- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
27 Chwefror 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
28 Chwefror 2013
Yn dod i rym
1 Medi 2013
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 108(2)(b)(iii), (3)(b) a (5) ac adran 210 o Ddeddf Addysg 2002(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2) ac ar ôl gwneud y trefniadau hynny ar gyfer ymgynghori y maent o'r farn eu bod yn briodol yn unol ag adran 117 o Ddeddf Addysg 2002(3) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a'r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013 ac mae'n dod i rym ar 1 Medi 2013.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y cwricwlwm Cymraeg” (“Welsh curriculum”) yw'r cwricwlwm a nodir yn—
(a)y ddogfen ar drywydd llythrennedd;
(b)y ddogfen llythrennedd — darllen;
(c)y ddogfen llythrennedd — llafaredd; ac
(d)y ddogfen llythrennedd — ysgrifennu;
ystyr “y ddogfen “ar drywydd llythrennedd”” (“the ar drywydd llythrennedd document”) yw'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2013 o'r enw “Ar drywydd llythrennedd”(4);
ystyr “y ddogfen “ar drywydd rhifedd”” (“the routes to numeracy document”) yw'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2013 o'r enw “Ar drywydd rhifedd”(5);
ystyr “y ddogfen “literacy — oracy”” (“the literacy — oracy document”) yw'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2013 o'r enw “Literacy — Oracy across the curriculum”(6);
ystyr “y ddogfen “literacy — reading”” (“the literacy — reading document”) yw'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2013 o'r enw “Literacy — Reading across the curriculum”(7);
ystyr “y ddogfen “literacy — writing”” (“the literacy — writing document”) yw'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2013 o'r enw “Literacy — Writing across the curriculum”(8);
ystyr “y ddogfen “llythrennedd — darllen”” (“the llythrennedd — darllen document”) yw'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2013 o'r enw “Llythrennedd — Darllen ar draws y cwricwlwm”(9);
ystyr “y ddogfen “llythrennedd — llafaredd”” (“the llythrennedd — llafaredd document”) yw'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2013 o'r enw “Llythrennedd — Llafaredd ar draws y cwricwlwm”(10);
ystyr “y ddogfen “llythrennedd — ysgrifennu”” (“the llythrennedd — ysgrifennu document”) yw'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2013 o'r enw “Llythrennedd — Ysgrifennu ar draws y cwricwlwm”(11);
ystyr “y ddogfen “rhifedd”” (“the numeracy document”) yw'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2013 o'r enw “Rhifedd”(12);
ystyr “y ddogfen “the routes to literacy”” (“the routes to literacy document”) yw'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2013 o'r enw “Routes to literacy”(13);
ystyr “y meysydd dysgu perthnasol” (“the relevant areas of learning”) yw—
sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu; a
datblygiad mathemategol;
ystyr “y pynciau perthnasol” (“the relevant subjects”) yw—
Saesneg;
Cymraeg; ac
mathemateg; ac
ystyr “ysgol Gymraeg” (“Welsh-speaking school”) yw ysgol sy'n dilyn y cwricwlwm Cymraeg.
(2) Mae unrhyw gyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at yr ail gyfnod allweddol a'r trydydd cyfnod allweddol i'w dehongli yn unol ag adran 103(1)(b) ac (c) o Ddeddf Addysg 2002.
3.—(1) Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhan honno o'r ddogfen llythrennedd — llafaredd o'r enw “Y Cyfnod Sylfaen” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol ar gyfer ysgolion Cymraeg.
(2) Ar gyfer pob ysgol arall mae'r darpariaethau a nodir yn y rhan honno o'r ddogfen literacy — oracy o'r enw “Foundation Phase” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol.
4.—(1) Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhan honno o'r ddogfen llythrennedd — darllen o'r enw “Y Cyfnod Sylfaen” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol ar gyfer ysgolion Cymraeg.
(2) Ar gyfer pob ysgol arall mae'r darpariaethau a nodir yn y rhan honno o'r ddogfen literacy — reading o'r enw “Foundation Phase” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol.
5.—(1) Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhan honno o'r ddogfen llythrennedd — ysgrifennu o'r enw “Y Cyfnod Sylfaen” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol ar gyfer ysgolion Cymraeg.
(2) Ar gyfer pob ysgol arall mae'r darpariaethau a nodir yn y rhan honno o'r ddogfen literacy — writing o'r enw “Foundation Phase” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol.
6. Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhan honno o'r ddogfen rhifedd o'r enw “Y Cyfnod Sylfaen” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol ar gyfer pob ysgol.
7.—(1) Mae'r darpariaethau a nodir yn y ddogfen ar drywydd llythrennedd yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol ar gyfer ysgolion Cymraeg.
(2) Ar gyfer pob ysgol arall mae'r darpariaethau a nodir yn y ddogfen the routes to literacy yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol.
8. Mae'r darpariaethau a nodir yn y ddogfen ar drywydd rhifedd yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol ar gyfer pob ysgol.
9.—(1) Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhannau hynny o'r ddogfen literacy — oracy o'r enw “Key Stage 2” a “Key Stage 3” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol ar gyfer pob ysgol.
(2) Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhannau hynny o'r ddogfen llythrennedd — llafaredd o'r enw “Cyfnod Allweddol 2” a “Cyfnod Allweddol 3” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol ar gyfer ysgolion Cymraeg.
10.—(1) Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhannau hynny o'r ddogfen literacy — reading o'r enw “Key Stage 2” a “Key Stage 3” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol ar gyfer pob ysgol.
(2) Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhannau hynny o'r ddogfen llythrennedd — darllen o'r enw “Cyfnod Allweddol 2” a “Cyfnod Allweddol 3” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol ar gyfer ysgolion Cymraeg.
11.—(1) Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhannau hynny o'r ddogfen literacy — writing o'r enw “Key Stage 2” a “Key Stage 3” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol ar gyfer pob ysgol.
(2) Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhannau hynny o'r ddogfen llythrennedd — ysgrifennu o'r enw “Cyfnod Allweddol 2” a “Cyfnod Allweddol 3” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol ar gyfer ysgolion Cymraeg.
12. Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhannau hynny o'r ddogfen rhifedd o'r enw “Cyfnod Allweddol 2” a “Cyfnod Allweddol 3” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol ar gyfer pob ysgol.
13.—(1) Mae'r darpariaethau a nodir yn y ddogfen ar drywydd llythrennedd yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol ar gyfer ysgolion Cymraeg.
(2) Ar gyfer pob ysgol arall mae'r darpariaethau a nodir yn y ddogfen ar drywydd llythrennedd yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol.
14. Mae'r darpariaethau a nodir yn y ddogfen ar drywydd rhifedd yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol ar gyfer pob ysgol.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
27 Chwefror 2013
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 108(2)(b)(iii) a (3) o Ddeddf Addysg 2002 yn darparu pwer i Weinidogion Cymru ragnodi drwy Orchymyn raglenni addysgol mewn cysylltiad â'r cyfnod sylfaen a rhaglenni astudio mewn cysylltiad â'r cyfnodau allweddol. Mae'r rhaglenni addysgol a'r rhaglenni astudio yn nodi'r hyn y mae rhaid ei addysgu i ddisgyblion.
Rhoddwyd effaith gyfreithiol i'r rhaglenni addysgol presennol ar gyfer y meysydd dysgu yn y cyfnod sylfaen gan Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2008. Rhoddwyd effaith gyfreithiol i'r rhaglenni astudio presennol ar gyfer y pynciau yn yr ail gyfnod allweddol, y trydydd cyfnod allweddol a'r pedwerydd cyfnod allweddol gan Orchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) 2008.
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi effaith gyfreithiol i raglenni addysgol ychwanegol ar gyfer meysydd dysgu sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu a datblygiad mathemategol yn y cyfnod sylfaen (Rhan 1 o'r Gorchymyn).
Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn rhoi effaith gyfreithiol i'r rhaglenni astudio ychwanegol mewn Saesneg, Cymraeg a mathemateg yn yr ail gyfnod allweddol a'r trydydd cyfnod allweddol (Rhan 2 o'r Gorchymyn).
Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn yr adrannau yn Neddf Addysg 2002 i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Fel y'i diwygiwyd gan baragraffau 11 a 19 o'r Atodlen i Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mccc 1).
Rhif ISBN 9780750487054.
Rhif ISBN 9780750487078.
Rhif ISBN 9780750486965.
Rhif ISBN 9780750486989.
Rhif ISBN 9780750487009.
Rhif ISBN 9780750486996.
Rhif ISBN 9780750486972.
Rhif ISBN 9780750487016.
Rhif ISBN 9780750487030.
Rhif ISBN 9780750487047.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: