- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
27 Chwefror 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
28 Chwefror 2013
Yn dod i rym
1 Mai 2013
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013 ac mae'n dod i rym ar 1 Mai 2013.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i ysgolion a gynhelir (ac eithrio'r rhai a sefydlwyd mewn ysbytai) yng Nghymru.
2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “amserlen asesu'r PC” (“the NT assessment timetable”) yw amserlen ar gyfer gweinyddu'r profion PC, sef, yn eu tro, profion ac amserlen a osodir mewn darpariaethau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 9”;
ystyr “awdurdod monitro” (“monitoring authority”) yw'r awdurdod lleol cynhaliol;
ystyr “blwyddyn 2” (“year 2”) yw blwyddyn olaf y cyfnod sylfaen;
ystyr “blwyddyn 3” (“year 3”) yw blwyddyn gyntaf yr ail gyfnod allweddol;
ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw ail flwyddyn yr ail gyfnod allweddol;
ystyr “blwyddyn 5” (“year 5”) yw trydedd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol;
ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw pedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol;
ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw blwyddyn gyntaf y trydydd cyfnod allweddol;
ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw ail flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol;
ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw trydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol;
ystyr “canllawiau datgymhwyso'r PC” (“the NT disapplication guidance”) yw canllawiau sy'n nodi'r disgyblion hynny nad oes angen rhoi'r PC iddynt;
ystyr “cynllun marcio'r PC” (“the NT mark scheme”) yw'r cynllun marcio a ddyroddir i benaethiaid gyda'r PC;
ystyr “y ddogfen Gymraeg” (“the Welsh document”) yw'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2008 o'r enw “Cymraeg yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru(3)” a chyfeirir ati yng Ngorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) 2008(4);
ystyr “llawlyfr gweinyddu'r PC” (“the NT administration handbook”) yw llawlyfr sy'n rhoi manylion am drefniadau gweinyddol y PC a wneir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 9;
ystyr “y PC” (“the NT”) yw'r Profion Cenedlaethol, sef y PDCCS, y PDCCC a'r PRhC;
ystyr “y PDCCC” (“the NRTW”) yw'r Prawf Darllen Cenedlaethol Cyfrwng Cymraeg, sef prawf Cwricwlwm Cenedlaethol a roddir i ddisgyblion at y diben o asesu eu sgiliau darllen yn Gymraeg;
ystyr “y PDCCS” (“the NRTE”) yw'r Prawf Darllen Cenedlaethol Cyfrwng Saesneg, sef prawf Cwricwlwm Cenedlaethol a roddir i ddisgyblion at y diben o asesu eu sgiliau darllen yn Saesneg;
ystyr “y PRhC” (“the NNT”) yw'r Prawf Rhifedd Cenedlaethol, sef prawf Cwricwlwm Cenedlaethol a roddir i ddisgyblion at y diben o asesu eu sgiliau rhifedd;
ystyr “rhaglen astudio Cymraeg” (“Welsh programme of study”) yw'r rhaglen astudio y cyfeirir ati yn y rhan honno o'r ddogfen Gymraeg o'r enw “Cymraeg”;
ystyr “rhaglen astudio Cymraeg ail iaith” (“Welsh second language programme of study”) yw'r rhaglen astudio y cyfeirir ati yn y rhan honno o'r ddogfen Gymraeg o'r enw “Cymraeg ail iaith”;
ystyr “y SCYA” (“the NFER”) yw'r Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg(5).
(2) Mae unrhyw gyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at y cyfnod sylfaen i'w dehongli yn unol ag adran 102 o Ddeddf Addysg 2002.
(3) Mae unrhyw gyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at yr ail a'r trydydd cyfnodau allweddol i'w dehongli yn unol ag adran 103(1)(b) ac (c) o Ddeddf Addysg 2002.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae'r erthygl hon yn gymwys i—
(a)disgybl ym mlynyddoedd 4 i 9;
(b)disgybl ym mlwyddyn 3 sy'n dilyn rhaglen astudio Cymraeg ail iaith; ac
(c)disgybl ym mlwyddyn 2 pan fo mwyafrif gwersi'r disgybl hwnnw, ym marn y pennaeth, yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Saesneg.
(2) Rhaid i'r pennaeth wneud trefniadau i'r PDCCS gael ei roi i bob disgybl—
(a)yn unol â darpariaethau'r ddogfen y cyhoeddir y PDCCS ynddi;
(b)yn unol â llawlyfr gweinyddu'r PC; ac
(c)yn ystod y cyfnod amser a bennir yn amserlen asesu'r PC.
(3) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl hynny, rhaid i'r pennaeth wneud trefniadau—
(a)i ymatebion y disgyblion i'r PDCCS gael eu marcio yn unol â chynllun marcio perthnasol y PC a ddarperir i'r pennaeth;
(b)i'r marciau y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) gael eu darparu i Weinidogion Cymru yn unol ag amserlen asesu'r PC a llawlyfr gweinyddu'r PC.
(4) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys i ddisgybl sydd, ym marn y pennaeth, yn dod o fewn un o'r categorïau a restrir yng nghanllawiau datgymhwyso'r PC.
4.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae'r erthygl hon yn gymwys i—
(a)disgybl ym mlynyddoedd 3 i 9 sy'n dilyn y rhaglen astudio Cymraeg; a
(b)disgybl ym mlwyddyn 2 pan fo mwyafrif gwersi'r disgybl hwnnw, ym marn y pennaeth, yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
(2) Rhaid i'r pennaeth wneud trefniadau i'r PDCCC gael ei roi i bob disgybl—
(a)yn unol â darpariaethau'r ddogfen y cyhoeddir y PDCCC ynddi;
(b)yn unol â llawlyfr gweinyddu'r PC; ac
(c)yn ystod y cyfnod amser a bennir yn amserlen asesu'r PC.
(3) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl hynny, rhaid i'r pennaeth wneud trefniadau—
(a)i ymatebion y disgyblion i'r PDCCC gael eu marcio yn unol â chynllun marcio perthnasol y PC a ddarperir i'r pennaeth;
(b)i'r marciau y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) gael eu darparu i Weinidogion Cymru yn unol ag amserlen asesu'r PC a llawlyfr gweinyddu'r PC.
(4) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys i ddisgybl sydd, ym marn y pennaeth, yn dod o fewn un o'r categorïau a restrir yng nghanllawiau datgymhwyso'r PC.
5.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae'r erthygl hon yn gymwys i ddisgybl ym mlynyddoedd 2 i 9.
(2) Rhaid i'r pennaeth wneud trefniadau i'r PRhC gael ei roi i bob disgybl—
(a)yn unol â darpariaethau'r ddogfen y cyhoeddir y PRhC ynddi;
(b)yn unol â llawlyfr gweinyddu'r PC; ac
(c)yn ystod y cyfnod amser a bennir yn amserlen asesu'r PC.
(3) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl hynny, rhaid i'r pennaeth wneud trefniadau—
(a)i ymatebion y disgyblion i'r PRhC gael eu marcio yn unol â chynllun marcio perthnasol y PC a ddarperir i'r pennaeth;
(b)i'r marciau y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) gael eu darparu i Weinidogion Cymru neu i'r SCYA yn unol ag amserlen asesu'r PC a llawlyfr gweinyddu'r PC.
(4) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys i ddisgybl sydd, ym marn y pennaeth, yn dod o fewn un o'r categorïau a restrir yng nghanllawiau datgymhwyso'r PC.
6. Rhaid i'r pennaeth, o fewn 7 niwrnod ysgol i'r dyddiad a nodir yn amserlen y PT ar gyfer darparu i Weinidogion Cymru neu i'r SCYA yr wybodaeth y cyfeirir ati yn erthyglau 3(3)(b), 4(3)(b) a 5(3)(b), ddarparu datganiad i'r swyddog monitro, wedi ei lofnodi gan y pennaeth, sy'n cadarnhau—
(a)i'r PC gael eu rhoi yn unol â darpariaethau'r ddogfen y cyhoeddir hwy ynddi;
(b)i'r PC gael eu rhoi yn ystod y cyfnod amser a bennir yn amserlen asesu'r PC;
(c)i'r PC gael eu rhoi yn unol â llawlyfr gweinyddu'r PC; a
(d)i ymatebion y disgyblion i'r PC gael eu marcio yn unol â chynllun marcio'r PC.
7.—(1) Mae'r erthygl hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer monitro'r PC gan yr awdurdod monitro.
(2) Rhaid i'r awdurdod monitro, mewn unrhyw flwyddyn ysgol, arfer y swyddogaethau a roddwyd iddo gan yr erthygl hon mewn perthynas â 10% o'r holl ysgolion perthnasol.
(3) At ddibenion paragraffau (2) a (4), “ysgolion perthnasol” yw'r holl ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod monitro lle y caiff y PC eu rhoi i'r disgyblion mewn unrhyw flwyddyn ysgol yn unol â'r Gorchymyn hwn.
(4) Ym mhob blwyddyn ysgol, rhaid i'r awdurdod monitro ymweld â'r ysgolion perthnasol yn ystod unrhyw un neu ragor o'r cyfnodau a ganlyn—
(a)yr wythnos cyn y caiff y PC eu rhoi i'r disgyblion;
(b)y cyfnod pan fo'r PC yn cael eu rhoi i'r disgyblion; neu
(c)ugain niwrnod ysgol ar ôl y diwrnod olaf y caniateir i unrhyw un neu ragor o'r PC gael eu rhoi i'r disgyblion
a chaniateir cynnal ymweliad o'r fath yn ystod unrhyw un neu ragor o'r cyfnodau hyn mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r ysgolion hynny.
(5) Diben unrhyw ymweliad o'r fath yw galluogi'r awdurdod monitro i fonitro a yw'r trefniadau asesu at ddibenion rhoi'r PC yn unol ag—
(a)darpariaeth y ddogfen y cyhoeddir y PC hynny ynddi;
(b)amserlen asesu berthnasol y PC;
(c)llawlyfr gweinyddu perthnasol y PC;
(d)yn achos ymweliad o dan baragraff (4)(b) neu (c), a yw ymatebion ysgrifenedig y disgyblion i'r PC yn cynrychioli eu gwaith eu hunain; ac
(e)yn achos ymweliad o dan baragraff (4)(c) a yw ymatebion y disgyblion i'r PC wedi eu marcio yn unol â chynllun marcio perthnasol y PC.
(6) Yn dilyn unrhyw ymweliad o'r fath bydd yr awdurdod monitro yn trafod canlyniad yr ymweliad â'r pennaeth.
(7) Lle yr ymddengys i'r awdurdod monitro, o ganlyniad i ymweliad, nad yw unrhyw un neu ragor o'r trefniadau asesu mewn cysylltiad â rhoi'r PC o dan y Gorchymyn hwn yn unol â'r ddogfen y cyhoeddwyd y PC hynny ynddi neu amserlen asesu berthnasol y PC neu lawlyfr gweinyddu'r PC neu nad yw ymateb ysgrifenedig unrhyw ddisgybl i'r PC yn cynrychioli gwaith y disgybl hwnnw, bydd—
(a)yn dwyn y mater i sylw'r pennaeth; a
(b)yn adrodd ar y mater i Weinidogion Cymru.
(8) Rhaid i'r pennaeth a'r corff llywodraethu —
(a)caniatáu i'r awdurdod monitro fynd i mewn i fangre'r ysgol ar bob adeg resymol er mwyn iddo arsylwi ar y dull o weithredu'r PC o dan y Gorchymyn hwn;
(b)caniatáu i'r awdurdod monitro arolygu a chymryd copïau o ddogfennau ac erthyglau eraill mewn perthynas â'r asesiad PC hwnnw; ac
(c)darparu i'r awdurdod monitro unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud ag asesiad o'r fath ag y caiff ofyn amdani yn rhesymol.
(9) At ddibenion arfer ei swyddogaethau o dan yr erthygl hon, bydd yr awdurdod monitro yn penodi person cymwys o'r fath fel y gwêl yn dda.
8.—(1) Bydd Gweinidogion Cymru yn ymchwilio i unrhyw fater a atgyfeirir atynt o dan erthygl 7 neu y tynnir eu sylw ato fel arall sydd, yn eu barn hwy, yn ymwneud â manylrwydd neu gywirdeb unrhyw ganlyniadau unrhyw ddisgybl mewn cysylltiad â'r PC a roddir o dan y Gorchymyn hwn.
(2) Pan fo Gweinidogion Cymru, yn dilyn ymchwiliad, yn penderfynu bod amheuaeth ynghylch canlyniadau'r disgybl mewn cysylltiad â'r PC a roddir o dan y Gorchymyn hwn, neu nad ydynt yn fanwl gywir neu fel arall yn anghywir, mae'r cofnod o'r canlyniadau ar gyfer y disgybl hwnnw i fod y cofnod o'r canlyniadau a benderfynir gan Weinidogion Cymru.
9.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru wneud y darpariaethau hynny y mae'n ymddangos yn hwylus iddynt eu gwneud ac sy'n rhoi effaith lawn i'r darpariaethau a wneir gan y Gorchymyn hwn neu yn ychwanegu atynt fel arall, gan gynnwys yn benodol—
(a)y darpariaethau o ran y PC at y diben a grybwyllir yn y diffiniad o brofion o'r fath yn erthygl 2(1); a
(b)y darpariaethau o ran yr amser y caiff y PC eu rhoi a'r dull ar gyfer gwneud hynny.
(2) Mae unrhyw ddarpariaethau a wneir o dan yr erthygl hon i'w cyhoeddi gan Weinidogion Cymru.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
27 Chwefror 2013
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 108 o Ddeddf Addysg 2002 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru ragnodi drwy Orchymyn drefniadau asesu'r Cwricwlwm Cenedlaethol.
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi effaith gyfreithiol i'r trefniadau asesu ar gyfer darllen a rhifedd disgyblion sy'n mynychu ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol (ac eithrio unrhyw un neu ragor a sefydlwyd mewn ysbyty) yng Nghymru.
Cafodd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
Ar adeg argraffu'r Gorchymyn hwn, mae'r ddogfen Gymraeg wedi ei chyhoeddi ar www.cymru.gov.uk.
Rhif cofrestru'r cwmni 900899.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: