaethol sydd â'i swyddfa gofrestredig yng Nghymru, caiff ddarparu'r wybodaeth sydd i'w darparu o dan is-baragraffau (3) i (5) i'r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw, yn unig, y lleolir y swyddfa gofrestredig yn ei ardal, ar yr amod bod y fferyllydd GIG yn darparu i'r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw fanylion hefyd o'r holl Fyrddau Iechyd Lleol eraill y cynhwysir y fferyllydd GIG yn eu rhestrau fferyllol, ac mewn amgylchiadau o'r fath, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw drosglwyddo'r wybodaeth ymlaen i unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol arall—

(a)y cynhwysir y fferyllydd GIG yn ei restr fferyllol; neu

(b)y gwneir cais iddo gan y fferyllydd GIG am gael ei gynnwys yn ei restr fferyllol,

ac sy'n gofyn am yr wybodaeth.

(7Yn y paragraff hwn, ystyr “rhestr cyflawnwyr neu ddarparwyr GIG” (“NHS performers or providers list”) yw—

(a)rhestr fferyllol; neu

(b)rhestr a gynhelir o gyflawnwyr neu ddarparwyr cymeradwy gwasanaethau meddygol sylfaenol, deintyddol neu offthalmig.

Tynnu enwau yn ôl o restrau fferyllol

36.  Os yw fferyllydd GIG yn bwriadu tynnu ei enw yn ôl o'r rhestr fferyllol, rhaid iddo hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol o'i fwriad, dri mis o leiaf cyn y dyddiad hwnnw, oni fydd yn anymarferol iddo wneud hynny, ac os felly, rhaid iddo hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol cyn gynted ag y bo'n ymarferol iddo wneud hynny.

Codi ffioedd am gyffuriau, ac ad-daliadau

37.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau a wneir o dan adran 121 o Ddeddf 2006 (codi ffioedd am gyffuriau, meddyginiaethau neu gyfarpar, neu wasanaethau fferyllol) rhaid darparu'r holl gyffuriau, cynwysyddion a chyfarpar a ddarperir o dan y telerau gwasanaethu hyn yn ddi-dâl.

(2Pan fo fferyllydd GIG, wrth ymateb i archeb am gyffuriau a lofnodwyd gan ragnodydd, yn cyflenwi cynhwysydd, neu'n cyflenwi cynhwysydd ocsigen neu gyfarpar ocsigen, ac eithrio cyfarpar a bennir yn y Tariff Cyffuriau fel rhai nad ydynt yn ddychweladwy i'r fferyllydd GIG, bydd y cynhwysydd a'r cyfarpar yn parhau'n eiddo i'r fferyllydd GIG.

(3Os yw unrhyw berson, sydd â hawl ganddo i ad-daliad o unrhyw ffi a dalwyd o dan y Rheoliadau Ffioedd, yn cyflwyno i fferyllydd GIG hawliad dilys am ad-daliad, rhaid i'r fferyllydd GIG wneud yr ad-daliad.

(4At ddibenion is-baragraff (3), ni fydd hawliad am ad-daliad yn ddilys oni wneir yr hawliad yn briodol ar Ffurflen WP57 0405 o fewn tri mis o'r dyddiad y talwyd y ffi.

Arolygiadau a mynediad at wybodaeth

38.—(1Rhaid i fferyllydd GIG ganiatáu i bersonau, a awdurdodwyd mewn ysgrifen gan y Bwrdd Iechyd Lleol sydd â'r fferyllydd GIG yn gynwysedig yn ei restr fferyllol, fynd i mewn i fferyllfa'r fferyllydd GIG ac i'w harchwilio ar unrhyw adeg resymol, at y dibenion canlynol—

(a)canfod a yw'r fferyllydd GIG yn cydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon ai peidio;

(b)archwilio, monitro a dadansoddi—

(i)y ddarpariaeth a wneir gan y fferyllydd GIG ar gyfer gofal a thriniaeth i gleifion, a

(ii)y modd y mae'r fferyllydd GIG yn rheoli'r gwasanaethau fferyllol a ddarperir ganddo,

pan fo'r amodau yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni.

(2Yr amodau yw'r canlynol—

(a)bod rhybudd rhesymol wedi ei roi o'r bwriad i fynd i mewn;

(b)bod y Pwyllgor Fferyllol Lleol ar gyfer yr ardal y lleolir y fferyllfa ynddi wedi ei wahodd i fod yn bresennol yn yr arolygiad, os gofynnodd y fferyllydd GIG am hynny;

(c)bod gan y person a awdurdodwyd mewn ysgrifen dystiolaeth ysgrifenedig o'i awdurdodiad yn ei feddiant, a bod y person hwnnw'n dangos y dystiolaeth honno os gofynnir iddo; a

(d)na fydd y person a awdurdodwyd mewn ysgrifen yn mynd i mewn i unrhyw ran o'r fangre a ddefnyddir yn unig fel llety preswyl heb gydsyniad y preswylydd.

(3Rhaid i fferyllydd GIG, ar gais y Bwrdd Iechyd Lleol neu berson a awdurdodwyd mewn ysgrifen a grybwyllir yn is-baragraff (1), ganiatáu i'r Bwrdd Iechyd Lleol neu berson a awdurdodir ganddo gael mynediad at unrhyw wybodaeth y gofynnir amdani yn rhesymol gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu'r person hwnnw—

(a)at y dibenion a grybwyllir yn is-baragraff (1); neu

(b)yn achos y Bwrdd Iechyd Lleol, mewn cysylltiad â'i swyddogaethau sy'n ymwneud â gwasanaethau fferyllol.

Rheoliad 5

ATODLEN 5Telerau gwasanaethu ar gyfer contractwyr cyfarpar GIG sy'n darparu gwasanaethau fferyllol drwy ddarparu cyfarpar yn unig

Ymgorffori darpariaethau

1.  Mae unrhyw ddarpariaethau o'r canlynol sy'n effeithio ar hawliau a rhwymedigaethau contractwyr cyfarpar GIG sy'n darparu gwasanaethau fferyllol yn ffurfio rhan o'r telerau gwasanaethu—

(a)y Rheoliadau;

(b)y Tariff Cyffuriau i'r graddau y mae'n rhestru cyfarpar at ddibenion adran 80 o Ddeddf 2006 (trefniadau ar gyfer gwasanaethau fferyllol);

(c)cymaint o Ran II Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaeth a Thribiwnlys) 1992 ag y sy'n ymwneud ag—

(i)ymchwiliadau a wneir gan y pwyllgor disgyblu fferyllol a'r cyd-bwyllgor disgyblu a chamau y caiff y Bwrdd Iechyd Lleol eu cymryd o ganlyniad i ymchwiliadau o'r fath, a

(ii)apelau i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniadau'r Bwrdd Iechyd Lleol; a

(d)cymaint o reoliad 29 o Reoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010(13) (mynd i mewn i fangreoedd a'u harchwilio) ag sy'n ymwneud â mynd i mewn i fangreoedd sydd naill ai'n eiddo i gontractwr cyfarpar GIG neu dan ei reolaeth neu'n fangreoedd lle mae contractwr cyfarpar GIG yn darparu gwasanaethau fferyllol, ac archwilio mangreoedd o'r fath.

Rhaniad cyfrifoldebau rhwng unigolion a chyrff corfforaethol

2.—(1I'r graddau y mae'r Atodlen hon yn gosod ar gontractwr cyfarpar GIG ofyniad na ellid ei gyflawni gan neb ond person naturiol, neu a gyflawnid fel arfer gan berson naturiol—

(a)os yw'r contractwr cyfarpar GIG yn fferyllydd cofrestredig—

(i)rhaid i'r fferyllydd cofrestredig hwnnw gydymffurfio â'r gofyniad hwnnw, neu

(ii)os yw'n cyflogi neu wedi cymryd ymlaen fferyllydd cofrestredig mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau fferyllol, rhaid i'r fferyllydd cofrestredig hwnnw naill ai gydymffurfio â'r gofyniad hwnnw neu sicrhau cydymffurfiaeth â'r gofyniad hwnnw gan berson y mae'n ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen; a

(b)os nad yw'r contractwr cyfarpar GIG yn berson naturiol, rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG hwnnw sicrhau cydymffurfiaeth â'r gofyniad hwnnw gan berson y mae'n ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen,

a rhaid dehongli cyfeiriadau yn yr Atodlen hon at gontractwr cyfarpar GIG yn unol â hynny.

(2Pan fo'r Atodlen hon yn gosod gofyniad ar gyfarwyddwr corff corfforaethol sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol, rhaid ystyried toriad o'r gofyniad hwnnw yn doriad gan y corff corfforaethol o'i delerau gwasanaethu.

Gwasanaethau gweinyddu

3.  Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, i'r graddau y mae'n ofynnol gan baragraffau 4 i 8 ac yn y modd a ddisgrifir yn y paragraffau hynny, ddarparu cyfarpar priodol a digonol i bersonau sy'n cyflwyno presgripsiynau am gyfarpar gan broffesiynolion gofal iechyd yn rhinwedd eu swyddogaethau.

Gweinyddu cyfarpar

4.—(1Yn y paragraff hwn, mae “wedi ei llofnodi” (“signed”) yn cynnwys llofnodi gyda llofnod electronig uwch y rhagnodydd.

(2Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Atodlen hon, pan fo—

(a)unrhyw berson yn cyflwyno ffurflen bresgripsiwn anelectronig sy'n cynnwys—

(i)archeb am gyfarpar, nad yw'n gyfarpar argaeledd cyfyngedig, wedi ei llofnodi gan ragnodydd, neu

(ii)archeb am gyfarpar argaeledd cyfyngedig wedi ei llofnodi gan ragnodydd ac yn cynnwys y cyfeirnod “SLS”, “Selected List Scheme” neu “Drug Tariff”; neu

(b)contractwr cyfarpar GIG yn cael presgripsiwn amlroddadwy electronig sy'n cydymffurfio â'r gwasanaeth TPE ac yn cynnwys archeb o fath a bennir ym mharagraff (a)(i) a (ii) ac—

(i)unrhyw berson yn gofyn am ddarparu cyfarpar yn unol â'r disgrifiad hwnnw, neu

(ii)y contractwr cyfarpar GIG wedi trefnu gyda'r claf yn flaenorol, y byddai'n gweinyddu'r presgripsiwn hwnnw pan ddeuai i law,

rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG, yn rhesymol brydlon, ddarparu'r cyfryw rai o'r cyfarpar a archebir felly a gyflenwir gan y contractwr cyfarpar GIG yng nghwrs arferol ei fusnes.

(3At ddibenion y paragraff hwn, mae presgripsiwn amlroddadwy anelectronig am gyfarpar i'w ystyried wedi ei gyflwyno, hyd yn oed os nad yw'r person sy'n dymuno cael y cyfarpar yn cyflwyno'r presgripsiwn hwnnw, os yw—

(a)y presgripsiwn hwnnw gan y contractwr cyfarpar GIG yn ei feddiant; a

(b)swp-ddyroddiad cysylltiedig naill ai'n cael ei gyflwyno gan y person hwnnw, neu ym meddiant y contractwr cyfarpar GIG.

Cyflenwi ar frys heb bresgripsiwn

5.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo rhagnodydd, mewn achos brys, yn gofyn i gontractwr cyfarpar GIG ddarparu cyfarpar.

(2Caiff y contractwr cyfarpar GIG ddarparu'r cyfarpar y gofynnir amdano cyn cael ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy mewn perthynas â'r cyfarpar hwnnw, ar yr amod bod y rhagnodydd yn ymrwymo i—

(a)rhoi i'r contractwr cyfarpar GIG ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig mewn perthynas â'r cyfarpar o fewn 72 awr ar ôl gwneud y cais; neu

(b)rhoi i'r contractwr cyfarpar GIG ffurflen bresgripsiwn electronig sy'n cydymffurfio â'r gwasanaeth TPE o fewn 72 awr ar ôl gwneud y cais.

Materion rhagarweiniol cyn darparu cyfarpar

6.—(1Os yw'r person a bennir yn is-baragraff (2) yn gofyn i'r contractwr cyfarpar GIG wneud hynny—

(a)rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG roi amcangyfrif o'r amser pan fydd y cyfarpar yn barod; a

(b)os na fydd y cyfarpar yn barod erbyn yr amser hwnnw, rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG roi amcangyfrif diwygiedig o'r amser pan fydd yn barod.

(2Person a bennir yn yr is-baragraff hwn yw person—

(a)sy'n cyflwyno ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig; neu

(b)sy'n gofyn am ddarparu cyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn electronig neu bresgripsiwn amlroddadwy electronig.

(3Cyn darparu cyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG ofyn i unrhyw berson, sy'n gwneud datganiad nad oes raid i'r person a enwir ar y ffurflen bresgripsiwn neu'r presgripsiwn amlroddadwy dalu'r ffioedd a bennir yn rheoliad 3 o'r Rheoliadau Ffioedd (cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan fferyllwyr), yn rhinwedd naill ai—

(i)hawl i esemptiad o dan reoliad 8 (esemptiadau) o'r Rheoliadau Ffioedd, neu

(ii)hawl i beidio â thalu ffioedd o dan reoliad 5 o'r Rheoliadau Peidio â Chodi Tâl (hawl i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael taliad llawn),

ddangos tystiolaeth foddhaol o'r cyfryw hawl, oni wneir y datganiad mewn perthynas â hawl i esemptiad yn rhinwedd rheoliad 8 o'r Rheoliadau Ffioedd neu mewn perthynas â hawl i beidio â thalu yn rhinwedd rheoliad 5(1)(d) neu (2) o'r Rheoliadau Peidio â Chodi Tâl, pan fo tystiolaeth o'r fath eisoes ar gael i'r contractwr cyfarpar GIG ar yr adeg y gwneir y datganiad;

(b)yn achos ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig, os na ddangosir tystiolaeth foddhaol i'r contractwr cyfarpar GIG fel sy'n ofynnol gan baragraff (a), rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG arnodi'r ffurflen y gwneir y datganiad arni, i'r perwyl hwnnw; ac

(c)yn achos ffurflen bresgripsiwn electronig neu bresgripsiwn amlroddadwy electronig, rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG gydymffurfio ag unrhyw ofynion gan y gwasanaeth TPE i ddarparu—

(i)cofnod o'r hawl o'r esemptiad neu'r hawl i beidio â thalu a hawliwyd, a pha un a ddangoswyd tystiolaeth foddhaol ai peidio, fel y cyfeirir ati ym mharagraff (a), a

(ii)mewn unrhyw achos pan fo ffi'n ddyledus, cadarnhad bod y ffi berthnasol wedi ei thalu.

Darparu cyfarpar

7.—(1Pan gyflwynir ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy i gontractwr cyfarpar GIG, rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG beidio â darparu'r cyfarpar a archebir felly, ac eithrio—

(a)pan fo'r ffurflen bresgripsiwn neu'r presgripsiwn amlroddadwy wedi eu llofnodi a'u cwblhau yn briodol, fel a ddisgrifir ym mharagraff 4; a

(b)yn unol â'r archeb sydd ar y ffurflen bresgripsiwn neu'r presgripsiwn amlroddadwy,

yn ddarostyngedig i unrhyw reoliadau sydd mewn grym o dan Ddeddf Pwysau a Mesurau 1985 a darpariaethau canlynol yr Atodlen hon.

(2Os yw'r archeb yn archeb am fath o gyfarpar y mae'n ofynnol ei fesur a'i ffitio gan y contractwr cyfarpar GIG, rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG wneud yr holl drefniadau angenrheidiol—

(a)ar gyfer mesur y person a enwir ar y ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy ar gyfer y cyfarpar; a

(b)ar gyfer ffitio'r cyfarpar.

(3Os yw'r archeb yn archeb am gyfarpar sydd wedi ei gynnwys yn y Tariff Cyffuriau, Fformiwlari Cenedlaethol Prydain (gan gynnwys unrhyw Atodiad a gyhoeddwyd yn rhan o'r Fformiwlari hwnnw), Fformiwlari'r Ymarferydd Deintyddol, y Cyffuriadur Ewropeaidd neu Godecs Fferyllol Prydain, rhaid i'r cyfarpar a ddarperir gydymffurfio â'r safon neu'r fformiwla a bennir yno.

Gwrthod darparu cyfarpar a archebir

8.—(1Caiff contractwr cyfarpar GIG wrthod darparu cyfarpar a archebir ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)os yw'r contractwr cyfarpar GIG yn credu, yn rhesymol, nad yw'r archeb yn archeb ddilys ar gyfer y person a enwir ar y ffurflen bresgripsiwn neu'r presgripsiwn amlroddadwy;

(b)os yw'n ymddangos i'r contractwr cyfarpar GIG fod camgymeriad yn y ffurflen bresgripsiwn neu'r presgripsiwn amlroddadwy neu, yn achos presgripsiwn amlroddadwy anelectronig, yn ei swp-ddyroddiad cysylltiedig (gan gynnwys camgymeriad clinigol a wnaed gan y rhagnodydd) neu y byddai darparu'r cyfarpar, yn yr amgylchiadau, yn groes i farn glinigol y contractwr cyfarpar GIG;

(c)os yw'r contractwr cyfarpar GIG neu bersonau eraill yn dioddef trais neu'n cael eu bygwth â thrais gan y person sy'n cyflwyno'r ffurflen bresgripsiwn neu'r presgripsiwn amlroddadwy neu'n gofyn am ddarparu cyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, neu gan unrhyw berson sydd gyda'r person hwnnw; neu

(d)os yw'r person sy'n cyflwyno'r ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy neu'n gofyn am ddarparu cyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn electronig neu bresgripsiwn amlroddadwy electronig neu unrhyw berson arall sydd gyda'r person hwnnw, yn cyflawni neu'n bygwth cyflawni trosedd.

(2Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG wrthod darparu cyfarpar a archebir ar bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)os nad oes gan y contractwr cyfarpar GIG gofnod o'r presgripsiwn hwnnw;

(b)os nad oes gan y contractwr cyfarpar GIG, yn achos presgripsiwn amlroddadwy anelectronig, unrhyw swp-ddyroddiad cysylltiedig ac os na chyflwynir swp-ddyroddiad o'r fath i'r contractwr cyfarpar GIG;

(c)os nad yw wedi ei lofnodi gan ragnodydd amlroddadwy;

(d)os byddai gwneud hynny yn anghyson ag unrhyw ysbeidiau a bennir yn y presgripsiwn;

(e)os hwnnw fyddai'r tro cyntaf y darperid cyfarpar yn unol â'r presgripsiwn, ac os llofnodwyd y presgripsiwn (yn electronig neu fel arall) fwy na chwe mis yn gynharach;

(f)os llofnodwyd y presgripsiwn amlroddadwy (yn electronig neu fel arall) fwy na blwyddyn yn gynharach;

(g)os yw'r dyddiad dod i ben ar y presgripsiwn amlroddadwy wedi mynd heibio; neu

(h)os hysbyswyd y contractwr cyfarpar GIG, gan y rhagnodydd amlroddadwy, nad oes angen y presgripsiwn bellach.

(3Pan fo claf yn gofyn am gyflenwi cyfarpar a archebwyd ar bresgripsiwn amlroddadwy (ac eithrio'r tro cyntaf y gofynnir), rhaid i gontractwr cyfarpar GIG beidio â darparu'r cyfarpar a archebir oni chaiff ei fodloni—

(a)bod y claf y mae'r presgripsiwn ar ei gyfer—

(i)yn defnyddio'r cyfarpar yn briodol, ac yn debygol o barhau i'w ddefnyddio felly, a

(ii)nad yw'n dioddef o unrhyw sgil effeithiau'r driniaeth sy'n dynodi bod angen, neu y byddai'n fuddiol, adolygu triniaeth y claf;

(b)nad yw'r modd y defnyddir y cyfarpar gan y claf y mae'r presgripsiwn ar ei gyfer wedi newid mewn ffordd sy'n dynodi bod angen, neu y byddai'n fuddiol, adolygu triniaeth y claf; ac

(c)na ddigwyddodd unrhyw newidiadau yn iechyd y claf y mae'r presgripsiwn ar ei gyfer sy'n dynodi bod angen, neu y byddai'n fuddiol, adolygu triniaeth y claf.

Gweithgareddau pellach sydd i'w cyflawni mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau gweinyddu

9.—(1Mewn cysylltiad â'r gwasanaethau a ddarperir o dan baragraff 3, rhaid i gontractwr cyfarpar GIG—

(a)sicrhau y rhoddir cyngor priodol i gleifion ynghylch unrhyw gyfarpar a ddarperir iddynt—

(i)i'w galluogi i ddefnyddio'r cyfarpar yn briodol, a

(ii)bodloni anghenion rhesymol y cleifion am wybodaeth gyffredinol ynglŷn â'r cyfarpar;

(b)darparu cyngor priodol i gleifion y mae'n cyflenwi cyfarpar iddynt ynglŷn â chadw'r cyfarpar yn ddiogel;

(c)wrth ddarparu cyfarpar i glaf yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—

(i)darparu cyngor priodol, yn benodol, ar y pwysigrwydd o ofyn am yr eitemau hynny, yn unig, sydd arno eu hangen mewn gwirionedd, a

(ii)at y dibenion hynny, rhoi sylw i'r manylion a gynhwysir yn y cofnodion a gynhelir o dan baragraff (f) mewn perthynas â darparu cyfarpar a'r patrwm presgripsiynu mewn cysylltiad â'r claf dan sylw;

(d)darparu i'r claf nodyn ysgrifenedig o unrhyw gyfarpar sy'n ddyledus iddo, a rhoi gwybod i'r claf pa bryd y disgwylir i'r cyfarpar fod ar gael;

(e)darparu i'r claf nodyn ysgrifenedig o enw, cyfeiriad a rhif teleffon y contractwr cyfarpar GIG;

(f)cadw a chynnal cofnodion—

(i)o'r cyfarpar a ddarparwyd, er mwyn hwyluso parhad gofal y claf,

(ii)mewn achosion priodol, o'r cyngor a roddir ac unrhyw ymyriadau neu atgyfeiriadau a wneir (gan gynnwys ymyriadau o arwyddocâd clinigol mewn achosion sy'n ymwneud â phresgripsiynau amlroddadwy), a

(iii)o nodiadau a ddarperir o dan baragraff (d);

(g)dilyn hyfforddiant priodol ynglŷn ag amlweinyddu, gan roi sylw i unrhyw argymhellion ynglŷn ag hyfforddiant o'r fath a bennir yn y Tariff Cyffuriau;

(h)os yw'r contractwr cyfarpar GIG yn cymryd meddiant o bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig neu swp-ddyroddiad cysylltiedig, storio'r presgripsiwn amlroddadwy neu'r swp-ddyroddiad cysylltiedig hwnnw yn ddiogel;

(i)os yw'r contractwr cyfarpar GIG yn darparu cyfarpar o dan bresgripsiwn electronig, darparu i'r claf, os yw'r claf yn gofyn amdano, gofnod ysgrifenedig o'r cyfarpar a archebwyd ar y presgripsiwn hwnnw, ac yn achos presgripsiwn amlroddadwy electronig, gofnod o'r nifer o droeon y caniateir ei weinyddu;

(j)cynnal cofnodion o bresgripsiynau amlroddadwy mewn ffurf a fydd yn darparu trywydd archwilio eglur o'r cyflenwadau o dan y presgripsiwn amlroddadwy (gan gynnwys dyddiadau a'r meintiau a gyflenwir);

(k)dinistrio unrhyw swp-ddyroddiadau dros ben mewn cysylltiad â chyfarpar—

(i)nad oes eu hangen, neu

(ii)y gwrthodwyd i glaf yn unol â pharagraff 8;

(l)sicrhau, pan wrthodir cyfarpar i berson yn unol â pharagraff 8(1)(b), (2) neu (3), y cyfeirir y claf yn ôl at y rhagnodydd am gyngor pellach;

(m)pan ddarperir cyfarpar i glaf o dan bresgripsiwn amlroddadwy, hysbysu'r rhagnodydd ynghylch unrhyw faterion o arwyddocâd clinigol sy'n codi mewn cysylltiad â'r presgripsiwn a chadw cofnod o'r hysbysiad hwnnw;

(n)hysbysu'r rhagnodydd ynghylch unrhyw wrthodiad i ddarparu cyfarpar yn unol â pharagraff 8(3); ac

(o)wrth ddarparu cyfarpar penodedig, cydymffurfio â'r gofynion ychwanegol a bennir ym mharagraff 10.

(2Pan gyflwynir ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy mewn cysylltiad â gweinyddu cyfarpar o dan baragraff 4, os na all contractwr cyfarpar GIG ddarparu cyfarpar, neu os oes angen addasu cyfarpar stoma ac na all y contractwr cyfarpar GIG ddarparu'r addasiad hwnnw, rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG—

(a)os yw'r claf yn cydsynio, atgyfeirio'r ffurflen bresgripsiwn neu'r presgripsiwn amlroddadwy at gontractwr cyfarpar GIG arall neu at fferyllydd GIG; neu

(b)os nad yw'r claf yn cydsynio ag atgyfeirio, darparu i'r claf fanylion cyswllt dau, o leiaf, o bobl sy'n fferyllwyr GIG neu'n gontractwyr cyfarpar GIG gyda'r gallu i ddarparu'r cyfarpar neu'r addasiad cyfarpar stoma (yn ôl fel y digwydd), os yw'r manylion hynny'n hysbys i'r contractwr cyfarpar GIG.

Gofynion ychwanegol mewn perthynas â chyfarpar penodedig

10.—(1Mae'r paragraff hwn yn pennu'r gofynion ychwanegol y cyfeirir atynt ym mharagraff 9(1)(o) ynglŷn â darparu cyfarpar penodedig.

(2Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG sy'n gweinyddu cyfarpar penodedig yng nghwrs arferol ei fusnes ddarparu gwasanaeth danfon i gartrefi mewn perthynas â'r cyfarpar hwnnw ac, yn rhan o'r gwasanaeth hwnnw—

(a)rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG gynnig danfon y cyfarpar penodedig i gartref y claf;

(b)os yw'r claf yn derbyn y cynnig hwnnw, rhaid gwneud y danfoniad yn rhesymol brydlon ac ar yr adeg a gytunir gyda'r claf;

(c)rhaid danfon y cyfarpar penodedig mewn pecyn nad yw'n arddangos unrhyw ysgrifen neu farciau eraill a allai ddynodi ei gynnwys; a

(d)rhaid i'r modd y danfonir y pecyn ac unrhyw eitemau atodol sy'n ofynnol gan is-baragraff (3) beidio â chyfleu'r math o gyfarpar a ddanfonir.

(3Mewn unrhyw achos pan ddarperir cyfarpar penodedig (drwy ei ddanfon i'r cartref neu fel arall), rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG ddarparu cyflenwad rhesymol o eitemau atodol priodol (megis clytiau tafladwy a bagiau gwaredu) ac—

(a)rhaid iddo sicrhau y caiff y claf, os yw'r claf yn dymuno, ymgynghori â pherson i gael cyngor clinigol arbenigol ynglŷn â'r cyfarpar; neu

(b)os yw'r contractwr cyfarpar GIG o'r farn bod hynny'n briodol, rhaid iddo—

(i)cyfeirio'r claf at ragnodydd, neu

(ii)cynnig gwasanaeth i'r claf ar gyfer adolygu'r defnydd o'r cyfarpar.

(4Os na all y contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaeth ar gyfer adolygu'r defnydd o'r cyfarpar yn unol ag is-baragraff (3)(b)(ii), rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG roi i'r claf fanylion cyswllt dau, o leiaf, o bobl sy'n fferyllwyr GIG neu'n gontractwyr cyfarpar GIG gyda'r gallu i drefnu ar gyfer darparu'r gwasanaeth, os yw'r manylion hynny'n hysbys i'r contractwr cyfarpar GIG.

(5Pan fo contractwr cyfarpar GIG yn darparu llinell gofal teleffon mewn perthynas â gweinyddu unrhyw gyfarpar penodedig, rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG sicrhau, yn ystod cyfnodau y tu allan i oriau—

(a)y bydd cyngor ar gael i gleifion drwy'r llinell gofal teleffon honno; neu

(b)bod rhif teleffon Galw Iechyd Cymru, neu gyfeiriad gwefan Galw Iechyd Cymru, ar gael i gleifion drwy'r llinell gofal teleffon honno.

(6At ddibenion y paragraff hwn—

ystyr “cyfnodau y tu allan i oriau” (“out of hours periods”), mewn perthynas â phob un o'r mangreoedd y mae contractwr cyfarpar GIG wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau fferyllol ohonynt, yw'r cyfnodau y tu allan i'r cyfnodau pan fo'r contractwr cyfarpar GIG dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn rhinwedd paragraff 12;

ystyr “cyngor clinigol arbenigol” (“expert clinical advice”), mewn perthynas â chyfarpar penodedig yw cyngor a roddir gan berson sydd wedi ei hyfforddi'n briodol ac sydd â phrofiad perthnasol mewn cysylltiad â'r cyfarpar.

Cyfeirio defnyddwyr

11.—(1Os na all contractwr cyfarpar GIG, pan gyflwynir ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy ddarparu cyfarpar neu addasu cyfarpar stoma, oherwydd nad yw darparu'r cyfarpar neu addasu yng nghwrs busnes arferol y contractwr cyfarpar GIG, rhaid iddo—

(a)os yw'r claf yn cydsynio, atgyfeirio'r ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy at gontractwr cyfarpar GIG neu fferyllydd GIG arall; ac

(b)os nad yw'r claf yn cydsynio ag atgyfeirio, darparu i'r claf fanylion cyswllt dau, o leiaf, o bobl sy'n fferyllwyr GIG neu'n gontractwyr cyfarpar GIG gyda'r gallu i ddarparu'r cyfarpar neu'r addasiad cyfarpar stoma (yn ôl fel y digwydd), os yw'r manylion hynny'n hysbys i'r contractwr cyfarpar GIG.

(2Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, mewn achosion priodol, gadw a chynnal cofnod o unrhyw wybodaeth a roddir neu atgyfeiriad a wneir o dan is-baragraff (1), a rhaid i'r cofnod hwnnw fod mewn ffurf sy'n hwyluso—

(a)cynnal archwiliad o'r ddarpariaeth o wasanaethau fferyllol gan y contractwr cyfarpar GIG; a

(b)gofal dilynol i'r person y rhoddwyd yr wybodaeth iddo neu y gwnaed yr atgyfeiriad mewn perthynas ag ef.

Oriau agor: cyffredinol

12.—(1Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG sicrhau y darperir gwasanaethau fferyllol ym mhob mangre y mae'r contractwr cyfarpar GIG wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau fferyllol ohoni—

(a)am ddim llai na 30 awr bob wythnos;

(b)os yw'r Bwrdd Iechyd Lleol y cynhwysir y contractwr cyfarpar GIG yn ei restr fferyllol, neu Weinidogion Cymru yn dilyn apêl, wedi cyfarwyddo (naill ai o dan yr Atodlen hon neu Atodlen 2A i Reoliadau 1992) y caiff y contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre am lai na 30 awr yr wythnos ar yr amod y darperir y gwasanaethau hynny ar amseroedd penodol ac ar ddiwrnodau penodol, ar yr amseroedd ac ar y diwrnodau a bennwyd felly;

(c)os yw'r Bwrdd Iechyd Lleol y cynhwysir y contractwr cyfarpar GIG yn ei restr fferyllol, neu Weinidogion Cymru yn dilyn apêl, wedi cyfarwyddo (naill ai o dan yr Atodlen hon neu Ran 3 o Atodlen 1) fod rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre am fwy na 30 awr yr wythnos ac ar amseroedd penodol ac ar ddiwrnodau penodol, ar yr amseroedd ac ar y diwrnodau a bennwyd felly; neu

(d)os yw'r Bwrdd Iechyd Lleol y cynhwysir y contractwr cyfarpar GIG yn ei restr fferyllol, neu Weinidogion Cymru yn dilyn apêl, wedi cyfarwyddo o dan yr Atodlen hon fod rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre am fwy na 30 awr bob wythnos—

(i)am y cyfanswm oriau bob wythnos sy'n ofynnol yn rhinwedd y cyfarwyddyd hwnnw, a

(ii)o ran yr oriau ychwanegol y gwneir yn ofynnol bod y contractwr cyfarpar GIG yn darparu gwasanaethau fferyllol yn rhinwedd y cyfarwyddyd hwnnw, ar y diwrnodau ac ar yr amseroedd y mae'n ofynnol bod y contractwr cyfarpar GIG yn darparu gwasanaethau fferyllol yn ystod yr oriau ychwanegol hynny, fel a bennir yn y cyfarwyddyd hwnnw,

ond caiff Bwrdd Iechyd Lleol, mewn amgylchiadau priodol, gytuno i atal gwasanaethau dros dro am gyfnod penodedig, os yw wedi cael 3 mis o rybudd o'r bwriad i atal y gwasanaeth dros dro.

(2Ym mhob un o'r mangreoedd y mae contractwr cyfarpar GIG wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau fferyllol ohonynt, rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG arddangos hysbysiad sy'n pennu'r diwrnodau a'r amseroedd y bydd y fangre ar agor ar gyfer darparu cyfarpar.

(3Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, os gofynnir iddo, gyflwyno datganiad i'r Bwrdd Iechyd Lleol sy'n nodi—

(a)y diwrnodau a'r amseroedd y darperir gwasanaethau fferyllol ym mhob un o'r mangreoedd yr ymrwymodd y contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol ohonynt (gan gynnwys yr amseroedd y darperir gwasanaethau fferyllol pan nad yw'r contractwr cyfarpar GIG dan rwymedigaeth i wneud hynny yn rhinwedd is-baragraff (1)); a

(b)y gwasanaethau fferyllol y mae'r contractwr cyfarpar GIG fel arfer yn eu darparu ym mhob un o'r mangreoedd hynny.

(4Os yw contractwr cyfarpar GIG yn newid—

(a)y diwrnodau neu'r amseroedd y mae gwasanaethau fferyllol i'w darparu o fangre yr ymrwymodd y contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol ohoni; neu

(b)y gwasanaethau fferyllol y mae contractwr cyfarpar GIG fel arfer i'w darparu yn y fangre honno,

rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG gyflenwi datganiad i'r Bwrdd Iechyd Lleol, i roi gwybod iddo am y newid.

(5Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), os rhwystrir contractwr cyfarpar GIG, gan salwch neu achos rhesymol arall, rhag cydymffurfio â'i rwymedigaethau o dan is-baragraff (1), rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG, pan fo'n ymarferol, wneud trefniadau gydag un neu ragor o gontractwyr cyfarpar GIG, fferyllwyr GIG neu ddarparwyr gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot sydd â'u mangreoedd wedi'u lleoli yn y gymdogaeth, ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau fferyllol lleol yn ystod y cyfnod hwnnw.

(6Ni chaiff contractwr cyfarpar GIG wneud trefniant gyda darparwr gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot o dan is-baragraff (5) ac eithrio pan fo'r darparwr hwnnw yn darparu gwasanaethau fferyllol lleol cyffelyb o ran disgrifiad a maint i'r gwasanaethau fferyllol a ddarperir fel arfer gan y contractwr cyfarpar GIG.

(7Pan fo'r ddarpariaeth o wasanaethau fferyllol gan gontractwr cyfarpar GIG wedi ei hatal dros dro am reswm sydd y tu hwnt i reolaeth y contractwr cyfarpar GIG, ni fydd y contractwr cyfarpar GIG wedi torri is-baragraffau (1) a (2), ar yr amod ei fod—

(a)yn hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol o'r ataliad hwnnw cyn gynted ag y bo'n ymarferol; a

(b)yn gwneud pob ymdrech resymol i ailddechrau darparu gwasanaethau fferyllol cyn gynted ag y bo'n ymarferol.

(8Nid yw gwaith a gynlluniwyd ymlaen llaw i ailwampio mangre yn “achos rhesymol” at ddibenion is-baragraff (5) nac yn “rheswm sydd y tu hwnt i reolaeth y contractwr cyfarpar GIG” at ddibenion is-baragraff (7).

(9At y dibenion o gyfrifo'r nifer o oriau y mae mangre ar agor yn ystod wythnos sy'n cynnwys Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith, Sul y Pasg neu ŵyl banc, rhaid ystyried bod y fangre ar agor ar y diwrnod hwnnw yn ystod yr amseroedd y byddai wedi bod ar agor fel arfer ar y diwrnod hwnnw o'r wythnos.

(10Yn yr Atodlen hon, yr “oriau ychwanegol” (“additional hours”) pan wneir yn ofynnol bod contractwr cyfarpar GIG yn darparu gwasanaethau fferyllol yw'r oriau hynny pan na fyddai'r contractwr cyfarpar GIG yn darparu gwasanaethau fferyllol, pe bai'r contractwr cyfarpar GIG yn ddarostyngedig i'r amod a bennir yn is-baragraff (1)(a) ac nid yr amod a bennir yn is-baragraff (1)(d).

(11Er gwaethaf darpariaethau paragraffau 13 i 16, yn ystod argyfwng pan yw'n ofynnol darparu gwasanaethau fferyllol mewn ffordd hyblyg, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol, os gwneir cais gan gontractwr cyfarpar GIG, ganiatáu i'r contractwr cyfarpar GIG newid dros dro y diwrnodau neu'r amseroedd pan fo'r contractwr cyfarpar GIG dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre yr ymrwymodd i ddarparu gwasanaethau fferyllol ohoni, neu ganiatáu cau'r fangre honno dros dro—

(a)os rhoddir 24 awr, o leiaf, o rybudd gan y contractwr cyfarpar GIG o'r newid neu'r cau; a

(b)os yw'r rhesymau a roddir gan y contractwr cyfarpar GIG dros wneud y cais yn rhesymau digonol ym marn y Bwrdd Iechyd Lleol.

(12Nid oes angen i'r Bwrdd Iechyd Lleol gymeradwyo'r cais y cyfeirir ato yn is-baragraff (11) ymlaen llaw cyn y newid neu'r cau, ac os nad yw'r Bwrdd yn cymeradwyo ymlaen llaw, ond yn penderfynu yn ddiweddarach nad yw rhesymau'r contractwr cyfarpar GIG, ym marn y Bwrdd, yn rhesymau digonol, yna rhaid i'r diwrnodau neu'r amseroedd y mae'r contractwr cyfarpar GIG dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre ddychwelyd i'r hyn oeddent cyn eu disodli, o'r diwrnod ar ôl y dyddiad yr hysbysir y contractwr cyfarpar GIG o'r penderfyniad hwnnw.

Materion i'w hystyried wrth ddyroddi cyfarwyddiadau mewn perthynas ag oriau agor

13.—(1Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn dyroddi cyfarwyddyd sy'n pennu unrhyw ddiwrnodau neu amseroedd o dan yr Atodlen hon, rhaid iddo, wrth wneud hynny, geisio sicrhau bod yr oriau pan fydd mangre ar agor i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn rhai sy'n sicrhau y darperir y gwasanaethau fferyllol ar y cyfryw ddiwrnodau ac amseroedd sy'n angenrheidiol er mwyn bodloni anghenion pobl y gymdogaeth, neu ddefnyddwyr tebygol eraill y fangre, am wasanaethau fferyllol.

(2Wrth ystyried y materion a grybwyllir yn is-baragraff (1)—

(a)rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol drin unrhyw wasanaethau fferyllol lleol a ddarperir yn y gymdogaeth honno ar y diwrnodau ac amseroedd dan sylw fel pe baent yn wasanaethau fferyllol a ddarperid felly; a

(b)caiff y Bwrdd Iechyd Lleol roi sylw i unrhyw wasanaethau fferyllol a ddarperir yn y gymdogaeth honno mewn amgylchiadau pan nad oes rhwymedigaeth ar y person sy'n eu darparu i ddarparu'r gwasanaethau hynny.

(3Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol roi cyfarwyddyd y caiff contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre am lai na 30 awr yn ystod unrhyw wythnos, oni fodlonir y Bwrdd Iechyd Lleol fod y trefniadau ar gyfer cyflenwi cyfarpar yn y gymdogaeth yn debygol o fod yn ddigonol i ddiwallu'r angen am wasanaethau o'r fath ar yr adegau pan na fydd y contractwr cyfarpar GIG yn darparu gwasanaethau fferyllol.

(4Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol roi cyfarwyddyd bod rhaid i gontractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre am fwy na 30 awr yn ystod unrhyw wythnos, oni fodlonir y Bwrdd Iechyd Lleol y bydd y contractwr cyfarpar GIG yn cael cydnabyddiaeth ariannol resymol am yr oriau ychwanegol y gofynnir iddo ddarparu gwasanaethau fferyllol (a bydd unrhyw gydnabyddiaeth ariannol ychwanegol sy'n daladwy o dan y Tariff Cyffuriau mewn perthynas â'r oriau hynny yn “gydnabyddiaeth ariannol resymol” at y dibenion hyn).

Penderfyniad ynghylch oriau agor a ysgogir gan y Bwrdd Iechyd Lleol

14.—(1Os yw'n ymddangos i'r Bwrdd Iechyd Lleol, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Fferyllol Lleol neu ar ôl ystyried y mater ar gais y Pwyllgor hwnnw, nad yw, neu na fydd, y diwrnodau neu'r amseroedd pan fo, neu pan fydd mangre ar agor i ddarparu cyfarpar bellach yn bodloni anghenion—

(a)y bobl yn y gymdogaeth; neu

(b)defnyddwyr tebygol eraill mangre'r contractwr cyfarpar GIG,

ar gyfer cyflenwi cyfarpar, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol asesu a ddylid dyroddi cyfarwyddyd sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y contractwr cyfarpar GIG yn darparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre ar amseroedd penodedig ac ar ddiwrnodau penodedig (gan gynnwys, o bosibl, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith, Sul y Pasg a gwyliau banc).

(2Cyn cwblhau'r asesiad o dan is-baragraff (1) rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)rhoi hysbysiad i'r contractwr cyfarpar GIG o unrhyw newidiadau arfaethedig yn y diwrnodau neu'r amseroedd y mae'r fangre i fod ar agor; a

(b)caniatáu cyfnod o 60 diwrnod i'r contractwr cyfarpar GIG ar gyfer cyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Bwrdd Iechyd Lleol ynglŷn â'r newidiadau arfaethedig.

(3Ar ôl ystyried unrhyw sylwadau a wneir yn unol ag is-baragraff (2)(b), rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)dyroddi cyfarwyddyd (a fydd yn disodli unrhyw gyfarwyddyd presennol) sy'n bodloni gofynion is-baragraffau (4) a (5); neu

(b)cadarnhau unrhyw gyfarwyddyd presennol mewn perthynas â pha ddiwrnodau ac amseroedd y mae'n rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre, ar yr amod y byddai'r cyfarwyddyd presennol, boed wedi ei ddyroddi o dan yr Atodlen hon neu Atodlen 2A i Reoliadau 1992, yn bodloni gofynion is-baragraffau (4) a (5) pe bai wedi ei ddyroddi o dan y paragraff hwn; neu

(c)naill ai—

(i)dirymu (heb ei amnewid) unrhyw gyfarwyddyd presennol mewn perthynas â pha ddiwrnodau ac amseroedd y mae'n rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre, boed wedi ei ddyroddi o dan yr Atodlen hon neu Atodlen 2A i Reoliadau 1992, neu

(ii)mewn achos pan nad oes cyfarwyddyd presennol, peidio â dyroddi unrhyw gyfarwyddyd,

ac mewn achos o'r fath, yn rhinwedd paragraff 12(1)(a), rhaid i'r fangre fod ar agor am ddim llai na 30 o oriau bob wythnos.

(4Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn dyroddi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (3), mewn perthynas â mangre y mae'n ofynnol iddi fod ar agor—

(a)am fwy na 30 awr bob wythnos, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol, yn y cyfarwyddyd hwnnw, bennu—

(i)cyfanswm nifer yr oriau bob wythnos y mae'n rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre, a

(ii)ynglŷn â'r oriau ychwanegol y mae'n rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol, ar ba ddiwrnodau ac ar ba amseroedd y bydd yn ofynnol i'r contractwr cyfarpar GIG ddarparu'r gwasanaethau hynny yn ystod yr oriau ychwanegol hynny,

ond rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol, yn y cyfarwyddyd hwnnw, beidio â phennu ar ba ddiwrnodau nac ar ba amseroedd y mae'r contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn ystod oriau nad ydynt yn oriau ychwanegol; neu

(b)am lai na 30 awr bob wythnos, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol, yn y cyfarwyddyd hwnnw, bennu ar ba ddiwrnodau ac ar ba amseroedd y mae gwasanaethau fferyllol i'w darparu yn y fangre honno.

(5Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol beidio â dyroddi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (3) os ei effaith, yn syml, yw ei gwneud yn ofynnol bod mangre ar agor am 30 awr bob wythnos ar ddiwrnodau penodedig ac ar amseroedd penodedig (hynny yw, rhaid i'r cyfarwyddyd gael yr effaith o wneud yn ofynnol bod y fangre ar agor am naill ai mwy neu lai na 30 awr bob wythnos).

(6Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r contractwr cyfarpar GIG, mewn ysgrifen, o unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddir, neu unrhyw gam arall a gymerir, o dan is-baragraff (3), ac os yw'r cyfarwyddyd yn pennu diwrnodau newydd neu amseroedd newydd y mae contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol gynnwys gyda'r hysbysiad ddatganiad o'r canlynol—

(a)y rhesymau am y newid; a

(b)hawl y contractwr cyfarpar GIG i apelio o dan is-baragraff (7).

(7Caiff contractwr cyfarpar GIG, o fewn 30 diwrnod ar ôl cael hysbysiad o dan is-baragraff (6), apelio mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru yn erbyn unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddwyd neu unrhyw gam arall a gymerwyd o dan is-baragraff (3), sy'n pennu diwrnodau newydd neu amseroedd newydd y mae contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol.

(8Caiff Gweinidogion Cymru, wrth benderfynu apêl, naill ai gadarnhau'r cam a gymerwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu gymryd unrhyw gam y gallai'r Bwrdd Iechyd Lleol fod wedi ei gymryd o dan is-baragraff (3).

(9Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r contractwr cyfarpar GIG o'u penderfyniad o dan is-baragraff (8) a rhaid iddynt, ym mhob achos, gynnwys gyda'r hysbysiad ddatganiad ysgrifenedig o'r rhesymau dros y penderfyniad.

(10Os yw'r diwrnodau neu'r amseroedd y mae contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre wedi eu newid yn unol â'r paragraff hwn, rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG gyflwyno'r newidiadau—

(a)os nad yw'r contractwr cyfarpar GIG wedi apelio o dan is-baragraff (7), ddim hwyrach nag 8 wythnos ar ôl y dyddiad y mae'r contractwr cyfarpar GIG yn cael hysbysiad o dan is-baragraff (6); neu

(b)os yw'r contractwr cyfarpar GIG wedi apelio o dan is-baragraff (7), ddim hwyrach nag 8 wythnos ar ôl y dyddiad y mae'r contractwr cyfarpar GIG yn cael hysbysiad o dan is-baragraff (9).

Penderfyniad ynghylch oriau agor a ysgogir gan y contractwr cyfarpar GIG

15.—(1Caiff contractwr cyfarpar GIG wneud cais i Fwrdd Iechyd Lleol mewn ysgrifen, gan roi 90 diwrnod o rybudd, am i'r Bwrdd newid y diwrnodau neu'r amseroedd y mae'r contractwr cyfarpar GIG dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn ei fangre, mewn ffordd sy'n—

(a)lleihau cyfanswm nifer yr oriau y mae'r contractwr cyfarpar GIG dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol bob wythnos; neu

(b)yn cadw cyfanswm nifer yr oriau hynny yn ddigyfnewid.

(2Pan fo contractwr cyfarpar GIG yn gwneud cais o dan is-baragraff (1), rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG, yn rhan o'r cais hwnnw, ddarparu i'r Bwrdd Iechyd Lleol pa bynnag wybodaeth y gofynnir amdani yn rhesymol gan y Bwrdd Iechyd Lleol ynghylch unrhyw newidiadau yn anghenion pobl y gymdogaeth, neu ddefnyddwyr tebygol eraill y fangre, am wasanaethau fferyllol sy'n berthnasol i'r cais.

(3Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu cais o dan is-baragraff (1) o fewn 60 diwrnod ar ôl cael y cais (gan gynnwys unrhyw wybodaeth sy'n ofynnol gan y ceisydd yn unol ag is-baragraff (2)).

(4Wrth benderfynu'r cais, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)dyroddi cyfarwyddyd (a fydd yn disodli unrhyw gyfarwyddyd presennol) sy'n bodloni gofynion is-baragraffau (5) a (6) ac yn cael yr effaith naill ai o ganiatáu'r cais o dan y paragraff hwn neu ei ganiatáu yn rhannol yn unig;

(b)cadarnhau unrhyw gyfarwyddyd presennol mewn perthynas â pha ddiwrnodau ac amseroedd y mae'n rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre, ar yr amod y byddai'r cyfarwyddyd presennol, boed wedi ei ddyroddi o dan yr Atodlen hon neu o dan Reoliadau 1992, yn bodloni gofynion is-baragraffau (5) a (6); neu

(c)naill ai—

(i)dirymu (heb ei amnewid) unrhyw gyfarwyddyd presennol mewn perthynas â pha ddiwrnodau ac amseroedd y mae'n rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre, boed y cyfarwyddyd wedi ei ddyroddi o dan yr Atodlen hon neu o dan Reoliadau 1992, pan fo hyn yn cael yr effaith naill ai o ganiatáu'r cais o dan y paragraff hwn neu ei ganiatáu yn rhannol yn unig, neu

(ii)mewn achos pan nad oes cyfarwyddyd presennol, peidio â dyroddi unrhyw gyfarwyddyd,

ac mewn achos o'r fath, yn rhinwedd paragraff 12(1)(a), rhaid i'r fangre fod ar agor am ddim llai na 30 o oriau bob wythnos.

(5Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn dyroddi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (4), mewn perthynas â mangre y mae'n ofynnol iddi fod ar agor—

(a)am fwy na 30 awr bob wythnos, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol, yn y cyfarwyddyd hwnnw, bennu—

(i)cyfanswm nifer yr oriau bob wythnos y mae'n rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre, a

(ii)ynglŷn â'r oriau ychwanegol y mae'r contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol, ar ba ddiwrnodau ac ar ba amseroedd y mae'n ofynnol i'r contractwr cyfarpar GIG ddarparu'r gwasanaethau hynny yn ystod yr oriau ychwanegol hynny,

ond rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol, yn y cyfarwyddyd hwnnw, beidio â phennu ar ba ddiwrnodau ac ar ba amseroedd y mae'r contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn ystod oriau nad ydynt yn oriau ychwanegol; neu

(b)am lai na 30 awr bob wythnos, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol, yn y cyfarwyddyd hwnnw, bennu ar ba ddiwrnodau ac amseroedd y mae gwasanaethau fferyllol i'w darparu yn y fangre honno.

(6Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol beidio â dyroddi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (4) os ei effaith, yn syml, yw ei gwneud yn ofynnol bod mangre ar agor am 30 awr bob wythnos ar ddiwrnodau penodedig ac ar amseroedd penodedig (hynny yw, rhaid i'r cyfarwyddyd gael yr effaith o wneud yn ofynnol bod y fangre ar agor am naill ai mwy neu lai na 30 awr bob wythnos).

(7Pan fo'r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried gweithredu o dan is-baragraff (4)(a) neu (c)(i), rhaid iddo ymgynghori â'r Pwyllgor Fferyllol Lleol cyn penderfynu'r cais.

(8Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r contractwr cyfarpar GIG o unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddir, neu unrhyw gam arall a gymerir, o dan is-baragraff (4), ac os effaith hynny yw gwrthod cais a wnaed o dan y paragraff hwn, neu ei ganiatáu yn rhannol, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol anfon datganiad at y contractwr cyfarpar GIG, sy'n nodi—

(a)y rhesymau am y gwrthodiad neu, yn ôl fel y digwydd, am ganiatáu y cais yn rhannol yn unig; a

(b)hawl y contractwr cyfarpar GIG i apelio o dan is-baragraff (9).

(9Caiff contractwr cyfarpar GIG, o fewn 30 diwrnod ar ôl cael hysbysiad yn unol ag is-baragraff (8), apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn unrhyw weithred o dan is-baragraff (4) sy'n cael yr effaith o wrthod cais o dan y paragraff hwn neu ei ganiatáu yn rhannol yn unig.

(10Caiff Gweinidogion Cymru, wrth benderfynu apêl, naill ai gadarnhau'r cam a gymerwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu gymryd unrhyw gam y gallai'r Bwrdd Iechyd Lleol fod wedi ei gymryd o dan is-baragraff (4).

(11Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r contractwr cyfarpar GIG o'u penderfyniad mewn ysgrifen a rhaid iddynt, ym mhob achos, gynnwys gyda'r hysbysiad ddatganiad ysgrifenedig o'r rhesymau dros y penderfyniad.

(12Os yw'r diwrnodau neu'r amseroedd y mae'r contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre wedi eu newid yn unol â'r paragraff hwn, rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG gyflwyno'r newidiadau—

(a)os nad yw'r contractwr cyfarpar GIG wedi apelio o dan is-baragraff (9), ddim cynharach nag 30 diwrnod ar ôl y dyddiad y mae'r contractwr cyfarpar GIG yn cael hysbysiad o dan is-baragraff (4); neu

(b)os yw'r contractwr cyfarpar GIG wedi apelio o dan is-baragraff (9), ddim cynharach nag 30 diwrnod ar ôl y dyddiad y mae'r contractwr cyfarpar GIG yn cael hysbysiad o dan is-baragraff (11).

Llywodraethu clinigol

16.—(1Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, mewn cysylltiad â'r holl wasanaethau a ddarperir ganddo, gyfranogi mewn system dderbyniol o lywodraethu clinigol, yn y modd y gofynnir iddo yn rhesymol gan y Bwrdd Iechyd Lleol y mae'r contractwr cyfarpar GIG wedi ei gynnwys ar ei restr fferyllol.

(2Mae system o lywodraethu clinigol yn “dderbyniol” os yw'n darparu ar gyfer—

(a)cydymffurfiaeth â'r cydrannau llywodraethu clinigol a bennir yn is-baragraff (3), a

(b)cyflwyno hunanasesiad blynyddol o'r gydymffurfiaeth (hyd at lefel gymeradwy) â'r cydrannau llywodraethu clinigol hynny, drwy gyfrwng trefniadau cyflwyno data cymeradwy sy'n caniatáu i'r Bwrdd Iechyd Lleol gael mynediad i'r asesiad hwnnw.

(3Y cydrannau llywodraethu clinigol yw'r canlynol—

(a)rhaglen ar gyfer cynnwys y cleifion a'r cyhoedd, sy'n cynnwys—

(i)gofyniad bod y contractwr cyfarpar GIG yn paratoi, mewn ffordd gymeradwy, ac yn rhoi ar gael, mewn ffordd briodol, taflen ymarfer mewn perthynas â phob mangre y mae'r contractwr cyfarpar GIG yn darparu gwasanaethau fferyllol ohoni,

(ii)gofyniad bod y contractwr cyfarpar GIG yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r gwasanaethau GIG sydd ar gael yn, neu o'r, fangre y mae'r contractwr cyfarpar GIG yn darparu gwasanaethau ohoni,

(iii)gofyniad bod y contractwr cyfarpar GIG, wrth roi cyhoeddusrwydd i'r gwasanaethau GIG sydd ar gael yn, neu o'r, fangre y mae'r contractwr cyfarpar GIG yn darparu gwasanaethau ohoni (pa un a yw'r contractwr cyfarpar GIG yn paratoi ei ddeunyddiau cyhoeddusrwydd ei hunan, ynteu'n hysbysebu'r gwasanaethau mewn deunydd a gyhoeddir gan berson arall), yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n dangos yn eglur mai fel rhan o'r gwasanaeth iechyd y cyllidir y gwasanaethau,

(iv)gofyniad bod y contractwr cyfarpar GIG yn cynnal arolwg cymeradwy o foddhad y cleifion yn flynyddol, gan wneud hynny mewn ffordd a gymeradwyir, a chan gynnwys gofyniad i roi cyhoeddusrwydd i ganlyniadau'r arolwg ac i unrhyw gamau priodol y mae'r contractwr cyfarpar GIG yn bwriadu eu cymryd,

(v)trefniadau ar gyfer monitro cyfarpar sy'n ddyledus i gleifion ond nad ydynt mewn stoc,

(vi)system gwynion gymeradwy (sy'n bodloni gofynion y Rhan hon),

(vii)gofyniad bod y contractwr cyfarpar GIG yn cydweithredu'n briodol gydag ymweliadau'r Cyngor Iechyd Cymuned lleol ac yn cymryd camau priodol o ganlyniad i ymweliadau o'r fath,

(viii)gofyniad bod y contractwr cyfarpar GIG yn cydweithredu'n briodol gydag unrhyw arolygiad neu adolygiad rhesymol y mae'r Bwrdd Iechyd Lleol neu unrhyw awdurdod statudol perthnasol yn dymuno'i gynnal, a

(ix)trefniadau ar gyfer monitro cydymffurfiaeth â Deddf Cydraddoldeb 2010(14);

(b)rhaglen o archwiliadau clinigol (pum diwrnod, fel arfer), sy'n cynnwys o leiaf un archwiliad mewn mangre ac un archwiliad amlddisgyblaethol a gytunir gyda'r Bwrdd Iechyd Lleol ym mhob blwyddyn ariannol;

(c)rhaglen rheoli risg, sy'n cynnwys—

(i)trefniadau i sicrhau bod yr holl stoc yn cael ei drafod mewn ffordd briodol,

(ii)trefniadau i sicrhau bod yr holl gyfarpar a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn cael ei gynnal yn briodol,

(iii)system gymeradwy o adrodd am ddigwyddiadau, ynghyd â threfniadau ar gyfer dadansoddi ac ymateb i ddigwyddiadau critigol, sy'n cynnwys y canlynol—

(aa)cofnod o ddigwyddiadau diogelwch cleifion, a

(bb)cofnod o ddigwyddiadau 'croen dannedd',

(iv)trefniadau, sy'n cynnwys trefniadau cadw cofnodion, i ymdrin yn briodol ac yn brydlon â chyfathrebiadau ynglŷn â diogelwch cleifion oddi wrth Weinidogion Cymru, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd a Bwrdd Comisiynu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol,

(v)trefniadau gweithredu safonol priodol, gan gynnwys trefniadau gweithredu safonol mewn perthynas â phresgripsiynau amlroddadwy a darparu cyngor a chymorth i bobl sy'n gofalu amdanynt eu hunain neu eu teuluoedd,

(vi)trefniadau gwaredu priodol ar gyfer gwastraff clinigol a chyfrinachol,

(vii)arweinydd llywodraethu clinigol ar gyfer pob mangre y mae'r contractwr cyfarpar GIG yn darparu gwasanaethau ohoni, sy'n wybodus ynglŷn â'r naill a'r llall o weithdrefnau'r contractwr cyfarpar GIG a'r gwasanaethau GIG eraill sydd ar gael yn yr ardal,

(viii)gweithdrefnau priodol ar gyfer amddiffyn plant, a

(ix)trefniadau ar gyfer monitro cydymffurfiaeth â Deddf Iechyd a Diogelwch etc. 1974(15);

(d)rhaglen effeithiolrwydd clinigol, sy'n cynnwys trefniadau i sicrhau y rhoddir cyngor priodol gan y contractwr cyfarpar GIG—

(i)mewn perthynas â darparu cyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, neu

(ii)i bobl sy'n gofalu amdanynt eu hunain neu eu teuluoedd,

a threfniadau i sicrhau bod y contractwr cyfarpar GIG, wrth roi cyngor i unrhyw glaf ar fater a grybwyllir ym mharagraff (d)(i), yn rhoi sylw i'r manylion a gynhwysir yn y cofnodion a gynhelir o dan baragraff 9(1)(f) mewn perthynas â'r ddarpariaeth o gyfarpar a'r patrwm presgripsiynu ar gyfer y claf dan sylw;

(e)rhaglen staffio a rheoli staff, sy'n cynnwys—

(i)trefniadau i ddarparu hyfforddiant ymsefydlu priodol i aelodau o'r staff gan gynnwys unrhyw locwm,

(ii)hyfforddiant priodol i'r holl staff ar gyfer pa bynnag rôl y gofynnir iddynt ei chyflawni,

(iii)trefniadau i wirio cymwysterau a geirdaon yr holl staff sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau GIG,

(iv)trefniadau ar gyfer canfod a chefnogi anghenion datblygu pob aelod o'r staff sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau yn rhan o'r gwasanaeth iechyd, gan gynnwys datblygiad proffesiynol parhaus i fferyllwyr cofrestredig ac unrhyw achredu sydd ei angen mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau cyfeiriedig,

(v)trefniadau ar gyfer mynd i'r afael â pherfformiad gwael (ar y cyd â'r Bwrdd Iechyd Lleol fel y bo'n briodol), a

(vi)trefniadau (y mae'n rhaid iddynt gynnwys polisi ysgrifenedig) i sicrhau bod yr holl staff gan gynnwys unrhyw locwm sydd, o ganlyniad i'w cyflogaeth gyda'r contractwr cyfarpar GIG—

(aa)yn gwneud yr hyn sy'n ddatgeliad gwarchodedig o fewn yr ystyr a roddir i “protected disclosure” yn adran 43A o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(16) (ystyr datgeliad gwarchodedig), yn cael yr hawliau a roddir mewn perthynas â datgeliadau o'r fath gan y Ddeddf honno, a

(bb)yn darparu gwybodaeth yn ddidwyll ac nid er eu budd personol, i'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol neu i Fwrdd Iechyd Lleol, sy'n cynnwys honiad difrifol ei natur, y credant yn rhesymol ei fod yn wir o ran ei sylwedd er nad yw datgeliad ohono yn ddatgeliad gwarchodedig o fewn yr ystyr a roddir i “protected disclosure” yn adran 43A, yn cael yr hawl i beidio â dioddef unrhyw anfantais neu ddioddef eu diswyddo o ganlyniad i'r weithred honno;

(f)rhaglen lywodraethu gwybodaeth, sy'n darparu ar gyfer—

(i)cydymffurfio â gweithdrefnau cymeradwy ar gyfer rheoli a diogelu gwybodaeth, a

(ii)cyflwyno hunanasesiad blynyddol o'r gydymffurfiaeth (hyd at lefel gymeradwy) â'r gweithdrefnau hynny, drwy gyfrwng trefniadau cyflwyno data cymeradwy sy'n caniatáu i'r Bwrdd Iechyd Lleol gael mynediad i'r asesiad hwnnw; ac

(g)rhaglen safonau mangre sy'n cynnwys—

(i)system ar gyfer cynnal glanweithdra yn y fangre y mae'r contractwr cyfarpar GIG yn darparu gwasanaethau ohoni, sydd wedi ei chynllunio er mwyn sicrhau lleihau, mewn ffordd gymesur, y risg i bobl yn y fangre o'u heintio drwy gael gofal iechyd, a

(ii)trefniadau ar gyfer gwahanu'n eglur rhwng y mannau hynny yn y fangre sy'n amgylchedd gofal iechyd priodol (lle mae cleifion yn cael gwasanaethau GIG) a'r mannau hynny nad ydynt yn amgylchedd gofal iechyd.

Safonau proffesiynol

17.  Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol, ac arfer unrhyw farn broffesiynol mewn cysylltiad â darparu'r gwasanaethau hynny, mewn cydymffurfiaeth â'r safonau a dderbynnir yn gyffredinol yn y proffesiwn fferyllol.

Cymhellion

18.—(1Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG ac unrhyw berson a gyflogir, neu a gymerwyd ymlaen, gan gontractwr cyfarpar GIG, beidio â rhoi, addo na chynnig, i unrhyw berson, unrhyw rodd neu wobr (boed ar ffurf cyfran o elw'r busnes, neu ddifidend ar yr elw hwnnw, neu ar ffurf disgownt neu ad-daliad, neu rywfodd arall) fel cymhelliad neu gydnabyddiaeth i'r person arall gyflwyno archeb am gyfarpar ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy.

(2Nid yw addo, cynnig neu ddarparu gwasanaeth danfon gartref yn “rhodd neu wobr” at ddibenion is-baragraff (1).

(3Ni chaiff contractwr cyfarpar GIG, nac unrhyw berson a gyflogir neu a gymerwyd ymlaen gan gontractwr cyfarpar GIG, dderbyn na chael unrhyw rodd neu wobr mewn perthynas, yn unig, ag—

(a)darparu manylion cyswllt fferyllwyr GIG neu gontractwyr cyfarpar GIG amgen yn unol â pharagraff 9(2)(b), 10(4) neu 11(1)(b); neu

(b)atgyfeirio ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy at gontractwr cyfarpar GIG neu fferyllydd GIG arall yn unol â pharagraff 9(2)(a) neu 11(1)(a) heb ddarparu unrhyw wasanaeth ychwanegol mewn cysylltiad â'r eitem ar y presgripsiwn hwnnw.

Dyletswydd i ddarparu gwybodaeth am faterion addasrwydd i ymarfer wrth i'r materion godi

19.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff 20, rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, ac os yw'r contractwr cyfarpar GIG yn gorff corfforaethol, pob cyfarwyddwr y corff corfforaethol, hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol mewn ysgrifen, o fewn 7 diwrnod ar ôl y digwyddiad, os yw'r contractwr cyfarpar GIG neu gyfarwyddwr—

(a)yn cael ei gollfarnu am unrhyw drosedd yn y Deyrnas Unedig;

(b)yn cael ei rwymo yn dilyn collfarn droseddol yn y Deyrnas Unedig;

(c)yn derbyn rhybuddiad gan yr heddlu yn y Deyrnas Unedig;

(d)mewn achos diannod yn yr Alban mewn perthynas â throsedd, wedi bod yn destun gorchymyn i'w ryddhau'n ddiamod (heb fynd ymlaen i'w gollfarnu);

(e)wedi derbyn a chytuno i dalu naill ai dirwy procuradur ffisgal o dan adran 302 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(17) (cosb benodedig: cynnig amodol gan brocuradur ffisgal) neu gosb o dan adran 115A o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992(18) (cosb fel dewis arall yn lle erlyn);

(f)yn cael ei gollfarnu mewn man arall am drosedd, neu'r hyn a fyddai'n drosedd pe bai wedi ei gyflawni yng Nghymru a Lloegr;

(g)yn cael ei gyhuddo o drosedd yn y Deyrnas Unedig, neu wedi ei gyhuddo mewn man arall o drosedd a fyddai wedi bod yn drosedd, pe bai wedi ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr;

(h)yn cael ei hysbysu am ganlyniad unrhyw ymchwiliad i'w ymddygiad proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall, a bod canfyddiad yn ei erbyn;

(i)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad i'w ymddygiad proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall;

(j)yn mynd yn destun ymchwiliad i'w ymddygiad proffesiynol mewn cysylltiad ag unrhyw gyflogaeth gyfredol neu flaenorol, neu'n cael ei hysbysu o ganlyniad unrhyw ymchwiliad o'r fath ac unrhyw ganfyddiad yn ei erbyn;

(k)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG mewn perthynas â thwyll;

(l)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad gan Fwrdd Iechyd Lleol arall neu gorff cyfatebol, a allai arwain at dynnu ymaith o restr berthnasol; neu

(m)ar sail ei addasrwydd i ymarfer, yn cael ei dynnu ymaith, ei dynnu yn ddigwyddiadol, neu ei atal dros dro o restr berthnasol, neu os gwrthodir mynediad iddo i restr o'r fath, neu os caiff ei gynnwys yn amodol mewn rhestr o'r fath,

ac os felly, rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG roi manylion am unrhyw ymchwiliad neu achos a gynhaliwyd neu sydd i'w gynnal, gan gynnwys natur yr ymchwiliad neu achos, ym mha le ac oddeutu pa bryd y cynhaliwyd neu y cynhelir yr ymchwiliad hwnnw neu'r achos hwnnw, ac unrhyw ganlyniad.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff 20, os yw person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo yn gyfarwyddwr corff corfforaethol, neu os oedd yn gyfarwyddwr corff corfforaethol ar adeg y digwyddiadau cychwynnol, rhaid iddo, yn ychwanegol, hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol o fewn 7 diwrnod os yw unrhyw gorff corfforaethol o'r fath—

(a)yn cael ei gollfarnu am unrhyw drosedd yn y Deyrnas Unedig;

(b)yn cael ei gollfarnu mewn man arall am drosedd, neu'r hyn a fyddai'n drosedd pe bai wedi ei gyflawni yng Nghymru a Lloegr;

(c)yn cael ei gyhuddo o drosedd yn y Deyrnas Unedig, neu wedi ei gyhuddo mewn man arall o drosedd a fyddai wedi bod yn drosedd, pe bai wedi ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr;

(d)yn cael ei hysbysu gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall am ganlyniad unrhyw ymchwiliad i'w ddarpariaeth o wasanaethau proffesiynol, a bod canfyddiad yn erbyn y corff corfforaethol;

(e)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad i'w ddarpariaeth o wasanaethau proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall;

(f)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad mewn perthynas â thwyll neu wedi ei hysbysu o ganlyniad unrhyw ymchwiliad o'r fath, a'r canlyniad hwnnw yn ei erbyn;

(g)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad gan Fwrdd Iechyd Lleol arall neu gorff cyfatebol, a allai arwain at dynnu ymaith y corff corfforaethol o restr berthnasol; neu

(h)ar sail ei addasrwydd i ymarfer, wedi ei dynnu ymaith, ei dynnu yn ddigwyddiadol, neu ei atal dros dro o restr berthnasol, neu os gwrthodwyd mynediad iddo i restr o'r fath, neu os yw wedi ei gynnwys yn amodol mewn rhestr o'r fath,

ac os felly, rhaid i'r person hwnnw roi enw'r corff corfforaethol a chyfeiriad ei swyddfa gofrestredig a manylion am unrhyw ymchwiliad neu achos a gynhaliwyd neu sydd i'w gynnal, gan gynnwys natur yr ymchwiliad neu achos, ym mha le ac oddeutu pa bryd y cynhaliwyd neu y cynhelir yr ymchwiliad hwnnw neu'r achos hwnnw, ac unrhyw ganlyniad.

(3Rhaid i berson y mae is-baragraff (1) neu (2) yn gymwys iddo gydsynio i'r Bwrdd Iechyd Lleol ofyn i unrhyw gyflogwr neu gyngyflogwr neu unrhyw gorff trwyddedu neu reoleiddio, yn y Deyrnas Unedig neu unrhyw le arall, am wybodaeth ynghylch ymchwiliad cyfredol neu ymchwiliad â chanlyniad anffafriol.

Bwrdd Iechyd Lleol cartref cyrff corfforaethol

20.  Os yw contractwr cyfarpar GIG yn gorff corfforaethol sydd â'i swyddfa gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, caiff ddarparu'r wybodaeth, sydd i'w darparu o dan baragraffau 19 a 23(3) i (6), yn hytrach i Fwrdd Iechyd Lleol cartref (fel y'i diffinnir yn rheoliad 46). Pan fo'r contractwr cyfarpar GIG yn darparu'r wybodaeth i'w Fwrdd Iechyd Lleol cartref, rhaid iddo ddarparu, i'r Bwrdd Iechyd Lleol cartref, fanylion hefyd o'r holl Fyrddau Iechyd Lleol eraill y cynhwysir y contractwr cyfarpar GIG yn eu rhestrau fferyllol.

Cwynion

21.  Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG fod wedi sefydlu trefniadau sy'n cydymffurfio â gofynion Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011, ar gyfer trin ac ystyried unrhyw bryderon neu gwynion ynghylch mater sy'n gysylltiedig â'r ddarpariaeth o wasanaethau fferyllol gan y contractwr cyfarpar GIG.

Gwasanaethau cyfeiriedig

22.  Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, y mae'r Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud trefniant gydag ef ar gyfer darparu unrhyw wasanaethau cyfeiriedig, gydymffurfio â thelerau ac amodau'r trefniant hwnnw.

Gwybodaeth sydd i'w chyflenwi

23.—(1Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG roi i'r Bwrdd Iechyd Lleol sydd â'r contractwr cyfarpar GIG hwnnw ar ei restr fferyllol hysbysiad ysgrifenedig o'r canlynol, o fewn 28 diwrnod (neu os nad yw hynny'n ymarferol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedyn)—

(a)unrhyw ddigwyddiad sy'n ei gwneud yn ofynnol newid yr wybodaeth a gofnodwyd am y contractwr cyfarpar GIG yn y rhestr fferyllol, nad oedd y contractwr cyfarpar GIG wedi hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol ohono rywfodd arall yn unol â'r Rheoliadau hyn;

(b)yn achos contractwr cyfarpar GIG sy'n unigolyn, unrhyw newid yn ei gyfeiriad preifat; ac

(c)yn achos contractwr cyfarpar GIG sy'n gorff corfforaethol, unrhyw newid yng nghyfeiriad ei swyddfa gofrestredig.

(2Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, os gofynnir iddo, roi i'r Bwrdd Iechyd Lleol enw unrhyw fferyllydd cofrestredig a gyflogir ganddo sy'n gyfrifol am weinyddu presgripsiwn penodol.

(3Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), rhaid i gontractwr cyfarpar GIG sy'n gorff corfforaethol roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Bwrdd Iechyd Lleol o fewn 28 diwrnod (neu os nad yw hynny'n ymarferol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedyn) o unrhyw newidiadau yn enwau a chyfeiriadau ei gyfarwyddwyr.

(4Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), os yw contractwr cyfarpar GIG sy'n gorff corfforaethol yn penodi cyfarwyddwr neu uwcharolygydd nas rhestrwyd yng nghais y contractwr cyfarpar GIG am ei gynnwys mewn rhestr fferyllol, rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Bwrdd Iechyd Lleol o fewn 28 diwrnod (neu os nad yw hynny'n ymarferol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedyn) o'r wybodaeth am addasrwydd y person hwnnw i ymarfer.

(5Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, neu gyfarwyddwr neu uwcharolygydd contractwr cyfarpar GIG sy'n gorff corfforaethol, hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)os yw'r unigolyn hwnnw, neu'r corff corfforaethol y mae'n gyfarwyddwr neu'n uwcharolygydd ohono, yn gwneud cais am gael ei gynnwys mewn unrhyw un o restrau cyflawnwyr neu ddarparwyr GIG Bwrdd Iechyd Lleol arall, ac o ganlyniad unrhyw gais o'r fath; a

(b)os daw'r unigolyn hwnnw yn gyfarwyddwr neu'n uwcharolygydd corff corfforaethol sydd ar unrhyw un o restrau cyflawnwyr neu ddarparwyr GIG Bwrdd Iechyd Lleol arall, neu sy'n gwneud cais am ei gynnwys mewn rhestr o'r fath, ac o ganlyniad unrhyw gais o'r fath.

(6Os yw'r contractwr cyfarpar GIG yn gorff corfforaethol sydd â'i swyddfa gofrestredig yng Nghymru, caiff ddarparu'r wybodaeth sydd i'w darparu o dan is-baragraffau (3) i (5) i'r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw, yn unig, y lleolir y swyddfa gofrestredig yn ei ardal, ar yr amod bod y contractwr cyfarpar GIG yn darparu i'r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw fanylion hefyd o'r holl Fyrddau Iechyd Lleol eraill y cynhwysir y contractwr cyfarpar GIG yn eu rhestrau fferyllol, ac mewn amgylchiadau o'r fath, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw drosglwyddo'r wybodaeth ymlaen i unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol arall—

(a)y cynhwysir y contractwr cyfarpar GIG yn ei restr fferyllol; neu

(b)y gwneir cais iddo gan y contractwr cyfarpar GIG am gael ei gynnwys yn ei restr fferyllol, ac sy'n gofyn am yr wybodaeth.

(7Yn y paragraff hwn, ystyr “rhestr cyflawnwyr neu ddarparwyr GIG” (“NHS performers or providers list”) yw—

(a)rhestr fferyllol; neu

(b)rhestr a gynhelir o gyflawnwyr neu ddarparwyr gwasanaethau meddygol sylfaenol, deintyddol neu offthalmig.

Tynnu enwau yn ôl o restrau fferyllol

24.  Os yw contractwr cyfarpar GIG yn bwriadu tynnu ei enw yn ôl o'r rhestr fferyllol mewn perthynas â mangre benodol, rhaid iddo hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol o'i fwriad, dri mis o leiaf cyn y dyddiad hwnnw, onid yw'n anymarferol i'r contractwr cyfarpar GIG wneud hynny, ac os felly, rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol cyn gynted ag y bo'n ymarferol gwneud hynny.

Codi ffioedd am gyfarpar

25.  Yn ddarostyngedig i reoliadau a wneir o dan adran 121 o Ddeddf 2006, rhaid darparu'r holl gyfarpar a ddarperir o dan y telerau gwasanaethu hyn yn ddi-dâl.

Arolygiadau a mynediad at wybodaeth

26.—(1Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG ganiatáu i bersonau, a awdurdodwyd mewn ysgrifen gan y Bwrdd Iechyd Lleol fynd i mewn i unrhyw fangre a ddefnyddir gan y contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol ac i'w harchwilio, ar unrhyw adeg resymol, at y dibenion canlynol—

(a)canfod a yw'r contractwr cyfarpar GIG yn cydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon ai peidio;

(b)archwilio, monitro a dadansoddi—

(i)y ddarpariaeth a wneir gan y contractwr cyfarpar GIG wrth ddarparu gwasanaethau fferyllol, o ran gofal a thriniaeth i gleifion gan gynnwys unrhyw drefniant a wneir gyda pherson ynglŷn â darparu cyfarpar, a

(ii)y modd y mae'r contractwr cyfarpar GIG yn rheoli'r gwasanaethau fferyllol a ddarperir ganddo,

pan fo'r amodau yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni.

(2Yr amodau yw'r canlynol—

(a)bod rhybudd rhesymol wedi ei roi o'r bwriad i fynd i mewn;

(b)bod y Pwyllgor Fferyllol Lleol ar gyfer yr ardal y lleolir y fangre ynddi wedi ei wahodd i fod yn bresennol yn yr arolygiad, os gofynnodd y contractwr cyfarpar GIG am hynny;

(c)bod gan y person a awdurdodwyd mewn ysgrifen dystiolaeth ysgrifenedig o'i awdurdodiad yn ei feddiant, a bod y person hwnnw'n dangos y dystiolaeth honno os gofynnir iddo; a

(d)na fydd y person a awdurdodwyd mewn ysgrifen yn mynd i mewn i unrhyw ran o'r fangre a ddefnyddir fel llety preswyl yn unig, heb gydsyniad y preswylydd.

(3Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, ar gais y Bwrdd Iechyd Lleol neu berson a awdurdodwyd mewn ysgrifen fel a grybwyllir yn is-baragraff (1), ganiatáu i'r Bwrdd neu'r person hwnnw gael mynediad at unrhyw wybodaeth y gofynnant amdani yn rhesymol—

(a)at y dibenion a grybwyllir yn is-baragraff (1); neu

(b)yn achos y Bwrdd Iechyd Lleol, mewn cysylltiad â'i swyddogaethau sy'n ymwneud â gwasanaethau fferyllol.

Rheoliad 5

ATODLEN 6Telerau gwasanaethu ar gyfer meddygon sy'n darparu gwasanaethau fferyllol

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon, rhaid ystyried bod cyffuriau neu gyfarpar wedi eu harchebu neu eu darparu yn unol â phresgripsiwn amlroddadwy, hyd yn oed os nad yw'r person sy'n dymuno cael y gwasanaethau fferyllol yn cyflwyno'r presgripsiwn hwnnw, cyhyd ag—

(a)bod y presgripsiwn hwnnw gan y meddyg yn ei feddiant; a

(b)bod y person hwnnw'n cyflwyno swp-ddyroddiad cysylltiedig, neu fod gan y meddyg swp-ddyroddiad cysylltiedig yn ei feddiant.

Ymgorffori darpariaethau

2.  Mae unrhyw ddarpariaethau o'r canlynol sy'n effeithio ar hawliau a rhwymedigaethau meddygon sy'n darparu gwasanaethau fferyllol yn ffurfio rhan o'r telerau gwasanaethu—

(a)y Rheoliadau;

(b)y Tariff Cyffuriau i'r graddau y mae'n rhestru cyffuriau a chyfarpar at ddibenion adran 80 o Ddeddf 2006 (trefniadau ar gyfer gwasanaethau fferyllol);

(c)cymaint o Ran II o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaeth a Thribiwnlys) 1992 ag y sy'n ymwneud ag—

(i)ymchwiliadau a wneir gan y pwyllgor disgyblu fferyllol a'r cyd-bwyllgor disgyblu a chamau y caiff y Bwrdd Iechyd Lleol eu cymryd o ganlyniad i ymchwiliadau o'r fath, a

(ii)apelau i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniadau'r Bwrdd Iechyd Lleol; a

(d)cymaint o reoliad 29 o Reoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010(19) (mynd i mewn i fangreoedd a'u harchwilio) ag sy'n ymwneud â mynd i mewn i fangreoedd sydd naill ai'n eiddo i'r meddyg fferyllol neu'n fangreoedd lle y darperir gwasanaethau fferyllol ganddo, ac archwilio mangreoedd o'r fath

Personau a awdurdodir yn briodol i weinyddu ar ran meddygon fferyllol

3.  Pan fo'r Atodlen hon yn gosod gofyniad ar feddyg fferyllol mewn perthynas â gweithgaredd y mae'r meddyg hwnnw wedi awdurdodi person arall i ymgymryd ag ef, os yw'r person arall hwnnw'n ymgymryd â'r gweithgaredd hwnnw yn lle'r meddyg fferyllol—

(a)rhaid i'r person arall hwnnw gydymffurfio â'r gofyniad hwnnw; a

(b)rhaid i'r meddyg fferyllol hwnnw sicrhau cydymffurfiaeth â'r gofyniad gan y person arall hwnnw,

ac mae cyfeiriadau at feddyg fferyllol yn yr Atodlen hon i'w dehongli'n unol â hynny.

Gweinyddu cyffuriau a chyfarpar a archebwyd gan ragnodydd arall

4.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr Atodlen hon, pan fo unrhyw berson yn cyflwyno i feddyg fferyllol ffurflen bresgripsiwn sy'n cynnwys—

(a)archeb am gyffuriau, nad ydynt yn gyffuriau Atodlen, neu am gyfarpar, nad ydynt yn gyfarpar argaeledd cyfyngedig, a lofnodwyd gan ragnodydd ac eithrio'r meddyg fferyllol;

(b)archeb am gyffur a bennir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau Rhagnodi Cyffuriau (cyffuriau neu feddyginiaethau sydd i'w harchebu mewn amgylchiadau penodol yn unig), a lofnodwyd gan ragnodydd ac eithrio'r meddyg fferyllol ac yn cynnwys y cyfeirnod “SLS”; neu

(c)archeb am gyfarpar argaeledd cyfyngedig, a lofnodwyd gan ragnodydd ac eithrio'r meddyg fferyllol ac yn cynnwys y cyfeirnod “SLS”,

a'r meddyg fferyllol wedi ei awdurdodi neu dan ofyniad yn rhinwedd rheoliad 20 (trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol gan feddygon) o'r Rheoliadau hyn i ddarparu'r cyffuriau neu'r cyfarpar a archebwyd felly, rhaid i'r meddyg fferyllol, yn rhesymol brydlon, ddarparu'r cyffuriau a archebwyd felly a'r cyfryw rai o'r cyfarpar a archebwyd felly a gyflenwir gan y meddyg fferyllol yng nghwrs arferol ei bractis neu ei fusnes.

(2Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr Atodlen hon, pan fo—

(a)unrhyw berson yn cyflwyno i feddyg fferyllol bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig sy'n cynnwys—

(i)archeb am gyffuriau nad ydynt yn gyffuriau Atodlen, nac yn gyffuriau rheoledig yn yr ystyr a roddir i “controlled drug” yn Neddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971, ac eithrio cyffur a bennir am y tro yn Atodlen 4 neu 5 i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001 (sy'n ymwneud â chyffuriau rheoledig a eithriwyd rhag gwaharddiadau penodol o dan y Rheoliadau), wedi ei llofnodi gan ragnodydd ac eithrio'r meddyg fferyllol, sy'n rhagnodydd amlroddadwy;

(ii)archeb am gyffur a bennir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau Rhagnodi Cyffuriau, nad yw'n gyffur rheoledig yn yr ystyr a roddir i “controlled drug” yn Neddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971, ac eithrio cyffur a bennir am y tro yn Atodlen 4 neu 5 i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001, wedi ei llofnodi gan ragnodydd ac eithrio'r meddyg fferyllol sy'n rhagnodydd amlroddadwy, ac yn cynnwys y cyfeirnod “SLS”;

(iii)archeb am gyfarpar, nad ydynt yn gyfarpar argaeledd cyfyngedig, wedi ei llofnodi gan ragnodydd ac eithrio'r meddyg fferyllol sy'n rhagnodydd amlroddadwy; neu

(iv)archeb am gyfarpar argaeledd cyfyngedig a lofnodwyd gan ragnodydd ac eithrio'r meddyg fferyllol sy'n rhagnodydd amlroddadwy, ac yn cynnwys y cyfeirnod “SLS”,

a hefyd yn cyflwyno swp-ddyroddiad cysylltiedig; neu

(b)y meddyg fferyllol yn cael presgripsiwn amlroddadwy electronig sy'n cynnwys archeb o fath a bennir ym mharagraff (a)(i) i (iv), ac—

(i)unrhyw berson yn gofyn am ddarparu cyffuriau neu gyfarpar yn unol â'r presgripsiwn amlroddadwy hwnnw, neu

(ii)y meddyg fferyllol wedi trefnu gyda'r claf yn flaenorol, y byddai'n gweinyddu'r presgripsiwn amlroddadwy hwnnw pan ddeuai i law,

a'r meddyg fferyllol wedi ei awdurdodi neu dan ofyniad yn rhinwedd rheoliad 20 i ddarparu'r cyffuriau neu'r cyfarpar a archebwyd felly, rhaid i'r meddyg fferyllol, yn rhesymol brydlon, ddarparu'r cyffuriau a archebwyd felly a'r cyfryw rai o'r cyfarpar a archebwyd felly a gyflenwir gan y meddyg fferyllol yng nghwrs arferol ei bractis neu ei fusnes.

(3At ddibenion y paragraff hwn, mae presgripsiwn amlroddadwy anelectronig am gyffuriau neu gyfarpar i'w ystyried wedi ei gyflwyno, hyd yn oed os nad yw'r person sy'n dymuno cael y cyffuriau neu gyfarpar yn cyflwyno'r presgripsiwn hwnnw, os yw—

(a)y presgripsiwn hwnnw gan y meddyg fferyllol yn ei feddiant; a

(b)swp-ddyroddiad cysylltiedig naill ai'n cael ei gyflwyno gan y person hwnnw, neu ym meddiant y meddyg fferyllol.

(4Rhaid i'r cyffuriau a'r cyfarpar rhestredig a ddarperir o dan y paragraff hwn gael eu darparu mewn cynhwysyddion addas.

Gweinyddu cyffuriau a chyfarpar a archebir gan y meddyg fferyllol

5.  Mewn amgylchiadau pan nad yw paragraff 4 yn gymwys, ac yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr Atodlen hon, pan fo meddyg fferyllol wedi ei awdurdodi neu dan ofyniad yn rhinwedd Rhan 5 o'r Rheoliadau hyn i ddarparu cyffuriau neu gyfarpar i berson, rhaid i'r meddyg fferyllol—

(a)cofnodi archeb am ddarparu unrhyw gyffuriau neu gyfarpar sydd eu hangen ar gyfer trin y claf ar ffurflen bresgripsiwn a gwblheir yn unol â chontract GMC sy'n rhoi effaith i baragraff 39 o Atodlen 6 i'r Rheoliadau GMC (telerau contract eraill: rhagnodi);

(b)darparu'r cyffuriau neu'r cyfarpar hynny mewn cynhwysydd addas;

(c)peidio â darparu i'r claf unrhyw gyffur a bennir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau Rhagnodi Cyffuriau ac eithrio pan fo'r amodau ym mharagraff 42(2) o Atodlen 6 i'r Rheoliadau GMC (cyfyngiadau ar ragnodi gan ymarferwyr meddygol) wedi eu bodloni; a

(d)peidio â darparu i'r claf unrhyw gyfarpar argaeledd cyfyngedig ac eithrio ar gyfer claf sy'n berson, neu at ddiben, a bennir yn y Tariff Cyffuriau.

Materion rhagarweiniol cyn darparu cyffuriau neu gyfarpar a archebwyd

6.  Cyn darparu cyffuriau neu gyfarpar rhestredig a gofnodwyd ar ffurflen bresgripsiwn yn unol â pharagraff 4, neu yn yr amgylchiadau a bennir ym mharagraff 7—

(a)rhaid i'r meddyg fferyllol ofyn i unrhyw berson, sy'n gwneud datganiad nad oes raid i'r claf dalu'r ffioedd a bennir yn rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau Ffioedd (cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan feddygon), yn rhinwedd naill ai—

(i)hawl i esemptiad o dan reoliad 8(1) (esemptiadau) o'r Rheoliadau Ffioedd, neu

(ii)hawl i beidio â thalu ffi o dan reoliad 5 o'r Rheoliadau Peidio â Chodi Tâl (hawl i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael taliad llawn),

ddangos tystiolaeth foddhaol o'r cyfryw hawl, oni wneir y datganiad mewn perthynas â hawl i esemptiad yn rhinwedd rheoliad 8 o'r Rheoliadau Ffioedd neu mewn perthynas â hawl i beidio â thalu yn rhinwedd rheoliad 5(1)(d) neu 5(2)(d) neu (dd) o'r Rheoliadau Peidio â Chodi Tâl, pan fo tystiolaeth o'r fath eisoes ar gael i'r meddyg fferyllol ar yr adeg y gwneir y datganiad; a

(b)os na ddangosir tystiolaeth foddhaol i'r meddyg fferyllol fel sy'n ofynnol gan is-baragraff (a), rhaid i'r meddyg fferyllol arnodi'r ffurflen y gwnaed y datganiad arni i'r perwyl hwnnw.

Darparu cyffuriau Atodlen

7.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i feddyg fferyllol beidio â darparu unrhyw gyffur Atodlen ar gyfer claf, ac eithrio, pan fo'r meddyg fferyllol neu ragnodydd annibynnol wedi archebu cyffur sydd ganddo enw amherchnogol priodol, naill ai wrth yr enw hwnnw neu wrth ei fformiwla, caiff meddyg fferyllol ddarparu cyffur sydd â'r un fanyleb, hyd yn oed os yw'r cyffur hwnnw yn gyffur Atodlen (ond, yn achos cyffur sy'n gyfuniad o fwy nag un cyffur, ni chaniateir gwneud hynny ac eithrio pan fo gan y cyfuniad enw amherchnogol priodol).

(2Nid oes dim yn yr Atodlen hon sy'n atal meddyg fferyllol rhag darparu cyffur Atodlen neu gyfarpar argaeledd cyfyngedig ar gyfer claf, rywfodd heblaw o dan y gwasanaethau fferyllol.

Gwrthod darparu cyffuriau neu gyfarpar a archebir

8.—(1Caiff meddyg fferyllol wrthod darparu cyffuriau neu gyfarpar a archebir ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)os yw'r meddyg fferyllol yn credu, yn rhesymol, nad yw'r archeb yn archeb ddilys ar gyfer y person a enwir ar y ffurflen bresgripsiwn neu'r presgripsiwn amlroddadwy (er enghraifft, oherwydd bod y meddyg fferyllol yn credu, yn rhesymol, fod y ffurflen wedi ei lladrata neu'i ffugio); neu

(b)os yw'n ymddangos i'r meddyg fferyllol fod camgymeriad yn y ffurflen bresgripsiwn neu'r presgripsiwn amlroddadwy neu'i swp-ddyroddiad cysylltiedig (gan gynnwys camgymeriad clinigol a wnaed gan y rhagnodydd) neu y byddai darparu'r cyffuriau neu'r cyfarpar, yn yr amgylchiadau, yn groes i farn glinigol y meddyg fferyllol.

(2Caiff meddyg fferyllol wrthod darparu cyffuriau neu gyfarpar a archebir ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, neu y byddai'r meddyg fferyllol, fel arall, wedi ei awdurdodi neu dan ofyniad i'w darparu yn rhinwedd rheoliad 20—

(a)os yw'r meddyg fferyllol neu bersonau eraill yn y fangre yn dioddef trais neu'n cael eu bygwth â thrais gan y person sy'n cyflwyno'r ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, neu gan unrhyw berson sydd gyda'r person hwnnw; neu

(b)os yw'r person sy'n cyflwyno'r ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, neu unrhyw berson arall sydd gyda'r person hwnnw, yn cyflawni neu'n bygwth cyflawni trosedd.

(3Rhaid i feddyg fferyllol wrthod darparu cyffuriau neu gyfarpar a archebir ar bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)os nad oes gan y meddyg fferyllol gofnod o'r presgripsiwn hwnnw;

(b)os nad yw'r presgripsiwn wedi ei lofnodi gan ragnodydd amlroddadwy;

(c)os byddai gwneud hynny yn anghyson ag unrhyw ysbeidiau a bennir yn y presgripsiwn;

(d)os hwnnw fyddai'r tro cyntaf y darperid cyffur neu gyfarpar yn unol â'r presgripsiwn, ac os llofnodwyd y presgripsiwn fwy na chwe mis yn gynharach;

(e)os aeth mwy na blwyddyn heibio er pan lofnodwyd y presgripsiwn amlroddadwy;

(f)os yw'r dyddiad dod i ben ar y presgripsiwn amlroddadwy wedi mynd heibio; neu

(g)os hysbyswyd y meddyg fferyllol, gan y rhagnodydd amlroddadwy, nad oes angen y presgripsiwn bellach.

(4Pan fo claf yn gofyn am gyflenwi cyffuriau neu gyfarpar a archebwyd ar bresgripsiwn amlroddadwy (ac eithrio'r tro cyntaf y mae'r claf yn gwneud cais o'r fath), rhaid i feddyg fferyllol beidio â darparu cyffuriau neu gyfarpar a archebir felly oni fydd wedi ei fodloni—

(a)bod y claf y mae'r presgripsiwn ar ei gyfer—

(i)yn cymryd neu'n defnyddio'r cyffur neu'r cyfarpar yn briodol, ac yn debygol o barhau i'w gymryd neu ei ddefnyddio felly, a

(ii)nad yw'n dioddef o unrhyw sgil effeithiau'r driniaeth sy'n dynodi bod angen, neu y byddai'n fuddiol, adolygu triniaeth y claf;

(b)nad yw trefn feddyginiaethol y claf y mae'r presgripsiwn ar ei gyfer, wedi newid mewn ffordd sy'n dynodi bod angen, neu y byddai'n fuddiol, adolygu triniaeth y claf; ac

(c)na ddigwyddodd unrhyw newidiadau yn iechyd y claf mae'r presgripsiwn ar ei gyfer sy'n dynodi bod angen, neu y byddai'n fuddiol, adolygu triniaeth y claf.

Ffioedd a chodi tâl

9.—(1Mae'r telerau mewn contract GMC sy'n rhoi effaith i reoliad 24 (ffioedd a chodi tâl) o'r Rheoliadau GMC ac Atodlen 5 i'r Rheoliadau hynny yn gymwys mewn perthynas â darparu unrhyw gyffuriau neu gyfarpar gan feddyg fferyllol fel y maent yn gymwys mewn perthynas â phresgripsiynau am gyffuriau a chyfarpar.

(2Os yw meddyg fferyllol yn darparu cyffur neu gyfarpar o dan wasanaethau fferyllol neu'n darparu unrhyw wasanaeth ychwanegol mewn cysylltiad â gweinyddu cyffuriau a chyfarpar o'r fath—

(a)yn unol â'r Atodlen hon neu gytundeb â'r Bwrdd Iechyd Lleol; a

(b)pe bai'r cyffur, y cyfarpar neu'r gwasanaeth ychwanegol wedi ei ddarparu gan gontractwr sy'n darparu gwasanaethau gweinyddu o dan gontract GMC byddai hawl gan y contractwr, yn rhinwedd cyfarwyddiadau a roddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 45 o Ddeddf 2006 (contractau GMC: taliadau), i gael taliad—

(i)mewn perthynas â'r cyffur neu gyfarpar; neu

(ii)mewn perthynas â darparu'r gwasanaeth ychwanegol,

bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn credydu'r meddyg fferyllol â'r taliad.

Cwynion a phryderon

10.—(1Os yw meddyg fferyllol—

(a)yn gontractwr GMC, neu wedi ei gymryd ymlaen neu'n gyflogedig gan gontractwr GMC, y weithdrefn gwynion a sefydlwyd yn unol â thelerau contract GMC sy'n rhoi effaith i baragraffau 89A a 90 o Atodlen 6 i'r Rheoliadau GMC (pryderon a chwynion);

(b)yn gontractwr GMDdA, neu wedi ei gymryd ymlaen neu'n gyflogedig gan gontractwr GMDdA, y weithdrefn gwynion a sefydlwyd gan y contract GMDdA perthnasol i ymdrin â chwynion mewn perthynas â darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol;

(c)wedi ei gyflogi neu'i gymryd ymlaen gan Fwrdd Iechyd Lleol at y diben o ddarparu gwasanaethau o fewn practis GMBILl, y weithdrefn gwynion a sefydlwyd gan y practis GMBILl hwnnw i ymdrin â chwynion mewn perthynas â darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol,

sy'n gymwys mewn perthynas ag unrhyw fater a gysylltir yn rhesymol â darparu gwasanaethau fferyllol, fel y mae'n gymwys mewn perthynas â gwasanaethau a ddarperir o dan y contract neu'r cytundeb hwnnw, neu o fewn y practis hwnnw.

(2Gan hynny, mae contract GMC sy'n rhoi effaith i baragraff 95 o Atodlen 6 i'r Rheoliadau GMC (cydweithredu gydag ymchwiliadau) yn gymwys hefyd mewn perthynas â chwynion neu bryderon a hysbysir ynghylch materion o'r fath.

Arolygiadau a mynediad at wybodaeth

11.—(1Rhaid i feddyg fferyllol ganiatáu i bersonau a awdurdodwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol fynd i mewn i unrhyw fangre a ddefnyddir gan y meddyg fferyllol i ddarparu gwasanaethau fferyllol ac i'w harchwilio, ar unrhyw adeg resymol, at y dibenion canlynol—

(a)canfod a yw'r meddyg fferyllol yn cydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon ai peidio;

(b)archwilio, monitro a dadansoddi—

(i)y ddarpariaeth a wneir gan y meddyg fferyllol wrth ddarparu gwasanaethau fferyllol, o ran gofal a thriniaeth i gleifion gan gynnwys unrhyw drefniant a wneir gyda pherson ynglŷn â darparu cyfarpar, a

(ii)y modd y mae'r meddyg fferyllol yn rheoli'r gwasanaethau fferyllol a ddarperir ganddo,

pan fo'r amodau yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni.

(2Yr amodau yw'r canlynol—

(a)bod rhybudd rhesymol wedi ei roi o'r bwriad i fynd i mewn;

(b)bod y Pwyllgor Fferyllol Lleol ar gyfer yr ardal y lleolir y fangre ynddi wedi ei wahodd i fod yn bresennol yn yr arolygiad, os gofynnodd y meddyg fferyllol am hynny;

(c)bod gan y person a awdurdodwyd mewn ysgrifen dystiolaeth ysgrifenedig o'i awdurdodiad yn ei feddiant, a rhaid iddo ddangos y dystiolaeth honno os gofynnir iddo; a

(d)na fydd y person a awdurdodwyd mewn ysgrifen yn mynd i mewn i unrhyw ran o'r fangre a ddefnyddir fel llety preswyl yn unig, heb gydsyniad y preswylydd.

(3Rhaid i feddyg fferyllol, ar gais y Bwrdd Iechyd Lleol neu berson a awdurdodwyd mewn ysgrifen fel a grybwyllir yn is-baragraff (1), ganiatáu i'r Bwrdd neu'r person hwnnw gael mynediad at unrhyw wybodaeth y gofynnant amdani yn rhesymol—

(a)at y dibenion a grybwyllir yn is-baragraff (1); neu

(b)yn achos y Bwrdd Iechyd Lleol, mewn cysylltiad â'i swyddogaethau sy'n ymwneud â gwasanaethau fferyllol.

Rheoliad 50

ATODLEN 7Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaeth a Thribiwnlys) 1992

1.  Yn rheoliad 2 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaeth a Thribiwnlys) 1992(20) (dehongli)—

(a)ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “chemist”, ar ôl y geiriau “has the same meaning as” mewnosoder, “NHS appliance contractor and NHS pharmacist”;

(b)ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “Pharmaceutical Regulations”, yn lle'r geiriau “National Health Service (Pharmaceutical Services) Regulations 1992” rhodder “National Health Service (Pharmaceutical Services) (Wales) Regulations 2013”; ac

(c)ym mharagraff (4)(c(21)), yn lle'r geiriau “paragraphs 10A and 10B of Schedule 2 to the National Health Service (Pharmaceutical Services) Regulations 1992” rhodder “paragraph 33 of Schedule 4 to, or paragraph 21 of Schedule 5 to, the Pharmaceutical Regulations”.

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Symiau Dangosol) 1997

2.  Yn rheoliad 1(2) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Symiau Dangosol) 1997 (enwi, cychwyn a dehongli)(22), yn y diffiniad o “Drug Tariff” yn lle'r geiriau “regulation 18(e) of the National Health Service (Pharmaceutical Services) Regulations 1992 (provisions relating to determinations)” rhodder “regulation 41 (the Drug Tariff and remuneration of NHS pharmacists and NHS appliance contractors) of the National Health Service (Pharmaceutical Services) (Wales) Regulations 2013”.

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Taliadau gan Awdurdodau Lleol i Awdurdodau Iechyd) (Swyddogaethau Rhagnodedig) (Cymru) 2001

3.  Yn rheoliad 2(2) (swyddogaethau rhagnodedig yr Awdurdodau Iechyd yng Nghymru) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Taliadau gan Awdurdodau Lleol i Awdurdodau Iechyd) (Swyddogaethau Rhagnodedig) (Cymru) 2001(23), yn lle is-baragraff (ch), rhodder—

(ch) darparu cyfarpar nad yw wedi'i restru yn Rhan IX o'r Tariff Cyffuriau a gyhoeddir yn unol â rheoliad 41 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013 (y Tariff Cyffuriau a chydnabyddiaeth ariannol i fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG)

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004

4.—(1Mae Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004(24) wedi eu diwygio yn unol â'r paragraff hwn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)yn y diffiniad o “Drug Tariff”, yn lle “regulation 18” rhodder “regulation 41”; ac

(b)yn y diffiniad o “Pharmaceutical Regulations”, yn lle “National Health Service (Pharmaceutical Services) Regulations 1992” rhodder “National Health Service (Pharmaceutical Services) (Wales) Regulations 2013”.

(3Yn Atodlen 6 (telerau contractol eraill)—

(a)ym mharagraff 47 (darparu gwasanaethau gweinyddu)—

(i)yn is-baragraffau (4)(b) a (9)(a), yn y ddau achos, yn lle “regulation 12(15) or 13(13)(b) of” rhodder “paragraph 6 of Schedule 2, paragraph 13 of Schedule 2 or paragraph 8(3) of Schedule 3 to”, a

(ii)yn is-baragraff (9)(b)(ii), yn lle “regulation 9(10) of” rhodder “Part 2 of Schedule 3 to” ac yn lle “(determination of whether an area is a controlled locality)” rhodder “(appeals against decisions determining controlled localities)”;

(b)ym mharagraff 48 (cydsyniad i weinyddu)—

(i)yn is-baragraff (2)—

(aa)yn lle “regulations 12 and 13 of” rhodder “regulation 24 of and Part 3 of Schedule 2 to”, a

(bb)yn lle “regulation 21” rhodder “regulation 24”,

(ii)yn is-baragraff (4), yn lle “regulation 12(16)” rhodder “regulation 24(9)”,

(iii)yn lle is-baragraff (5) rhodder—

(5) Regulation 24 of the Pharmaceutical Regulations will apply as if modified as follows: in paragraph (1) for “to provide pharmaceutical services to patients under regulation 20(1)(b) or (c) (arrangements for the provision of pharmaceutical services by doctors)” there were substituted a reference to the provision of dispensing services to patients under paragraph 47.

(iv)yn lle is-baragraff (6) rhodder—

(6) Part 3 of Schedule 2 will apply as if modified as follows: in paragraph 8(1)(a) (ii) for “dispensing doctor list made under Part 5 of these Regulations” there were substituted a reference to an application under sub-paragraph (1) of this paragraph.

(c)Yn lle paragraff 49(8)(25) (telerau sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau gweinyddu) rhodder—

“(8A contractor providing dispensing services must comply with paragraph 6 of Schedule 6 to the Pharmaceutical Regulations, as if modified as follows—

(a)for “paragraph 4”, substitute “paragraph 49(4) of Schedule 6 to the GMS Regulations”;

(b)for “dispensing doctor” in sub-paragraph (a) and (b), substitute “the contractor providing dispensing services.”

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007

5.  Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007(26), yn y diffiniad o “Tariff Cyffuriau”, yn lle “rheoliad 18(e) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992 (darpariaethau yn ymwneud â phenderfyniadau)” rhodder “rheoliad 41 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013 (y Tariff Cyffuriau a chydnabyddiaeth ariannol i fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG)”.

Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010

6.  Ym mharagraff 1(3) o Atodlen 1 i Reoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010(27), yn y diffiniad o “nyrs sy'n rhagnodi'n annibynnol”, yn lle “Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992” rhodder “Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013”.

Rheoliad 50

ATODLEN 8

Dirymiadau

1.  Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992(28).

2.  Rheoliadau Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1993(29).

3.  Rheoliadau Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) 1994(30).

4.  Rheoliadau Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1995(31).

5.  Rheoliadau Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1996(32).

6.  Rheoliadau Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1998(33).

7.  Rheoliadau Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1999(34).

8.  Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) a (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002(35).

9.  Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) a (Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Cymru) 2003(36).

10.  Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Cymru) 2003(37)).

11.  Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau ynghylch Rhagnodi gan Nyrsys Atodol ac Annibynnol) (Cymru) 2003(38)).

12.  Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2003(39)).

13.  Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol etc) (Presgripsiynau Amlroddadwy) (Diwygio) (Cymru) 2004(40).

14.  Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Cymru) 2004(41).

15.  Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Cymru) 2005(42).

16.  Paragraff 6 o Atodlen 1 i Orchymyn Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol a Gwasanaethau Deintyddol Personol (Cymru) 2006(43).

17.  Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Cymru) 2006(44).

18.  Paragraff 1 o Atodlen 2 i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007(45).

19.  Rheoliad 3 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Amrywiol Ynghylch Nyrsys Sy'n Rhagnodi'n Annibynnol, Rhagnodwyr Atodol, Nyrsys-ragnodwyr Annibynnol a Fferyllwyr-ragnodwyr Annibynnol) (Cymru) 2007(46).

20.  Rheoliadau 3, 4, 5, 6, 7 ac 8 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Taliadau i bersonau sy'n darparu Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Cymru) 2007(47).

21.  Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Cymru) 2009(48).

22.  Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Cymru) 2010(49)).

23.  Rheoliad 2 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Amrywiol ynghylch Rhagnodi Annibynnol) (Cymru) 2010(50)).

24.  Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2010(51)).

25.  Paragraff 2 o Atodlen 2 i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011(52).

26.  Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Cymru) 2011(53).

(1)

Sefydlwyd gan Orchymyn Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG) (Sefydlu a Chyfansoddiad) 2005 (O.S. 2005/2414).

(3)

1971 p.38. Gweler adran 2(1)(a) o'r Ddeddf honno sy'n diffinio “controlled drug” at ddibenion y Ddeddf honno.

(4)

O.S. 2001/3998 (fel y'i diwygiwyd).

(6)

Rhif teleffon Galw Iechyd Cymru yw 0845 46 47 a chyfeiriad ei wefan yw www.nhsdirect.wales.nhs.uk.

(9)

1996 p.18M; mewnosodwyd adran 43A gan adran 1 o Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 (p.23). Gweler hefyd adran 43K(1)(c) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 sy'n ehangu ystyr “worker” ar gyfer y Rhan o'r Ddeddf honno sy'n ymdrin â datgeliadau gwarchodedig, er mwyn iddo gynnwys pob unigolyn sy'n darparu gwasanaethau fferyllol yn unol â threfniadau a wneir gan Fwrdd Iechyd Lleol o dan adran 80 o Ddeddf 2006.

(10)

1995 p.46.

(11)

1992 p.5.

(12)

O.S. 2011/704 (Cy.108) a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1706 (Cy.192).

(13)

O.S. 2010/288 (Cy.37).

(14)

2010 p.15.

(15)

1974 p.37.

(16)

1996 p.18; mewnosodwyd adran 43A gan adran 1 o Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 (p.23) . Gweler hefyd adran 43K(1)(c) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 sy'n ehangu ystyr “worker” ar gyfer y Rhan o'r Ddeddf honno sy'n ymdrin â datgeliadau gwarchodedig, er mwyn iddo gynnwys pob unigolyn sy'n darparu gwasanaethau fferyllol yn unol â threfniadau a wneir gan Fwrdd Iechyd Lleol o dan adran 80 o Ddeddf 2006.

(17)

1995 p.46.

(18)

1992 p.5.

(19)

O.S. 2010/288 (Cy.37).

(20)

O.S. 1992/664.

(21)

Mewnosodwyd paragraff (4) gan O.S. 1996/703.

(22)

O.S. 1997/980 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/1112 (Cy.117).

(23)

O.S. 2001/1543 (Cy.108), a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/1112 (Cy.117).

(24)

O.S. 2004/478 (Cy.48).

(25)

Amnewidiwyd is-baragraff 8 gan O.S. 2006/358 (Cy.46).

(26)

O.S. 2007/121 (Cy.11). Amnewidiwyd y diffiniad o “Drug Tariff” gan O.S. 2007/1112 (Cy. 117).

(28)

O.S. 1992/662.

(29)

O.S. 1993/2451.

(30)

O.S. 1994/2402.

(31)

O.S. 1995/644.

(32)

O.S. 1996/698.

(33)

O.S. 1998/681.

(34)

O.S. 1999/696.

(36)

O.S. 2003/139 (Cy.11).

(43)

O.S. 2006/946 (Cy.95).

(45)

O.S. 2007/121 (Cy.11).

(46)

O.S. 2007/205 (Cy.19).

(49)

O.S. 2010/868 (Cy.90).

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open the Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources