- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 5
1. Nifer y plant sy’n mynychu—
(a)meithrinfeydd a ariennir gan yr awdurdod lleol y maent wedi eu lleoli ynddo yn unol â’i ddyletswydd yn adran 118 o Ddeddf 1998 ac sy’n addysgu’r cyfnod sylfaen drwy gyfrwng y Gymraeg; a
(b)meithrinfeydd nas ariennir gan yr awdurdod lleol y maent wedi eu lleoli ynddo yn unol â’i ddyletswydd yn adran 118A o Ddeddf 1998 ac nad ydynt yn addysgu’r cyfnod sylfaen drwy gyfrwng y Gymraeg.
2. Canran y disgyblion sy’n trosglwyddo i ysgolion cyfrwng Cymraeg a gynhelir a oedd yn mynychu—
(a)meithrinfeydd a ariennir gan yr awdurdod lleol y maent wedi eu lleoli ynddo yn unol â’i ddyletswydd yn adran 118 o Ddeddf 1998 ac sy’n addysgu’r cyfnod sylfaen drwy gyfrwng y Gymraeg; a
(b)meithrinfeydd nas ariennir gan yr awdurdod lleol y maent wedi eu lleoli ynddo yn unol â’i ddyletswydd yn adran 118A o Ddeddf 1998 ac nad ydynt yn addysgu’r cyfnod sylfaen drwy gyfrwng y Gymraeg.
3. Canran y disgyblion sy’n mynychu ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a gynhelir sy’n trosglwyddo i ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg a gynhelir.
4. Mewn perthynas â disgyblion sy’n dilyn y rhaglen astudio Cymraeg yn yr ail gyfnod allweddol, y trydydd cyfnod allweddol a’r pedwerydd cyfnod allweddol—
(a)canlyniadau asesiadau’r disgyblion hynny; a
(b)unrhyw gymwysterau perthnasol a ddyfarnwyd i’r disgyblion hynny.
5. Mewn perthynas â disgyblion sy’n dilyn y rhaglen astudio Cymraeg ail iaith yn yr ail gyfnod allweddol, y trydydd cyfnod allweddol a’r pedwerydd cyfnod allweddol—
(a)canlyniadau asesiadau’r disgyblion hynny; a
(b)unrhyw gymwysterau perthnasol a ddyfarnwyd i’r disgyblion hynny.
6. Nifer a chanran y disgyblion sydd wedi eu—
(a)cofrestru ar gyfer cymhwyster perthnasol yn y rhaglen astudio Cymraeg ail iaith;
(b)heb eu cofrestru ar gyfer cymhwyster perthnasol yn y rhaglen astudio Cymraeg ail iaith.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: