Search Legislation

Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2013

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 639 (Cy.72)

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2013

Gwnaed

18 Mawrth 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

18 Mawrth 2013

Yn dod i rym

8 Ebrill 2013

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 9 o Atodlen 1 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2013 ac maent yn dod i rym ar 8 Ebrill 2013.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) 1992

2.  Mae paragraff 3(a) o'r Atodlen i Reoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) 1992(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)ym mharagraff (i) yn lle “a higher rate” rhodder “an”;

(b)ym mharagraff (ii) ar ôl “highest” mewnosoder “or middle”, ac ar ôl “section 72(4)(a)” mewnosoder “or section 72(4)(b)”;

(c)ar ddiwedd paragraff (iii) hepgorer “or”; a

(d)ar ôl paragraff (iv) mewnosoder—

or

(v)the standard or enhanced rate of the daily living component of personal independence payment under section 78(3) of the Welfare Reform Act 2012(4);.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru

18 Mawrth 2013

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) 1992 (“Rheoliadau 1992”) yn rhagnodi amodau y mae'n rhaid i weithwyr gofal a gwahanol bersonau o ddisgrifiadau eraill eu cyflawni er mwyn cael eu diystyried at ddibenion disgowntiau'r dreth gyngor y mae adran 11 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) yn rhagnodi ar eu cyfer.

Mae rheoliad 2(a) a (b) yn diwygio amodau Rheoliadau 1992 fel bod gweithwyr gofal sy'n darparu gofal i berson sydd â hawl i lwfans gweini ar unrhyw gyfradd, neu'r gyfradd uchaf neu ganol o'r rhan o lwfans byw i'r anabl sydd ar gyfer gofal dan Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992, yn cyflawni'r gofynion angenrheidiol i gael eu diystyried at ddibenion adran 11 o Ddeddf 1992.

Mae rheoliad 2(c) a (d) yn diwygio'r gofyniad yn Rheoliadau 1992 fel bod gweithwyr gofal sy'n darparu gofal i berson sydd â hawl i gyfradd safonol neu gyfradd uwch y rhan o'r taliad annibyniaeth bersonol dan y Ddeddf Diwygio Lles 2012 sydd ar gyfer byw bob dydd yn cyflawni'r gofynion angenrheidiol i gael eu diystyried at ddibenion adran 11 o Ddeddf 1992.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, nid ystyriwyd bod angen cynnal asesiad effaith rheoleiddiol ar y costau a'r manteision tebygol o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(3)

O.S. 1992/552. Diwygiwyd paragraff 3(a) o'r Atodlen gan O.S. 1994/540 ac O.S. 1996/637.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources