- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
10 Rhagfyr 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
12 Rhagfyr 2013
Yn dod i rym
13 Ionawr 2014
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2013 a deuant i rym ar 13 Ionawr 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3, yn y man priodol, mewnosoder—
“ystyr “gwaharddiad cyfnod penodol” (“fixed period exclusion”) mewn perthynas â disgybl yw disgybl sydd wedi ei wahardd am gyfnod neu gyfnodau penodol, am resymau disgyblu, o’r ysgol y gwneir cais iddi o dan reoliad 3 neu 5;”.
(3) Yn Rhan 3 o Atodlen 2 yn lle paragraff 1 rhodder—
“1. Yr wybodaeth ganlynol am bob disgybl sydd wedi ei wahardd yn barhaol o’r ysgol ac yr oedd ei ddyddiad gwahardd parhaol yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Awst cyn y dyddiad y gwneir y cais am wybodaeth
(a)rhif unigryw cyfredol disgybl;
(b)rhif unigryw cyfredol dysgwr, os yw’n hysbys;
(c)cyfenw;
(ch)enw cyntaf, neu bob enw cyntaf os oes mwy nag un;
(d)enw canol, neu bob enw canol os oes mwy nag un;
(dd)rhyw;
(e)dyddiad geni;
(f)y dyddiad y dechreuodd y gwaharddiad parhaol;
(ff)y rheswm dros y gwaharddiad; ac
(g)a oedd y gwaharddiad yn waharddiad parhaol neu’n waharddiad cyfnod penodol.
2. Yr wybodaeth ganlynol am bob disgybl sydd wedi ei wahardd o’r ysgol am gyfnod penodol ac yr oedd ei ddyddiad gwahardd yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Awst cyn y dyddiad y gwneir y cais am wybodaeth
(a)rhif unigryw cyfredol disgybl;
(b)rhif unigryw cyfredol dysgwr, os yw’n hysbys;
(c)cyfenw;
(d)enw cyntaf, neu bob enw cyntaf os oes mwy nag un;
(e)enw canol, neu bob enw canol os oes mwy nag un;
(f)rhyw;
(g)dyddiad geni;
(h)y dyddiad y dechreuodd y gwaharddiad;
(i)nifer y sesiynau ysgol y mae’r gwaharddiad yn gymwys iddynt;
(j)y rheswm dros y gwaharddiad; ac
(k)a oedd y gwaharddiad yn waharddiad parhaol neu’n waharddiad cyfnod penodol.”.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
10 Rhagfyr 2013
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007 (“Rheoliadau 2007”). Mae Rheoliadau 2007 yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu unrhyw ysgol a gynhelir, pan fydd cais ysgrifenedig yn dod i law oddi wrth yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol, gyflenwi, o fewn pedwar diwrnod ar ddeg, unrhyw wybodaeth y bydd yr awdurdod yn gofyn amdani mewn cysylltiad â disgyblion yn yr ysgol.
Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau 2007 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu ddarparu i awdurdod lleol wybodaeth ychwanegol at yr wybodaeth y mae eisoes yn ofynnol iddo ei ddarparu yn rhinwedd Rheoliadau 2007 mewn perthynas â gwahardd disgyblion yn barhaol. Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau 2007 ymhellach er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ddarparu gwybodaeth i awdurdodau lleol mewn perthynas â gwahardd disgyblion am gyfnod penodol.
1996 p.56. Mewnosodwyd adran 537A gan adran 20 o Ddeddf Addysg 1997 (p.44) ac fe’i hamnewidiwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), Atodlen 30, paragraff 153, a diwygiwyd is-adran 1(a)(i) ymhellach gan O.S. 2010/1158.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/673) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.12).
O.S. 2007/3562 (Cy.312) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2011/2325 (Cy.242).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: